Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar gofrestru'n broffesiynol y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae. Byddai hyn yn golygu datblygu cofrestr benodol ar gyfer y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio'ch barn ar y canlynol:

  • A fyddai cofrestr o'r gweithlu o fantais i'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae a
  • Pwy o blith y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae ddylai gael eu cynnwys ar gofrestr.

Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben, bydd yr ymatebion yn cael eu dadansoddi a bydd cyngor yn cael ei roi i Weinidogion Llywodraeth Cymru. Bydd ymgynghoriad pellach yn digwydd os yw'n briodol.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich ymateb erbyn hanner nos 07 Mawrth 2024, yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Cofrestru'r gweithlu Gofal Plant a Gwaith Chwarae yn broffesiynol
Is-adran y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion Cysylltu

Am ragor o wybodaeth:

Is-adran y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd                                    
CF10 3NQ   

E-bost: YmgynghoriadGofalPlantAGwaithChwarae@llyw.cymru

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd: 

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/
 

Y Cefndir

Mae Cynllun Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn 2017, yn nodi'r uchelgais i "ddatblygu gweithlu gofal plant a chwarae medrus, sy'n cael ei barchu fel proffesiwn a'i ystyried fel gyrfa o ddewis ac sy'n cael ei gydnabod am y rôl hollbwysig y mae'r sector yn ei chwarae wrth gefnogi datblygiad ein plant". Uchelgais hirdymor y cynllun yw archwilio cyflwyno cofrestru proffesiynol ar gyfer y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae.

Er mwyn datblygu'r uchelgais hwn, yn 2022 comisiynodd Llywodraeth Cymru Adolygiad Annibynnol yn canolbwyntio ar ddeall mwy am y potensial i greu cofrestr broffesiynol o'r gweithlu.

Daeth adroddiad yr adolygiad i'r casgliad fod "yna gytundeb cyffredinol, mewn egwyddor, â’r syniad o sefydlu cofrestrfa" ymhlith rhanddeiliaid. Fodd bynnag, ni chafwyd canlyniadau pendant ynghylch nifer o elfennau allweddol o ran cofrestru ac argymhellwyd gwneud rhagor o waith i ystyried hyd a lled cofrestr bosibl o'r gweithlu a sut y byddai'n effeithio ar y gweithlu.

Ym mis Medi 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru weithgor cofrestru proffesiynol er mwyn:

  • cefnogi datblygu egwyddorion drafft ar gyfer cofrestr gofal plant a gwaith chwarae bosibl a
  • helpu i lunio ymgynghoriad i gasglu barn y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae ar sut y gallai cofrestr bosibl weithio a dirnad faint o awydd sydd gan y sector i fwrw ymlaen â datblygu cofrestr gweithlu gorfodol.

Mae aelodau'r gweithgor cofrestru proffesiynol yn cynnwys Cwlwm, Cyngor y Gweithlu Addysg, Awdurdodau Lleol, Chwarae Cymru, Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, Gofal Cymdeithasol Cymru, Undebau UNSAIN a Llais, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Beth sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn?

Mae'r ymgynghoriad hwn yn holi barn pobl sy'n rheoli lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae ledled Cymru, yn gweithio ynddynt neu'n eu defnyddio ar gwestiynau sylfaenol ynghylch a ddylai'r sector gofal plant a gwaith chwarae fod â chofrestr o'r gweithlu ac os felly, pwy ddylid eu cynnwys yn y gofrestr honno.

Wrth roi eich barn a'ch adborth, cyfeiriwch at y ddogfen sydd wedi'i llunio i gyd-fynd â'r ddogfen ymgynghori hon, sef:

  • Asesiad Effaith Integredig (IIA) – mae hwn yn darparu dadansoddiad o effaith cofrestru'r gweithlu'n broffesiynol o ran agweddau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol.

Bydd yr ymatebion a gawn i'r ymgynghoriad yn helpu i lywio'r camau nesaf mewn perthynas â chofrestru'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yn broffesiynol.

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, os penderfynir y dylid datblygu cofrestr ar gyfer gweithlu'r sector gofal plant a gwaith chwarae, bydd cyfnod ymgynghori pellach yn cael ei gynnal. Bydd yr ymgynghoriad ychwanegol hwn yn gyfle i fireinio manylion penodol y gofrestr honno.

Pam yr awgrymwyd cofrestru'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae?

Mae gan ofal plant a gwaith chwarae rôl bwysig i'w chwarae mewn rhoi dechrau da mewn bywyd i blant, cau'r bwlch o ran cyrhaeddiad a mynd i'r afael â thlodi. Mae'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru yn darparu gwasanaeth hanfodol wrth gefnogi datblygiad ein plant a'i gwneud yn bosibl i rieni weithio a hyfforddi. Mae Cynllun 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar yn nodi ein huchelgais i ddatblygu gweithlu cymwysedig a medrus er mwyn ei gwneud yn bosibl cynnig darpariaeth o ansawdd uchel. Mae hefyd yn nodi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithlu gofal plant a gwaith chwarae cofrestredig proffesiynol sy'n canolbwyntio ar wireddu'r manteision y gallai cofrestr o'r gweithlu eu cynnig.

Manteision i'r cyhoedd

  • Bydd cofrestr yn rhoi sicrwydd a hyder i'r cyhoedd fod gan y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymeriad i ofalu am blant yn ddiogel ac yn effeithiol;
  • Bydd yn hyrwyddo dealltwriaeth o'r gweithlu a'r rôl allweddol y mae'n ei chwarae wrth ddarparu'r dechrau gorau i blant.

Manteision i gyflogwyr

  • Bydd yn rhoi sicrwydd bod y rhai sydd ar y gofrestr yn bodloni gofynion/yn cadw at god ymarfer;
  • Bydd yn siop un stop ar gyfer gwirio dogfennau allweddol unigolion (gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, achrediad cymwysterau ac ati) yn ystod y broses recriwtio.

Manteision i'r gweithlu

    • Bod yn rhan o weithlu proffesiynol, fel gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, cynorthwywyr addysgu, gweithwyr ieuenctid, a nyrsys;
  • Cydnabyddiaeth i weithwyr gofal plant a gwaith chwarae o ganlyniad i'r statws proffesiynol hwn;
  • Cydnabyddiaeth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad arbenigol;
  • Mynediad at rwydweithiau gweithwyr proffesiynol eraill a reoleiddir
  • Cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ddatblygu proffesiynol parhaus (DPP) a chadw cofnod DPP; a
  • Man i storio'r holl gofnodion cysylltiedig â gwaith (gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gwybodaeth am gymwysterau a hyfforddiant) mewn un lle hygyrch.

Beth yw cofrestr o'r gweithlu a sut maen nhw'n gweithio?

Fel arfer, mae cofrestr o'r gweithlu yn darparu gwybodaeth am weithwyr proffesiynol sy'n gallu gweithio mewn proffesiwn penodol, boed hynny'n nyrsio, addysgu neu ofal cymdeithasol. Dim ond y gweithwyr hynny a restrir ar y gofrestr sy'n cael gweithio yn y proffesiwn hwnnw.

Mae'r meini prawf sy'n nodi pwy sy'n gymwys i ymuno â'r gofrestr yn sicrhau mai dim ond rhai â'r profiad a'r sgiliau angenrheidiol sy'n rhan o'r sector hwnnw. Yna, bydd y cofrestriad yn cael ei adnewyddu dros gyfnod penodol.

Os penderfynir fod angen cofrestr o'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae, rhagwelir y bydd yn gweithio fel a ganlyn.

Ymuno â chofrestr o'r gweithlu

Er mwyn ymuno â chofrestr o'r gweithlu, rhaid i unigolyn allu dangos ei fod yn rhan o'r gweithlu hwnnw. 

Dyma pam y mae cofrestrau gweithlu yn pennu meini prawf y mae angen i unigolion eu bodloni er mwyn ymuno â chofrestr a dod yn rhan o'r gweithlu penodol hwnnw.

Gall meini prawf amrywio yn ôl y gweithlu sy'n cael ei gofrestru, ond yn aml maent yn cynnwys gwiriadau sy'n ofynnol ar gyfer y swydd (fel gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer gofal plant a gwaith chwarae) a meddu ar gymwysterau perthnasol neu weithio tuag atynt. Mewn rhai cofrestrfeydd, gall unigolyn nad yw'n meddu ar gymhwyster perthnasol, nac yn gweithio tuag ato, ymuno â'r gofrestr os gall ei gyflogwr gadarnhau bod ganddo'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y swydd. Gellid edrych ar yr opsiwn hwn ar gyfer cofrestr o'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae.

Ystyr cofrestru yw ymuno â chofrestr i ddechrau, ond mae hefyd yn ofynnol gan y rhan fwyaf o gofrestrau bod unigolion yn adnewyddu eu cofrestriad bob hyn a hyn (fel arfer rhywbryd rhwng pob blwyddyn a phob pum mlynedd).  Mae hyn yn sicrhau bod y rhai a restrir ar y gofrestr yn parhau i allu gweithio yn y sector. 

Mae adnewyddu fel arfer yn golygu bodloni'r un meini prawf â chofrestru, ond yn ogystal, mae cofrestrau gweithlu yn aml yn gofyn i unigolion ddarparu tystiolaeth eu bod wedi ymgymryd â Datblygu Proffesiynol Parhaus ers cofrestru.  Gall DPP fod ar sawl ffurf, o'r gweithgareddau mwy ffurfiol fel hyfforddiant a chynadleddau i gysgodi eraill, dysgu ar-lein, darllen erthygl neu wrando ar bodlediad. Mae cofrestrau fel arfer yn cydnabod unrhyw brofiad sy'n darparu addysg ar agweddau sy'n gysylltiedig â swydd yr unigolyn.

Mae ffioedd i'w talu i ymuno â chofrestr o weithlu, yn ogystal â ffioedd blynyddol ac am adnewyddu. Ar gyfer llawer o gofrestrau, yr unigolyn sy'n cofrestru sy'n talu'r ffioedd hyn.

Mae'r ffioedd am ymuno â chofrestr o weithlu yn gyfraniadau hanfodol i'r adnoddau sydd eu hangen i gynnal y gofrestr gan gorff cofrestru. Fel arfer, mae ffioedd yn amrywio yn ôl swyddi unigolion.  Er enghraifft, yn yr Alban, mae gweithwyr gofal plant ar hyn o bryd yn talu ffi gofrestru o £35 i ymuno â'r gofrestr, yna ffi flynyddol o £35 a ffi adnewyddu (bob 5 mlynedd) o £35. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes penderfyniad wedi'i wneud ar ffioedd ar gyfer cofrestr gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru.  Os penderfynir bwrw ymlaen â sefydlu cofrestr ar gyfer y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae cofrestredig, byddwn yn ymgynghori ar y manylion penodol gan gynnwys ffioedd. 

Gofynion cofrestr o weithlu: Cod Ymarfer ac Addasrwydd i Ymarfer

Un o brif fanteision cofrestrau gweithlu yw eu bod yn helpu i gydnabod bod y gwaith a wneir yn broffesiwn. Er mwyn i gofrestr wneud hyn, rhaid iddi esbonio'n glir y safonau a'r gofynion sy'n berthnasol i'r proffesiwn hwnnw a'r canlyniadau pan na fodlonir y safonau hynny.

Cod Ymarfer

Mae nifer o gofrestrau gweithlu yn cael eu datblygu ochr yn ochr â Chod Ymarfer. Mae'r Cod yn gosod y safonau a ddisgwylir o ran arfer ac ymddygiad gan y rhai sy'n gweithio yn y sector. Mae Codau Ymarfer ar waith ar gyfer gweithluoedd cofrestredig eraill yng Nghymru, gan gynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol, athrawon, staff cynorthwyol ysgolion/cynorthwywyr addysgu a nyrsys.

Mae Codau Ymarfer yn aml yn canolbwyntio ar feysydd fel cyfrifoldeb gweithwyr, uniondeb, cefnogi lles a diogelwch eraill, parchu a hyrwyddo hawliau eraill a gwybodaeth broffesiynol.

Fel arfer, nid yw Codau Ymarfer yn disodli nac yn cymryd lle polisïau gwaith sefydledig sefydliadau ond yn hytrach maen nhw'n cefnogi ac yn cyd-fynd â'r hyn sydd eisoes ar waith. Yn achos cofrestr gofal plant a gwaith chwarae, byddai'n cyd-fynd â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant a reoleiddir.

Addasrwydd i Ymarfer

Ochr yn ochr â Chod Ymarfer, gan amlaf mae gan gofrestrau gweithlu weithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod unigolion ar y gofrestr yn bodloni'r safonau angenrheidiol ar gyfer gwneud eu gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol. Prif nod gweithdrefn Addasrwydd i Ymarfer yw amddiffyn y bobl y mae'r unigolyn yn gweithio gyda nhw a chynnal hyder y cyhoedd yn y gweithlu. Nid cosbi gweithwyr yw ei fwriad.

Mae'r broses Addasrwydd i Ymarfer yn sicrhau y gellir datrys sefyllfa lle ceir gweithgarwch sy'n torri'r Cod neu sy'n amhriodol i weithiwr yn y proffesiwn hwnnw. Gall hyn amrywio o drefnu i unigolyn ymgymryd â dysgu/myfyrio perthnasol hyd at ddileu enw unigolyn o'r gofrestr, yn yr achosion mwyaf difrifol.

Beth mae cofrestr o weithlu yn ei gynnig? 

Gall cofrestr weithredu fel ystorfa ar gyfer gwybodaeth hanfodol sy'n gysylltiedig â gwaith sy'n cynorthwyo unigolion a'u cyflogwyr i gadw cofnod cyfredol o'u profiad a'u sgiliau. 

Gall hyn amrywio o storio manylion dysgu blaenorol i'r gallu i gofnodi gwybodaeth a dysgu DPP mewn un lle.  Mae rhai cofrestrau yn atgyfeirio aelodau at gyfleoedd ac adnoddau DPP a fydd yn helpu unigolion nid yn unig i fodloni meini prawf DPP ar gyfer adnewyddu eu cofrestriad lle bo hynny'n ofynnol gan eu cofrestr, ond hefyd i sicrhau dysgu a datblygu parhaus drwy amrywiaeth o opsiynau. Gall DPP gynnwys gweminarau; hunan-astudio, podlediadau; gweithdai/cynadleddau, ymarferion myfyrio, cysgodi, goruchwyliaeth. Mae'r rhestr bron yn ddiddiwedd gan y gall amrywiaeth o weithgareddau gynnig cyfle i ddysgu.

Gellir defnyddio cofrestr o weithlu fel adnodd ar gyfer logio a chadw golwg ar faint o oriau o DPP a gwblhawyd. Gallai hyn fod o fudd i weithwyr a chyflogwyr.

I gyflogwyr, mae cofrestr o'r gweithlu yn ei gwneud yn bosibl gwirio gwybodaeth allweddol yn hawdd wrth fynd ati i recriwtio staff newydd, gan amser yn y broses recriwtio.

Ym mha ffordd y mae cofrestr o'r gweithlu yn wahanol i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru?

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cofrestru gwasanaethau, (yn hytrach na gweithwyr unigol). Eu swyddogaeth yw archwilio a gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau. Fodd bynnag, rhaid i warchodwyr plant sy'n gweithredu fel unig fasnachwyr gofrestru gydag AGC. Mae lleoliadau'n cael eu cofrestru yn enw person cofrestredig / unigolyn cyfrifol. AGC yw'r corff rheoleiddio ar gyfer lleoliadau cofrestredig ac nid ydynt yn cyflawni'r un gwasanaethau â chorff sy'n gyfrifol am gofrestru'r gweithlu.

Lleoliadau heb eu Cofrestru

Mae'r meini prawf ar gyfer cofrestru wedi'u nodi mewn rheoliadau, gan ei gwneud yn glir y dylai pob lleoliad gofal plant a gwaith chwarae gofrestru; fodd bynnag, mae rhai eithriadau i hyn. Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 yn nodi nad oes angen i leoliad nad yw'n gweithredu am fwy na 2 awr y dydd neu am fwy na 6 diwrnod yn y flwyddyn galendr gofrestru gydag AGC. Felly, nid yw'r lleoliadau hyn, a adwaenir fel "lleoliadau heb eu cofrestru" yn cael eu rheoleiddio gan AGC ac o ganlyniad nid yw'r lleoliad na'i staff yn ddarostyngedig i ofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Cynigir y byddai unrhyw gofrestr ar gyfer y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yn adlewyrchu dull cofrestru AGC ac yn canolbwyntio ar leoliadau cofrestredig o ystyried y sail glir o ran rheoleiddio. Ychydig o ddata sydd ar gael am leoliadau heb eu cofrestru. Nid yw nifer y lleoliadau na faint o staff sy'n gweithio ynddynt yn hysbys. Gan nad ydynt yn cael eu rheoleiddio nid oes unrhyw ffordd i orfodi gofyniad i gofrestru. 

Pwy fyddai'n gorfod ymuno â chofrestr o weithlu'r sector gofal plant a gwaith chwarae?

Cynigir y byddai ymuno â chofrestr o'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yn orfodol i unigolion sy'n cael eu TALU i weithio'n UNIONGYRCHOL â phlant mewn LLEOLIADAU A GOFRESTRWYD ar gyfer gofal plant a gwaith chwarae (hynny yw, mewn lleoliad a gofrestrwyd gan AGC).

Gallai hyn gynnwys y rhai sy'n cael eu talu i weithio mewn:

  • gofal dydd llawn
  • gofal dydd sesiynol
  • darpariaeth chwarae mynediad agored
  • gofal y tu allan i'r ysgol (gan gynnwys clybiau gwyliau cofrestredig)
  • créche
  • lleoliadau gwarchod plant (gan gynnwys gwarchodwr plant neu gynorthwywyr gwarchod plant cyflogedig)

Mae hyn yn golygu, pe bai cofrestr orfodol o'r gweithlu yn cael ei chreu, y byddai'n ofynnol i unigolion gofrestru a byddai angen iddynt fodloni'r meini prawf ar gyfer cofrestru er mwyn cael eu talu i weithio'n uniongyrchol gyda phlant mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae cofrestredig yng Nghymru.

NI fyddai unigolion nad ydynt wedi'u cynnwys ar gofrestr y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yn gallu cael eu talu i weithio'n uniongyrchol gyda phlant mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae cofrestredig.

Er mwyn cefnogi gweithwyr a chyflogwyr, cynigir cyfnod o ras i unigolion sydd newydd eu recriwtio i'r sector gofal plant neu waith chwarae i gofrestru unwaith y bydd eu cyflogaeth yn dechrau mewn lleoliad gofal plant neu waith chwarae cofrestredig.

Gwarchodwyr plant

Mae'r rhan fwyaf o warchodwyr plant yng Nghymru yn gweithredu fel unig fasnachwyr, er bod rhai yn cyflogi cynorthwywyr gwarchod plant. Fel lleoliad gofal plant, mae'n rhaid i warchodwyr plant gofrestru gyda AGC ac maent yn ddarostyngedig i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Gan mai unig fasnachwr yw gwarchodwr plant, mae cofrestru gyda AGC a'r ffaith y gall rhieni gael mynediad at adroddiadau arolygu AGC yn golygu bod eisoes elfen o sicrwydd i'r cyhoedd ynghylch arfer gwarchodwr plant.

Cynigir y byddai'n ofynnol i warchodwyr plant a chynorthwywyr gwarchod plant fod yn rhan o unrhyw gofrestr orfodol pan gânt eu talu i weithio'n uniongyrchol gyda phlant mewn lleoliad gofal plant neu waith chwarae cofrestredig. Ni fyddai'n ofynnol i gynorthwywyr gwarchod plant gwirfoddol gofrestru.

Byddai cofrestr o'r gweithlu yn darparu buddion y tu hwnt i'r rhai a gaiff gwarchodwyr plant trwy gofrestru ag AGC. Gallai cofrestr o'r gweithlu roi lle i warchodwyr plant gofnodi amrywiaeth o ddogfennau allweddol i gefnogi eu gwasanaeth, o wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i dystysgrifau cymwysterau a hyfforddiant. Byddai hefyd yn cynnig cefnogaeth i DPP ar gyfer gwarchodwyr plant a chynorthwywyr gwarchod plant.

Byddai cael eu cynnwys mewn cofrestr hefyd yn ei gwneud yn glir bod gwarchod plant yn rhan allweddol o'r sector gofal plant ac yn rhan o broffesiwn. Byddai'n sicrhau nad oes gwahaniaeth rhwng gwahanol elfennau o'r sector.

Personau Cofrestredig/Unigolion Cyfrifol a Gwirfoddolwyr

NI chynigir cynnwys personau cofrestredig/unigolion cyfrifol mewn trefn gofrestru orfodol, gan eu bod eisoes wedi'u cofrestru ag AGC yn rhinwedd y rôl honno. Fodd bynnag, os ydynt yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant yn y lleoliad, yna bydd angen iddynt hwythau hefyd gofrestru fel gweithiwr gofal plant neu waith chwarae.

NI chynigir cynnwys gwirfoddolwyr mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae cofrestredig mewn trefn gofrestru orfodol. Byddai hyn yn cynnwys gwirfoddolwyr cyffredinol, myfyrwyr sydd ar leoliad mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae fel rhan o'u cymhwyster neu'r rhai sydd ar brofiad gwaith yn y lleoliad.

Byddai disgwyl i unigolion sy'n ymgymryd â phrentisiaethau gofrestru gan eu bod yn cael eu talu i weithio'n uniongyrchol gyda phlant.

Gall fod yn afresymol disgwyl i wirfoddolwyr a phersonau cofrestredig/unigolion cyfrifol (nad ydynt yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant) feddu ar gymhwyster gofal plant neu waith chwarae, ymgymryd â DPP neu gael eu nodi'n aelodau o'r proffesiwn gofal plant a gwaith chwarae. Mae gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn nodi bod angen i bersonau cofrestredig/unigolion cyfrifol a gwirfoddolwyr fod wedi cael gwiriadau uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac felly nid oes unrhyw oblygiadau diogelu ynghlwm â pheidio â chofrestru'r grwpiau hyn.

Staff eraill sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae

NI chynigir cynnwys mewn trefn gofrestru orfodol y staff hynny sy'n gweithio mewn lleoliad, ond nad ydynt yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant mewn swydd gofal plant, blynyddoedd cynnar neu waith chwarae, fel staff arlwyo neu lanhau neu staff cynorthwyol eraill.

Nanis

Mae nanis yn weithwyr gofal plant proffesiynol sy'n gweithio yng nghartref teulu ac yn cael eu cyflogi gan riant yn hytrach na bod yn hunangyflogedig. Yn aml mae nanis yn llwyr gyfrifol am blant teulu a gallant hefyd weithio i ddau deulu ar unwaith fel rhan o drefniant rhannu nani. Os oes mwy na 2 deulu yn defnyddio'r gofal ar yr un pryd, yna mae'r gofal yn perthyn i'r categori "gwarchod plant" ac mae angen cofrestru gwarchodwyr plant gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

NI chynigir cynnwys nanis mewn cofrestr o'r gweithlu ar gyfer gofal plant a gwaith chwarae. Nid yw nanis yn gweithio mewn lleoliadau cofrestredig ac nid ydynt yn ddarostyngedig i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. AGC sy'n gyfrifol am y cynllun cymeradwyo darparwyr gofal plant yn y cartref (Cymru) ar gyfer nanis sy'n gweithredu yng Nghymru ac ni chynigir unrhyw newid i'r drefn bresennol.

Cofrestru deuol

Efallai y bydd rhai unigolion sy'n gweithio yn y sector gofal plant a gwaith chwarae eisoes wedi'u cofrestru â chofrestr o weithlu arall os ydynt hefyd yn gweithio mewn meysydd fel gwaith ieuenctid, addysg, nyrsio neu ofal cymdeithasol.

Hyd yn oed os yw unigolion wedi'u cofrestru gyda chofrestrau gweithlu eraill, byddai angen iddynt ymuno â'r gofrestr o'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae. Mae pob cofrestr yn benodol i'w gweithlu a byddai gan y gofrestr gofal plant a gwaith chwarae feini prawf, Codau Ymarfer a chymorth DPP penodol sy'n gysylltiedig â'r sector gofal plant a gwaith chwarae. O'r herwydd, dim ond os ydynt wedi'u cofrestru ar y gofrestr gofal plant a gwaith chwarae y byddai unigolyn yn gallu gweithio yn y sector hwnnw.

Os penderfynir bod cofrestr o'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae cofrestredig yn cael ei datblygu, byddwn yn cynnal ymgynghoriad pellach ar y manylion penodol gan gynnwys cofrestru deuol. 

Geirfa

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Y corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am sicrhau bod rheoliadau gofal plant a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn cael eu bodloni – mae AGC yn cofrestru, arolygu a gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau ar gyfer lles pobl yng Nghymru

Cynllun ar gyfer y Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar

Mae Cynllun Gweithlu Llywodraeth Cymru yn nodi trywydd ar gyfer y gweithlu gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar (2017-2027). Yn hydref 2023, cyhoeddir fersiwn newydd o'r cynllun wedi'i adolygu a'i adnewyddu a bydd yn nodi camau allweddol ar gyfer gweddill oes y cynllun. 

Lleoliadau Gofal Plant a Gwaith Chwarae (cofrestredig)

Unrhyw leoliad sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu gwasanaeth gwarchod plant, gofal dydd a darpariaeth chwarae i blant 0-12 oed

Gweithlu Gofal Plant a Gwaith Chwarae (cofrestredig)

Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o wahanol weithwyr y mae eu lleoliad wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae'n cynnwys staff mewn lleoliadau gofal dydd llawn, gofal sesiynol, darpariaeth chwarae mynediad agored, gofal y tu allan i'r ysgol, crèches a gwarchodwyr plant.

Cod Ymarfer Proffesiynol

Mae Cod Ymarfer Proffesiynol yn nodi'r ymddygiadau a'r gwerthoedd a ddisgwylir gan y rhai sy'n cofrestru.

Cymhwysedd wedi’i gadarnhau

Mae hon yn broses sy'n galluogi unigolion nad oes ganddynt gymwysterau cydnabyddedig i ddefnyddio eu profiad gwaith fel prawf o'u cymhwysedd.   

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio gweithgareddau dysgu y mae gweithwyr proffesiynol yn ymgymryd â hwy i ddatblygu a gwella eu gallu. Mae DPP yn ymrwymiad i ddysgu parhaus, gydol oes sy'n annog edrych i'r dyfodol a nodi cyfleoedd i ddysgu rhywbeth newydd, adnewyddu gwybodaeth bresennol, gwella sgiliau, neu gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf mewn proffesiwn neu ddiwydiant penodol.

Cwlwm

Consortiwm yn cynnwys pum partner gofal plant a chwarae, sy'n cefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae gydag arweiniad ac aelodaeth, gan annog lleoliadau cynaliadwy o ansawdd

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ffordd i gyflogwyr wirio'ch cofnod troseddol, er mwyn helpu i benderfynu a ydych yn berson addas i weithio iddynt. Mae hyn yn cynnwys penderfynu a yw'n addas i chi weithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed.

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA)

Cyngor y Gweithlu Addysg yw'r rheoleiddiwr annibynnol, proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, sy'n cynnwys athrawon a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach, gweithwyr ieuenctid/ gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Addasrwydd i Ymarfer

Mae addasrwydd i ymarfer yn ymwneud ag amddiffyn a gwella diogelwch a lles pobl sy'n defnyddio gwasanaeth penodol. Disgwylir i weithwyr gadw at ymddygiadau a gwerthoedd a nodir mewn Cod Ymarfer Proffesiynol. Os na wnânt, yna gallent fod yn destun proses addasrwydd i ymarfer. 

Proses Addasrwydd i Ymarfer

Proses sy'n sicrhau y gellir datrys sefyllfa lle ceir gweithgaredd sy'n torri'r Cod neu sy'n amhriodol i weithiwr. Gall hyn amrywio o drefnu i unigolyn ymgymryd â dysgu/myfyrio perthnasol hyd at ddileu enw unigolyn o gofrestr y gweithlu yn yr achosion mwyaf difrifol.  

Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir hyd at 12 oed

Safonau a ddefnyddir i helpu lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd i fodloni gofynion rheoleiddio gofal plant ar gyfer plant hyd at ddeuddeg oed ac sydd i'w gweld o dan reoliad 14 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd).

Chwarae Cymru

Mae'r elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant yn darparu cyngor ac arweiniad i helpu pawb sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb dros ddarpariaeth chwarae plant.

Cofrestru Proffesiynol

Mae cofrestru proffesiynol yn ffordd o sicrhau bod unigolion yn gymwys ac yn ddigon medrus i gyflawni'r rôl.  Gall hyn gynnwys gwirio bod yr unigolion:

yn meddu ar y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer y rôl, ac
wedi'u cofrestru gyda'r corff proffesiynol perthnasol a'u bod yn bodloni'r safonau gofynnol o ran hyfforddiant, cymhwysedd ac ymddygiad i ymarfer yn ddiogel yn eu dewis broffesiwn.

Cofrestr gorfodol o'r gweithlu

Mae hyn yn golygu, er mwyn gweithio mewn sector penodol, y byddai'n orfodol i unigolion o fewn cwmpas y gofyniad gofrestru gyda'r corff cofrestru.

Gweithgor Cofrestru Proffesiynol

Sefydlwyd y gweithgor cofrestru proffesiynol ym mis Medi 2022 i gefnogi datblygu egwyddorion ar gyfer cofrestr gofal plant a gwaith chwarae a datblygu ymgynghoriad.   

Mae aelodau'r grŵp yn cynnwys Cwlwm, Cyngor y Gweithlu Addysg, Awdurdodau Lleol, Chwarae Cymru, Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, Gofal Cymdeithasol Cymru, undebau Unsain a Llais a CLlLC.  

Person cofrestredig

Y person sydd wedi'i gofrestru gyda AGC i weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd 

Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC)

Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) yw'r corff rheoleiddio ar gyfer gofal cymdeithasol sy'n gyfrifol am ddatblygu gweithlu'r sector gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Mae GCC yn canolbwyntio ar fagu hyder, a cheisio gwella a chefnogi datblygiad y gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae GCC yn cynnal y fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal plant sy'n pennu'r cymwysterau cydnabyddedig ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym meysydd y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban (SSSC)

Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban (SSSC) yw'r corff rheoleiddio ar gyfer y gweithlu gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a phlant a phobl ifanc yn yr Alban.

UNSAIN

Undeb sy'n cynrychioli ac yn cefnogi pobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus neu i gontractwyr preifat sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus a chyfleustodau hanfodol. Maent yn cynnwys staff a rheolwyr rheng flaen sy'n gweithio'n llawn amser neu'n rhan-amser mewn awdurdodau lleol, y GIG, colegau ac ysgolion, prifysgolion, y diwydiannau trydan, nwy a dŵr, gwasanaethau'r heddlu, cludiant ac yn y sector gwirfoddol.

Llais

Undeb sy'n cynrychioli ac yn cefnogi pobl sy'n gweithio ym mhob un o sectorau economi'r DU, gan gynnwys addysg a'r blynyddoedd cynnar. 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru. Prif ddibenion CLlLC yw hyrwyddo llywodraeth leol well, hyrwyddo enw da llywodraeth leol a chynorthwyo awdurdodau i ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a democratiaeth.

Cofrestrau gweithlu

Mae cofrestrau gweithlu yn gweithredu fel darpariaeth ar-lein a gynlluniwyd i olrhain a hyrwyddo addysg, hyfforddiant a phrofiad gweithwyr, lle i drefnu a storio cymwysterau proffesiynol, datblygiad proffesiynol, addysg a phrofiad cyflogaeth.