Cynllun mathemateg a rhifedd 2023
Mae'r cynllun yn nodi ein nodau, ein camau gweithredu a'n hamserlenni ar gyfer gweithredu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ein huchelgais
Cenhadaeth ein cenedl yw cyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb, drwy fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a chefnogi pob dysgwr. Nid oes dim yn fwy hanfodol na sicrhau mynediad i bawb at y profiadau, ac i gaffael yr wybodaeth a’r sgiliau, y mae eu hangen ar ein pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith, ar gyfer dysgu gydol oes ac ar gyfer dinasyddiaeth weithgar.
Trwy ganolbwyntio ar bedwar diben y cwricwlwm ac ar gynnydd, mae Cwricwlwm i Gymru yn rhoi cyfle unigryw i sicrhau’r mynediad hwnnw i bob dysgwr yng Nghymru.
Mae’r Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn rhoi datganiad clir o’r hyn sy’n bwysig i’w ddysgu ac yn nodi disgwyliadau ar gyfer hanfod y dysgu a ddylai fod yn sail i’r testunau a’r gweithgareddau a ddewisir gan ysgolion a lleoliadau. Fel rhan o hyn, mae’r fframwaith yn cydnabod bod agweddau sylfaenol ar y broses ddysgu sy’n datgloi ehangder a dyfnder y dysgu i bawb.
Mae iechyd a lles, llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol i gyd yn cynnig mynedfa at ddysgu pellach, ac felly maent yn ganolog i godi safonau a chefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd tuag at gyflawni eu potensial llawn. Maent yn sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd, ac ar gyfer addysg, hyfforddiant a chyflogaeth lwyddiannus.
Mae mathemateg a rhifedd yn hanfodol i lesiant cenedlaethau’r dyfodol, boed hynny drwy ddysgu am gyllidebu personol a llythrennedd ariannol, ychwanegu gwerth at economi Cymru, neu gynyddu potensial unigolyn o ran cyflogaeth ac enillion yn y dyfodol.
Diben y cynllun
Rydym yn gwybod bod llawer i’w wneud o hyd i gyflawni ein dyheadau ar gyfer mathemateg a rhifedd ac i sicrhau’r manteision hyn i bob dysgwr, yn enwedig yn sgil effaith y tarfu pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Mae’r datganiad ystadegol ar batrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd, yn seiliedig ar ddata lefel genedlaethol o’r asesiadau personol, yn dangos bod cyrhaeddiad dysgwyr mewn rhifedd gweithdrefnol wedi cael ei effeithio’n negyddol gan y tarfu pandemig.
Nodwyd hefyd yn Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2021 i 2022 a chrynodebau sector Estyn ar gyfer 2022 i 2023 fod breuder o ran y cynnydd a wnaed mewn mathemateg a rhifedd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Gwyddom gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) fod mathemateg a rhifedd yn aml yn cael ei ystyried yn anodd, yn fyd-eang, a gall y canfyddiadau am bwysigrwydd mathemateg yn y gymdeithas ehangach ddylanwadu ar ymgysylltiad dysgwyr.
Deallwn fod cyrhaeddiad mewn mathemateg a rhifedd yn fater ar draws y system addysg gyfan, ac felly ni ddylai’r cyfrifoldeb dros ddatrys y broblem gael ei ysgwyddo gan ysgolion, lleoliadau, clystyrau neu arweinwyr pwnc unigol. Mae’n rhaid i bob un ohonom weithio gyda’n gilydd, ac ar y cyd ar draws y sector, gan gynnwys ni fel Llywodraeth Cymru.
Ni ellir anwybyddu pwysigrwydd dysgu mathemateg a rhifedd. Gan hynny, mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar y cyd i ddatblygu cymorth pellach i ysgolion a lleoliadau gynllunio eu cwricwlwm fel ei fod yn bwnc sy’n ennyn diddordeb ac yn ysbrydoli, yn ymgorffori dulliau effeithiol i wneud cynnydd, ac yn diwallu anghenion dysgwyr. Mae adborth gan ddysgwyr yn dangos y byddent yn gwerthfawrogi mwy o gymorth i ddysgu sut i gyllidebu a dod yn hyddysg mewn sgiliau ariannol. Maent yn adnabod ac yn deall y manteision tymor hir o ddatblygu sgiliau mathemateg a rhifedd.
Rydym am ennyn brwdfrydedd plant a phobl ifanc am fathemateg a rhifedd. Ochr yn ochr â hynny, rydym am gefnogi dysgwyr ac ymarferwyr i ddatblygu strategaethau i oresgyn y rhwystrau sy’n gysylltiedig â gorbryder am fathemateg, a’u galluogi i wireddu eu potensial yn hyderus.
Rydym am fanteisio ar y ddarpariaeth effeithiol ar gyfer mathemateg a rhifedd sydd eisoes ar waith ledled Cymru, a’i defnyddio i gefnogi pob ysgol a lleoliad wrth iddynt symud ymlaen ar hyd taith Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r cynllun hwn yn nodi’r camau ychwanegol y byddwn ni’n eu cymryd i gefnogi ysgolion a lleoliadau ymhellach i ennyn diddordeb a brwdfrydedd ymarferwyr, gan gynnwys cryfhau eu hyder, er mwyn iddynt ddarparu mathemateg a rhifedd ar draws y cwricwlwm a chyflawni ein nodau hirdymor.
Yr hyn yr ydym eisoes yn ei wneud
Sgiliau trawsgwricwlaidd
Mae rhifedd, ochr yn ochr â llythrennedd a chymhwysedd digidol, wedi’i gynnwys mewn deddfwriaeth fel sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol yng Nghwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ysgolion a lleoliadau gefnogi a datblygu sgiliau dysgwyr a dylent ystyried sut y gellir eu cymhwyso a’u datblygu ar draws y cwricwlwm. Wrth gynllunio profiadau dysgu cadarnhaol, bydd angen i ysgolion a lleoliadau sicrhau bod dysgwyr yn gwneud cynnydd yn y sgiliau hynny drwy gydol eu taith addysgol, gan eu cefnogi i gyflawni pedwar diben Cwricwlwm i Gymru a gwella eu cyfleoedd bywyd yn y dyfodol.
Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar gael i gefnogi ymarferwyr i gynllunio ar gyfer cyfleoedd dysgu sy’n cymhwyso, yn datblygu ac yn ehangu sgiliau’r dysgwr. Mae’r fframweithiau hyn yn cefnogi Cwricwlwm i Gymru drwy helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu eu disgwyliadau ar gyfer datblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol dysgwyr ar draws pob maes dysgu a phrofiad Cwricwlwm i Gymru.
Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd
Trwy’r Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd, mae Cwricwlwm i Gymru wedi cryfhau’r ffocws ar yr elfennau a addysgir a’r elfennau cymhwysol mewn perthynas â mathemateg a rhifedd trwy gyflwyno 5 hyfedredd mathemategol cydgysylltiedig. Mae’r hyfedreddau hyn yn cefnogi ymarferwyr i gynllunio profiadau sy’n ennyn diddordeb ac sy’n ymgorffori’r ehangder llawn o wybodaeth, sgiliau ac ymagweddau sydd eu hangen ar gyfer dysgu cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar wneud cynnydd mewn mathemateg a rhifedd.
Datblygwyd y dull hwn gan ymarferwyr o Gymru. Rydym yn disgwyl y bydd yn grymuso ymarferwyr i ystyried sut y gall addysgeg fedrus, profiadau a datblygu gwybodaeth a sgiliau, arfogi ein dysgwyr i fod yn hyderus i gymhwyso eu sgiliau rhifiadol mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys rhai anghyfarwydd. Er bod ein cenedl yn un gymharol fach o ran poblogaeth, rydym yn genedl sydd â dyheadau cynyddol ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc, a’u dyfodol.
Mewn ymateb i weithredu Cwricwlwm i Gymru, datblygir 3 chymhwyster newydd ar gyfer mathemateg gan Cymwysterau Cymru.
Mae’r asesiadau personol statudol, i ddysgwyr rhwng Blynyddoedd 2 a 9, yn cynnwys asesiad o gynnydd dysgwyr a gymerir mewn 2 ran, Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu). Mae’r asesiadau ar-lein yn darparu profiad asesu unigol sy’n addasu lefel yr her i bob dysgwr yn ddeinamig iawn. Mae’r asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol) yn canolbwyntio ar ffeithiau a gweithdrefnau rhifiadol, a’r offer sydd eu hangen i gymhwyso rhifedd o fewn ystod o gyd-destunau. Mae’r asesiad Rhifedd (Rhesymu) yn rhoi gwybodaeth ar ba mor dda y gall dysgwyr gymhwyso eu sgiliau gweithdrefnol i ddatrys problemau rhifiadol.
Yr hyn yr ydym am ei gyflawni
Ein nod hirdymor yw:
- disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr: cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd tuag at gyflawni pedwar diben Cwricwlwm i Gymru fel eu bod yn hyderus yn eu sgiliau mathemateg a rhifedd ac yn gallu cymhwyso eu dysgu mewn amrywiaeth o gyd-destunau dilys, a chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- proffesiwn addysg sy’n hyderus ac sy’n gallu cynllunio a chymhwyso dysgu mathemateg a rhifedd pwrpasol ar draws pob maes dysgu a phrofiad, gyda chefnogaeth cynnig dysgu proffesiynol sy’n darparu cymorth effeithiol ar gyfer datblygu addysgeg sy’n cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru
- newid sylweddol cenedlaethol: newid cadarnhaol mewn meddylfryd tuag at fathemateg a rhifedd er mwyn cefnogi profiadau dysgwyr a chefnogi caffael y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer dinasyddiaeth weithredol, dysgu gydol oes a chyflogaeth
Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud
Cam gweithredu: hyrwyddo pwysigrwydd a pherthnasedd sgiliau mathemateg a rhifedd
Byddwn yn:
- datblygu cymorth i ysgolion a lleoliadau ddeall pwrpas dysgu mathemateg ac iddynt greu cyfleoedd i ddysgwyr gael profiad o gymhwyso mathemateg a rhifedd dilys mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn fel rhan o’u dysgu
- adolygu effaith ein rhaglenni grant i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar gefnogi pob dysgwr i fagu ei hyder, ei wydnwch a’i hunan-gred
- gweithio gyda phartneriaid gwella ysgolion ac Estyn i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau mathemateg a rhifedd ar gyfer ymarferwyr
Cam gweithredu: cefnogi’r gwaith o ddatblygu meddylfryd a dull cadarnhaol o weithredu i hyrwyddo mathemateg a rhifedd mewn ysgolion a lleoliadau, ac ar gyfer rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach
Byddwn yn:
- gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod addysgu a dysgu mathemateg yn canolbwyntio ar ddarparu her i ddysgwyr mewn ffordd ddifyr sy’n ennyn diddordeb
- ymchwilio a rhannu dulliau effeithiol o ddatblygu dulliau cadarnhaol o ymdrin â mathemateg a rhifedd, yn ogystal â gwydnwch a hunan-gred, i fynd i’r afael â gorbryder am fathemateg ymysg dysgwyr, ymarferwyr, rhieni a gofalwyr
- hyrwyddo negeseuon meddylfryd cadarnhaol a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cymhwyso sgiliau mathemateg a rhifedd mewn bywyd bob dydd
Cam gweithredu: datblygu cynnig cenedlaethol dysgu proffesiynol ar gyfer mathemateg a rhifedd sy’n gyson â Chwricwlwm i Gymru ac sydd wedi’i ategu gan yr Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol
Byddwn yn:
- gweithio gyda gweithwyr proffesiynol i ddeall y cymorth a’r adnoddau sydd eu hangen i gynorthwyo cymhwyso mathemateg a rhifedd ar draws y cwricwlwm a datblygu dealltwriaeth o gynnydd ac asesu mewn mathemateg a rhifedd ar gyfer pob ymarferydd, yn enwedig o ran cefnogi pobl nad ydynt yn arbenigwyr i gael y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt
- ymgysylltu â’r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu’r Cwricwlwm a grwpiau polisi ymarferwyr i ganfod dealltwriaeth drylwyr ar lefel y sector o ddulliau addysgu a dysgu mathemateg a rhifedd yng Nghymru, a sut mae’r dulliau hynny’n cael eu gweithredu mewn ysgolion a lleoliadau ar hyn o bryd
- sicrhau bod y ddealltwriaeth hon yn llywio mireinio’r cwricwlwm yn yr hirdymor
- drwy gymorth proffesiynol, sicrhau bod pob ymarferydd, waeth beth fo’u harbenigedd pwnc, yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau mathemateg a rhifedd eu hunain a dealltwriaeth gadarn o gynnydd rhifedd ar draws y cwricwlwm
- darparu egwyddorion clir ar gyfer cynnig dysgu a chymorth proffesiynol cenedlaethol i bob ysgol a lleoliad er mwyn cefnogi addysgu mathemateg a rhifedd. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu gyda’n partneriaid allweddol i ddarparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel a theg ledled Cymru
- adeiladu ar ddeunyddiau ategol presennol i greu adnoddau amserol, dwyieithog sy’n cynorthwyo addysgu mathemateg a rhifedd ac yn adeiladu ar y pwyntiau uchod
- yn ogystal â sicrhau addysgeg cysyniadau mathemategol sylfaenol (gweler y cam gweithredu isod), byddwn yn sicrhau bod dysgu proffesiynol hefyd yn cynnwys Rhif, Mesur a Data i gefnogi cymwysterau ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed. Mae hyn er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth gysyniadol yn raddol trwy addysgu pwrpasol, profiadau, sgiliau a gwybodaeth yn ystod eu taith addysgol
- peilota gwaith gydag ysgolion a lleoliadau i gefnogi eu dulliau asesu a deall cynnydd dysgwyr. Trwy’r gwaith hwn, byddwn yn cefnogi ysgolion a lleoliadau o ran cynnydd ac asesu mewn perthynas â mathemateg
Cam gweithredu: wrth wireddu Cwricwlwm i Gymru, cefnogi addysgwyr ledled Cymru i ddatblygu eu hymarfer, eu gwybodaeth a’u hyder fel y gallant, yn eu tro cefnogi, annog ac arwain dysgwyr ar sut i gymhwyso eu sgiliau mathemategol a rhifedd ar draws y cwricwlwm
Byddwn yn:
- sefydlu grŵp tystiolaeth, ymchwil a chyngor gydag arbenigwyr o Gymru ym maes mathemateg a rhifedd i weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr rhyngwladol i ystyried addysgeg effeithiol a datblygiadau academaidd sy’n dod i’r amlwg a fyddai o fudd i ymarferwyr a dysgwyr
- ymgysylltu â’r Rhwydwaith Cenedlaethol a grwpiau ymarferwyr i gael gwybod sut mae disgwyliadau Cwricwlwm i Gymru ar gyfer mathemateg a rhifedd, gan gynnwys y 5 hyfedredd, yn cael eu deall a’u cyflawni ar hyn o bryd mewn ysgolion a lleoliadau
- gweithio gydag ymarferwyr i ddeall a oes angen eglurhad pellach ar rai o’r canllawiau, ac a oes angen rhagor o ddysgu proffesiynol neu ddeunyddiau ategol, a gweithio ar y cyd i ddiwallu eu hanghenion
Amserlen
Dros y 12 mis nesaf, mewn partneriaeth â phartneriaid gwella ysgolion, Estyn ac ymarferwyr, byddwn yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am gydlynu’r gwaith o gyflawni’r camau gweithredu hyn.
Ym mis Ionawr 2024, byddwn yn cynnal sgwrs trwy’r Rhwydwaith Cenedlaethol.
Rhwng Ionawr a Gorffennaf 2024, byddwn yn sefydlu grŵp o ymarferwyr, ar sail model y grŵp polisi, a fydd yn cyfarfod yn fisol. Drwy ddilyn y dull hwn o fynd ati, byddwn yn parhau i gyflawni ein hymrwymiad i gyd-ddatblygu cymorth ar gyfer Cwricwlwm i Gymru.
Rhwng mis Ionawr a mis Medi 2024, byddwn yn sefydlu ac yn hwyluso grŵp ymchwil, tystiolaeth a chyngor o arbenigwyr ym maes mathemateg o Gymru, y DU ac ar draws y byd.
Byddwn yn ymgysylltu â phartneriaid gwella ysgolion ac yn cychwyn y gwaith o greu pecyn dysgu proffesiynol cenedlaethol wedi’i wneud i Gymru. Bydd y pecyn yn cael ei dreialu yn ystod blwyddyn academaidd 2023 i 2024 a bydd ar gael ar lefel ehangach i ymarferwyr o fis Medi 2024 ymlaen.
Gwerthuso ac adolygu
Byddwn yn gwerthuso ein huchelgais i sicrhau newid cadarnhaol mewn perthynas ag addysgu mathemateg a rhifedd er budd dysgwyr ledled Cymru trwy:
- siarad ag ymarferwyr a dysgwyr
- ymgysylltu’n rheolaidd â’n partneriaid ar draws y sector addysg a’n darparwyr rhaglenni grant, a chael adborth ganddynt
- ystyried gwybodaeth ddienw am dueddiadau lefel genedlaethol mewn cyrhaeddiad darllen a rhifedd
- ystyried adroddiadau blynyddol Estyn
- olrhain tueddiadau mewn canlyniadau TGAU a Safon Uwch
- cael golwg ar ganlyniadau PISA (Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr) presennol ac yn dilyn y cylch nesaf o asesiadau rhifedd PISA yn 2026
Byddwn yn darparu adolygiad ysgrifenedig o’r cynnydd a wneir tuag at gyflawni’r camau gweithredu a osodir yn y cynllun hwn yn ystod 2024.