Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, nodwyd yr hyn rydym wedi'i wneud a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol, gostwng troseddu a lleihau'r galw ar y system gyfiawnder. Mae'r adran hon yn adlewyrchu'r penodau yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, gan roi diweddariad ar weithgarwch ers mis Mai 2022.

1. Cynnydd a wnaed ar argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

Gwnaeth adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (Comisiwn Thomas), a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019, 78 o argymhellion ffurfiol yn ogystal â llawer o sylwadau eraill ynglŷn â sut y gellid gwella canlyniadau yng Nghymru. Tynnodd Sicrhau Cyfiawnder i Gymru sylw at y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i weithredu ar yr argymhellion. Roedd hyn yn cynnwys y canlynol:

  • rhoi'r argymhellion sydd o fewn cyfrifoldebau uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar waith
  • rhoi arweinyddiaeth gydweithredol ar y cynigion sy'n dibynnu ar eraill yng Nghymru
  • goruchwylio trafodaethau â Llywodraeth y DU ar y cynigion y mae angen ei chysyniad ar eu cyfer
  • rhoi arweinyddiaeth gydweithredol yn y meysydd lle mae cynigion y Comisiwn yn dibynnu ar eraill yng Nghymru

Ymateb Llywodraeth y DU

Er gwaethaf y mandad cadarn yng Nghymru i gyflwyno'r achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona, gwrthododd Llywodraeth y DU argymhelliad canolog y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru y dylid datganoli gweithrediad y system gyfiawnder, a'r polisi sy'n ymwneud â hi, i Gymru. Serch hynny, mae trafodaethau rhwng Gweinidogion a swyddogion wedi cael eu cynnal, ac adlewyrchir y rhain yn yr adroddiad hwn lle y bo'n berthnasol.

Nododd Adroddiad Blynyddol Llywodraeth y DU ar Gysylltiadau Rhynglywodraethol ar gyfer 2022:

“Progress has also been made between the Ministry of Justice and the Welsh Government around the findings of the Thomas Commission, which reviewed how the justice system operates in Wales”

Ym marn Llywodraeth Cymru, mae hyn yn rhoi argraff fwy cadarnhaol nag sy'n briodol. Er i Lywodraeth y DU gytuno i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn 2021 i ‘frysbennu’ argymhellion Comisiwn Thomas i'w rhoi ar waith o dan y setliad cyfansoddiadol presennol er mwyn nodi meysydd lle roedd gweithredu yn fanteisiol i bawb, mae'n bwysig nodi cyfyngiadau'r ymarfer hwn.

Hyd yn oed yn y maes cyfyngedig hwn, gyda sgyrsiau ar lefel swyddogion a Gweinidogion yn cael eu cynnal rhwng 2021 a 2023, bu cyfnodau sylweddol o anweithgarwch oherwydd lefel trosiant gweinidogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a effeithiodd ar drafodaethau am frysbennu. Yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru nodwyd bod y broses hon “yn rhwystredig” ac “yn araf i ddwyn ffrwyth”, ac ni fu fawr ddim gwelliant ers hynny. O'r 45 o argymhellion y nodwyd eu bod o fewn cwmpas, dim ond 14 a drafodwyd fel rhan o'r broses, gyda rhywfaint o gytundeb ar bump yn unig.

Siomedig fu ymateb Llywodraeth y DU ar y cyfan. O ystyried bod yr ymarfer yn gorgyffwrdd â rhaglenni gwaith roedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn eu cyflwyno ar wahân i'r broses hon, erys yn aneglur a yw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn bwriadu ymgymryd ag unrhyw weithgarwch sylweddol pellach o ganlyniad i drafodaethau Comisiwn Thomas.

2. Data

Un o feysydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru lle rydym yn dal i gynnal deialog â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw'r argymhelliad i wella data penodol i Gymru.

Nododd Sicrhau Cyfiawnder i Gymru bwysigrwydd defnyddio data a thystiolaeth ddibynadwy er mwyn deall y materion y mae dinasyddion Cymru yn eu hwynebu, er mwyn mynd i'r afael â phroblemau â gwreiddiau dwfn a chadw cymunedau'n ddiogel. Mae'r adroddiad yn nodi'r camau rydym yn eu cymryd i wella mynediad at ddata cyfiawnder wedi'u datgrynhoi i Gymru er mwyn asesu perfformiad y system gyfiawnder, y broses o lunio polisïau a darparu gwasanaethau datganoledig effeithiol. Erys hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a thros y 18 mis diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd ar nifer o fentrau, gan gynnwys mapio tirwedd data cyfiawnder er mwyn llywio gwaith y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ddata wedi'u datgrynhoi, cyhoeddi dangosfyrddau data Llywodraeth Cymru, cysylltu data a bwrw ymlaen â gwaith yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd.

Mapio data

Un o'n darnau allweddol o waith ar ddata wedi'u datgrynhoi oedd cynnal ymarfer mapio data ar gyfer data cyfiawnder troseddol. Gwnaethom gytuno i ymgymryd â'r gwaith hwn fel rhan o'n hymrwymiad ar y cyd â Llywodraeth y DU i weithredu ar argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sef “Dylai data penodol ar Gymru gael eu casglu a'u cyhoeddi ar raddfa ddigonol i'w gwneud yn bosibl i'w datgrynhoi”. Mae'r gwaith mapio cychwynnol wedi cael ei rannu â dadansoddwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i'w ystyried, gyda'r nod o dynnu sylw at feysydd lle y gellid cyhoeddi data wedi'u datgrynhoi mewn ffordd fwy tryloyw a hygyrch i'r cyhoedd yng Nghymru.

Dangosfyrddau data

Rydym wedi parhau i ystyried sut i wneud y data presennol ar y system gyfiawnder yng Nghymru yn fwy hygyrch. Rydym wrthi'n datblygu dangosfyrddau rhyngweithiol i ddwyn ynghyd ddata ar gyfiawnder yng Nghymru a'u lledaenu. Cafodd y cyntaf o'r rhain, a oedd yn canolbwyntio ar Gyfiawnder Ieuenctid, ei gyhoeddi ym mis Awst. Rydym wrthi'n datblygu cyfres arall o ddangosfyrddau ar bynciau megis y llysoedd, carchardai, troseddau, cymorth cyfreithiol ac ystadegau ynglŷn â'r gweithlu, gyda'r nod o sicrhau bod y rhain ar gael yn gyhoeddus eleni.

Cysylltu data

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn dwyn ynghyd arbenigwyr o Wyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ac ystadegwyr, economyddion ac ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Drwy'r technegau dadansoddi data, ynghyd â Chronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), mae modd cyflawni ymchwil gadarn, ddiogel a llawn gwybodaeth. Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn rhan o fuddsoddiad gwerth £90 miliwn i'r DU gyfan i Ymchwil Data Gweinyddol y DU gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU.

Mae ein partneriaeth drwy Ymchwil Data Gweinyddol Cymru â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y rhaglen BOLD (Gwell Canlyniadau drwy Ddata Cysylltiedig) a Data First wedi ein helpu i gael data cyfiawnder ar SAIL, sy'n cynnig cyfleoedd ymchwil drwy ddefnyddio'r setiau data wedi'u datgrynhoi hyn ar garchardai, y gwasanaeth prawf a'r llys teulu. Hyd yma, mae Cymru wedi cael mwy na £1 filiwn o gyllid rhaglen BOLD at ddibenion ymchwil data gweinyddol. Mae prosiect Cymru yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a chronfa ddata SAIL. Mae partneriaid ehangach BOLD yn cynnwys y Weinyddiaeth Gyfiawnder (cydgysylltwyr), y Swyddfa Gwella Iechyd ac Anghysondebau, a'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Mae prosiect Cymru yn ystyried themâu megis effeithiolrwydd triniaeth camddefnyddio sylweddau, camddefnyddio sylweddau rhwng y cenedlaethau, atal defnydd dwysach, a lleihau aildroseddu. Mae'r cynllun peilot yn gwneud gwaith dadansoddi ar bob un o'r pedair thema, a disgwylir cyhoeddiadau erbyn mis Mawrth 2024. Mae'n dangos sut y gallwn, drwy gysylltu data â'i gilydd, gael dirnadaethau a dysgu sy'n ein helpu i atal niwed yn ymarferol.

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn awyddus i gael data lefel Llywodraeth y DU a data'r heddlu mwy unigol yn unol â strategaeth Ymchwil Data Gweinyddol Cymru a'r rhaglen ymchwil arfaethedig 2022-2026 a gyhoeddwyd gennym.

Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Gwahaniaethau ar Sail Hil a Gwahaniaethau ar Sail Anabledd

Sefydlwyd Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Gwahaniaethau ar Sail Hil Gwahaniaethau ar Sail Anabledd ym mis Ionawr 2022 ar ôl myfyrio ar ein hymateb i bandemig COVID-19. Nod yr Unedau Tystiolaeth yw gwella argaeledd, ansawdd, manylder, a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig fel y byddwn yn deall yn llawn lefel yr anghydraddoldebau a'r mathau o anghydraddoldebau yng Nghymru. Mae'r Unedau Tystiolaeth yn gweithio ar brosiectau a fydd yn mynd i’r afael â heriau hirdymor o ran tystiolaeth yn ymwneud â chydraddoldeb gan gynnwys gwerthuso cynlluniau gweithredu cydraddoldeb Llywodraeth Cymru megis Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, gwaith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru a'r Cynllun Gweithredu LHDTC+. Gwnaethom gyhoeddi strategaeth (Strategaeth Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd) a blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg ym mis Hydref 2022 i ddisgrifio cwmpas a chylch gwaith yr Unedau Tystiolaeth a'r prosiectau cychwynnol i'w cynnal.

3. Atal ac ymyrryd yn gynnar

Mae ein cenhadaeth i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru yn gofyn am ffocws ar gamau ataliol i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol pwysau ar y system gyfiawnder. Mae hyn yn cynnwys camau i fynd i'r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a ffynonellau eraill o adfyd yn ystod plentyndod, gan gynnwys anghydraddoldebau strwythurol a chymdeithasol, er enghraifft tlodi ac anghydraddoldebau rhwng y cenedlaethau, yn ogystal â chreu cymunedau cydlynus a goddefgar.

Mae Sicrhau Cyfiawnder i Gymru yn nodi nifer o'r meysydd allweddol lle roedd gweithgarwch Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y camau ataliol hynny ac felly'n cael effaith ar y system gyfiawnder o bosibl. Mae'r adran hon o'r adroddiad cynnydd yn rhoi rhagor o enghreifftiau na chyfeiriwyd atynt yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru.

Dull gweithredu sy'n ystyriol o drawma

Mae Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2022, yn hyrwyddo cydberthnasau tosturiol, empathig a chefnogol, gwasanaethau ac ymyriadau personol sy'n cael eu llunio ar y cyd. Mae'n gam bras ymlaen o ran gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effaith trawma a sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai sydd wedi'i brofi.

Bydd Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma a'r gwaith o hyrwyddo dulliau gweithredu sy'n ystyriol o drawma yn gonglfaen polisïau Llywodraeth Cymru mewn nifer o feysydd. Rydym yn parhau i flaenoriaethu camau gweithredu i atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lliniaru eu heffaith. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Hyb ACE Cymru, Straen Trawmatig Cymru a rhanddeiliaid eraill i gefnogi'r gwaith o roi'r Fframwaith ar waith, gan gynnwys datblygu cynlluniau gweithredu a gwerthuso.

Diddymu amddiffyniad cosb resymol yng Nghymru

Daeth Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 i rym ar 21 Mawrth 2022.

Er mwyn helpu i roi'r Ddeddf ar waith, mae Llywodraeth Cymru yn cyllido cymorth rhianta wedi'i deilwra ochr yn ochr â chynllun datrysiadau y tu allan i'r llys yn lle erlyniadau. Nod y cynllun yw annog a chefnogi rhieni i fabwysiadu technegau rhianta cadarnhaol a hefyd ei gwneud yn hollol glir i bawb bod cosbi plant yn gorfforol yn annerbyniol o dan unrhyw amgylchiadau.

Mae gan awdurdodau lleol hyblygrwydd o ran sut y rhoddir y cymorth, a hynny er mwyn gallu rhoi pecyn cymorth wedi'i deilwra i'r unigolyn, sy'n ystyried pob math o amgylchiadau teuluol a'r anghenion a'r nodau a nodwyd. Paratowyd canllawiau cynhwysfawr mewn ymgynghoriad ag awdurdodau lleol a'r heddlu sy'n nodi disgwyliadau ynglŷn â sut y dylid rhoi cymorth rhianta a'r hyn y dylai'r cymorth ei gwmpasu'n fras.

Darparwyd cyllid o hyd at £810,000 ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn 2022-2023 i ariannu cymorth rhianta y tu allan i'r llys.

Mae data yn cael eu casglu i ddeall mwy am y ffordd y caiff y cynllun ei ddefnyddio gan gynnwys nifer yr atgyfeiriadau drwy'r cynllun. Mae'r datganiad data cyntaf yn dangos rhwng 21 Mawrth 2022 a 30 Medi 2022, fod 55 o atgyfeiriadau ar gyfer cymorth rhianta y tu allan i'r llys yng Nghymru gan yr heddlu. O'r 55 o atgyfeiriadau, dewisodd 55 o bobl dderbyn y cymorth rhianta a gynigiwyd.

Mae gwaith ar fonitro effaith y Ddeddf hefyd yn parhau. Fel rhan o'r adolygiad ôl-weithredol, mae Llywodraeth Cymru yn monitro agweddau cyhoeddus tuag at gosbi plant yn gorfforol a Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020. Mae'r datganiad ymchwil diweddaraf yn rhoi ciplun o safbwyntiau hyd at fis Tachwedd 2022, y cyntaf ers i'r ddeddf gael ei rhoi ar waith ym mis Mawrth 2022. Mae'n dangos bod y mwyafrif o'r cyhoedd yn anghytuno ‘bod angen smacio plentyn weithiau’ a bod ymwybyddiaeth o'r gyfraith yn parhau i dyfu.

Cymorth i deuluoedd a chymorth rhianta

Ledled Cymru, mae nifer o raglenni cymorth rhianta a theuluoedd cyffredinol ac wedi'u targedu, y gellir ymuno â nhw drwy bob awdurdod lleol megis Teuluoedd yn Gyntaf a Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd neu'r trydydd sector pan fo angen. Gall hyn gynnwys cymorth i'r teuluoedd hynny sydd wedi gwahanu, sy'n gwahanu neu sy'n wynebu anghydfod rhwng y rhieni yn ogystal â chymorth rhianta, gwybodaeth a chyngor rhianta cadarnhaol a help i blant. Y bwriad yw annog rhieni i weithio gyda'i gilydd (lle y bo'n briodol) er mwyn lleihau unrhyw anghydfod yn y cartref, a'r effeithiau negyddol ar blant o ganlyniad i hynny.

Ers mis Tachwedd 2022, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol drwy'r Grant Cymorth Rhianta Ymyrraeth Gynnar er mwyn uwchsgilio ac ehangu'r gweithlu rhianta i wella'r cymorth i rieni a theuluoedd yn gyffredinol ymhellach a hyrwyddo cydberthnasau iach yn y cartref. Mae'r cyllid hwn yn parhau â'r cymorth a roddwyd i ddechrau drwy gyllid adfer yn sgil COVID-19 yn 2021.

Mae Magu plant. Rhowch amser iddo ein hymgyrch ar rianta cadarnhaol, a sefydlwyd yn 2015 yn gyntaf, yn cynnig cyngor a chymorth arbenigol am ddim i bob rhiant a gofalwr â phlant hyd at 7 oed drwy ein gwefan ddwyieithog benodedig a'n sianeli hysbysebu digidol a chyfryngau cymdeithasol. Ym mis Tachwedd 2021, cafodd yr ymgyrch ei hymestyn a'i hail-lansio i gynnwys gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni a gofalwyr sydd â phlant hyd at 18 oed. Yn fwy penodol, mae'n rhoi gwybodaeth ac adnoddau o dan yr adran ‘Supporting You’ o'r wefan ar rianta ar y cyd a chymorth gyda chydberthnasau, gan gynnwys ‘Magu'r Plant Gyda'n Gilydd’, sy'n cefnogi plant yn ystod proses wahanu, ‘Gwnewch amser i ofalu am eich hunan a rheoli straen’, a ‘Gofalu amdanoch chi a’ch teulu'.

Teuluoedd yn Gyntaf

Nod Teuluoedd yn Gyntaf yw gwella canlyniadau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, atal a rhoi cymorth i’r teulu cyfan. Elfen allweddol o’r rhaglen yw’r Tîm o Amgylch y Teulu sy’n dwyn ynghyd ystod o weithwyr proffesiynol i helpu teuluoedd i fynd i’r afael â’r heriau y maent yn eu hwynebu.

Gall teuluoedd yng Nghymru fanteisio ar y rhaglen sy’n gallu helpu ag ystod eang o faterion megis perthnasoedd teuluol, rhianta, cyfeirio at gymorth ariannol, materion yn ymwneud ag addysg a llawer mwy. Y bwriad yw cynnig cymorth yn gynnar sydd â’r nod o atal problemau rhag gwaethygu, meithrin cadernid y teulu fel bod teuluoedd yn gallu aros gyda’i gilydd yn ogystal â meithrin sgiliau cynaliadwy i ymdrin ag anawsterau a allai ddod i’r amlwg mewn bywyd.

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Fel arfer, dyma ddrws blaen yr awdurdod lleol ar gyfer rhieni a theuluoedd sy’n chwilio am gyngor a gwybodaeth neu sydd angen cael eu cyfeirio at fathau eraill o gymorth. Gall Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd helpu gydag ystod o faterion megis rhianta, rhaglenni i deuluoedd, materion iechyd, materion ariannol gan gynnwys gofal plant a chostau gofal plant. Dyma faterion, os cânt gymorth ar eu cyfer, a allai helpu teuluoedd i barhau i weithredu, yn ogystal â chynnal neu wella llesiant a chadernid.

Dechrau'n Deg

Mae'r rhaglen Dechrau'n Deg yn rhoi cymorth mewn meysydd megis gofal plant o ansawdd uchel, cymorth rhianta, cymorth gan ymwelwyr iechyd a chymorth gyda lleferydd, iaith a chyfathrebu, sy'n debygol o gael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd bywyd plant mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru. Yn ein Rhaglen Lywodraethu, gwnaethom ymrwymo i gynnal Dechrau'n Deg, a thrwy ein Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru rydym yn mynd ymhellach, gan ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar fesul cam i blant dwy flwydd oed. Rydym eisoes wedi estyn cyrhaeddiad pob un o bedair elfen ein rhaglen Dechrau'n Deg graidd i fwy na 3,100 o blant 0-4 oed ychwanegol drwy gynyddu'r targed i 38,500 o blant sy'n cael budd o bob un o elfennau'r rhaglen.

Yn ystod 2023-2024, rydym yn darparu £46 miliwn i gynorthwyo’r gwaith o ehangu gofal plant Dechrau’n Deg i dros 9,500 o blant eraill.

Rydym hefyd yn buddsoddi £70 miliwn dros gyfnod o dair blynedd (2022-2025) i gynnal a chryfhau’r seilwaith gofal plant drwy gynnal a gwella lleoliadau gofal plant, yn ogystal â £3.787 miliwn dros gyfnod o dair blynedd (2022-2025) i gefnogi cyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu sy’n ymwneud ag ehangu gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.

System addysg

Mae ysgolion yn chwarae rôl bwysig wrth adnabod ar gam cynnar blant sy'n wynebu risg o ymddieithrio oddi wrth addysg ac atal profiadau negyddol o bosibl a allai arwain at lesiant gwael a chanlyniadau andwyol. Rydym yn parhau i roi cyllid i awdurdodau lleol i'w helpu i ehangu eu gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion ac yn y gymuned a rhoi cyfleoedd hyfforddiant i athrawon a staff ysgol i'w helpu i gefnogi plant ag anawsterau iechyd meddwl a llesiant yn well.

Yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i bresenoldeb disgyblion, mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido astudiaeth agos i ymarfer fanwl mewn un awdurdod lleol yng Nghymru ynglŷn â'r hyn sy'n achosi lefelau presenoldeb isel a sut y gellid ymdrin â hyn ar lefel leol a chenedlaethol.

Byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau a'r argymhellion i gefnogi gweithgarwch polisi yn y dyfodol yn y maes hwn.

Rydym wedi comisiynu ymchwil i adolygu'r arferion a ddefnyddir mewn ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion i atal gwaharddiadau o'r ysgol. Mae'r ymchwil yn ymwneud â'r defnydd o waharddiadau ffurfiol a'r defnydd o gosbau (yn enwedig gwaharddiadau mewnol). Caiff canfyddiadau'r ymchwil eu defnyddio i lywio diwygiadau i'n Canllawiau ar Wahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, tynnwyd sylw at adolygiad Comisiwn y Gyfraith o'r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru a'i argymhellion i ddod â phaneli apelio annibynnol, sy’n ystyried gwaharddiadau o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion o dan system dribiwnlysoedd newydd ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Mae hwn yn faes y gwnaethom ymgynghori ymhellach arno fel rhan o'n hymgynghoriad ar y Papur Gwyn gan geisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig i dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru (gweler adran 9).

Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru

Yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, nodwyd ein bwriadau i dreialu'r defnydd o gynllun incwm sylfaenol yng Nghymru, yn unol â'n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, gyda charfan o bobl ifanc sy'n gadael gofal. Roedd hyn yn cynnwys ymrwymiad i ystyried sut y gellid cynnwys plant sy’n gadael carchar yn y cynllun peilot. Mae’r gweithdrefnau a’r prosesau a gyflwynwyd yn rhan o gyflawni’r cynllun peilot wedi galluogi hyn.

Daeth y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yn weithredol ar 1 Gorffennaf 2022. O dan y cynllun peilot, mae mwy na 600 o bobl ifanc sy'n gadael gofal yng Nghymru a gafodd eu pen-blwydd yn 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 wedi cael cynnig £1,600 y mis (cyn treth) am ddwy flynedd i'w cefnogi wrth iddynt bontio i fyd oedolion. Gall y rhai sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot hefyd gael gafael ar gyngor a chymorth unigol i'w helpu i reoli eu harian a datblygu sgiliau ariannol a chyllidebu. Erbyn 31 Gorffennaf 2023, roedd gan y cynllun peilot gyfraddau cymryd rhan o 97% ymhlith ei grŵp targed.

Mae gan y cynllun peilot ddulliau cyflawni ar gyfer tair sefyllfa:

  • Y rhai sydd eisoes yn bwrw tymor yn y carchar neu sydd ar remánd ar y dyddiad y byddent fel arall wedi gallu ymuno â’r cynllun peilot
  • Y rhai a allai ddechrau cyfnod yn y carchar neu dreulio amser ar remánd yn ystod cyfnod y cynllun peilot, neu
  • Y rhai sy’n cael eu rhyddhau o gyfnod yn y carchar neu o gyfnod ar remánd yn ystod eu hamser o gymryd rhan yn y cynllun peilot.

I grynhoi, mae pobl ifanc sy'n gadael gofal sydd ar remánd neu'n bwrw tymor yn y carchar naill ai cyn neu yn ystod y cynllun peilot, yn dal i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun a byddant yn cael taliadau pan na fyddant yn y carchar, wedi’u galw yn ôl neu ar remánd. Er enghraifft, yn ystod dedfryd o garchar a fydd yn digwydd yn ystod misoedd 10-14, gan gynnwys y misoedd hynny, bydd y derbynnydd yn cael taliadau llawn yn ystod misoedd un i naw, ac wedyn o fisoedd 15 i 24. Rydym wedi gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF ac awdurdodau lleol i sicrhau bod y cynllun yn integreiddio'n effeithiol yn y system gyfiawnder a bod taliadau yn cael eu hoedi a’u hailddechrau ar yr adeg gywir. Yn ôl data a gasglwyd yn rhan o fonitro’r cynlluniau peilot, ar 31 Gorffennaf 2023, roedd 11 o unigolion wedi’u hatal rhag cymryd rhan yn y cynllun peilot neu wedi methu â chymryd rhan yn sgil eu hymwneud â’r system cyfiawnder troseddol.

Mae’r cynllun peilot incwm sylfaenol hefyd yn galluogi derbynwyr i enwebu i’w costau rhent gael eu talu yn uniongyrchol o’u hincwm sylfaenol. Ar gyfer pobl ifanc sy’n dechrau cyfnod yn y carchar ac sydd wedi enwebu i’w taliadau landlord ddod o’u hincwm sylfaenol, gellir cadw taliadau landlord am gyfnod (hyd at 52 o wythnosau os ar remánd neu 13 o wythnosau os yn bwrw tymor yn y carchar, neu hyd at ddiwedd eu cyfnod cymhwystra ar gyfer y cynllun peilot, pa bynnag un sydd fyrraf).

Un mater a gododd yn ystod y cynllun peilot yw ei bod yn annhebygol y byddai person ifanc sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol pe bai angen cynrychiolaeth gyfreithiol arnynt oherwydd faint o incwm y maent yn ei gael drwy'r taliad o incwm sylfaenol. Bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a'r rhesymau pam mae angen cynrychiolaeth. Gofynnwyd i Lywodraeth y DU wneud newidiadau i drefniadau cymhwystra cymorth cyfreithiol i ddarparu ar gyfer hyn, ond gwrthododd wneud hynny.

Rydym yn ymwybodol bod rhai pobl ifanc sydd o bosibl yn gymwys i gael incwm sylfaenol wedi dewis peidio â chymryd rhan am fod angen cymorth cyfreithiol arnynt. Un o bedair egwyddor allweddol y cynllun peilot yw na ddylai cymryd rhan yn y cynllun peilot olygu bod unrhyw un yn waeth ei fyd. Pan fyddai mynediad at gymorth cyfreithiol yn ffactor o bosibl, byddai hyn wedi cael ei ystyried fel rhan o'r cyfrifiadau ‘gwell eu byd’ cyffredinol y gall pobl ifanc eu gwneud gyda Cyngor ar Bopeth cyn penderfynu ymuno â'r cynllun peilot ai peidio. Pe bai amgylchiadau person ifanc yn newid, sy'n golygu nad yw'n well ei fyd fel rhan o'r cynllun peilot mwyach, gall adael y cynllun peilot unrhyw bryd.

Bydd y gwerthusiad o'r cynllun peilot, a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2022, yn para am bedair blynedd a bydd yn cynnwys ymatebion ac adborth gan dderbynyddion a rhanddeiliaid ynglŷn ag effeithiolrwydd y cynllun peilot incwm sylfaenol a'r ffordd y cafodd ei weithredu. Bydd y gwerthusiad hwn yn llywio'r ffordd rydym yn cefnogi derbynyddion wrth i'w cyfnod o ddwy flynedd o incwm sylfaenol ddod i ben.

Fframwaith atal ar gyfer plant sy'n wynebu risg o ddod i gysylltiad â'r system gyfiawnder

Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i ddrafftio Fframwaith Atal, sy'n elfen allweddol o'r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid.

Mae llawer o wasanaethau sy'n helpu i annog plant rhag troseddu a'u tywys tuag at fywydau boddhaus, sy'n rhydd o droseddu. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau datganoledig ‘prif ffrwd’ megis addysg, gofal iechyd a gwasanaethau ieuenctid, yn ogystal â gweithgarwch atal mwy penodol gan dimau arbenigol mewn awdurdodau lleol. Mae'r gwasanaethau hyn yn eu lle ledled Cymru, ond gallant weithredu mewn seilos yn hytrach na bod yn gydgysylltiedig fel rhan o ddull integredig o atal troseddu.

Yn y cyd-destun hwn, bydd y Fframwaith yn amlinellu safbwynt cyfannol a lywir gan dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio i atal plant rhag dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol a sut mae gweithgarwch mewn sectorau gwahanol yn dod ynghyd i gefnogi hyn. Hwn fydd y tro cyntaf inni gynnig y safbwynt system gyfan, cynhwysfawr hwn o atal.

Mae'r Fframwaith yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â phartneriaid datganoledig ac annatganoledig er mwyn sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig. Mae'n adlewyrchu'r dirwedd strategol a gweithredol yng Nghymru, a sefyllfa unigryw cyfiawnder ieuenctid a'r ffordd y mae'n gorgyffwrdd â systemau cyfiawnder a gwasanaethau sy'n ymwneud â lles plant.

Mae'r Fframwaith wedi cael ei gwblhau ar ffurf ddrafft ac mae'n ategu amrywiaeth o waith atal ehangach sy'n cael ei wneud gan Uned Atal Trais Cymru a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru. Byddwn yn mynd ati i weithio gyda phartneriaid i lunio'r Fframwaith terfynol yn 2024. Unwaith y caiff ei gyhoeddi, bydd y Fframwaith yn cefnogi amrywiaeth o waith yn y dyfodol i wella'r ffordd y caiff gweithgarwch atal ei gomisiynu a'i ddarparu yng Nghymru.

4. Cydraddoldeb a chyfiawnder

Nododd Sicrhau Cyfiawnder i Gymru rai o'r ffyrdd rydym yn ceisio mynd i'r afael â rhagfarn, casineb a gwahaniaethu wrth inni anelu at fod yn genedl dim goddefgarwch.

Mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Ein gweledigaeth yw rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yng Nghymru. Mae rhoi terfyn ar VAWDASV yn her gymhleth sy'n gofyn am weithredu ar sail Cymru gyfan, gan bennu ac arwain y camau gweithredu ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022 i 2026 ym mis Mai 2022. Cytunodd Llywodraeth Cymru a Plismona yng Nghymru i fabwysiadu model sefydledig a ddefnyddir eisoes yng Nghymru ar gyfer y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a'r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod (gweler isod) i helpu i roi'r strategaeth ar waith. Creodd Glasbrint VAWDASV strwythur llywodraethu cyffredin newydd sy'n sicrhau cydweithrediad ac ymrwymiad amlasiantaethol, gan adlewyrchu cyd-berchenogaeth o faterion sy'n effeithio ar VAWDASV rhwng cyrff datganoledig ac annatganoledig a'r bartneriaeth rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector arbenigol.

O dan adran 12 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015 (y Ddeddf’), mae'n rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n dogfennu'r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion yn y Strategaeth Genedlaethol a chynnydd a wnaed tuag at gyflawni diben y Ddeddf. Mae'r adroddiadau hyn ar gael ar dudalen we VAWDASV.

O dan delerau'r penodiad, mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol yn rhoi mewnbwn cytbwys, annibynnol, sy'n cynnig arbenigedd a chyngor lle y bo angen fel rhan o amrywiaeth o waith sy'n mynd rhagddo ac sy'n bwydo i mewn i'r broses o ddatblygu polisïau a llunio deddfwriaeth. Mae'n ofynnol iddynt gael deialog reolaidd â Gweinidogion Cymru, timau polisi Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Cam-drin Domestig y DU, y Comisiynydd Dioddefwyr, a phartneriaid perthnasol eraill. Mae'n ofynnol hefyd iddynt baratoi adroddiad blynyddol. Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol 2022-2023 ar 13 Hydref 2023.

Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Rhaglen Lefel Uchel, yn nodi'r ffrydiau gwaith a sefydlwyd a'u camau gweithredu lefel uchel a fydd yn cyfrannu at Amcanion Cenedlaethol strategaeth VAWDASV 2022-2026.

Mae'r gwaith o weithredu Glasbrint VAWDASV yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd Partneriaeth Cenedlaethol VAWDASV, a gyd-gadeirir gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, ar ran Plismona yng Nghymru.

Mae aelodaeth Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol VAWDASV yn cynnwys uwch-gynrychiolwyr o'r Heddlu, y Gwasanaeth Prawf, Llysoedd Teulu, yn ogystal â Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Comisiynwyr Cam-drin Domestig yng Nghymru a Lloegr, y Comisiynydd Pobl Hŷn a'r Comisiynydd Plant, yn ogystal â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae'r amrywiaeth eang hon o bartneriaid yn ei gwneud yn bosibl i'r Glasbrint feithrin dealltwriaeth o ddull gweithredu system gyfan, sydd ei angen i wneud y newidiadau cymdeithasol sy'n angenrheidiol i atal problemau VAWDASV rhag digwydd a pharhau i gefnogi'r rhai sy'n wynebu cam-drin domestig, neu drais rhywiol.

Gwnaethom gyhoeddi diweddariad ar y cynnydd sy'n cael ei wneud drwy'r Glasbrint ym mis Hydref 2023, a byddwn yn parhau i hysbysu ein rhanddeiliaid am gynnydd pellach yn rheolaidd.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Roedd rhaglen waith Sicrhau Cyfiawnder i Gymru yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi a chymryd camau gweithredu mewn perthynas â'r system gyfiawnder mewn Cynllun Gweithredu i Gymru Wrth-hiliol, a dwyn y system cyfiawnder troseddol i gyfrif am ei chynllun gwrth-hiliaeth ei hun.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Mehefin 2022, yn galw am ddim goddefgarwch o bob math o anghydraddoldeb ar sail hil. Ei nod yw gwneud newid mesuradwy i fywydau pobl ethnig leiafrifol drwy fynd i'r afael â hiliaeth a chafodd ei gyd-awduro â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan ddefnyddio eu profiad bywyd. Datblygwyd y nodau a'r camau gweithredu yn y cynllun mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o gymunedau a sefydliadau ym mhob rhan o Gymru.

Wrth gyd-awduro Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, nodwyd cyfiawnder troseddol fel maes lle mae pobl ethnig leiafrifol yn cael eu gorgynrychioli ar bob cam o'r system cyfiawnder troseddol – fel dioddefwyr troseddau, o ran stopio a chwilio, ac yn y boblogaeth carchardai a'r gwasanaeth prawf. Gwnaeth hyn atgyfnerthu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gydweithio â phartneriaid ym maes cyfiawnder troseddol i wella canlyniadau i bobl ethnig leiafrifol sydd mewn cysylltiad â'r system gyfiawnder, neu sy'n wynebu risg o ddod i gysylltiad â hi.

Mae'r adran benodol ar Droseddu a Chyfiawnder a Throseddau Casineb yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn nodi'r camau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflawni ein nod o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a throseddau casineb a chreu system gyfiawnder wrth-hiliol. Mae hyn yn cynnwys gweithredu ar Droseddau Casineb, data a phwysleisio pwysigrwydd gwrth-hiliaeth yn ein hymwneud â Llywodraeth y DU ar faterion cyfiawnder.

Yn ogystal â'r camau penodol rydym yn eu cymryd, gan ddefnyddio'r ysgogwyr sydd ar gael inni yn Llywodraeth Cymru, a grynhoir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, rydym wedi gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder i gyhoeddi'r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru ym mis Medi 2022. Mae'r cynllun penodol hwn ar Gyfiawnder Troseddol yn nodi'r saith ymrwymiad a wnaed ar y cyd gan bartneriaid Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, gan gynnwys Plismona yng Nghymru, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru, er mwyn helpu i wireddu system gyfiawnder wrth-hiliol yng Nghymru yn ymarferol.

Mae'r cynllun yn ategu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru a chytunwyd ar ddull o reoli'r rhyngwyneb rhwng cyflawni'r ddau gynllun.

Troseddau casineb

Yn ganolog i'n gwaith i fynd i'r afael â throseddau casineb y mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru, sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru. Lansiwyd y gwasanaeth hwn ym mis Ebrill 2022 i ddarparu gwasanaeth cymorth ac eiriolaeth annibynnol o ansawdd uchel sy'n hyrwyddo dewisiadau sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr i bawb sydd wedi dioddef trosedd casineb yng Nghymru, yn ogystal ag ystod o hyfforddiant ac ymgysylltu.

Mae'r gwasanaeth am ddim ac ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn. Mae'n defnyddio dulliau allgymorth ac ymgysylltu arloesol er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd cymunedau sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol ac yn ddaearyddol ac mae'n canolbwyntio ar gynwysoldeb a chroestoriadedd. Fel rhan o'r gwasanaeth hwn, mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn darparu cymorth priodol, wedi'i deilwra ynglŷn â throseddau casineb i blant a phobl ifanc. Mae'r Ganolfan hefyd wedi datblygu fforwm o bobl sydd â phrofiad bywyd o droseddau casineb er mwyn helpu i wella'r gwasanaeth a gwella dealltwriaeth o'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag rhoi gwybod am droseddau casineb.

Mae'r rhaglen Cydlyniant Cymunedol yn ariannu strwythur cenedlaethol o dimau cydlyniant sy'n gweithio gyda'i gilydd ledled Cymru i fonitro tensiynau cymunedol, gan weithio gyda phartneriaid allweddol megis yr heddlu i liniaru'r problemau hyn wrth iddynt godi. Mae'r timau cydlyniant yn gweithio'n agos gyda thîm hyfforddiant ac ymgysylltu Canolfan Cymorth Casineb Cymru i roi hyfforddiant wedi'i dargedu i amrywiaeth o gynulleidfaoedd.

Ym mis Chwefror 2023, gwnaethom ail-lansio Mae Casineb yn Brifo Cymru, i gyd-daro â Mis Hanes LHDTC+ a chyhoeddi'r Cynllun Gweithredu LHDTC+. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, grymuso dioddefwyr a'r rhai sy'n gweld troseddau i roi gwybod am droseddau casineb, a phortreadu canlyniadau negyddol troseddau casineb o ran bywyd y dioddefwr a'r sawl sy'n cyflawni'r drosedd.

Cynllun Gweithredu LHDTC+

Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+. Mae'r Cynllun Gweithredu LHDTC+, trawslywodraethol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023, yn gweithredu fel fframwaith ar gyfer datblygu polisïau LHDTC+ mewn llywodraeth a gyda'n partneriaid. Mae'r cynllun gweithredu yn ceisio mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau presennol a wynebir gan gymunedau LHDTC+ i herio gwahaniaethu a chreu cymdeithas y mae pobl LHDTC+ yn teimlo'n ddiogel i fyw ynddi. Mae'n nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i gryfhau cydraddoldeb i bobl LHDTC+ er mwyn herio gwahaniaethu, a chreu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw bywydau dilys.

Mae'r cynllun yn cynnwys amrywiaeth eang o gamau gweithredu sy'n gysylltiedig â pholisïau penodol ym maes hawliau dynol, cynhwysiant yn y gweithle, addysg, gwella diogelwch, tai, iechyd a gofal cymdeithasol, chwaraeon, diwylliant a hyrwyddo cydlyniant cymunedol.

Ym mis Mai 2023, lansiwyd prosiect fframwaith asesu gwerthuso. Gyda chymorth Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, mae'r prosiect yn anelu at asesu effaith Cynllun Gweithredu LHDTC+. Mae'n debygol y bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y gwanwyn eleni.

Lansiwyd arolwg tracio Cynllun Gweithredu LHDTC+ ym mis Mehefin 2023 i fonitro diweddariadau a chynnydd yn erbyn pob cam gweithredu a gweithgarwch yn y cynllun. Er enghraifft, rydym wedi gweithio gyda phobl a sefydliadau LHDTC+ i lansio fersiwn ddiwygiedig o'r ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru (gweler uchod), yn benodol ar gasineb ac aflonyddu yn erbyn pobl drawsryweddol ac anneuaidd. Rydym hefyd wedi cyflwyno pecyn hyfforddiant i gefnogi ymarferwyr addysg drwy Hwb i'w helpu i ddeall aflonyddu rhywiol ar-lein, ei atal ac ymateb iddo.

Rydym wedi sefydlu Gweithgor ar Wahardd Arferion Trosi. Mae'r Grŵp yn cynghori ar gamau gweithredu arfaethedig i wahardd arferion trosi yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys prosiect ymchwil, ymgyrch ymwybyddiaeth, a gwasanaethau cymorth i oroeswyr.

Rydym wedi gweithio gyda galop i hyrwyddo gwasanaethau cymorth dwyieithog newydd i oroeswyr arferion trosi yng Nghymru.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Plismona yng Nghymru i wella gweithdrefnau yn yr heddlu ac arweiniad i swyddogion ynglŷn â throseddau casineb a dosbarthu troseddau casineb yn erbyn pobl LHDTC+.

Rydym yn parhau i gasglu tystiolaeth gan gymunedau LHDTC+ sydd â phrofiad bywyd o roi gwybod am droseddau casineb i ddeall unrhyw rwystrau sy'n atal pobl rhag gwneud hynny.

Tasglu Hawliau Pobl Anabl

Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i gefnogi holl bobl anabl Cymru. Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddwyd ‘Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’ Fel ymateb, cytunodd y Prif Weinidog i sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl a arweinir gan Weinidog i fwrw ymlaen â'r gwaith o fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a nodwyd yn yr adroddiad a goruchwylio'r broses o gymryd camau gweithredu.

Ers ei sefydlu ym mis Tachwedd 2021, mae'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl wedi dwyn pobl â phrofiad bywyd, sefydliadau cynrychioliadol a Swyddogion Polisi Arweiniol Llywodraeth Cymru ynghyd i nodi'r materion a'r rhwystrau sy'n effeithio ar fywydau llawer o bobl anabl.

Mae'r Tasglu wedi cytuno ar ddeg Gweithgor i ystyried yn llawn gamau gweithredu pellach sy'n gwireddu ein huchelgais i greu Cymru gryfach a thecach, a'u cymryd.

Dyma’r deg gweithgor:

  • Ymgorffori a Deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ledled Cymru)
  • Mynediad at Wasanaethau (gan gynnwys Cyfathrebu a Thechnoleg)
  • Byw’n Annibynnol: Iechyd
  • Byw’n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol
  • Cyflogaeth ac Incwm
  • Teithio
  • Plant a Phobl Ifanc
  • Tai Fforddiadwy a Hygyrch
  • Mynediad at Gyfiawnder
  • Llesiant

Bydd trafodaethau yng nghyfarfodydd y gweithgorau hyn yn arwain at gamau gweithredu a argymhellir, a gaiff eu cyflwyno i'r Tasglu ehangach i'w cymeradwyo. Bydd Llywodraeth Cymru, gwasanaethau cyhoeddus ehangach a phobl anabl yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r rhain.

Mae’r gweithgor ‘Mynediad at Gyfiawnder’ yn nodi’r rhwystrau a’r heriau y mae nifer o bobl anabl yn eu hwynebu wrth geisio arfer eu hawliau.

Hawliau Dynol yng Nghymru

Yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, gwnaethom dynnu sylw at weithgarwch sy'n ymwneud â'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl a'r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod yng nghyfraith Cymru, a'n bod yn ystyried sut i weithredu ar y rhain, naill ai ar wahân neu drwy ddull mwy cyfannol, megis Bil Hawliau Dynol i Gymru.

Rydym wedi sefydlu Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol sy'n ystyried sut i'w hymgorffori. Mae'r grŵp eisoes wedi cyflwyno syniadau cyffredin i Lywodraeth Cymru ac mae bellach yn cynnal dadansoddiad dwfn o'r cytundebau fesul erthygl. Mae hyn yn gam angenrheidiol er mwyn sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth newydd i ymgorffori'r cytundebau yn gwneud cyfraniad sylweddol i wella profiad bywyd pobl anabl ac yn gallu cael ei chyflawni o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu wrth arfer pwerau Gweinidogion Cymru.

Mae'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol a arweinir gan Weinidog wedi cael ei sefydlu i oruchwylio cynnydd yn erbyn yr argymhellion y cytunwyd arnynt yn Adroddiad Ymchwil Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru 2021. Cytunodd Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu camau gweithredu ar sail thematig, gan gynnwys:

  • gwneud gwaith paratoi ar opsiynau ar gyfer ymgorffori Confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru.
  • datblygu cyfres o ganllawiau ar hawliau dynol
  • adolygu rheoliadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • ychwanegu hawliau dynol at ein hasesiadau effaith integredig
  • cryfhau'r ffordd rydym yn hyrwyddo'r materion hyn yng Nghymru

Mae gwaith yn sicr yn mynd rhagddo o ran ymgorffori a hyrwyddo hawliau dynol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag un o is-grwpiau Grŵp y Ddeddf Hawliau Dynol i ddiffinio dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau a datblygu datganiad o ymrwymiad i hawliau dynol i'w fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru a fydd yn helpu i ymgorffori hawliau dynol.

5. Cyfiawnder teuluol

Nododd Sicrhau Cyfiawnder i Gymru y ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi system cyfiawnder teuluol sy'n gweithredu'n well, yn enwedig o ran lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i ymyrryd yn gynnar a chefnogi plant a diwygiadau radical i wasanaethau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal.

Gorchmynion goruchwylio

Ar 24 Ebrill 2023, cyhoeddwyd y Gweithgor Cyfraith Gyhoeddus adroddiad ar orchmynion goruchwylio ar ôl gwneud gwaith helaeth arnynt. Ffurfiwyd is-grŵp o ganlyniad i argymhelliad mewn adroddiad gan y Gweithgor Cyfraith Gyhoeddus a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2020 - Argymhellion i sicrhau arferion gorau yn systemau amddiffyn plant a chyfiawnder teuluol:  Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.

Sefydlwyd is-grŵp ar orchmynion goruchwylio gan y Gweithgor Cyfraith Gyhoeddus gyda'r nod o gadarnhau sut y gellid eu gwneud yn fwy cadarn ac effeithiol. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023 yn cynnwys Canllawiau Arferion Gorau y disgwylir i bob awdurdod lleol eu dilyn wrth ddefnyddio gorchmynion goruchwylio. Nod cyffredinol yr adroddiad yw sicrhau bod gorchmynion goruchwylio yn gadarn ac yn effeithiol. Drwy ddilyn y Canllawiau Arferion Gorau dylai fod lleihad yn nifer y gorchmynion gofal a wneir mewn perthynas â phlant sy'n byw gartref.

Cafcass Cymru

Cyhoeddodd Cafcass Cymru ei adroddiad blynyddol ym mis Medi 2023 sy'n rhoi diweddariad ar rai o'r datblygiadau allweddol a gyflawnwyd ym maes cyfraith breifat a chyfraith gyhoeddus yn ystod 2022-2023. Yn benodol, mae'n nodi bod canfyddiadau cychwynnol ac adborth gan deuluoedd a gweithwyr proffesiynol a gymerodd ran yn y Cynllun Peilot Braenaru mewn llysoedd teulu yn y gogledd yn galonogol iawn. Dechreuodd y cynllun peilot ym mis Chwefror 2022 i roi prawf cychwynnol ar y dull gweithredu am hyd at ddwy flynedd cyn y bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal gwerthusiad llawn. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau, er y bydd gwerthusiad ffurfiol yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni, y bydd y cynllun peilot yn y gogledd yn cael ei estyn am flwyddyn arall, tan fis Mawrth 2025. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd wedi cadarnhau cyllid i ariannu Cynllun Peilot Braenaru arall yn y de-ddwyrain o fis Ebrill eleni ymlaen.

Yn ogystal â'r gwerthusiad o'r Cynllun Peilot Braenaru a gomisiynwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, penododd Cafcass Cymru intern PhD i ymgymryd â phrosiect a oedd yn canolbwyntio ar ddod i ddeall profiadau plant a phobl ifanc a gymerodd ran yn y Cynllun Peilot Braenaru yn y gogledd. Mae plant a phobl ifanc wedi cael eu cyfweld i archwilio eu profiadau o gymryd rhan yn y cynllun peilot. Mae’r astudiaeth yn adeiladu ar ymchwil flaenorol a ganfu fod plant a phobl ifanc sy'n rhan o weithrediadau preifat yn aml yn teimlo nad ydynt yn cael fawr ddim cyfle i leisio barn ar benderfyniadau a wneir yn eu cylch, a bod tuedd i safbwyntiau rhieni fod yn drech.

Diwygio gwasanaethau gofal i blant

Rydym wedi ymrwymo i ddiwygio gwasanaethau gofal i blant a phobl ifanc mewn ffordd radical. Byddwn yn cyflawni hyn drwy ein Rhaglen Drawsnewid sy'n seiliedig ar wyth ymrwymiad penodol yn y Rhaglen Lywodraethu a'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc. Ymhlith yr enghreifftiau o'r gwaith sy'n cael ei wneud drwy'r Rhaglen, mae datblygu Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol a fydd yn nodi sut rydym yn gweithio yng Nghymru mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i'n plant a'n pobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed, buddsoddi mewn gwasanaethau eirioli i rieni i uwchraddio gwasanaethau sy'n bodoli eisoes ledled Cymru a gweithio i gryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel rhieni corfforaethol.

Yn ganolog i'r gwaith hwn y mae lleisiau plant a phobl ifanc a bydd y Pwyllgor yn ymwybodol o'r gynhadledd gyntaf ar brofiadau o ofal. Cynhaliwyd ein cynhadledd gyntaf ar ddiwygio'r system ofal ym mis Rhagfyr 2022, sy'n rhoi pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal wrth wraidd y broses bwysig hon. O ganlyniad, llofnododd y Prif Weinidog a llysgenhadon ifanc ddatganiad ar y cyd yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau wedi'u trawsnewid i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal er mwyn galluogi dull gweithredu sy'n ‘rhoi plant yn gyntaf’.

Fel rhan allweddol o roi'r datganiad ar waith mae'r Siarter Rhianta Corfforaethol. Cyhoeddwyd y Siarter ar 29 Mehefin 2023 ac fe'i lansiwyd yn gyhoeddus yn fwy cyffredinol ar 22 Medi.

Roedd Sicrhau Cyfiawnder i Gymru yn cynnwys ymrwymiad i ddadansoddi'r data a ddarperir gan awdurdodau lleol yn erbyn cynlluniau lleihad disgwyliedig i blant sy'n derbyn gofal ac i ystyried y camau nesaf.

Mae Grŵp Cyflawni Trawsnewid Gwasanaethau Plant yn sefydlu is-grŵp a fydd yn cynnwys aelodau sydd â chefndir mewn ystadegau i adolygu'r holl ddata sy'n cael eu coladu ar hyn o bryd mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal, y rhwystrau i goladu unrhyw ddata a nodi bylchau yn y data sy'n cael eu casglu ar hyn o bryd.

Llysoedd Cyffuriau ac Alcohol Teulu

Lansiwyd cynllun peilot Llysoedd Cyffuriau ac Alcohol Teulu yn ffurfiol ym mis Tachwedd 2021 am gyfnod o ddwy flynedd, yn dod i ben ar ddiwedd mis Tachwedd 2023. Mae Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant yn parhau i werthuso'r cynllun peilot. Rhoddodd yr adroddiad gwerthuso interim, a gyhoeddwyd yn 2022, ddirnadaethau allweddol o wyth mis cyntaf y gwerthusiad, gan gynnwys y ffordd y mae teuluoedd yn mynd drwy'r broses yn y cynllun peilot. Daeth yr adroddiad i'r casgliad yr ymddengys bod cyfnod sefydlu'r cynllun peilot wedi bod yn llwyddiannus ar y cyfan, er iddo gael ei gynnal yn ystod cyfnod o darfu mawr oherwydd COVID-19. Nododd yr adroddiad fod y tîm yn darparu gwasanaeth i nifer cynyddol o deuluoedd yng Nghymru, a bod eu profiadau yn cyfrannu at y sylfaen wybodaeth am y Llys Cyffuriau ac Alcohol Teulu yn fwy cyffredinol.

Daw gwerthusiad y ganolfan i ben ar ddechrau 2024 a bydd yn darparu tystiolaeth i roi gwybod i Lywodraeth Cymru ynghylch y camau nesaf o ran y model Llysoedd Cyffuriau ac Alcohol Teulu a’i egwyddorion.

6. Plismona a diogelwch cymunedol yng Nghymru

Nododd Sicrhau Cyfiawnder i Gymru y ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos â Plismona yng Nghymru, fel rhan o ddull cydweithredol ac ataliol o ymdrin â diogelwch cymunedol. Rydym wedi parhau i weithredu yn unol â'r bartneriaeth hon, gan gynnwys drwy Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru a gadeirir gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip.

Mae datblygiadau ers cyhoeddi Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, gan gynnwys adolygiad annibynnol y Fonesig Casey o'r Heddlu Metropolitanaidd yn Lloegr, wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ymddiriedaeth a hyder mewn plismona. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y mater hwn, ac rydym wedi gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn yr heddlu er mwyn sicrhau bod pobl o bob cefndir yn teimlo eu bod yn cael eu diogelu a'u cefnogi gan yr heddlu lle maent yn byw.

Mae'r Senedd yn deddfu mewn meysydd lle mae pwerau wedi'u datganoli, gan gyfrannu at gyd-destun deddfwriaethol unigryw Cymru. Gall hyn arwain at wahaniaethau mewn plismona rhwng Cymru a Lloegr lle mae'r ddeddfwriaeth hon yn arwain at reoliadau a throseddau gwahanol. Ymhlith yr enghreifftiau diweddar mwyaf nodedig y mae'r ymateb i bandemig COVID-19, y ddeddfwriaeth i ddileu amddiffyniad cosb resymol (gweler adran 3) ac yn fwyaf diweddar, y terfyn cyflymder safonol newydd o 20mya mewn ardaloedd trefol (gweler isod).

Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos sut mae heddluoedd yng Nghymru yn gyfrifol am orfodi rheolau gwahanol a throseddau gwahanol i'r rhai yn Lloegr a sut mae'r heddlu yn rhyngweithio â chymunedau yn wahanol fel y cyfryw. Mae'r bartneriaeth sydd ar waith ar hyn o bryd yn dangos yn glir sut y gall system gyfiawnder Cymru ddarparu ar gyfer gwahaniaethau yn y gyfraith ac mewn dulliau gweithredu, a bydd y profiadau hyn yn llywio'r gwaith ar ystyried datganoli plismona y cyfeirir ato yn Rhan 2 o'r adroddiad hwn.

Caethwasiaeth Fodern yng Nghymru

Yn debyg i rannau eraill o'r DU, mae caethwasiaeth fodern yn parhau i fod yn her sylweddol yng Nghymru. Yn 2022, gwnaeth sefydliadau Ymatebwyr Cyntaf dros 500 o atgyfeiriadau ar gyfer dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern. Mae hyn yn cynnwys dioddefwyr posibl camfanteisio rhywiol, camfanteisio ar lafur, camfanteisio troseddol a chaethwasanaeth domestig.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda sefydliadau partner ar fynd i'r afael â'r drosedd hon a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr. Ym mis Mai 2023, sefydlodd Llywodraeth Cymru Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru fel y strwythur partneriaeth newydd i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern yng Nghymru. Cefnogir Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru gan bedwar gweithgor thematig ar Hyfforddiant ac Ymwybyddiaeth, Dioddefwyr a Goroeswyr, Atal a Chadwyni Cyflenwi a Rhyngwladol.

Ym mis Awst 2023, Llywodraeth Cymru oedd y llywodraeth ddatganoledig gyntaf i gyhoeddi Datganiad Caethwasiaeth Fodern. Mae'r Datganiad Caethwasiaeth Fodern yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i leihau'r risgiau o gaethwasiaeth fodern yn ein cadwyni cyflenwi masnachol. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar annog sefydliadau yng Nghymru i ymrwymo i'n Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, sydd wedi cael ei lofnodi gan fwy na 500 o sefydliadau erbyn hyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar ddigwyddiadau a gweithgareddau amrywiol. Mae hyn yn cynnwys cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2023 a gynhaliwyd yn Ysgol Fusnes Caerdydd ar 18 Hydref i nodi Diwrnod Gwrthgaethwasiaeth.

Plismona a thrafnidiaeth

Daeth y terfyn cyflymder safonol o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig i rym ar 17 Medi 2023. Gweithiodd Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, partneriaeth GanBwyll, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân a nifer o bartneriaid eraill ar weithredu, cyfathrebu â'r cyhoedd a gorfodi. Mae'r dull gorfodi yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â gyrwyr gymaint â phosibl ynglŷn â'r terfyn cyflymder newydd er mwyn eu hannog i yrru mewn ffordd gyfreithlon a diogel. Caiff y rhai sy'n goryrru eu dirwyo neu eu herlyn. Ond, i ddechrau, wrth i yrwyr ddod yn gyfarwydd â'r terfyn cyflymder newydd, caiff y rhai sy'n torri'r terfyn cyflymder newydd eu stopio gan yr heddlu a chaiff sesiynau ymgysylltu ymyl ffordd a gynhelir mewn partneriaeth â gwasanaethau tân ac achub eu cynnig, lle maent ar gael, yn lle erlyn.

Troseddau cefn gwlad

Ym mis Ebrill 2023, lansiodd Llywodraeth Cymru a'r pedwar heddlu y strategaeth ar y cyd gyntaf i fynd i'r afael â throseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad. Mae'r strategaeth yn nodi'r meysydd â blaenoriaeth a'r amcanion allweddol i ddatblygu ymateb cydgysylltiedig ac effeithiol ar sail Cymru gyfan i droseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad. Mae'r strategaeth wedi cael ei llunio i gyd-fynd â Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, yr Uned Genedlaethol Troseddau Bywyd Gwyllt a Strategaeth Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt yr Uned Genedlaethol Troseddau Cefn Gwlad ar gyfer 2022-2025.

Cafodd troseddegwyr ym Mhrifysgol De Cymru eu comisiynu hefyd i gynnal adolygiad o raglen Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Cymru hyd yma, a llunio model Damcaniaeth Newid i lywio'r gwaith o ddatblygu metrigau allweddol. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Hydref 2023.

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn diogelwch cymunedol

Mae ein cyllideb ar gyfer 2024-25 yn cadarnhau y byddwn yn parhau i roi dros £15 miliwn o gymorth i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Nghymru. Dyma fuddsoddiad uniongyrchol yn niogelwch cymunedau Cymru, ac yn fwy na’r hyn y mae gan heddluoedd yn Lloegr fynediad ato.

Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn chwarae rhan allweddol yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Maent yn gweithredu fel 'llygaid a chlustiau' lleol pwysig o ran deall cymunedau, ac ymwneud â nhw, gan feithrin ymddiriedaeth a rhoi tawelwch meddwl, yn enwedig i bobl o grwpiau amrywiol.

Rydym wedi sicrhau’r cyllid hwn ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, er gwaethaf yr heriau cyllidol digynsail rydym yn eu hwynebu yn ystod 2024-25 a’r ffaith bod plismona yn faes a gedwir yn ôl. Mae hyn yn dangos cymaint rydym yn rhoi gwerth ar ddiogelwch a llesiant cymunedau Cymru. Rydym hefyd wedi parhau i ddarparu cyllid yn 2023-24 i sefydlu Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru. Mae'r rhwydwaith yn chwarae rôl arwain a chydgysylltu hollbwysig i bartneriaid ym maes diogelwch cymunedol yng Nghymru, gan roi arweiniad a chael sgyrsiau i gefnogi cysondeb ymarfer a llywio polisïau cenedlaethol.

Lansiodd y Rhwydwaith yr Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel gyntaf ym mis Medi 2023, a gefnogwyd gan fideo gan y Prif Weinidog a dynnodd sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo cymunedau diogel, cadarn a hyderus.

Mae'r Rhwydwaith yn symud i fodel cyllido partneriaeth wrth iddo ymsefydlu, ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi swyddogion arweiniol y Rhwydwaith wrth iddynt ddatblygu hyn. Mae hyn yn cynnwys cyfraniad partneriaeth i gynorthwyo gwaith y Rhwydwaith yn ystod 2024-2025.

7. Cyfiawnder troseddol – swyddogaethau datganoledig

Er bod meysydd cyfiawnder troseddol megis plismona a dalfeydd yn rhai a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, parhaodd gwasanaethau datganoledig megis tai, addysg a gofal iechyd i chwarae rôl hollbwysig o ran y ffordd y mae'r meysydd hyn yn gweithredu a'r canlyniadau i bobl yn y system gyfiawnder.

Ers cyhoeddi Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, rydym wedi parhau i gryfhau'r cymorth a roddwn i bobl sydd mewn cysylltiad â'r system gyfiawnder yn y meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru.

Gwasanaethau digartrefedd

Rydym yn parhau i fwrw ymlaen â'r ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i drawsnewid gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu canllawiau ac arferion gwaith ymhellach er mwyn sicrhau na chaiff pobl eu rhyddhau o sefydliadau diogel i ddigartrefedd a chysgu allan. Lansiwyd Papur Gwyn yn amlinellu diwygiadau posibl i'r ddeddfwriaeth ynglŷn â digartrefedd ar 10 Hydref yn sgil cyhoeddi adroddiad gan Banel Adolygu Arbenigol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Suzanne Fitzpatrick, a gafodd y dasg o ystyried sut y gallai newid deddfwriaethol helpu i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion gyda'r nod o wella deddfwriaeth digartrefedd Cymru yn ogystal ag argymhelliad i ddiweddaru'r Llwybr Cenedlaethol sydd wedi bod yn cynnig dull enghreifftiol o ddarparu gwasanaethau digartrefedd ers 2015. Yn dilyn y Papur Gwyn, caiff Bil ei gyflwyno'n ddiweddarach yn ystod tymor y Senedd hon.

Bydd y diwygiadau yn canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym, fel y'i nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae'r dull ‘ailgartrefu cyflym’ o ymdrin â digartrefedd yn canolbwyntio ar gynnig llwybr cyflymach a mwy effeithlon drwy wasanaethau a mathau o lety dros dro er mwyn sicrhau llety parhaol, sefydlog mor gyflym â phosibl.

Bydd y diwygiadau yn cefnogi'r broses o wneud ymyriadau yn fwy cyffredinol megis Tai yn Gyntaf a byddant yn cynnwys mynd i'r afael ag effaith digartrefedd ar grwpiau penodol yr effeithir arnynt yn anghymesur, megis pobl sy'n gadael y carchar, plant, pobl ifanc a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, pobl anabl a goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).

Mae'r Papur Gwyn yn dogfennu'r cynigion a dargedir i atal digartrefedd ymhlith y grwpiau hyn ac yn cynnwys newidiadau megis ehangu'r diffiniad o “gam-drin domestig” i gynnwys ymddygiad gorfodaethol neu reolaethol, cam-drin ariannol neu seicolegol.

Mae gwaith Cynllunio Trosiannol Ailgartrefu'n Gyflym yn parhau ledled Cymru, gan gynnwys ffocws ar ddatblygu partneriaethau lleol er mwyn helpu i lunio cynlluniau unigol. Mewn llawer o ardaloedd, dylai hyn gynnwys gweithio gyda'r heddlu lleol i gytuno ar ddull partneriaeth er mwyn sicrhau bod pobl sy'n cysgu ar y stryd yn cael cymorth i ddod o hyd i atebion tai hirdymor.

Bydd angen cydgysylltu gwaith Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau bod amcanion mynd i'r afael â digartrefedd a lleihau troseddau yn effeithiol ac yn gyson.

Diogelwch iechyd yn yr ystad warchodol yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol ar fater gofal iechyd mewn carchardai, gyda chymorth Bwrdd Goruchwylio Iechyd a Gofal Cymdeithasol Carchardai, a gadeirir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Cymru a Phrawf EF yng Nghymru.

Rydym hefyd wrthi'n gorffen llunio Fframwaith Triniaeth Camddefnyddio Sylweddau newydd a safonau newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i'r carchardai, y bydd y naill a'r llall yn cynnwys ffocws ar barhad gofal a phontio o'r carchar i'r gymuned. Bydd gwaith llinell sylfaen yn cael ei wneud ar y cyd â'r carchardai, gyda chymorth Canolfan Gwella Ansawdd y Coleg yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion.

Addysg, dysgu a chyflogadwyedd yn yr ystad warchodol yng Nghymru

Bydd y polisi “Better Learning, Better Chances - Prison Education, Employability and Skills in Wales” yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn 2024, ac mae'n nodi ein disgwyliadau o ran rhoi cymorth addysg, cyflogadwyedd a sgiliau yn yr ystad ddiogel i oedolion yng Nghymru.

Rydym wedi datblygu'r polisi ar y cyd â'n partneriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys y rhai â phrofiadau bywyd o addysg mewn carchardai sy'n ein galluogi i gael dealltwriaeth gliriach o'r rhwystrau a wynebir gan ddysgwyr a'r ddarpariaeth o ran cyflogadwyedd a sgiliau sydd ei hangen i'w cefnogi.

Rydym yn ymrwymedig i roi'r cymorth addysg, sgiliau a chyflogadwyedd sydd ei angen i helpu'r rhai sy'n gadael y carchar i gael cyflogaeth.

Mae gwasanaeth Cymru'n Gweithio, a ddarperir gan Gyrfa Cymru, yn rhoi cyngor cynhwysfawr a diduedd mewn carchardai. Mae Cymru'n Gweithio hefyd yn ymweld â Charchar Eastwood Park EF a Charchar Styal EF i roi cyngor a chymorth cyflogadwyedd i fenywod o Gymru, sy'n bwrw dedfryd yn y carchar yn Lloegr, wrth iddynt baratoi i gael eu rhyddhau.

Drwy Cymru'n Gweithio, rydym yn cynnig y Gwarant i Bobl Ifanc i bobl o dan 25 oed mewn carchardai, i'w helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, a'u helpu i gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig.

Rydym yn parhau i weithio ar gryfhau'r hyn a gynigiwn o ran cyflogadwyedd er mwyn iddo fod wedi'i dargedu'n well ac yn ymatebol i bobl yn y carchar. Rydym wedi cynnal adolygiad o'r cymorth a'r arweiniad ar gyflogadwyedd a gynigir i garcharorion o'r carchar i'r gymuned er mwyn sicrhau bod yr hyn a ddysgwyd a'r sgiliau a ddatblygwyd yn y carchar yn arwain yn llwyddiannus at gyflogaeth ar adeg rhyddhau.

Dechreuodd rhaglen ReAct+ Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2022 ac ehangwyd y garfan o gyfranogwyr cymwys i gynnwys cyn-droseddwyr a throseddwyr sy'n bwrw eu dedfryd yn y gymuned. Nod ReAct+ yw dysgu'r sgiliau y mae cyflogwyr sy'n recriwtio yn chwilio amdanynt i'r rhai sy'n cymryd rhan yn y rhaglen.

Drwy weithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol, mae tîm ReAct+ wedi llwyddo i gefnogi carcharorion cyn eu rhyddhau drwy grantiau hyfforddiant, gan roi hyfforddiant yn yr ystad ddiogel. Erbyn mis Medi 2023, roedd tîm ReAct+ wedi cymeradwyo 133 o geisiadau am grant gan droseddwyr ac mae 48 o'r rhain eisoes wedi cwblhau hyfforddiant.

Mae ein rhaglen cyflogadwyedd yn y gymuned a ariennir gan Cymunedau am Waith a Mwy, sy'n cael ei darparu ym mhob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, yn rhoi cymorth cyflogadwyedd i'r rhai o dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur, gan gynnwys carcharorion wrth iddynt baratoi i gael eu rhyddhau. Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn cael cymorth mentora un i un dwys, yn ogystal â chyllid ar gyfer hyfforddiant ac i oresgyn rhwystrau eraill i gyflogaeth.

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw'r Cyfrifon Dysgu Personol, sydd â'r nod o roi cymorth ledled Cymru i unigolion er mwyn iddynt ddysgu sgiliau lefel uwch a fydd yn eu galluogi i fanteisio ar amrywiaeth ehangach o gyfleoedd gwaith a/neu gael cyflogaeth ar lefel uwch. Rydym wedi bod yn gweithio i gyflwyno Cyfrifon Dysgu Personol yn yr ystad garchardai ac mae'r rhain ar gael bellach i unigolion cymwys sy'n 19 oed, sy'n cael eu rhyddhau am ddiwrnod, ac sydd mewn cyflogaeth.

Cymorth i gyn-filwyr mewn carchardai

Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr, ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'r ystad gofal iechyd yn y carchar, yn treialu llwybr gofal integredig i gyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â'u cyfnod yn y Lluoedd Arfog sydd mewn carchardai yng Nghymru ar hyn o bryd. Caiff y llwybr ei werthuso ar ôl chwe mis a'i ddiwygio yn dilyn model gwella ansawdd. Yn y bôn, drwy hyn gall staff gofal iechyd gael ymgynghoriad â staff GIG Cymru i Gyn-filwyr ynglŷn ag addasrwydd cyn atgyfeiriad at GIG Cymru i Gyn-filwyr.

Bydd cyn-filwyr yn y carchar yn cael cynnig asesiad drwy fideogynadledda gan un o therapyddion GIG Cymru i Gyn-filwyr yn y bwrdd iechyd y maent yn dychwelyd iddo ar ôl cael eu rhyddhau. Ar ôl cael eu rhyddhau i'r gymuned, gall cyn-filwyr ddechrau therapi neu byddant yn dechrau unwaith y byddant yn cyrraedd brig rhestr aros y bwrdd iechyd. Os yw'r cyn-filwr yn dal i fwrw ei dymor yn y carchar, yna caiff gynnig therapi o bell yn y carchar ac yna drafodaeth bellach ar addasrwydd a mynediad at le diogel a chyfrinachol.

8. Rhaglenni diwygio cyfiawnder troseddol

Mae'r pwysau ar yr ystad garchardai bresennol yn adlewyrchu effaith degawdau o ymdrin â materion troseddol a chyfiawnder mewn ffordd gosbol ac anflaengar, sy'n arwain at boblogaeth ormodol. Mae'n fwyfwy amlwg bod angen gweithredu mewn ffordd wahanol. Nid ydym yn cefnogi cynnydd yn nifer y lleoedd mewn carchardai a chredwn fod angen dull mwy ataliol o ran cyfiawnder, sy'n mynd i'r afael â'r hyn sy'n achosi troseddu ac sy'n dargyfeirio pobl oddi wrth fod yn y carchar.

Mae'r dull gweithredu gwahanol hwn wedi'i ymgorffori yn y Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod a'r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi prosiectau sy'n cryfhau cysylltiadau rhwng menywod yn y carchar a'u plant, yn cefnogi dull system gyfan o ddargyfeirio menywod oddi wrth y system gyfiawnder, ac sy'n helpu i ddatblygu'r gwaith o gynnig ymarfer sy'n ystyriol o drawma i ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid. Drwy barhau i gyflawni’r Glasbrintiau, mae hyn yn helpu i gynnig gwelliannau aml-genhedlaeth ystyrlon ym mywydau rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod

Mae'r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod yn parhau i sbarduno newid i fenywod drwy fynd ati i sefydlu dewisiadau amgen dichonadwy yn lle dedfrydau yn y carchar a thrwy fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu.

Ers lansio'r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod yn 2019, mae nifer y menywod sy'n cael dedfryd yn y carchar wedi lleihau o 552 i 390 yn 2022, gyda nifer y dedfrydau byr yn lleihau o 439 i 273. Ers mis Ionawr 2020 mae dros 2,385 o fenywod wedi cael eu dargyfeirio oddi wrth y system cyfiawnder troseddol ac i gymorth ymyriad yn gynnar.

Mae'r Ganolfan Breswyl i Fenywod yn elfen allweddol o'r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod. Bydd y Ganolfan Breswyl i Fenywod yn cynnig cymorth holistaidd sy'n ystyriol o drawma i fenywod yn y system cyfiawnder troseddol a dewis amgen yn lle dedfrydau tarfol a diangen yn y carchar.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y Ganolfan Breswyl i Fenywod ar 10 Awst 2023, a byddwn yn parhau i weithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF wrth i'r cynlluniau ar gyfer y ganolfan ddatblygu. Mae'r ganolfan yn arbennig o bwysig gan nad oes unrhyw ddarpariaeth yng Nghymru ar hyn o bryd i fenywod sy'n cael dedfryd o garchar. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt fwrw eu dedfryd yn Lloegr, i ffwrdd oddi wrth eu cymunedau a'u systemau cymorth.

Rydym hefyd yn ymrwymedig i gefnogi menywod sy'n bwrw dedfryd. Mae prosiect Ymweld â Mam ar gyfer menywod o Gymru yng Ngharchar Eastwood Park EF a Charchar Styal EF yn helpu menywod i gynnal a datblygu cydberthnasau â'u teuluoedd, sy'n ffactor hollbwysig o ran sicrhau eu bod yn cael eu hadsefydlu'n llwyddiannus yn eu cymunedau ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar. Ers lansio'r gwasanaeth ym mis Gorffennaf 2021, mae wedi cefnogi 115 o fenywod yn y carchar a 130 o blant yn y gymuned.

Un o rannau annatod y Glasbrint yw Dull System gyfan Cynllun Braenaru i Fenywod. Mae'r Cynllun Braenaru yn rhoi cymorth pwrpasol ar gyfer problemau megis alcohol a chamddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl, ac yn helpu i wella cydberthnasau teuluol ar yr un pryd. Mae dros 2,100 o fenywod wedi cael eu hatgyfeirio at y Cynllun Braenaru ers mis Ionawr 2020 yn Ne Cymru a Gwent. O fis Ebrill ymlaen, bydd dull system gyfan o weithio gyda menywod yn cael ei roi ar waith ledled Cymru.

Wrth i'r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod symud i gam cyflawni newydd, bydd yn parhau i wneud gwaith mewn meysydd megis ymyrryd yn gynnar ac atal, llysoedd a dedfrydu, dedfrydau cymunedol ac ailsefydlu, a bod yn y carchar. Ar y cyd â phartneriaid, rydym yn llunio Cynllun Gweithredu wedi’i ddiweddaru ar gyfer y Glasbrint er mwyn nodi’r gweithgarwch sy’n cael ei gyflawni ar draws y Glasbrint a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar fenywod a’u cymunedau yng Nghymru.

Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid

Mae gwaith amrywiol hefyd wedi cael ei wneud o dan y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid. Un canlyniad allweddol yw bod Rheoli Achosion Uwch (ECM) bellach ar gael i bob tîm Troseddwyr Ifanc yng Nghymru i blant sydd mewn cysylltiad gwirfoddol a statudol. Dull amlasiantaethol a arweinir gan seicoleg yw ECM, sy'n cydnabod y trawma y mae plant wedi'i brofi ac yn nodi sut i'w helpu i feithrin y gwydnwch sydd ei angen arnynt i ffynnu a byw bywydau sy'n rhydd o droseddu.

Hefyd, drwy'r Glasbrint mae dros 300 o ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru wedi cael hyfforddiant sy'n ystyriol o drawma. Drwy'r hyfforddiant hwn, gall ymarferwyr ddeall sut y gall trawma effeithio ar fywydau pawb ac mae'n cynnig ffordd gyson o helpu pobl sydd wedi cael profiad o drawma.

Wrth i'r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid symud i gam cyflawni newydd y flwyddyn nesaf, bydd yn parhau i wneud gwaith mewn meysydd megis Atal, Datrysiadau Cyn mynd i'r Llys, a darpariaeth ddiogel. Ar y cyd â phartneriaid, rydym yn llunio Cynllun Gweithredu wedi’i ddiweddaru ar gyfer y Glasbrint er mwyn nodi’r gweithgarwch sy’n cael ei gyflawni ar draws y Glasbrint a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar blant, eu teuluoedd a’u cymunedau yng Nghymru.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn eu Harsylwadau Terfynol ar adroddiad y DU. Mae'r Arsylwadau yn cynnwys ystod o argymhellion a sylwadau ynghylch sut y mae'r system gyfiawnder yn effeithio ar hawliau plant yng Nghymru, sy'n berthnasol i gyfrifoldebau datganoledig a chyfrifoldebau a gedwir yn ôl. Mae'r rhain yn cynnwys nifer o'r themâu sydd wedi’u cynnwys yn y ddogfen hon, er enghraifft, cefnogi hawliau plant pobl yn y system gyfiawnder a sicrhau y caiff plant sydd mewn cysylltiad â'r system gyfiawnder eu trin yn deg ac yn ddiogel. Cyn toriad yr haf 2024, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ymateb i'r Arsylwadau Terfynol a fydd yn nodi ein dull gweithredu o ran y sylwadau sydd o fewn ein cymhwysedd.

Llysoedd troseddol sy'n datrys problemau

Yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru nodwyd gennym y byddem yn croesawu cynllun peilot ar gyfer Llys Troseddol sy'n Datrys Problemau yng Nghymru, yn dibynnu ar fodloni amodau penodol. Dywedodd yr Arglwydd Bellamy, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder yn Llywodraeth y DU yn gyhoeddus bod cynllun peilot ym Merthyr Tudful yn cael ei ystyried. Yna, aeth swyddogion Llywodraeth Cymru i sawl cyfarfod â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder cyn iddi ddod i'r casgliad na fyddai'r cynllun peilot yn mynd rhagddo wedi'r cyfan.

Er bod gennym rai pryderon ynglŷn â'r union gynigion ar gyfer y cynllun peilot ym Merthyr Tudful, roedd yn siomedig inni na fyddai'r un o'r cynlluniau peilot sydd bellach wedi cael eu hailenwi'n Llysoedd Goruchwylio Dwys yn digwydd yng Nghymru.

9. Cyfiawnder Sifil a Gweinyddol

Mae gan Gymru nifer bach ond arwyddocaol o dribiwnlysoedd datganoledig sy'n rhoi mynediad effeithiol ac effeithlon at gyfiawnder i ddefnyddwyr y tribiwnlysoedd. Er inni weld diwygiadau a datblygiadau yn y system o dribiwnlysoedd datganoledig dros y blynyddoedd, mae pob tribiwnlys yn cael ei lywodraethu gan ei fframwaith deddfwriaethol annibynnol ei hun.

Yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru nodwyd ein bwriad i ddiwygio'r system o dribiwnlysoedd datganoledig, yn sgil argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a Chomisiwn y Gyfraith.

Gwnaethom gyhoeddi papur gwyn ar 19 Mehefin 2023 i ymgynghori ar gynigion ar gyfer system fodern ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig Cymru.

Mae'r Papur Gwyn yn cydnabod bod ffordd gliriach, symlach, fwy effeithiol a chydlynol o weithredu'r system o dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn hanfodol i'r achos dros sicrhau cyfiawnder i bobl Cymru.

Mae'r Papur Gwyn yn cynnig system unedig a fyddai'n cynnwys un Tribiwnlys Haen Gyntaf i Gymru er mwyn cwmpasu awdurdodaethau y tribiwnlysoedd datganoledig presennol, a Thribiwnlys Apêl i Gymru. Mae'r cynigion yn cynnwys rôl estynedig i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, a fyddai'n ymgorffori awdurdodaeth paneli apelio annibynnol, sy’n ystyried gwaharddiadau o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, yn y system unedig, dulliau cydlynol o benodi aelodau a phennu rheolau ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd, yn ogystal â mwy o annibyniaeth oddi wrth y llywodraeth o ran y ffordd y gweinyddir y system.

Fel rhan o'r agenda ddiwygio i greu system fodern i dribiwnlysoedd datganoledig Cymru rydym hefyd wedi bod yn ystyried gofynion adrodd ar gyfer y system o dribiwnlysoedd.

Rydym yn cynnig y dylai'r cyfrifoldeb am weinyddu'r system dribiwnlys newydd gael ei freinio mewn corff hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae ein cynigion yn cynnwys gofyniad i'r corff arfaethedig gwblhau cynllun corfforaethol a chyhoeddi adroddiad blynyddol i gynnwys gwybodaeth am berfformiad gweithredol y tribiwnlysoedd newydd.

Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ym mis Hydref 2023 a gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar grynodeb o’r ymatebion i ymgynghoriad y Papur Gwyn ar 30 Ionawr. Bydd ymatebion yr ymgynghoriad yn llywio'r gwaith o ddatblygu y cynigion deddfwriaethol sydd eu hangen i ddiwygio'r system. Mae amserlennu deddfwriaethol o'r fath yn dibynnu ar ei phrosesau ei hun fel rhan o Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

Ers inni gyhoeddi Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, mae'r Cyngor Cyfiawnder Sifil hefyd wedi cymryd camau i gryfhau'r ffordd y mae'n ymgysylltu ar faterion cyfiawnder sifil a gweinyddol yng Nghymru. Ym mis Hydref 2022, cytunodd y Cyngor i roi gwahoddiad sefydlog i Lywodraeth Cymru fod yn bresennol yn ei gyfarfodydd chwarterol mewn rôl arsyllwr a rhannu papurau cyfarfodydd â Llywodraeth Cymru. Ers hynny, mae cyflwyniadau wedi cael eu rhoi i'r Cyngor ar faterion cyfiawnder sifil a gweinyddol yng Nghymru, gan gynnwys diwygio'r tribiwnlysoedd datganoledig.

10. Mynediad at gyfiawnder

Yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, nodwyd gennym bryderon mawr ynglŷn â mynediad at gyfiawnder ac erys y pryderon hyn o hyd. Rydym yn parhau i godi gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'i Gweinidogion nifer o bryderon ynglŷn â'r anawsterau cynyddol y mae pobl yn eu hwynebu i gael mynediad at y system gyfiawnder. Mae gweddill yr adran hon yn tynnu sylw at rai o'r pryderon ac yn rhoi diweddariad ar rai o'r mentrau eraill rydym yn eu datblygu i wella mynediad at gyfiawnder.

Gwasanaethau gwybodaeth a chyngor

Mae'r angen cymdeithasol am wasanaethau gwybodaeth a chyngor wedi cynyddu yn ystod y degawd diwethaf a mwy, o ganlyniad i gyni cyllidol a'r heriau economaidd estynedig y mae'r DU yn eu hwynebu – a hefyd o ganlyniad i grebachu sylweddol ar wasanaethau cymorth cyfreithiol a ariennir gan Lywodraeth y DU yn fwy penodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig o hyd i gefnogi gwasanaethau cynghori, gan gydnabod sut mae'r gwasanaethau hyn yn mynd i'r afael â thlodi incwm, yn atal digartrefedd, yn gwella cyflogadwyedd, ac yn cyflwyno gwelliannau i iechyd a llesiant rhai o'r aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Caiff yr ymrwymiad hwn ei gynnal yn y flwyddyn ariannol bresennol (2023-24) drwy'r cyllid grant o £11 miliwn rydym yn ei ddarparu ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir drwy'r Gronfa Gynghori Sengl.

Diben y Gronfa Gynghori Sengl yw darparu gwasanaethau gwybodaeth a/neu gyngor ar les cymdeithasol sy'n seiliedig ar hawliau. Dylai'r model darparu gwasanaethau fod yn hygyrch i grwpiau o'r boblogaeth sy'n tueddu i beidio â cheisio cyngor. Gwyddom fod gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ers mis Ionawr 2020, mae gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl wedi helpu 200,000 o bobl ymdrin â mwy na 920,000 o broblemau lles cymdeithasol. Roedd y rhai a gafodd gymorth wedi cael eu helpu i hawlio incwm ychwanegol o £116.6 miliwn ac roedd dyledion gwerth £30.8 miliwn wedi cael eu dileu.

Mae ymchwil yn cael ei gwneud i ddangos sut mae'r gwasanaethau a ariennir yn cyflawni yn erbyn y model hwn. Bydd yn darparu data meintiol ac ansoddol. Bydd y dadansoddiad yn nodi os nad yw'r gwasanaethau yn cyrraedd unrhyw grwpiau allweddol o'r boblogaeth ac yn ei gwneud yn bosibl i benderfyniadau gael eu gwneud yn seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn â sut y dylai unrhyw gyfleoedd cyllid grant yn y dyfodol gael eu strwythuro.

Mae'r ymchwil ar ei cham terfynol a disgwylir iddi gael ei chwblhau ym mis Ebrill eleni.

Trefniadau ariannu ar gyfer gwasanaethau cymorth i ymgyfreithwyr drostynt eu hunain

Un o ganlyniadau lleihau'r cymorth cyfreithiol sydd ar gael yw cynnydd sylweddol yn nifer yr ymgyfreithwyr drostynt eu hunain (h.y. pobl sy'n ymddangos yn y llys heb gynrychiolaeth gyfreithiol). Roedd risg wirioneddol iawn y byddai'r swyddfa Cymorth drwy'r Llys yng Nghaerdydd yn cau ar ôl penderfyniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i wneud y grant Cymorth Cyfreithiol i Ymgyfreithwyr drostynt eu hunain yn destun cystadleuaeth agored. Felly, gwnaethom godi'r pryderon hyn gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac roedd yn bleser gennym nodi bod y trefniadau a fabwysiadwyd yn y pen draw wedi'i gwneud yn bosibl i'r swyddfa hon barhau i fod ar agor.

Mae cymorth i ymgyfreithwyr drostynt eu hunain yn arbennig o bwysig gan fod yr ymgyfreithwyr hyn yn aml yn anghyfarwydd â phrosesau'r llys a heb gymorth, byddai treialon yn cymryd mwy o amser ac felly'n cynyddu'r pwysau ar y system gyfiawnder. Mae Cymorth Drwy'r Llys yn rhoi cymorth arbennig o bwysig a gwerthfawr i bobl sy'n agored i niwed ac rydym yn falch bod modd dod o hyd i ateb i'w hargyfwng dirfodol.

Cyfryngu Gorfodol yn y Llys Hawliadau Bach (Cyfryngu Integredig erbyn hyn)

Yn gyffredinol, rydym yn croesawu'r defnydd helaethach o gyfryngu yn y system gyfiawnder mewn achosion lle nad oes risg y bydd yn arwain at ganlyniadau anghyfiawn. Fodd bynnag, erys pryderon o hyd ynglŷn â'r risg y bydd unigolion yn teimlo pwysau gormodol i gytuno i setliadau wedi'u cyfryngu a hefyd bryder o ran y dybiaeth y bydd gweithwyr proffesiynol wedi'u dadleoli yn dod o hyd i waith o'r un gwerth economaidd neu'r nesaf peth i'r gwerth economaidd gorau unwaith y caiff cyfryngu gorfodol ei gyflwyno drwy'r sector sifil cyfan. Ymddengys fod hyn yn rhy gadarnhaol o ystyried y problemau a wynebir yn fwy cyffredinol ym maes cyfraith sifil.

Felly, mae hwn yn faes arall rydym wedi ei godi gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Awgrymwyd gennym y dylai unrhyw adolygiad ôl-weithredol o'r gwasanaeth cyfryngu gynnwys data ynglŷn â gwerth yr hawliadau sy'n mynd drwy'r broses hon, y categorïau o anghydfodau sy'n cael eu setlo ac yn benodol, boddhad defnyddwyr, oherwydd mae'n bosibl nad dod i setliad ynddo'i hun yw'r mesur gorau o lwyddiant.

Darpariaethau ynglŷn ag Eiriolwr Cyhoeddus Annibynnol yn y Bil Dioddefwyr a Charcharorion

Mae Bil Dioddefwyr a Charcharorion Llywodraeth y DU yn cynnwys darpariaeth i Ysgrifennydd Gwladol y DU benodi Eiriolwr Cyhoeddus Annibynnol i gefnogi dioddefwyr achosion mawr yng Nghymru neu yn Lloegr. Rydym yn cefnogi'r cysyniad o Eiriolwr Cyhoeddus Annibynnol, ond rydym yn rhannu'r pryderon a godwyd gan ymgyrchwyr Hillsborough Law Now nad yw'r cynigion hyn yn mynd mor bell ag sy'n angenrheidiol ac fel y'i nodwyd yn y ‘Gyfraith Hillsborough’ a gynigiwyd. Mae angen gosod dyletswydd gonestrwydd ar bob gwas sifil, a hefyd sicrhau bod gan deuluoedd mewn profedigaeth statws mwy cydradd o'u cymharu â chyrff cyhoeddus drwy sicrhau bod cynrychiolaeth gyfreithiol a arienir yn gyhoeddus ar gael.

Yn ein Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 19 Mai nodwyd na allai Llywodraeth Cymru dderbyn y darpariaethau ynglŷn â'r Eiriolwr Cyhoeddus Annibynnol fel yr oeddent, yn bennaf am nad oeddent yn adlewyrchu'r ffaith bod y rhan fwyaf o swyddogaethau'r swydd newydd yn rhai datganoledig. Ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi dangos parodrwydd i drafod newidiadau i'r rhan hon o'r Bil. Rydym yn ceisio gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i nodi a oes modd addasu'r cynigion i ddiwallu anghenion Cymru.

Gosod Mesuryddion Rhagdalu Dan Orfod

Unwaith eto ar ôl codi pryderon gyda Llywodraeth y DU, gwnaethom groesawu'r cadarnhad y dylai ceisiadau am warantau mynediad er mwyn gosod mesurydd rhagdalu beidio â chael eu rhestru ac na ddylid penderfynu ar unrhyw geisiadau eraill o'r fath nes bod ymchwiliad i'r mater hwn. Gwnaethom godi pryderon ynglŷn â methiannau sylfaenol yn y system gyfiawnder sy'n golygu nad yw llawer o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, y mae ganddynt seiliau dilys dros wrthwynebu'r ceisiadau hyn, yn cael unrhyw gyfle realistig o wneud hynny oherwydd y terfynau amser sy'n gysylltiedig â chais am wrandawiad ac anawsterau i gael cyngor cyfreithiol neu gynrychioli eu hunain yn y llys.

Adolygiad o Gymorth Cyfreithiol Sifil

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynychu ffrydiau gwaith a sefydlwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer yr Adolygiad o Gymorth Cyfreithiol Sifil ac maent yn hwyluso rhagor o ymgysylltu â'r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol a darparwyr cyngor yng Nghymru er mwyn sicrhau bod eu safbwyntiau yn cael eu cynrychioli. Mae gennym bryderon ynglŷn â'r terfynau amser estynedig sy'n gysylltiedig â'r Adolygiad a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ddarparwyr cyngor ar adeg pan fo angen dybryd i sicrhau hyfywedd ariannol y sector cyfreithiol sy'n ymgymryd â'r gwaith hwn, yn awr ac yn yr hirdymor.

Hygyrchedd cyfraith Cymru

Ar 1 Tachwedd 2023 gwnaethom gyhoeddi'r ail adroddiad blynyddol ar ddyfodol cyfraith Cymru yn manylu ar y cynnydd a wnaed o dan raglen y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Roedd hyn yn cwmpasu'r cyfnod o 15 Hydref 2022 i 30 Medi 2023, ac yn cynnwys manylion y gwaith a wnaed gan Gomisiwn Cyfraith Cymru a Lloegr (gweler paragraffau 58 i 60).

Ar 19 Ionawr 2024, cafodd rhaglen ddiwygiedig i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ei gosod gerbron y Senedd. Mae’r diwygiadau yn adlewyrchu cwblhau rhai elfennau o’r rhaglen wreiddiol yn ogystal ag ychwanegu tri phrosiect ac ymrwymiadau newydd.

Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder

Wedi oedi hir i'w sefydlu, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder ym mis Medi 2023. Cynhaliwyd yr ail gyfarfod ym mis Ionawr 2024 ac mae eisoes wedi dangos ei werth gan ei fod wedi galluogi’r pedair gwlad i ystyried materion a godwyd yn sgil sgandal Horizon Swyddfa'r Post. Rydym yn croesawu sefydlu'r grŵp hwn fel datblygiad cadarnhaol ac yn fforwm ychwanegol lle y gellir codi materion sy'n ymwneud â mynediad at gyfiawnder.

11. Y sector cyfreithiol ac economi Cymru

Mae sector cyfreithiol cadarn yn hanfodol er mwyn sicrhau system gyfiawnder deg ac effeithiol. Byddai'n amhosibl i lawer o ddinasyddion ymdopi â'r system gyfiawnder heb fynediad at gyngor a chymorth cyfreithiol gan ddarparwyr gwasanaethau cyfreithiol. Mae i'r sector cyfreithiol yng Nghymru werth annatod sylweddol, drwy'r cyngor a'r cymorth a roddir i unigolion, cymunedau, a busnesau ar faterion allweddol sy'n effeithio arnynt a'r cyfraniad a wna i economi Cymru. Yn 2021, sef y dyddiad mwyaf diweddar y mae'r ystadegyn hwn ar gael ar ei gyfer, roedd gweithgareddau cyfreithiol a chyfrifyddu yn cyfrif am 1.5% (£1 biliwn) o werth ychwanegol gros Cymru.

Yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, nodwyd bod y sector cyfreithiol, fel llawer o sectorau eraill, yn wynebu cryn heriau ar hyn o bryd. Mae diwygiadau polisi a thoriadau ariannol sylweddol gan Lywodraeth y DU ers 2010 wedi cael effaith ddifrifol ar y proffesiynau cyfreithiol a'r bobl y maent yn eu cynrychioli yng Nghymru, yn enwedig y newidiadau i gymhwystra i gael cymorth cyfreithiol a chyllid cymorth cyfreithiol, a chau llawer o adeiladau llysoedd a thribiwnlysoedd, gyda rhai sy'n weddill mewn cyflwr gwael. Gall fod yn anodd recriwtio a chadw cyfreithwyr mewn rhannau mwy anghysbell a llai cyfoethog o Gymru. Mae hyn wedi cyfrannu at y bylchau mewn darpariaeth cyngor mewn meysydd allweddol o'r gyfraith megis troseddau, tai a mewnfudo yn y sector cyfreithiol a'r sector cynghori nid er elw. Mae'r angen i drawsnewid ymarfer cyfreithiol at y 21ain ganrif, gyda chymorth yr amrywiaeth gynyddol o dechnoleg a datblygiadau arloesol cyfreithiol sydd ar gael, yn her sylweddol arall, yn enwedig i bractisau bach ar y stryd fawr.

Mae rhai o'r ffactorau hyn wedi arwain at brinder cyngor a chymorth cyfreithiol fforddiadwy neu a ariennir yn gyhoeddus, a chafwyd effaith andwyol ar hyfywedd rhai busnesau cyfreithiol.

Gweithwyr proffesiynol cyfreithiol yng Nghymru

Un o effeithiau allweddol y lleihad yn nifer y defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol yw gallu cwmnïau cyfreithwyr practis preifat i recriwtio cyfreithwyr. Gall hyd yn oed y rhai sydd â'r gallu a'r adnoddau i recriwtio a datblygu cyfreithwyr wynebu anawsterau i ddenu a chadw talent newydd drwy gystadleuaeth â chwmnïau cyfreithwyr yn Lloegr, cyflogwyr eraill yn y sector cyfreithiol yng Nghymru, a chyflogwyr mewn sectorau eraill yng Nghymru a Lloegr sy'n cynnig gwell cyflogau a phecynnau buddiannau.

Mae Sicrhau Cyfiawnder i Gymru yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithio mewn partneriaeth â’r cyrff cynrychiadol a rheoleiddiol ar gyfer y proffesiynau cyfreithiol. Mae hyn wedi bod ar waith ers 2022. Er enghraifft, mae Cymdeithas y Cyfreithwyr wedi cymryd camau i godi proffil cyfraith Cymru a materion cysylltiedig gyda'i huwch-arweinwyr a'i haelodau yng Nghymru a Lloegr. Yn 2022, sefydlwyd Bwrdd Cenedlaethol i Gymru, er mwyn disodli ei hen Bwyllgor i Gymru. Mae Bwrdd Cenedlaethol Cymru yn atebol yn uniongyrchol i brif fwrdd Cymdeithas y Cyfreithwyr yn Chancery Lane, a chaiff ei helpu gan Grŵp Polisi Cymru, Grŵp Mewnol i Gymru, Grŵp Partneriaid Rheoli a Grŵp Profiadau Aelodau. Drwy wahoddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Bwrdd.

Yn ystod 2022 a 2023, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid gwerth £100k i'r sector cyfreithiol yng Nghymru ar gyfer seiberddiogelwch er mwyn galluogi practisau cyfreithiol ledled Cymru i ennill achrediadau hanfodion seibr. Roedd y cynllun yn llwyddiant, gan gyrraedd 20% o gwmnïau cyfreithwyr yng Nghymru gyda chynrychiolaeth ddaearyddol yn rhanbarthau, dinasoedd a threfi Cymru.

Mae'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn datblygu adnodd mapio sy'n dangos lleoliad sawl math o wasanaethau cyfreithiol (gan gynnwys cwmnïau cyfreithwyr, asiantaethau cymorth cyfreithiol a darparwyr gwasanaethau cyfreithiol heb eu rheoleiddio) yn ôl ardal. Gall ddarparu data ar sail Cymru, ar lefel leol, mewn fformat map sy'n caniatáu canfod bylchau yn y ddarpariaeth a phellteroedd rhwng darpariaeth. Gan ddefnyddio’r adnodd mapio hwn, gellir hefyd droshaenu data ar amddifadedd, allgáu digidol a data perthnasol arall, er mwyn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am leoliad gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Mae'r Awdurdod wedi annog Llywodraeth Cymru i fireinio'r fethodoleg ar gyfer nodi elfen darpariaethau heb eu rheoleiddio yr adnodd, sydd, o'i droshaenu â chwmnïau cyfreithiol ac asiantaethau cymorth cyfreithiol a reoleiddir yn rhoi darlun cyflawn o'r ddarpariaeth yn gyffredinol.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr Awdurdod ymchwil a oedd yn archwilio agweddau a dewisiadau defnyddwyr ar gyfer dewis a defnyddio gwasanaethau cyfreithiol. Dyma rai o ganfyddiadau’r ymchwil:

  • mae defnyddwyr yn dymuno bod darparwyr gwasanaethau cyfreithiol yn hawdd siarad â nhw a’u bod yn cyfathrebu yn glir â nhw. Er bod nifer o ddarparwyr o’r farn eu bod yn cyfathrebu yn glir ac yn effeithiol, mae’r mwyafrif o ddefnyddwyr yn anghytuno
  • mae angen pobl am wasanaethau cyfreithiol, a’u defnydd ohonynt, yn wahanol yn ôl nodweddion demograffig, megis incwm
  • ceir ystod eang o rwystrau o ran defnyddio gwasanaethau cyfreithiol, gyda defnyddwyr yn aml yn profi ymdeimlad o fregusrwydd ar ôl sylweddoli bod angen gwasanaethau cyfreithiol arnynt, ac
  • effeithiodd gefndir economaidd-gymdeithasol ymatebwyr yn gryfach ar eu profiadau cyfreithiol, rhwystrau, agweddau ac ymddygiadau o gymharu â’u hethnigrwydd.

Gweithgaredd arall y mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb ynddo yw prosiect y mae’r Awdurdod yn ei arwain i ystyried ffyrdd o gynyddu’r defnydd o ddatrys anghydfodau ar-lein i alluogi unigolion a busnesau ddatrys problemau cyfreithiol heb orfod mynd i’r llys. Mae hyn ar waith mewn partneriaeth â’r Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder a Chymdeithas y Cyfreithwyr, a mae’n ceisio cydweithio â Chyngor Cyfraith Cymru.

Mae’r Awdurdod hefyd wedi ymrwymo i weithredu’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) llawn drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn mis Medi 2024. Ar hyn o bryd, gellir cwblhau SQE2 yn Gymraeg. Ym mis Mehefin 2023, rhoddodd yr Awdurdod gynllun peilot ar waith er mwyn llywio ei gynlluniau ar gyfer cyflwyno’r SQE1 yn Gymraeg, a hynny gan ystyried sut y caiff y cwestiynau eu cyflwyno, yn ogystal â rhoi’r broses gyfieithu ar brawf. Mae’r Awdurdod yn gweithio i sicrhau bod ymgeiswyr yn deall natur bosibl y SQE1 drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn eu galluogi i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth o ran cwblhau’r SQE1 yn Gymraeg. Mae’r Awdurdod yn cyd-drafod â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a phrifysgolion Cymru i ddatblygu’r dull hwn ac mae’n parhau i gyhoeddi deunyddiau SQE1 yn Gymraeg ar ei wefan.

Cynhaliodd yr Awdurdod adolygiad thematig o'r sector cynghori ar faterion mewnfudo a lloches. Ar y cyfan, er bod cwmnïau'n darparu lefel dda o wasanaeth, daeth i’r amlwg bod rhai meysydd yn achosi pryder. Mae'r Awdurdod wedi gweithredu camau i helpu cyfreithwyr sy'n gweithio ym maes mewnfudo ac i ddiogelu'r cyhoedd pan nad yw'r safonau disgwyliedig yn cael eu cyflawni. Yn dilyn adolygiad o gymhwysedd parhaus darparwyr gwasanaethau cyfreithiol ym maes mewnfudo, mae'r Awdurdod wedi cyhoeddi canllawiau newydd sy'n canolbwyntio ar sut y mae cyfreithwyr yn gweithio gyda chleientiaid sy’n mewnfudo, canllawiau ynghylch goruchwyliaeth effeithiol ar gyfer staff i helpu cwmnïau i wella, yn ogystal â chyhoeddi gwybodaeth i'r cyhoedd ar wefan Legal Choices.

Nid yw heriau o ran adnoddau yn y proffesiynau cyfreithiol wedi'u cyfyngu i gyfreithwyr. Yn ystod 2022, gwnaethom sefydlu gweithgor ar y cyd â'r Bar yng Nghymru (Cylchdaith Cymru a Chaer). Ei gylch gwaith yw helpu i ddatblygu eiriolaeth ac arbenigedd mewn cyfraith breifat yng Nghymru, sy'n adlewyrchu'r ffaith bod hwn yn faes cyfreithiol lle mae'r gyfraith yng Nghymru yn dra gwahanol i'r gyfraith yn Lloegr. Mae ymarferwyr cyfraith gyhoeddus mewn llywodraeth leol a'r GIG wedi ymuno â swyddogion Llywodraeth Cymru a bargyfreithwyr cyfraith gyhoeddus o Gylchdaith Cymru a Chaer yn y grŵp hwn.

Gwella cynaliadwyedd y sector cyfreithiol

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i helpu’r sector cyfreithiol mewn nifer o ffyrdd eraill:

  • Ar ôl cyhoeddi fframwaith ar gyfer cymwysterau newydd Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEX) ar lefel 3 i baragyfreithwyr a lefel 5 i baragyfreithwyr uwch ym mis Ebrill 2022, dechreuodd y garfan gyntaf o brentisiaid yn hydref 2022. Mae'r cymwysterau yn cael eu darparu gan Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sy'n cynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, Coleg Caerdydd a'r Fro, Coleg Gŵyr ac Itec Traning Solutions a Brightlink Learning.
  • Mae Busnes Cymru wedi rhoi cymorth busnes pwrpasol, gan gynnwys cyngor a digwyddiadau ar bynciau megis mynediad at gyllid, Adnoddau Dynol ac arferion cyflogaeth, tendro a chaffael ac effeithlonrwydd adnoddau. Mae amrywiaeth o ddeunyddiau cymorth i fusnesau ar gael yn benodol i'r sector cyfreithiol.
  • Datblygwyd adnoddau ar-lein dwyieithog ar gyfer gwefan Busnes Cymru, sy'n cynnwys cyfres o astudiaethau achos ar ffurf fideos byrion o agweddau gweithredol ar gwmnïau cyfreithwyr yng Nghymru; gweithdy ar-lein ar recriwtio a chadw staff a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn y sector cyfreithiol. Lansiwyd yr adnoddau hyn yn ystod haf 2023.

Gweithgarwch Pro Bono

Yn ystod haf 2022, aeth aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol a'r farnwriaeth ati i sefydlu Pwyllgor Pro Bono newydd i Gymru, gyda chynrychiolaeth eang o bob rhan o'r sector cyfreithiol a'r sector cynghori nid er elw. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys ymarferwyr y gyfraith, cynrychiolwyr o'r sector elusennau sy’n cynghori, ac aelodau o'r farnwriaeth sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo ymhellach ddull cydgysylltiedig o ran gweithgarwch pro bono yng Nghymru. Caiff ei gadeirio ar y cyd gan Clive Watkins o Watkins a Gunn, Cymdeithas Cyfreithwyr Caerdydd a'r Cylch, a Chyngor Cymdeithas y Cyfreithwyr a Bwrdd Cenedlaethol Cymru, a’i Anrhydedd y Barnwr Robert Harrison, sef Barnwr Sifil Dynodedig Cymru.

Nod y Pwyllgor yw bod yn ganolfan a chyswllt cyntaf ar gyfer gweithgarwch pro bono yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor wedi sefydlu grŵp cyfeirio a grŵp strategaeth. Ers dechrau 2023, mae ei grŵp cyfeirio wedi llunio adran benodol i Gymru yng nghanllawiau cyfeirio cyngor cyfreithiol y Pwyllgor ar gyfer Wythnos Pro Bono. Cafodd hyn ei gwblhau a’i rannu ar wefan Wythnos Pro Bono ym mis Rhagfyr 2023. Mae’r Pwyllgor yn trefnu digwyddiad i lansio’r canllawiau yn ffurfiol yng Nghymru ac mae’n gweithio ar ddatblygu ei wefan a nodi nodau strategol allweddol ar gyfer 2024.

Mae Cylchdaith Cymru a Chaer y Bar hefyd wedi gweithio gydag Advocate, elusen pro bono'r Bar, i hyrwyddo gwaith pro bono yng Nghymru, ac wedi noddi digwyddiad traws-sector i esbonio gwaith Advocate ac annog bargyfreithwyr i gymryd rhan.

Gweithgarwch arall yn y sector

Lansiwyd Menywod mewn Cyfraith Droseddol Cymru (WICL Cymru) ym mis Mawrth 2023 sy'n dwyn ynghyd fargyfreithwyr troseddol o'r Bar, y farnwriaeth, cyfreithwyr amddiffyn, Gwasanaeth Erlyn y Goron, a chyfreithwyr mewnol eraill o bob rhan o Gymru. Mae WICL Cymru yn gweithio gyda'i sefydliad cenedlaethol a changhennau eraill yn Lloegr i rannu arferion da, mentora a chymorth.

Mae Fforwm Menywod y Gylchdaith yn trefnu digwyddiad traws-sector ar gydraddoldeb rhywiol yn ddiweddarach yn 2023. Y gobaith yw y gall sectorau ddysgu oddi wrth ei gilydd o ran arferion effeithiol a da i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, a chydnabyddir bod hwn yn faes lle mae'r Bar yng Nghymru yn wynebu heriau penodol ac mae'n bosibl bod sectorau eraill wedi gwneud mwy o gynnydd.

Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol wedi sefydlu fforwm i reoleiddwyr gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Diben y fforwm, a gyfarfu am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2023, yw sicrhau bod rheoleiddwyr yn ystyried anghenion defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru ac yn cefnogi mynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Mae'r fforwm wedi cytuno i ystyried a chydweithio ar sawl maes sy'n canolbwyntio ar bobl yng Nghymru y mae angen gwasanaethau cyfreithiol arnynt. Bydd y fforwm yn cyfarfod eto ym mis Ebrill 2024. Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol wedi bod yn datblygu'r ffordd y mae'n ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru. Ym mis Medi 2023, cynhaliodd dderbyniad yn y Senedd lle rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad y brif araith. Cyfarfu ag amrywiol randdeiliaid hefyd, gan gynnwys cyfreithwyr, academyddion, a darparwyr gwasanaethau, er mwyn trafod cydweithio ar amcanion a rennir. Ym mis Ebrill 2024, bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol yn cynnal cyfarfod bord gron yn y gogledd er mwyn ystyried ymhellach y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r proffesiwn gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru. Bydd hefyd yn cymryd rhan yn Sioe Deithiol LegalTech Cymru.

Cafodd ymchwil y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol i'r defnydd o dechnoleg ac arloesedd yng Nghymru a Lloegr 88 o ymatebion gan ddarparwyr gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru (43 o gwmnïau cyfreithwyr, wyth siambr bargyfreithwyr, 22 o gwmnïau eraill a reoleiddir a 15 o gwmnïau nad ydynt yn cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007). Roedd ymchwil y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol i'r ffordd yr ymdrinnir â chwynion haen gyntaf am wasanaethau cyfreithiol yn cynnwys fforwm ar-lein lle roedd pump o'r 45 o gyfranogwyr yn dod o Gymru. Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol yn hyrwyddo pwysigrwydd gallu dadgyfuno data o ran Cymru mewn arolygon i’r rheoleiddwyr ac mae ei hun wedi cynyddu nifer yr ymatebion gan bobl yng Nghymru i'w arolwg o anghenion cyfreithiol unigol, er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o'r data o'r problemau a wynebir gan bobl yng Nghymru y mae angen gwasanaethau cyfreithiol arnynt. Bydd yr arolwg yn cael ei gyhoeddi yn nhymor y gwanwyn 2024.

Bu 2023 yn flwyddyn arwyddocaol i fynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Dathlodd Canolfan y Gyfraith Speakeasy yng Nghaerdydd 30 mlynedd o roi cyngor cyfreithiol am ddim yng Nghaerdydd a'r de-ddwyrain. Mae bellach yn cyflogi pum cyfreithiwr ac yn cynghori ar ddyled, budd-daliadau lles, tai a chyflogaeth. Yn y gogledd, sefydlwyd gwasanaeth cyfraith gymunedol newydd yng Nghyffordd Llandudno a dechreuodd dderbyn atgyfeiriadau gan nifer bach o sefydliadau partner ym mis Hydref 2023. Ceir tîm o bedwar ar hyn o bryd, sy'n rhoi cyngor arbenigol ym maes tai i bobl sy'n ddigartref neu sy'n wynebu risg o ddigartrefedd a safonau tai annigonol na allant fforddio cyfreithiwr fel arall. Mae ei bwrdd yn mynd ati i geisio penodi pumed aelod o'r tîm er mwyn paratoi ar gyfer lansiad cyhoeddus y gwasanaeth yn ddiweddarach eleni.

Mae Cyngor Cyfraith Cymru yn parhau i ddatblygu prosiectau drwy ei weithgorau ar addysg a hyfforddiant cyfreithiol yn y sector cyfreithiol, gwella dealltwriaeth y cyhoedd o gyfraith Cymru a darparu gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru.Ym mis Hydref 2023, cafodd grŵp ei sefydlu, yn endid ar wahân i Gyngor y Gyfraith, i ystyried hyfywedd Canolfan Datrys Anghydfodau i Gymru.