Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, heddiw wedi cyhoeddi manylion cynlluniau i wella llythrennedd a rhifedd, fel rhan o ymdrechion ehangach i ddelio ag effeithiau pandemig Covid mewn ysgolion.
Cyn y pandemig, roedd Cymru yn gwneud cynnydd cadarnhaol o ran llythrennedd a rhifedd. Fodd bynnag, mae'n dod yn amlwg bod effeithiau'r pandemig wedi dad-wneud rhywfaint o'r cynnydd hwn. Mae adroddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ar gyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd wedi manylu ar rai o'r effeithiau.
Mae cynllun mathemateg newydd wedi'i ddatblygu, gyda'r nod o godi safonau. Bydd ffyrdd newydd difyr o ddysgu yn cael eu datblygu fel rhan o'r cwricwlwm newydd, i fagu hyder dysgwyr. Bydd grŵp tystiolaeth, cyngor ac ymchwil newydd yn cael ei sefydlu, yn cynnwys arbenigwyr mewn mathemateg o Gymru, y DU a thu hwnt. Bydd yn rhoi cyngor i’r partneriaid a fydd yn creu pecyn dysgu proffesiynol wedi’i wneud i Gymru.
Mae Ysgol Coedcae yn Llanelli wedi datblygu ffyrdd atyniadol o addysgu llythrennedd ariannol.
Bu'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, mewn gwers fathemateg a oedd yn canolbwyntio ar addysg ariannol yn yr ysgol, i weld sut mae dysgwyr yn cael eu dysgu i gyfrifo canrannau a chymhwyso hyn i gyfrifo taliadau ar fenthyciadau gan gwmnïau benthyciadau llog uchel.
Dywedodd Sam Terry, Pennaeth Mathemateg Ysgol Coedcae:
Fel athrawon, mae dyletswydd arnom ni i baratoi ac addysgu pobl ifanc ar gyfer bywyd y tu allan i'r ystafell ddosbarth, ac i roi'r sgiliau angenrheidiol iddyn nhw ar gyfer ymdopi â byd o ansicrwydd ariannol.
Rydyn ni yn Ysgol Coedcae yn defnyddio'r cwricwlwm newydd i greu grŵp o ddysgwyr sy'n hyderus yn eu sgiliau rhifedd ac sy'n gallu torri'r cylch o bobl sy’n dweud, 'dwi ddim yn gallu gwneud mathemateg'.
Mae'r pecyn cymorth llafaredd a darllen a gyhoeddwyd yn gynharach eleni wedi'i ddiweddaru i roi mwy o eglurder ynghylch rôl sgiliau cyfathrebu cynnar a ffoneg systematig, fel strategaethau profedig ar gyfer datblygu sgiliau darllen hanfodol. Mae'r pecyn cymorth yn darparu ystod o wybodaeth ac adnoddau a fydd yn galluogi ysgolion i ddatblygu ac ymgorffori eu dull darllen a llafaredd eu hunain.
Dywedodd Jeremy Miles:
Mae cymorth clir i’n pobl ifanc gyda llythrennedd a rhifedd yn hanfodol o ystyried effaith barhaus y pandemig, er mwyn iddyn nhw allu elwa ar holl fanteision y cwricwlwm.
Mae gwaith rhagorol yn digwydd mewn ysgolion ledled Cymru, fel y gwersi addysg ariannol a welais yn Ysgol Coedcae. Nod ein cynlluniau gweithredu yw sicrhau y gall pob dysgwr elwa ar addysgu mor atyniadol.
Mae'r cynlluniau hyn yn rhan o becyn cymorth ehangach i ysgolion, sydd wedi'i ddarparu i liniaru effeithiau'r pandemig, fel y Rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau. Mae gwerthusiad diweddar o'r rhaglen yn dangos effaith fuddiol y cyllid sydd wedi'i dargedu at y rhai y mae Covid wedi effeithio fwyaf arnynt. Roedd hyn yn cynnwys cynyddu capasiti staff yn y blynyddoedd cynnar ac mewn lleoliadau ysgolion.