Mae’r adroddiad yn dadansoddi canlyniadau amcanestyniadau diweddaraf ar gyfer awdurdodau lleol, gan gynnwys amcanestyniadau amrywiolion.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Amcanestyniadau is-genedlaethol o'r boblogaeth
Mae’r amcanestyniadau hyn yn rhoi syniad o faint a strwythur posibl poblogaeth awdurdodau lleol ar gyfer y cyfnod 2018 i 2043.
Nid rhagolygon mo’r amcanestyniadau hyn. Nid ydynt yn ceisio rhagweld effaith y gall polisïau’r llywodraeth, newid mewn amgylchiadau economaidd, na chwaith ffactorau eraill, fel pandemig y coronafeirws, eu cael ar y boblogaeth yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad hwn yn diwygio’r amcanestyniadau gwreiddiol a gyhoeddwyd ar 27 Chwefror 2020, Mae hyn oherwydd gwall yn amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018 y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y diwygiad yn y adroddiad.
Mae'r adroddiad hwn yn cynnig dadansoddiad o'r amcanestyniadau poblogaeth awdurdod lleol diweddaraf, gan gynnwys cymariaethau ag amcanestyniadau blaenorol.
Prif amcanestyniad
Yn ystod y cyfnod 2018 i 2028:
- amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn cynyddu yn y mwyafrif o awdurdodau lleol
- yr awdurdodau lleol yr amcanestynnir y bydd eu poblogaeth yn cynyddu fwyaf ydy Casnewydd (7.2%), Bro Morgannwg (6.0%) a Phen-y-bont ar Ogwr (4.6%)
- amcanestynnir i’r boblogaeth leihau mewn pedair o’r 22 awdurdod lleol
- yr awdurdodau lleol yr amcanestynnir y bydd eu poblogaeth yn lleihau ydy Ceredigion (3.3%), Wrecsam (1.5%), Blaenau Gwent (0.7%) ac Ynys Môn (0.4%)
Dros gyfnod llawn 25 mlynedd yr amcanestyniadau amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn lleihau yn yr un pedwar awdurdod lleol, a chynyddu yng ngweddill yr awdurdodau lleol.
Amcanestyniadau yn ôl oedran
Yn ystod y cyfnod 2018 i 2028:
- amcanestynnir y bydd poblogaeth plant a phobl ifanc 0 i 15 mlwydd oed yn lleihau yn y mwyafrif o awdurdodau lleol
- amcanestynnir y bydd poblogaeth pobl oedran gwaith 16 i 64 mlwydd oed hefyd yn lleihau yn y mwyafrif o awdurdodau lleol, ac eithrio awdurdodau lleol fwy trefol yn ne Cymru yn bennaf, ac yng Ngwynedd
- amcanestynnir y bydd poblogaeth pobl 65 oed a throsodd yn cynyddu ymhob awdurdod lleol, gyda chynnydd mawr ar gyfer pobl 75 oed a throsodd
Cydrannau newid
Yn ystod y cyfnod 2018 i 2028:
- amcanestynnir y bydd newid naturiol (y gwahaniaeth rhwng nifer y genedigaethau a nifer y marwolaethau) yn fwyfwy negyddol yn y mwyafrif o awdurdodau lleol
- erbyn 2028 amcanestynnir mai dim ond yng Nghaerdydd a Chasnewydd y bydd mwy o enedigaethau na marwolaethau
- amcanestynnir y bydd mudo net cyffredinol yn bositif ymhob awdurdod lleol
- amcanestynnir y bydd cyfanswm mudo net yn fwyfwy positif ac eithrio yng Nghasnewydd a Bro Morgannwg
Adroddiadau
Amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2018, Cymru (diwygiedig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 973 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.