Cofnodion Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: 30 Tachwedd 2022
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Ruth Glazzard, Cadeirydd
- Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
- Mary Champion, Aelod Anweithredol
- Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
- Jim Scopes, Aelod Anweithredol
- Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
- Dyfed Alsop, Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu
- Becca Godfrey, Cyfarwyddwr Gwasanaethau
- Karen Athanatos, Aelod Staff Etholedig
Agoriad
1.Croeso a chyflwyniadau, gwrthdaro buddiannau ac ymddiheuriadau
- Roedd Anna Adams, Trysorlys Cymru, wedi anfon ei hymddiheuriadau.
- Ni nodwyd unrhyw fuddiannau newydd.
2. Y cofnodion y cyfarfod diwethaf
- oedd cofnodion cyfarfodydd y bwrdd ar 28 Medi wedi'u dosbarthu ymlaen llaw ac roeddent bellach wedi’u cymeradwyo. Bu'r Bwrdd yn trafod y gwaith o lunio papurau'r Bwrdd, gan gynnwys y Cofnodion.
- Codwyd materion yn codi o dan eitem 12.
3. Trosolwg o’r cyfarfod
Gan y byddai'r Gweinidog yn mynychu'r cyfarfod hwn, trafododd y Bwrdd y cyd-destun presennol a oedd yn gwneud presenoldeb y Gweinidog heddiw yn arbennig o amserol. Roedd cyllideb 2023 to 2024 ACC, a oedd i fod i gael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr, yn cael ei chwblhau ar hyn o bryd, ac roedd disgwyl i benderfyniadau gael eu gwneud yn fuan ar rai agweddau ar waith ACC, gan gynnwys rolau'r Awdurdod yn y Dreth Trafodiadau Tir Lleol ac Ardoll Ymwelwyr.
Trafodaeth
4. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ACC, cyllid, rôl ACC yn yr ardoll ymwelwyr
-
Croesawodd y Bwrdd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, i'r cyfarfod. Roedd y Gweinidog yn bresennol ar gyfer yr eitem hon yn unig.
-
Bydd Cyllideb Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer 2023i 2024 yn cael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr. Nododd y Bwrdd flaenoriaethau ACC am weddill y flwyddyn ariannol hon a thu hwnt.
5. Cytunodd y Gweinidog a'r Bwrdd fod hon wedi bod yn drafodaeth amserol a chadarnhaol iawn, ac roedd pob un yn rhannu'r awydd i wneud y gorau dros LlC, ACC a phobl Cymru.
6. Diolchodd y Bwrdd i'r Gweinidog am fod yn bresennol, a byddai'n ysgrifennu at y Gweinidog i fynegi eu diolch a nodi rhai o'r pwyntiau allweddol a godwyd.
A22-05-02: Byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Gweinidog. Byddai swyddogion yn drafftio llythyr cyn gynted â phosibl.
Adroddiadau, cymeradwyaethau a phenderfyniadau
5. Adroddiad y Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
- Fel arwydd pellach o statws ACC fel Partner CThEF y gall pobl ymddiried ynddo, roedd ACC bellach yn gallu gweithio'n agosach gyda CThEF i nodi ymddygiadau allweddol ar draws y maes trethiant. Roedd gan hyn botensial sylweddol.
- Roedd y drafodaeth wedi symud ymlaen i drafod materion yn ymwneud â gweithio hybrid. Roedd ACC yn dal i ymchwilio i opsiynau, ac roedd yn ffafrio gofal wrth arbrofi ac wrth ymgysylltu â staff. Roedd opsiynau swyddfa’n cael eu cadarnhau a byddai'r manylion yn cael eu rhannu gyda staff yn fuan.
Wedi'i olygu.
5. Roedd yr Awr Les yn cael ei defnyddio gan dri chwarter y staff. Roedd yn cael ei chymryd o ddifrif, ac roedd llawer o fanteision amrywiol ynghlwm â’r Awr Les. Roedd lles yn rhan bwysig o ddiwylliant ACC a LlC. Tynnodd y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu sylw at y gydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd lles ar draws gweithleoedd.
Wedi'i olygu.
6. Adroddiad chwarterol y Prif Swyddog Cyllid, a’r cofnod risg corfforaethol
- Roedd dealltwriaeth gyfunol gref o sefyllfa'r gyllideb ar draws timau ACC. Diolchodd y Prif Swyddog Cyllid i'r Pennaeth Cyllid am safon uchel eu hadroddiadau ariannol, ac am eu gwaith gyda’r rheolwyr cyllideb i sicrhau dealltwriaeth o faterion a'u helpu i ddod o hyd i ddatrysiadau. Ategodd y Bwrdd ddiolch y Prif Swyddog Cyllid.
- Roedd gan gyllideb ACC, oherwydd ei bod yn fach, lai o hyblygrwydd i amsugno newidiadau sydyn na chyllideb adran fawr o Lywodraeth Cymru. Roedd y corff o staff ar hyn o bryd yn agos at fod yn llawn ac roedd hyn yn peri heriau penodol.
- Roedd trafodaethau yn ARAC wedi nodi y byddai'n ddefnyddiol datblygu'r dangosfwrdd risg ymhellach, a'r angen i amlinellu'r risgiau sydd ynghlwm â darparu a gweithredu gwasanaethau yn well. Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid fod y dull ar y cyd a rennir ag ARAC wedi bod yn gyfle defnyddiol i edrych ar faterion gyda manteision profiad allanol.
- Wrth drafod risg, ystyriodd y bwrdd y posibilrwydd o lunio is-ddosbarthiadau lefel risg er mwyn helpu i nodi newidiadau o fewn risg dros amser, a ddylid cynnwys risg newydd sy'n adlewyrchu siociau posibl yn y dyfodol, ac archwaeth risg yn gyffredinol.
7. Adroddiad chwarterol Grŵp Arwain Darpariaeth Gwasanaethau (SDLG)
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau a'r Pennaeth Dadansoddi Data yr adroddiad, a oedd wedi'i ddosbarthu ymlaen llaw. Paratowyd yr adroddiad yn dilyn cyfarfod y SDLG ddiwedd mis Hydref i adolygu perfformiad Ch1.
8. Croeso i sesiwn y prynhawn
Croesawodd y Cadeirydd bawb i sesiwn y prynhawn.
9. Adroddiad Trysorlys Cymru
10. Adroddiadau’r pwyllgorau
- Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg – ARAC: Nododd y Bwrdd gynnwys Cofnodion y cyfarfodydd diweddar a oedd wedi'u dosbarthu ymlaen llaw.
- Pwyllgor Cydnabyddiaeth: Nododd y Bwrdd gynnwys Cofnodion y cyfarfodydd diweddar a oedd wedi'u dosbarthu ymlaen llaw.
Trafodaeth bellach
11. Gweithio hybrid, diwylliant ac arferion gwaith, ein hegwyddorion a'n dull
- Byddai staff ACC yn cwrdd mewn diwrnod cwrdd i ffwrdd wyneb yn wyneb ym Mharc Cathays ar 12 Rhagfyr. Dyma'r digwyddiad cyntaf wyneb yn wyneb i bob aelod o staff ers 2019. Byddai gweithio hybrid ar agenda'r diwrnod.
- Trafododd y Bwrdd sut y gallai diwylliant ACC o fod yn arloesol, yn gydweithredol ac yn garedig helpu gyda heriau gweithleoedd ac arferion hybrid yn y dyfodol. Cydnabuwyd bod y diwylliant o fudd uniongyrchol i ACC ond ei fod hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar gwsmeriaid.
Diweddglo
12. Unrhyw fater arall
Adroddodd Ysgrifennydd y Bwrdd ar gynnydd yn erbyn pwyntiau gweithredu a gofnodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol.
A22-05-06: Byddai Rhagolwg y Bwrdd yn cael ei adfer ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.
A22-05-07: Byddai dyddiadau'r Bwrdd o fis Ebrill 2023 yn cael eu cytuno.
Byddai Ysgrifennydd y Bwrdd yn bwrw ymlaen â'r ddau bwynt gweithredu hyn.
13. Adolygiad o’r cyfarfod gan y Cadeirydd
Diolchodd y Cadeirydd i bawb a fu'n ymwneud â’r gwaith o baratoi'r cyfarfod ac adrodd i'r Bwrdd. Ategodd y Bwrdd ddiolch y Cadeirydd.
14. Y cyfarfodydd nesaf
Byddai'r Bwrdd yn cyfarfod ar-lein nesaf ar gyfer Sgwrs y Bwrdd ar 14 Rhagfyr, ac wyneb yn wyneb ar gyfer Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Strategaeth ar 24 a 25 Ionawr, a chyfarfod Adolygiad Ch3 2022 i 2023 ar 22 Chwefror.
Gwybodaeth wedi’i golygu
Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.