Dathlu a chyfranogi: canllawiau addysg i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Sut y gall ysgolion a lleoliadau wella’r gefnogaeth i ddysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad a chyd-destun
Ein gweledigaeth
Amlinellir uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yng Nghymru yn ‘Cenhadaeth ein cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb’. Maent yn cynnwys ymrwymiad i degwch o ran deilliannau mewn addysg i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, er mwyn sicrhau llwyddiant, safonau uchel a lles pob dysgwr.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Drwy Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau hawliau pob plentyn. At ddibenion y canllawiau hyn, rhoddwyd sylw penodol i'r erthyglau canlynol:
- yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu (erthygl 2)
- ymrwymiad i weithredu er budd pennaf y plentyn (erthygl 3)
- yr hawl i addysg (erthygl 28)
- ymrwymiad i ansawdd a chynnwys addysg (erthygl 29)
Diben y canllawiau hyn
Diben y canllawiau hyn yw helpu athrawon, ymarferwyr addysg ac uwch-arweinwyr i gefnogi dysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i:
- gael mynediad at addysg
- datblygu eu doniau a'u sgiliau i'r eithaf
- cyflawni eu llawn botensial
Mae cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn amrywiol, ac mae gwahaniaethau mawr mewn agweddau tuag at yr ysgol a dysgu. Mae’r gwahaniaeth mewn agweddau i’w gweld:
- rhwng pob cymuned
- o fewn teuluoedd
- rhwng unigolion
Mae gan gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr eu hanes, eu diwylliannau a'u ffordd o fyw unigryw eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys traddodiadau crwydrol er bod nifer cynyddol o gymunedau sefydlog. Mae llai o deuluoedd yn teithio'n fynych a mwy yn byw mewn llety brics a morter.
Mae gan unigolion ym mhob cymuned yr hawl:
- i arddel eu hunaniaeth eu hunain
- i'w hunaniaeth gael ei chydnabod a'i pharchu gan y gymdeithas y maent yn byw ynddi
Mae'n bwysig cydnabod a dathlu holl gyflawniadau dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr mewn addysg.
Er bod peth cynnydd wedi'i wneud, mae data'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion ar gyfer mis Medi 2021 i fis Awst 2022 ar gyrhaeddiad mewn arholiadau yn dangos bod angen gwneud rhagor er mwyn sicrhau deilliannau teg i ddysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Nod y canllawiau hyn yw codi ymwybyddiaeth ddiwylliannol ymhlith ymarferwyr addysg a rhoddir enghreifftiau o ymarfer effeithiol i gefnogi plant a phobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru (2022) yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi canllawiau ar Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gefnogi deilliannau addysgol, gan sicrhau bod hyrwyddo arferion gwrth-hiliol wrth wraidd hynny.
Ein gweledigaeth yw hyrwyddo ymarfer cynhwysol fel y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei gynnwys, y bydd eu hunaniaethau yn cael eu dathlu, ac y bydd eu deilliannau addysgol yn gwella.
Rydym wrthi'n datblygu system addysg gyfannol sy'n diwallu anghenion pob plentyn a pherson ifanc ac sy'n lleihau'r bwlch mewn cyrhaeddiad. Bydd hyn, yn ei dro, yn dod yn destun balchder cenedlaethol wrth i Gymru arwain y ffordd o ran arddangos gwrth-hiliaeth yn ymarferol.
Cyflawni ein hamcanion gwrth-hiliol
Mae'r gallu i gyflawni amcanion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn dibynnu ar hyfforddiant a datblygiad ymarferwyr addysg i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo diwylliannau gwrth-hiliol mewn ysgolion. Mae tangynrychioliaeth athrawon o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn rhan o'r diffyg amrywiaeth ehangach yn y gweithlu addysg ac ysgolion. Mae hefyd yn ffactor sy'n cyfrannu at yr rhwystrau, y gwahaniaethu a'r hiliaeth y mae dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithiwr yn gallu eu hwynebu.
Mae'r canllawiau hyn yn rhan annatod o'r camau gweithredu sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru a chyrff statudol, yn ogystal ag ysgolion, i greu ac ymgorffori system addysg wrth-hiliol, a gwlad sy'n wirioneddol wrth-hiliol erbyn 2030.
Y rhesymau dros newid
Yn Adroddiad yr Arolwg diweddaraf o ddysgwyr 11 i 16 oed ar gyfer 2021 i 2022 gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion, dysgwyr sy’n Sipsiwn a Theithwyr oedd y grŵp ethnig a oedd leiaf tebygol o deimlo ‘bod eu hathrawon yn eu derbyn’, a hefyd leiaf tebygol o gytuno ‘bod eu hathrawon yn poeni amdanynt fel person’.
Mewn ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ‘Gypsies’ and Travellers' lived experiences, education and employment, England and Wales (2022)’ nododd cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr:
- brofiadau o wahaniaethu, hiliaeth, bwlio ac aflonyddu
- anhyblygrwydd y system addysg ac agweddau ar y cwricwlwm a ystyrid yn rhai a oedd yn mynd yn groes i'w gwerthoedd fel rhesymau dros dynnu plant yn ôl o addysg brif ffrwd, gyda rhai yn cael addysg yn y cartref yn lle hynny
Mae’r profiadau a’r safbwyntiau hyn yn dangos pwysigrwydd ymgorffori gwrth-hiliaeth mewn lleoliadau addysgol. Mae hyfforddiant a datblygiad y gweithlu yn ffactor pwysig i ysgolion ei ystyried.
Hunaniaethau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Mae cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cynnwys sawl grŵp ethnig a diwylliannol megis:
- Sipsiwn Romani
- Teithwyr Gwyddelig
- Roma mudol
- grwpiau diwylliannol megis Teithwyr Newydd a Theithwyr Galwedigaethol
Mae'r term ‘Teithiwr sy'n Sipsi’ yn cynnwys:
- Teithwyr Gwyddelig
- Sipsiwn a Theithwyr Cymreig, Seisnig ac Albanaidd
- Sipsiwn Romani
Mae'r term ‘Teithiwr Galwedigaethol’ yn cynnwys:
- pobl sy'n perthyn i gymunedau sioe, ffair a syrcas traddodiadol
- badwyr a busnesau a chartrefi teuluoedd dyfrffyrdd eraill
Disgrifir ‘Teithwyr Newydd’ fel grŵp yn y DU a ddatblygodd yn y 1960au. Roeddent yn arfer cael eu galw yn ‘Deithwyr Oes Newydd’, gynt ond mae llawer wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio ‘Oes’ ac mae'n well gan eraill gael eu galw'n Deithwyr yn unig. Gall y term ‘Teithiwr’ gael ei ddefnyddio weithiau i gyfeirio at grwpiau gwahanol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod diwylliannau a ffyrdd o fyw amrywiol grwpiau gwahanol. Felly, rydym yn defnyddio'r term ‘Roma mudol’ i gyfeirio at y grwpiau Romani hynny a oedd wedi ymgartrefu am gyfnod yng nghanol a dwyrain Ewrop ac sydd bellach wedi mudo i Gymru (yn bennaf ers ehangu'r Undeb Ewropeaidd yn 2004). Gall hyn gynnwys:
- Roma
- Sinti
- Ashkali
- ‘is-grwpiau’ eraill
Defnyddir y term ‘Roma’ i sicrhau cyn lleied o ddryswch â phosibl am ei fod yn gyson â'r term a ddefnyddir gan yr Undeb Ewropeaidd ac yn adlewyrchu'r grŵp Romani mwyaf poblog yn Ewrop.
Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r term ‘Sipsiwn a Theithwyr cynhenid’ i gyfeirio at:
- Sipsiwn Romani
- Teithwyr Gwyddelig
- grwpiau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o grwydro neu fyw mewn carafanau, sy'n frodorol i Gymru
Rydym wedi defnyddio'r term ambarél ‘Sipsiwn, Roma a Theithwyr’ i gynnwys yr holl grwpiau diwylliannol gwahanol a nodir yn gynt. Nid yw’r canllawiau hyn yn manylu ar hanes cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ond mae'n arfer da i ymarferwyr addysgol i ddysgu am ddiwylliannau a hunaniaethau'r plant a'r bobl ifanc rydynt yn eu haddysgu.
Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ‘Gypsies’ and Travellers’ lived experiences, overview, England and Wales: 2022’. Mae'r ymchwil ansoddol hon yn cynnwys adrannau ar ‘ddiwylliant a hunaniaethau’ ac ‘addysg a chyflogaeth, sy'n cynnig cipolwg gwerthfawr.
Defnyddio’r canllawiau hyn: enghreifftiau o ymarfer effeithiol
Daw'r enghreifftiau o ymarfer effeithiol yn y canllawiau hyn o'r gwasanaethau a ddarperir yng Nghymru ar hyn o bryd. Mewn rhai o'r enghreifftiau mae'r lleoliad wedi defnyddio'r termau 'Sipsi’ neu ’Teithiwr'. Rydym wedi defnyddio dyfyniadau uniongyrchol i adlewyrchu'r iaith a ddefnyddiwyd gan y lleoliad. Bydd rhai rhannau o'r canllawiau yn canolbwyntio ar 1 neu 2 o gymunedau a bydd rhai yn gymwys i'r holl ddysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Daw dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr o amrywiaeth o ddiwylliannau a threftadaeth gyfoethog. Mae sicrhau bod eu diwylliant yn cael ei gynnwys a'i ddathlu yn cynnig cyfleoedd pwysig i weithwyr proffesiynol ym maes addysg hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol Cymru.
Bydd lleoliadau sy'n dathlu profiadau a diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn fwy cynhwysol i ddysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Bydd hyn hefyd yn helpu’r holl staff a chymuned ehangach yr ysgol neu’r lleoliad addysg i ehangu eu dealltwriaeth ddiwylliannol ac atal gwahaniaethu.
Statws y canllawiau hyn
Mae'r ddogfen ganllaw hon yn disodli'r canllawiau ‘Symud Ymlaen – Addysg i Sipsiwn-Teithwyr’ (2008), Cylchlythyr 003/2008.
Canllawiau anstatudol yw'r canllawiau hyn, sy'n seiliedig ar yr heriau a nodwyd gan randdeiliaid, plant a phobl ifanc. Eu diben yw codi ymwybyddiaeth o'r heriau hynny a rhannu ymarfer effeithiol. Cydnabuwyd nad oes un ateb i bawb. Bydd gwahaniaethau o ran yr hyn sy'n gweithio mewn lleoliadau ac amgylchiadau gwahanol ledled Cymru.
Mae'r canllawiau hyn yn ystyried:
- CCUHP
- Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011
- Deddf Plant 2004
- Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae rhwymedigaeth ar awdurdodau lleol drwy statud i:
- sicrhau bod pob plentyn o oedran ysgol gorfodol yn cael addysg sy'n briodol i'w oedran, ei alluoedd ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol
- hyrwyddo safonau uchel wrth ddarparu addysg
- hyrwyddo llesiant plant
Mae'r rhwymedigaethau hyn yn gymwys i bob plentyn, p'un a yw'n preswylio'n barhaol mewn ardal ai peidio. Mae'r canllawiau hyn yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.
Cydnabyddiaethau
Hoffem, Llywodraeth Cymru, gydnabod y Grŵp Rhanddeiliad Sipsiwn a Theithwyr a diolch iddo am ei ymwneud yn y gwaith o ddatblygu'r canllawiau hyn. Hoffem hefyd ddiolch i aelodau o Grŵp Cymunedau Ethnig Leiafrifol a Sipsiwn, Roma a Theithwyr yr Awdurdodau Lleol am ei gyngor a'i gymorth amhrisiadwy. Yn bwysicaf oll, hoffem ddiolch i'r plant a'r bobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a ymgysylltodd â ni wrth inni ddatblygu'r canllawiau hyn am rannu eu profiadau bywyd a'u safbwyntiau.
Safbwyntiau plant a phobl ifanc
Y broses ymgynghori
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad cadarn i hawliau plant ac i wrando ar leisiau plant a phobl ifanc.
Defnyddiwyd dull ymgynghori a oedd yn canolbwyntio ar y plentyn i gasglu safbwyntiau plant a phobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar eu profiadau a'u heriau ym maes addysg. Gan ddefnyddio cyfres o gwestiynau agored, fe wnaethon ni ymgynghori â thua 40 o blant a phobl ifanc mewn 7 ardal ar draws Cymru. Gan weithio gyda’u hathrawon ac ymarferwyr y maent yn ymddiried ynddynt yn yr awdurdodau lleol, holwyd y plant a’r bobl ifanc am y pethau sy'n bwysig iddynt. Roedd bron pob plentyn a pherson ifanc wedi cynnwys teulu a diwylliant fel 2 o'r pethau pwysicaf iddynt.
Dywedodd plant a phobl ifanc:
“Fy nheulu. Bod yn Sipsi. Cael fy ngeni yn yr un diwylliant”.
“Fy nheulu, ffrindiau, pêl-droed, fy ngyrfa, fy niwylliant, fy iechyd”.
“Mae'n bwysig fy mod i'n cael addysg ac rwy'n falch fy mod i'n gallu darllen ac ysgrifennu.
Mae agweddau tuag at addysg ymhlith plant a phobl ifanc yn amrywio'n fawr iawn. Mae'n rhaid gwneud pob ymdrech i ddeall y dylanwadau diwylliannol a all effeithio ar hyn. Bydd hyn yn gofyn am weithio gyda phlant, pobl ifanc, a'u teuluoedd i'w hannog i weld gwerth addysg.
Dywedodd plant a phobl ifanc:
“Rwy'n hoffi bod yn yr ysgol, rwy'n hoffi dysgu, mae'n beth da. Rwy'n cael egwyl oddi wrth y teulu.”
“Rwy'n mynd i adael pan fydda i'n 13 oed.”
“Dw i ddim yn mynd i astudio rhagor am nad oes angen i mi wneud hynny. Rwy'n mynd i fod yn rhan o fusnes fy nheulu.
Mewn rhai achosion, nododd profiadau plant a phobl ifanc y gall fod gwrthdaro weithiau rhwng disgwyliadau diwylliannol a theuluol ac addysg.
“Rwy'n mynd i'r ysgol yn llawn amser a'r tasgau y mae'n rhaid i mi eu gwneud gartref, rwy'n eu gwneud ar ôl yr ysgol.”
“Rwy'n helpu i lanhau'r tŷ a gofalu am fy mrodyr a fy chwiorydd.”
“Rwy'n mynd i'r ysgol bob dydd am fod fy mam am i mi fynd i'r ysgol.
Gwnaethom ofyn i blant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr sut y gallai Llywodraeth Cymru a gwasanaethau lleol eu cefnogi orau. Un o'r ymatebion mwyaf cyffredin oedd y dylid rhoi mwy o amser i'r dysgwr ddeall, ac i ofyn am i rywun wrando arno. Dywedodd plant a phobl ifanc hefyd:
Plant mewn oedran cynradd
“Rwy'n hoffi gweithio mewn grwpiau bach.”
“Rwy'n hoffi dysgu ymarferol.”
“Rwy'n hoffi cael amser i feddwl a gallu ateb cwestiynau.
Pobl ifanc oedran uwchradd
“Siaradwch â mi mewn ffordd rwy'n ei deall. Rhowch amser i mi ddeall beth rydych am i mi ei wneud. Os na fydda i'n deall, yna meddyliwch am ffordd arall a fydd yn fy helpu.”
“Gwrando arnaf fi a’r hyn sydd gen i i’w ddweud, rhoi amser i mi a bod yn amyneddgar.”
“Y ffordd orau i mi ddysgu yw pan fydd pobl yn dangos i mi, ac yna fe rodda i gynnig arni.”
“Roeddwn i'n mynd i'r ysgol yn llawn amser. Weithiau roeddwn i'n sâl. Roedd yr ysgol bob amser yn gofyn a oedd angen help arna i. Fe ges i help ychwanegol.
Holwyd y plant a'r bobl ifanc hefyd am eu dyheadau eu hunain, ac roedd yr ymatebion yn amrywio. Dywedon nhw:
“Fy mreuddwyd yw cael gŵr da, cael fy nheulu fy hun.
“Rwy'n astudio TGAU yn yr ysgol a fydd yn fy helpu i fynd i'r coleg. Byddwn i wedi hoffi gwneud coginio ond nid yw'n beth gwrol i'w wneud. Fi yw'r hynaf o dri o blant a hoffwn i weld fy mrawd a fy chwaer yn gorffen yr ysgol.”
“Fe fydda i'n gwneud cais i astudio adeiladu neu gerddoriaeth yn y coleg.”
“Rwy'n dwli ar gerddoriaeth a hoffwn ddysgu sut i gynhyrchu fy ngherddoriaeth fy hun — Hoffwn weld hyn yn cael ei addysgu yn yr ysgol… Ymhen pum mlynedd rwy'n gweld fy hun yn 'rapio' ar lwyfan Glastonbury. Hefyd, rwyf eisiau fy musnes fy hun.”
“Rwyf am orffen Safon Uwch a mynd i'r brifysgol.”
Strategaethau cyffredinol i gefnogi dysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Mae gan y mwyafrif o awdurdodau lleol yng Nghymru Wasanaeth Addysg i Deithwyr. Mae’r gwasanaeth hwn yn:
- ddolen gyswllt rhwng ysgolion a chymunedau
- cynnig cymorth a chyngor ar ddeall diwylliant cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Bydd y Gwasanaeth Addysg i Deithwyr hefyd yn gweithio gyda Gwasanaeth Cyrhaeddiad Disgyblion o Gymunedau Ethnig Leiafrifol yn aml, sy'n rhoi cyngor a chymorth ar gaffael iaith i blant a phobl ifanc o gymunedau Roma.
Gall y gwasanaethau gwneud y canlynol:
- rhoi cymorth a chyngor i ysgolion i'w helpu i adnabod a chefnogi anghenion plant a phobl ifanc
- rhoi hyfforddiant i athrawon a chynorthwywyr addysgu ar ymarfer effeithiol
- awgrymu strategaethau i gymunedau a chynnig arweiniad ar ymgysylltu â nhw
- bod yn ddolen gyswllt a rhoi allgymorth i gymunedau
I gael gwybod am yr hyn sy'n helpu plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i oresgyn unrhyw heriau sy'n gysylltiedig â chael addysg, gwnaethom ofyn i:
- ymarferwyr addysg
- Gwasanaethau Addysg i Deithwyr a Gwasanaethau Cyrhaeddiad Disgyblion o Gymunedau Ethnig Leiafrifol awdurdodau lleol
- pobl ifanc o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr eu hunain
Roedd eu hymatebion yn cynnwys y canlynol:
- Dull gweithredu ysgol gyfan, bod ag arweinyddiaeth gadarn ac ethos o fod yn groesawgar i bawb.
- Ymgysylltu â theuluoedd, pwysigrwydd meithrin cydberthnasau â theuluoedd a chymunedau ac ennyn eu hymddiriedaeth.
- Dulliau gweithredu effeithiol a chymorth i bontio o addysg gynradd i addysg uwchradd gan mai pontio weithiau yw'r her fwyaf i bresenoldeb yn yr ysgol, er enghraifft pryderon ynglŷn â'r cwricwlwm yn yr ysgol uwchradd, neu bryderon am fwlio.
- Mae cydnabod a dathlu diwylliant, gan feithrin dealltwriaeth mewn lleoliadau addysg ynglŷn â gwahanol ddiwylliannau yn gwella cynhwysiant ac yn lleihau achosion o fwlio.
- Gall ddynodi oedolyn y gall dysgwyr ymddiried ynddo y gall dysgwyr droi ato yn eu lleoliad addysg sy'n deall eu diwylliant a'u profiadau fod o fydd. Efallai y bydd ysgolion yn ystyried dynodi aelod o'r staff yn eu lleoliad i gyflawni'r rôl hon ar gyfer dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Rôl Ysgolion Bro i gefnogi dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr
O dan Raglen Lywodraethu 2021 i 2026 mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i'r canlynol: ‘Buddsoddi yn amgylchedd dysgu ysgolion cymunedol, cydleoli gwasanaethau allweddol, a sicrhau ymgysylltiad cryfach â rhieni a gofalwyr y tu allan i oriau traddodiadol.’
Nod Ysgolion Bro yw mabwysiadu dull cyffredinol o ddiwallu anghenion plant drwy weithio mewn partneriaeth â theuluoedd a'r gymuned ehangach. Byddant hefyd yn helpu i gydgysylltu gwasanaethau sydd ar gael gan ddarparwyr eraill megis gofal iechyd a'r trydydd sector. Ceir rhagor o wybodaeth am y rolau hyn a'r ffyrdd y gall ysgolion ddatblygu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd yn y Canllawiau ar Ymgysylltu â Theuluoedd.
Mae adroddiad Estyn yn 2020 “Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol” yn disgrifio ysgol gymunedol fel:
‘...un sydd â lles pennaf dysgwyr, teuluoedd a’r gymuned wrth wraidd iddi. Mae’r ysgolion hyn yn estyn llaw i ymgysylltu â theuluoedd a chydweithio â’r gymuned ehangach, gan wybod y gwahaniaeth y gall hyn ei wneud i lwyddiant pob disgybl yn yr ysgol, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais oherwydd tlodi. Mae’r ysgolion hyn yn gweithio mewn partneriaethau strategol hynod effeithiol ag ystod o sefydliadau, ac yn cydleoli gwasanaethau, lle bo hynny’n bosibl, er wyn galluogi teuluoedd a’r gymuned i fanteisio arnynt yn rhwydd.
Mae ysgolion cymunedol yn defnyddio eu cyfleusterau a’u hadnoddau’n effeithiol er budd y cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ganddynt y staff a’r arbenigedd i fynd i’r afael ag anghenion teuluoedd a’r gymuned.’ Mae gwybodaeth am Ysgolion Bro ar gael yn y canllawiau Ysgolion Bro.
Heriau: dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Mae'r adran hon yn disgrifio rhai o'r pryderon a nodwyd gan:
- blant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- aelodau o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Mae'r rhain yn dangos yr heriau posibl y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu o ran:
- cael addysg
- datblygu eu talentau a'u sgiliau i'r eithaf
- cyflawni eu potensial llawn
Pryderon cyffredinol a heriau penodol
Yn 2019, cyhoeddodd Estyn adolygiad thematig ‘Darpariaeth ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr oed uwchradd’ a oedd yn:
- gwerthuso'r ddarpariaeth i ddysgwyr, yn nodi rhai o'r heriau
- rhoi rhai enghreifftiau o ymarfer effeithiol
Hefyd, gwnaeth argymhellion i awdurdodau lleol, ysgolion a Llywodraeth Cymru. Nododd Argymhelliad 7 y dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru'r canllawiau a gyhoeddwyd yn 2008 ‘Symud Ymlaen – Addysg i Sipsiwn-Teithwyr’.
Wrth ddatblygu'r canllawiau hyn roeddem am ganfod pa heriau, gwirioneddol a chanfyddedig, sy'n bodoli i blant a phobl ifanc ac sy'n eu hatal rhag cael y budd mwyaf o'u haddysg. Gwnaethom ymgynghori â:
- sefydliadau rhanddeiliaid sy'n cynrychioli cymunedau
- gwasanaethau cymorth awdurdodau lleol
- sefydliadau yn y trydydd sector sy'n cefnogi dysgwyr
Nodwyd y meysydd canlynol fel heriau:
- Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
- Derbyniadau i ysgolion
- Presenoldeb yn yr ysgol
- Bwlio ar sail hil
- Cyfathrebu rhwng ysgolion, teuluoedd a chymunedau
- Ymwybyddiaeth ddiwylliannol a dathlu diwylliant
- Y Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
- Person penodedig neu Oedolyn y gellir ymddiried ynddo yn yr ysgol
- Cynhwysiant digidol
- Addysg ddewisol yn y cartref
- Gwahardd o'r ysgol
- Cymorth ariannol a gwisg ysgol
- Pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd
- Cyrsiau galwedigaethol: prentisiaethau, addysg bellach ac addysg uwch
Gweithredu gan Lywodraeth Cymru ac enghreifftiau o ymarfer da i oresgyn heriau
Yn yr adran hon rydym yn:
- ystyried yr heriau unigol a nodwyd
- amlinellu camau gweithredu Llywodraeth Cymru
- rhannu enghreifftiau o ymarfer effeithiol a ddefnyddir i liniaru neu oresgyn yr heriau hyn, lle y bônt ar gael
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Yr her
Mae'n hanfodol bod y cymorth cywir yn cael ei roi i ddysgwyr, yn enwedig pan fydd Cymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt. Gall fod yn fwy anodd nodi angen dysgu ychwanegol (ADY) pan fydd Cymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol i rywun. Mae rhieni wedi dweud wrthym nad yw'n hawdd gwybod bob amser a yw'r heriau a wynebir gan eu plentyn mewn addysg o ganlyniad i angen dysgu ychwanegol. Gall hyn arwain at broblemau i gael cymorth i'w plentyn. Nid yw hyn yn unigryw i deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ond gall fod yn fwy heriol pan fo diffyg cyfathrebu da a/neu ymddiriedaeth rhwng y teulu a'r ysgol.
Gweithredu gan Lywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi newid y ffordd o roi cymorth i blant a phobl ifanc ag ADY mewn ysgolion a cholegau. Daeth y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (2018) a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol cysylltiedig i rym ym mis Medi 2021. Maent yn cael eu cyflwyno dros gyfnod o bedair blynedd
Mae'r Ddeddf a'r Cod ADY yn creu fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi dysgwyr ag ADY o 0 i 25 oed. Mae'r Ddeddf yn canolbwyntio ar sicrhau bod y cymorth ychwanegol sydd ei angen ar blant a phobl ifanc i ddiwallu eu hanghenion yn cael ei gynllunio a'i warchod yn briodol.
Mae'r Ddeddf yn disodli'r system o ddatganiadau anghenion addysgol arbennig (AAA) ac yn creu cynllun statudol unigol, a elwir yn gynllun datblygu unigol (CDU). Mae'r CDU yn disodli'r ystod bresennol o gynlluniau statudol ac anstatudol i ddysgwyr, gan sicrhau tegwch o ran hawliau, ni waeth beth fo lefel angen y dysgwr na pha leoliad addysg y mae'n ei fynychu. Mae'r Ddeddf yn rhoi'r dysgwr wrth wraidd y broses ac yn annog gwell cydweithio rhwng asiantaethau, fel y gellir nodi anghenion ar gam cynnar, a rhoi'r cymorth cywir ar waith.
Os bydd ysgol, coleg, neu awdurdod lleol yn ymwybodol o'r posibilrwydd bod gan ddysgwr ADY yna, oni bai bod eithriadau penodol yn gymwys, mae'n rhaid penderfynu a oes gan y dysgwr hwnnw ADY ai peidio. Os bydd yn penderfynu bod gan ddysgwr ADY yna, oni bai bod eithriadau penodol yn gymwys, mae'n rhaid paratoi CDU. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn a chyfrifoldebau eraill yn y Cod ADY.
Mae Pennod 2 o'r Cod ADY yn esbonio bod angen gofal penodol wrth nodi ADY i'r rhai nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Mae'n esbonio y dylai'r ysgol, y coleg neu'r awdurdod lleol edrych yn ofalus ar bob agwedd ar berfformiad plentyn neu berson ifanc ar draws y cwricwlwm. Bydd gwneud hynny yn canfod a oes unrhyw anawsterau sydd gan y plentyn neu'r person ifanc o ganlyniad i gyfyngiadau ar ei fedrusrwydd yn yr iaith a ddefnyddir, neu ai ADY sy'n gyfrifol.
Mae'n bwysig cefnogi dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr a'u teuluoedd drwy weithdrefnau asesu ADY er mwyn iddynt ddeall anghenion cymorth ADY y plentyn. Mae hyn yn arbennig o bwysig i ddysgwyr Roma a'u rhieni neu eu gofalwyr, a all wynebu'r rhwystr ychwanegol bod Cymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt.
Derbyniadau i ysgolion
Yr her
Nododd ein hymgynghoriad, ar y cyfan, fod yn well gan deuluoedd fod eu plant yn mynychu ysgol lle mae plant eraill o'u cymuned Sipsiwn, Roma neu Deithwyr eu hunain hefyd yn ei mynychu.
Gall her benodol godi pan fydd gan rieni neu ofalwyr lefelau llythrennedd isel ac efallai y bydd angen cymorth arnynt i gwblhau ceisiadau am leoedd ysgol.
Efallai na fydd dyfeisiau digidol ar gael i deuluoedd neu efallai y bydd cysylltedd gwael os ydynt yn byw ar safle neu'n teithio. Mae'n bosibl y bydd teuluoedd Roma yn wynebu'r her ychwanegol nad oes ganddynt fawr ddim Cymraeg na Saesneg, os o gwbl.
Dywedodd plant a phobl ifanc wrthym:
“Mae ein teuluoedd yn hoffi ysgolion lle maen nhw'n ein deall, neu lle mae teuluoedd eraill sy'n Deithwyr.”
“Mae fy rhieni yn gallu darllen ac ysgrifennu gydag ychydig bach o help.”
“Dydy mam ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu.”
Gweithredu gan Lywodraeth Cymru
Diben Y cod derbyn i ysgolion Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pob lle ysgol mewn ysgolion a gynhelir yn cael ei ddyrannu a'i gynnig mewn ffordd deg.
Mae'r Cod yn gosod gofynion ac yn cynnig arweiniad i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, fforymau derbyn ysgolion a phaneli apeliadau derbyn ysgolion ar gyflawni eu swyddogaethau derbyn i'r ysgol. Rhaid i'r cyrff hyn weithredu'n unol â'r Cod.
Mae'r Cod yn cydnabod bod cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ystyriol iawn o'r teulu. Mae hefyd yn cydnabod y bydd rhieni neu ofalwyr fel arfer am i'r holl blant yn eu teulu fynychu'r un ysgol. Mae gan rieni a gofalwyr yr hawl i wneud cais am le mewn unrhyw ysgol y maent am i'w plentyn ei mynychu a, lle mae lleoedd ar gael, mae'n rhaid iddynt gael cynnig lle fel arfer. Os bydd ysgol yn cael mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, mae'n rhaid i'r awdurdod derbyn ddefnyddio ei feini prawf cyhoeddedig ar gyfer sefyllfa o'r fath.
Mae'n rhaid i drefniadau fod ar waith i blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr gael eu cofrestru'n gyflym mewn ysgol, p'un a ydynt yn byw'n barhaol neu dros dro yn yr ardal.
Presenoldeb yn yr ysgol
Yr her
Mae data cenedlaethol yn dangos bod presenoldeb ymhlith dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn is ar y cyfan na'u cyfoedion. Nododd adroddiad ystadegol ‘crynodeb ystadegol o absenoldeb yn yr ysgol cyn ac yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19)’ mai ymhlith dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr y gwelwyd y lefelau uchaf o absenoldeb.
Roedd y rhesymau dros hyn yn cynnwys:
- Agweddau teuluoedd tuag at yr ysgol a'r pwys a roddir ar addysg yn amrywio'n fawr iawn
- Ni chafodd rhai rhieni a gofalwyr o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr brofiad cadarnhaol o'r ysgol ac na wnaethant gwblhau eu haddysg eu hunain.
- Nid oedd pobl Roma sydd wedi mudo o rannau o Ewrop wedi cael addysg yn flaenorol.
Gall ffactorau megis y rhain arwain at lefelau llythrennedd isel a diffyg ymddiriedaeth mewn ysgolion a'r system addysg.
I lawer o deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr mae disgwyliad diwylliannol y bydd person ifanc yn ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu yn y teulu neu gymryd rhan ym musnes y teulu.
Ymhlith y pryderon eraill sy’n gallu cael effaith ar bresenoldeb mae:
- y pynciau sy'n cael eu haddysgu yn yr ysgol uwchradd ac i ba raddau y maent yn cyd-fynd â'u diwylliant a’u gwerthoedd
- dylanwad plant a phobl ifanc o'r tu allan i'w cymunedau
- bwlio hiliol
plant a phobl ifanc sy'n wynebu aflonyddu a cham-drin hiliol Dywedodd plant a phobl ifanc wrthym:
“Arhosodd mam yn yr ysgol nes iddi gyrraedd 11 oed ac arhosodd fy nhad nes iddo gyrraedd 13 neu 14 oed er ei fod yn dweud wrtha i iddo fod yn absennol heb awdurdod y rhan fwyaf o'r amser.”
“Rwyf wedi colli'r ysgol eithaf tipyn felly mae angen cymorth arna i er mwyn esbonio pethau yn yr ysgol. Rwy'n swil pan fydda i'n cwrdd â phobl am y tro cyntaf, felly dwi ddim yn siarad. Does dim llawer o ffrindiau gen i o ganlyniad i hyn, ac mae'n helpu pan fydd ffrind neu gefnder mwy hyderus gyda mi am y gall esbonio pethau i mi fel archebu cinio yn yr ysgol. Dwi ddim yn hoffi dod i'r ysgol os bydda i ar fy mhen fy hun oherwydd hyn.”
“Rwy'n mynd yn rhan amser. Hoffwn i wneud mwy o bethau fel gwnïo, coginio, trin gwallt a harddwch hefyd.”
“Rwy'n mynd i'r ysgol yn llawn amser. Bydda i'n gwneud fy nhasgau ar ôl ysgol. Os bydd mam neu fam-gu neu dad-cu yn sâl, efallai y bydd yn rhaid i mi aros gartref i'w helpu.
Gweithredu gan Lywodraeth Cymru
Mae nifer o adnoddau allweddol wedi’u llunio i helpu gweithwyr proffesiynol ym maes addysg, ysgolion ac eraill:
- Mae'r Fframwaith Presenoldeb (yn yr ysgol) ar gyfer Cymru Gyfan yn becyn cymorth o adnoddau ymarferol a ddefnyddir gan y Gwasanaeth Lles Addysg ac mae'n rhoi safonau a chanllawiau i ymarferwyr er mwyn sicrhau ymarfer mwy cyson ledled Cymru.
- Mae ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi – Canllawiau ar wella lefelau ymgysylltu a phresenoldeb dysgwyr’ yn amlinellu arferion da o ran ffyrdd o wella lefelau ymgysylltu a phresenoldeb dysgwyr, ac yn cyfeirio at ragor o arweiniad ac adnoddau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ‘Canllawiau ar godau presenoldeb yn yr ysgol’.
Ystyriaethau cyfreithiol
Cydnabyddir sefyllfa unigryw teuluoedd sy'n Deithwyr mewn perthynas â phresenoldeb yn yr ysgol gan Adran 444(6) o Ddeddf Addysg 1996. Mae'n rhoi amddiffyniad rhag euogfarn os gall rhiant ddangos:
- eu bod yn ymgymryd â masnach neu fusnes o natur sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt deithio o le i le
- bod y plentyn wedi mynychu'r ysgol fel dysgwr cofrestredig mor rheolaidd ag y caniatâ’r fasnach neu'r busnes
- lle mae plentyn wedi cael ei ben-blwydd yn chwech oed, ei fod wedi bod yn bresennol o leiaf 200 o weithiau (h.y. sesiynau neu hanner diwrnodau) yn ystod y 12 mis blaenorol
Nid diben yr adran hon yw diogelu rhieni sy'n Deithwyr rhag camau cyfreithiol, na rhyddhau rhieni rhag eu dyletswyddau o dan adran 7 o Ddeddf Addysg 1996 sy'n nodi “To cause their child to receive a full-time education suitable to their age, ability and aptitude and any additional learning needs they may have”. Ei diben yw sicrhau bod plant yn cael addysg addas drwy fynychu'r ysgol yn rheolaidd neu fel arall.
Dylid bob amser anelu at sicrhau bod plant a phobl ifanc Sipsiwn, Roma a Theithwyr, yn debyg i bob plentyn a pherson ifanc arall, yn mynychu'r ysgol mor rheolaidd ac mor aml â phosibl. Dylid bod yn bresennol am o leiaf 380 o sesiynau, sy'n cyfateb i 190 diwrnod yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol. Ni ddylid ystyried y 200 o sesiynau a nodir uchod yn rhywbeth arferol.
Mewn achosion lle mae presenoldeb yn yr ysgol yn broblem, dylid ceisio cydbwysedd rhwng:
- yr angen am gamau cyfreithiol mewn achosion unigol
- buddiannau'r plentyn neu'r person ifanc
- mabwysiadu ymagwedd sensitif a chydymdeimladol sy'n cydnabod ffordd o fyw a thraddodiadau diwylliannol y teulu
Gall ysgolion awdurdodi absenoldeb dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr lle maent wedi'u bodloni bod teulu yn mudo ond ei fod yn rhoi arwyddion rhesymol ei fod yn bwriadu dychwelyd. Efallai y bydd yn ddefnyddiol ymgynghori â'r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr ar yr adeg hon. Mae hyn yn cynnwys Sipsiwn a Theithwyr, gan gynnwys teuluoedd syrcas a ffair, sy'n gadael safleoedd a llety gaeaf gyda phob disgwyliad y byddant yn dychwelyd.
Efallai y gall rhai ysgolion o dan yr amgylchiadau hyn gadw mewn cysylltiad â'r plant a'r bobl ifanc drwy waith allgymorth neu ddarparu pecynnau dysgu o bell. Fodd bynnag, ni ddylid ystyried bod gweithgareddau o'r fath yn well na phresenoldeb yn yr ysgol. Gellid hefyd gynnig rhywfaint o hyblygrwydd rhesymol i deuluoedd tra bydd y teulu yn dod o hyd i safle arall. Fodd bynnag, o dan amgylchiadau o'r fath, dylid gwneud pob ymdrech i annog a chynnal presenoldeb yn yr ysgol.
Cyflwynodd Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 y pŵer i ysgolion gofrestru plentyn o gymuned Teithwyr yn ddeuol os gwyddys ei fod yn mynychu ysgol arall. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, gellir bellach gofnodi ei bresenoldeb fel mynychu ‘gweithgaredd addysgol cymeradwy’.
Dylai ysgol lle ceir y prif bresenoldeb ymgymryd â'r cyfrifoldeb am sefydlu'r systemau cyfathrebu priodol â'r darparwr addysgol arall er mwyn sicrhau bod y plentyn neu'r person ifanc yn bresennol pan fydd disgwyl iddynt fod yn bresennol. Am resymau diogelu a rhesymau addysgol, dylai'r cyfrifoldeb i wneud ymholiadau ynglŷn ag unrhyw absenoldeb annisgwyl heb esboniad mewn modd amserol gael ei ysgwyddo gan bob ysgol, yn ystod yr adeg pan fo'r dysgwr yn bresennol.
Os yw plant sy’n Deithwyr wedi'u cofrestru'n ddysgwyr yn benodol mewn ysgol ac y gwyddys eu bod yn bresennol ar safle, boed hynny'n swyddogol neu fel arall, neu mewn tŷ ac nad ydynt yn mynychu'r ysgol, dylid ymchwilio i'r absenoldeb yn yr un ffordd ag a wneir ar gyfer unrhyw blentyn neu berson ifanc arall.
Mae Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael eu diogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 am mai grwpiau ethnig leiafrifol ydynt. Felly maent wedi'u diogelu rhag gwahaniaethu ar sail hil.
Gall plant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr wynebu gwahaniaethu uniongyrchol neu fathau eraill o wahaniaethu ar sail eu hil a/neu eu hethnigrwydd. Efallai y bydd eu cefndir teuluol a'u diwylliant yn arwain at wahaniaethu yn eu herbyn, ac mae profiadau bywyd plant a phobl ifanc yn dangos bod hyn yn digwydd yn aml mewn lleoiadau addysg. Gall gwahaniaethu o'r fath gynnwys:
- bwlio
- aflonyddu
- cam-drin
- trais
- troseddau casineb
Gall hefyd fod ar ffurf:
- iaith hiliol amlwg
- arhau â stereoteipiau niweidiol
- ficroymosodiadau
Er bod unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu yn annerbyniol, yn achos plant a phobl ifanc, gall bwlio ac aflonyddu hiliol gael effaith niweidiol iawn ar:
- llesiant cyffredinol
- presenoldeb yn yr ysgol
- cyrhaeddiad addysgol yn y tymor hwy
Mae Llywodraeth Cymru yn condemnio pob math o fwlio ac aflonyddu. Rydym yn disgwyl i leoliadau addysg ymchwilio i bob honiad o fwlio a hiliaeth. Rydym hefyd yn disgwyl iddynt gymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r mater ac atal ymddygiad o'r fath rhag digwydd eto.
Er gwaethaf gwaith gan ysgolion a gwasanaethau eraill, yn ogystal â mentrau lleol a mentrau gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae bwlio mewn amgylcheddau all-lein ac ar-lein yn dal i achosi pryder. Mae hyn yn effeithio ar blant, pobl ifanc, eu teuluoedd a'u cymunedau.
Canfuwyd bod y Deyrnas Unedig yn un o'r gwledydd gwaethaf o ran boddhad plant a phobl ifanc gyda bywyd. Mae ‘The Good Childhood Report’ Cymdeithas y Plant yn dangos y gall ymddygiad bwlio fod yn arwydd bod anfanteision eraill ym mywyd plentyn neu berson ifanc, sy'n adlewyrchu boddhad isel â bywyd yn gyffredinol.
Gall plant a phobl ifanc sy'n bwlio eraill gael ystod o gymhellion, gan gynnwys rhagfarn yn erbyn grwpiau penodol mewn cymdeithas yn fwy cyffredinol. Yn ôl canllawiau gwrth-fwlio Llywodraeth Cymru ‘Hawliau, parch, cydraddoldeb: Canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir' mae'n bosibl bod amrywiaeth eang o ffactorau wedi llywio ac wedi dylanwadu ar ragfarn o'r fath. Mae’r rhain yn cynnwys:
- y cyfryngau
- gwerthoedd cymunedol a/neu deuluol
- profiad personol blaenorol
Dywedodd rhai dysgwyr o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr wrthym nad oeddent wedi wynebu bwlio oherwydd eu hethnigrwydd a'u diwylliant. Fodd bynnag, dywedodd llawer o blant a phobl ifanc eraill eu bod wedi ei wynebu, yn enwedig galw enwau.
“Rwyf wedi cael fy ngalw’n enwau yn yr ysgol fel ‘Gypo’ a ‘Pikey’, ac rwy'n casáu hynny.”
“Dim bwlio hyd y cofia i. Er mwyn mynd i'r afael â bwlio dylai ysgolion ddilyn eu polisïau ar gyfer pob achos sy'n cael ei adrodd”.
“Mae pobl weithiau yn ein bwlio drwy ddefnyddio geiriau fel ‘Czechy’ ac ati. Mae'n aml yn ymwneud â'n diwylliant a'n gwlad. Does dim ots gen i am y bwlio am fy mod i'n falch o ble rwy'n dod a phan fydda i'n dangos nad oes ots gen i, mae'n stopio. Disgyblion yn fy ngrŵp blwyddyn sy'n gyfrifol am hyn yn bennaf.”
“Dim Bwlio. Fyddwn i ddim yn goddef unrhyw un yn fy mwlio. Hefyd, dyw pobl ddim yn ein bwlio ni. Maen nhw'n ofni Teithwyr Gwyddelig.”
“Dw i erioed wedi cael fy mwlio. Rwy'n credu y dylai ysgolion wneud mwy a rhoi cosbau llymach am fwlio a bod yn hiliol.”
Gall effaith bwlio ac aflonyddu arwain at ddial ar ffurf ymladd yn gorfforol a all arwain at waharddiadau o'r ysgol.
Gweithredu gan Lywodraeth Cymru
Mae dileu hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol wedi bod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru erioed. Dangosodd pandemig COVID-19 yn glir effaith andwyol anghymesur y pandemig ar grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Ym mis Mawrth 2020, gofynnodd y Prif Weinidog am i waith brys gael ei wneud. Arweiniodd hyn at ddatblygu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022. Wedi'i adeiladu ar werthoedd gwrth-hiliaeth, mae'n galw am Gymru wirioneddol wrth-hiliol erbyn 2030.
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliaeth, a gafodd ei gyd-awduro â chymunedau ethnig leiafrifol, gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr, yn cynnwys nodau, camau gweithredu, terfynau amser, a chanlyniadau diriaethol a fydd yn ein helpu i symud oddi wrth y rhethreg ar gydraddoldeb hiliol a sicrhau ein bod yn cymryd camau gweithredu ystyrlon.
Y diffiniadau o hiliaeth a digwyddiadau hiliol a ddefnyddir yng Nghymru ac ym mhob rhan o'r DU yw'r rhai a gynigiwyd yn yr adroddiad yn Ymchwiliad Stephen Lawrence yn 1999.
- Diffiniad o hiliaeth: “Conduct or words or practices which disadvantage or advantage people because of their colour, culture or ethnic origin.”
- Diffiniad o ddigwyddiad hiliol: “Any incident which is perceived to be racist by the victim or any other person.”
Roedd Ymchwiliad Macpherson i farwolaeth Stephen Lawrence yn cynnwys argymhellion ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion, ynglŷn â sut y dylid ymdrin â hiliaeth. Mae’r adroddiad llawn, sy’n cynnwys argymhellion ym Mhennod 47, ar gael ar wefan Llywodraeth y DU. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Senedd y DU yn yr adolygiad ‘The Macpherson report twenty two years on’.
Mae cyfrifoldeb arnom i gefnogi a helpu'r cymunedau sydd wedi dioddef hiliaeth a mathau eraill o wahaniaethu. Am y rheswm hwn, mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn nodi'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arno.
Mae'n bwysig hefyd bod ysgolion yn cydnabod yr anghydraddoldebau ehangach a wynebir gan gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr o ran:
- iechyd
- llety
- statws economaidd-gymdeithasol
Mae anghenion iechyd plant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn rhan o hynny. Mae'r 'Fframwaith ar Sefydlu Dull Gweithredu Ysgol Gyfan o Ymdrin â Llesiant Emosiynol a Meddyliol' yn adlewyrchu'r angen i bob ysgol ystyried data perthnasol i lywio ymarfer. Mae data perthnasol yn cynnwys adroddiadau'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion. Dylai ysgolion gynnwys anghenion penodol plant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr wrth ddatblygu cynlluniau gweithredu i wrthsefyll gwahaniaethu a rhoi cymorth i'r dysgwyr hyn.
Cofnodi digwyddiadau hiliol mewn lleoliadau addysg
Fel y'i nodwyd yn ein canllawiau ‘Hawliau, parch, cydraddoldeb: Canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir' disgwylir i leoliadau addysg gofnodi a monitro pob achos o fwlio yn eu lleoliad. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r data a'r wybodaeth a gesglir gan ysgolion gael eu defnyddio i nodi gwelliannau ac asesu eu cynnydd fel rhan o hunanwerthusiad.
Yr ysgol unigol sy'n penderfynu pa ddata a gwybodaeth y mae'n eu casglu yng nghyd-destun y materion penodol sy'n codi yn yr ysgol honno a thrwy gydymffurfio â chyfraith diogelu data. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol ystyried sut y gellid defnyddio data ar lefel leol i nodi gwelliannau a chyfleoedd i gydweithio yn eu hardal.
Mae'r ffordd fwyaf effeithiol o gofnodi'r data hyn yn cynnwys manylion ynglŷn â natur neu fath o fwlio a/neu aflonyddu. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion ystyried, wrth gofnodi digwyddiadau o fwlio hiliol, y dylai fod categorïau penodol ac ar wahân i nodi sail bwlio hiliol, er enghraifft ar sail treftadaeth grefyddol, ethnigrwydd megis Sipsiwn, Roma neu Deithwyr, neu ar sail statws ffoadur.
Mae bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn yn aml yn cael ei gymell gan elyniaeth sy'n seiliedig ar hil, crefydd neu ddiwylliant gwirioneddol neu ganfyddedig rhywun. Wrth wraidd bwlio o'r fath mae'r farn bod rhai pobl yn wahanol neu'n fath ‘arall’ o bobl. Drwy eu ‘haralleiddio’ drwy sylwadau a sarhad daw'n haws gweld unrhyw grŵp fel grŵp ar wahân a'i ddad-ddyneiddio.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n cryfhau ei chanllawiau statudol ar wrthfwlio i ysgolion ‘Hawliau, parch, cydraddoldeb'. Bydd y canllawiau wedi'u diweddaru yn rhoi arweiniad penodol i leoliadau addysg ar fwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn a rhoi cyngor i ymarferwyr ynglŷn â sut i ymgysylltu'n effeithiol â rhieni a gofalwyr ar yr agenda hon.
Mae rôl ysgolion i helpu pob dysgwr i deimlo ei fod yn perthyn o gryn werth i greu cymdeithas gydlynus. Adlewyrchir hyn yn y ffaith bod ‘hawliau dynol’ ac ‘amrywiaeth’ yn themâu trawsgwricwlaidd yn y Cwricwlwm i Gymru. Nid yw plant ifanc iawn yn gweld unrhyw wahaniaeth nes eu bod yn dysgu neu'n mabwysiadu agweddau a rhagfarnau a all fod yn bresennol o'u hamgylch.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion weithio gyda dysgwyr, teuluoedd a chymunedau er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael y cymorth cywir, ar yr adeg gywir. Bydd hyn yn sicrhau'r canlyniadau gorau i'r plentyn neu'r person ifanc. O dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, mae rhwymedigaeth ar ysgolion i sicrhau y caiff camau gweithredu priodol ac effeithiol eu cymryd i ddileu neu leihau anfanteision a wynebir gan ddysgwyr sydd â nodweddion gwarchodedig.
Cyfathrebu â theuluoedd a chymunedau
Yr her
Ceir nifer o heriau a all effeithio ar gyfathrebu rhwng ysgolion a theuluoedd a chymunedau. Nid yw'r rhain yn unigryw i gymunedau Sipsiwn, Roma na Theithwyr ond gallant gael effaith ddifrifol ar ba mor hawdd ydyw i gyfathrebu â nhw.
Yr allwedd i gyfathrebu da yw meithrin cydberthynas gadarn rhwng ysgolion a chymunedau, a meithrin dealltwriaeth o'r heriau a'r rhwystrau y gall cymuned eu hwynebu. Gall y rhain gynnwys heriau a rhwystrau sefydliadol a/neu systemig. Drwy ddatblygu'r ddealltwriaeth hon, gall ymarferwyr addysg gael darlun llawn o'r cymorth sydd ei angen ar blentyn neu berson ifanc o bosibl er mwyn sicrhau tegwch mewn addysg.
Mae cryn dipyn o arbenigedd ac ymarfer effeithiol ledled Cymru ond mae'n werth amlinellu rhai o'r heriau.
O ran teuluoedd sy'n Sipsiwn neu'n Deithwyr sy'n byw ar safle, p'un a yw'n safle sy'n eiddo i'r awdurdod lleol neu'n safle preifat, efallai y bydd heriau o ran sicrhau cysylltedd â'r rhyngrwyd, a all wneud cysylltu drwy e-bost yn anodd. Wrth gyfathrebu â theuluoedd, efallai y bydd angen ystyried lefelau isel o lythrennedd.
O ran plant o gymunedau Roma'r UE mae'n bosibl bod her ychwanegol sy'n gysylltiedig ag iaith. Efallai nad yw plant yn gyfarwydd â'r Gymraeg na'r Saesneg, ac nad ydynt wedi cael addysg ffurfiol o bosibl yn eu gwlad enedigol. Felly, bydd angen iddynt gael cymorth i ddysgu’r Gymraeg neu’r Saesneg er mwyn gallu dilyn y cwricwlwm. Ar hyn o bryd, mae Gwasanaethau Cyrhaeddiad Disgyblion o Gymunedau Ethnig Leiafrifol awdurdodau lleol yn cynnig help a chymorth i ddysgwyr ac ysgolion unigol, er mwyn eu helpu i gaffael iaith.
Dywedodd plant a phobl ifanc wrthym:
“Mae’r wybodaeth yn dod trwy negeseuon e-bost ond mae'n well gan fy rhieni gael galwad ffôn.”
“Mae'n well gan fy rhieni gael galwad ffôn. Maen nhw'n deall pethau'n well na thrwy neges destun am fod modd cael esboniad.”
“Mae’r ysgol yn anfon neges destun (methu â’i darllen) neu mae’n rhaid i fi ddweud wrth fy nheulu.
Ymwybyddiaeth ddiwylliannol a dathlu diwylliant
Yr her
Mae agweddau plant a phobl ifanc tuag at gydnabod a dathlu diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn amrywio, ond roeddent o blaid dathlu eu diwylliant ar y cyfan. Dywedodd plant a phobl ifanc wrthym:
“Hoffwn weld mwy o wersi ar yr holl ddiwylliannau a'r ffordd y mae pobl yn byw.”
“Er mwyn helpu i ddathlu eu diwylliant, rhaid bod yn ofalus yn yr ysgol nad oes neb yn pigo ar blant sy'n Sipiwn. Dylid dathlu ein hanes neu ein bywyd mewn ffordd gadarnhaol.”
“Dylai athrawon yn yr ysgol ddeall fy niwylliant yn well – pethau da a drwg, y pethau i'w gwneud a pheidio â'u gwneud.”
“Rwy'n teimlo nad yw'r ysgol yn dathlu fy niwylliant. Gallai ysgolion ei gwneud yn haws i'r rhai sy'n teithio a chynnwys hanes Sipsiwn a Theithwyr mewn gwersi.”
“Mae fy ysgol yn cydnabod fy niwylliant ac mae'r staff yn cymryd diddordeb. Rwy'n teimlo y gallai'r ysgol wneud mwy i'n deall.
Gweithredu gan Lywodraeth Cymru
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei ddysgu ym mhob ysgol o fis Medi 2023. Un o bedwar diben y cwricwlwm yw bod plant a phobl ifanc yn datblygu'n ddinasyddion moesegol a gwybodus am Gymru a'r byd. Mae meithrin dealltwriaeth o ddiwylliannau gwahanol mewn ysgolion yn rhan allweddol o hyn. Bydd gwella ymwybyddiaeth pob dysgwr o ddiwylliannau yn gwella ei barodrwydd i dderbyn a chynnwys eraill. Gall hyn yn ei dro leihau nifer yr achosion o fwlio, a all fod yn rhwystr i ddysgu.
Mae Cymru wedi arwain y ffordd fel y rhan gyntaf o'r DU i'w gwneud yn orfodol i addysgu hanes a phrofiadau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y cwricwlwm. Bwriedir i addysgu o'r fath sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn:
- meithrin dealltwriaeth o'u hunaniaeth eu hunain a hunaniaeth eraill
- creu cysylltiadau â phobl, lleoedd, a hanesion yn eu cymunedau yn ogystal ag mewn rhannau eraill o Gymru, y DU a thros y byd
Mae'n tanlinellu pwysigrwydd addysgu am brofiadau a chyfraniadau pobloedd ethnig leiafrifol, fel rhan o stori Cymru ym mhob rhan o'r cwricwlwm.
Cwricwlwm i Gymru
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn ddatganiad clir o'r hyn sy'n bwysig mewn addysg eang a chytbwys i bob plentyn a pherson ifanc 3 i 16 oed. Bu anhyblygrwydd canfyddedig y cwricwlwm cenedlaethol blaenorol yn aml yn rhwystr i gael addysg i rai cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cynnig mwy o hyblygrwydd i ysgolion a lleoliadau addysg ymateb i'r gymuned leol.
O dan y Cwricwlwm i Gymru, mae cwricwlwm ysgol neu leoliad yn cynnwys popeth y mae dysgwr yn ei brofi wrth ddilyn y pedwar diben. Yn y pen draw, dylai gefnogi pob un o'r dysgwyr i ddod:
- yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu hoes
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
- yn ddinasyddion moesegol a gwybodus am Gymru a’r byd
- yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Mae hyn yn rhoi ffocws i athrawon, plant a phobl ifanc ynglŷn â pha sgiliau ddylai fod gan blentyn neu berson ifanc yn y gwahanol feysydd dysgu. Mae hyn yn cynnwys manteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa a chyflogaeth gwahanol, yn y dyfodol, a gefnogir gan Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith. Dylai plant a phobl ifanc gael eu cefnogi i wneud cynnydd ar hyd eu llwybr dysgu unigol er mwyn cyflawni eu dyheadau a'u huchelgeisiau eu hunain.
Cafodd fframwaith cenedlaethol y Cwricwlwm i Gymru ei ddatblygu i gynnwys pob dysgwr. Bwriedir iddo hefyd helpu ysgolion i gynllunio cwricwla ysgol cynhwysol. Dylai cwricwlwm ysgol godi dyheadau pob dysgwr. Dylai ystyried sut y caiff pob dysgwr ei gefnogi i gyflawni'r pedwar diben a gwneud cynnydd.
Mae hyn yn hanfodol er mwyn i blant a phobl ifanc:
- chwarae rhan weithredol yn eu cymuned ac mewn cymdeithas yn fwy cyffredinol
- ffynnu mewn byd cynyddol gymhleth
Dylai ysgolion a lleoliadau addysg fod yn ymwybodol o anghenion ac amgylchiadau eu holl ddysgwyr wrth gynllunio eu cwricwlwm eu hunain. Dylent ystyried cyfle cyfartal wrth roi cymorth ac ymyriadau ar waith neu wneud addasiadau rhesymol.
Mae canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru ar alluogi dysgu yn helpu ysgolion i gynllunio cwricwlwm sy'n briodol i bob dysgwr a'i roi ar waith.
Y Cwricwlwm: gwerthfawrogi amrywiaeth
Rydym yn cydnabod ei bod yn hollbwysig bod ein system addysg yn paratoi pobl ifanc i ddeall a pharchu eu hanes, eu diwylliannau a'u traddodiadau eu hunain a rhai sy'n eiddo i eraill. Dyna pam mae'r Cwricwlwm i Gymru wedi cael ei gynllunio i adlewyrchu gwir amrywiaeth ein poblogaeth ac i helpu plant a phobl ifanc i ddeall sut mae'r amrywiaeth hon wedi creu'r Gymru fodern.
Mae amrywiaeth yn thema drawsgwricwlaidd yn y Cwricwlwm i Gymru ac mae'r canllawiau yn cynnwys gwybodaeth am ddatblygu cwricwlwm sy'n hyrwyddo dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o amrywiaeth.
Y Cwricwlwm: galluogi dysgu
Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yr hawl i gael ei werthfawrogi a'i gefnogi i wneud cynnydd ar hyd ei daith dysgu drwy brofiadau sy'n bwysig ac yn ystyrlon iddo.
Mae fframwaith Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru yn nodi'n glir y dylai ymarferwyr fabwysiadu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dysgwr. Mae hyn yn cynnwys cydweithio â theuluoedd a phartneriaid eraill sy'n ymwneud â chynnydd y dysgwr, a all gefnogi datblygiad cyfannol. Dylent hefyd greu cysylltiadau cadarn rhwng cartref y dysgwr a'r gymuned ehangach. Mae hyn yn cryfhau ymdeimlad o berthyn y dysgwr drwy adeiladu ar brofiadau’r gorffennol a’r presennol.
Dylai'r cwricwlwm werthfawrogi a pharchu cynwysoldeb a hunaniaeth dysgwyr o fewn eu cymuned ac yn y Gymru amlddiwylliannol ehangach. Bydd hyn yn hyrwyddo hunaniaeth unigryw'r Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau 'Galluogi dysgu'.
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
Yr her
Ystyriwyd bod rhai agweddau ar y cwricwlwm yn mynd yn groes i werthoedd rhai cymunedau a diwylliannau, ond ceir gwahaniaethau mawr oherwydd natur amrywiol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae'r heriau hyn wedi cael eu nodi'n rhesymau dros dynnu plant a phobl ifanc o addysg brif ffrwd.
Esboniodd darparwr cymorth mewn Gwasanaeth Addysg i Deithwyr fod angen trin sgyrsiau ynglŷn â rhyw, rhywioldeb neu gydberthnasau yn ofalus: “Nid yw trafod rhyw yn sgwrs ddiwylliannol briodol i'w chynnal fel benyw â bechgyn o'r gymuned Teithwyr. Byddai hyn yn destun gofid i rieni'r plant roeddwn yn eu cefnogi.”
Mae rhieni hefyd wedi codi pryderon gyda ni:
“Rydym yn addysgu ein cwricwlwm ein hunain ar gydberthnasau rhywiol i'n merched ein hunain. Gofynnais i'r ysgol beidio â'i haddysgu.”
Dywedodd pobl ifanc o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr wrthym:
“Rwy'n poeni am fod mewn gwersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Dyw fy nheulu ddim am i mi fod yn rhan o'r gwersi hyn ac mae'n rhaid i mi adael y gwersi hyn. Mae'n gwneud i mi deimlo'n anghyfforddus wrth sôn am y pethau hyn, yn enwedig o flaen athrawon sy ddim yn fy ’nabod i. Dwi ddim yn credu y dylid ei addysgu yn yr ysgol – dim ond cyn priodi y bydd angen i mi wybod y pethau hyn. Daw'r wybodaeth gan fy mam a fy modrybedd.”
“Dw i ddim yn cael mynd i'r gwersi hyn. Rwy'n credu bod gwersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn afiach. Dyw'r pynciau hyn ddim yn cael eu trafod gartref.”
“Byddwn yn trafod pethau ond gydag aelodau o'r teulu ac nid o flaen dosbarth cyfan na bechgyn, gan nad yw hynny'n briodol.”
“Dwi ddim yn meddwl y dylai Sipsiwn/Teithwyr drafod y pethau hyn mor ifanc. Beth sy'n fy mhoeni i yw y gall effeithio ar eich bywyd? Rwy'n credu bod angen i chi fod yn 18 oed cyn cael gwybod. Rwy'n meddwl ei bod yn afiach. Rhieni ddylai roi'r wybodaeth pan ddywedir wrth bobl ifanc – bechgyn gyda'u tad a merched gyda'u mam.”
“Rwy'n credu y bydda i'n cael caniatâd, ond dwi ddim yn sgŵr. Rwyf am ddysgu am gydberthnasau am y bydda i mewn perthynas un diwrnod ac mae angen i mi wybod beth i'w wneud.”
“Rwy'n credu fy mod i'n cael dysgu rhai pethau, ond dim ond mewn dosbarth gyda merched eraill yn unig. Fyddwn i ddim yn cael gwrando pe bai unrhyw fechgyn yno. Mae fy mam a fy chwiorydd yn sôn wrtha i am newidiadau gartref.
Rhannwyd ymatebion cadarnhaol i Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb hefyd:
“Rwy'n mwynhau mynd i wersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a dweud y gwir, am fod y rhan fwyaf o fy ffrindiau yno a fy mod i'n teimlo bod awyrgylch mwy hamddenol ac nad gwers ffurfiol yw hi. Does neb yn trafod y pwnc hwnnw â mi y tu allan i'r ysgol.”
“Fe ddylen ni drafod pethau yn yr ysgol fel y bydd pobl yn gwybod sut i fod yn ddiogel ac atal pobl rhag ymosod yn rhywiol ar eraill.
Gweithredu gan Lywodraeth Cymru
Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn un o themâu trawsgwricwlaidd gorfodol y Cwricwlwm i Gymru. Mae wedi'i chynllunio i ddiogelu pob plentyn a pherson ifanc, gan helpu i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau a fydd o gymorth i'w diogelu drwy gydol eu bywyd. Mae hyn yn hollbwysig i greu cymdeithas sy'n trin eraill â dealltwriaeth ac empathi, ni waeth beth fo eu hethnigrwydd, cefndir economaidd-gymdeithasol, cefndir, anabledd, rhyw, rhywedd, neu rywioldeb.
Dylai fod gan bobl ifanc yr hawl i gael gwybodaeth sy'n eu cadw'n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys dysgu am:
- gydberthnasau iach
- cadw'n ddiogel ar-lein ac all-lein
- bod yn ddigon hyderus i godi materion gydag oedolion cyfrifol
Mae'r adran Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys:
- Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb – yr hyn a gaiff ei addysgu ac ar ba gam
- canllawiau statudol – mae'r rhain yn helpu ysgolion i ddatblygu eu cwricwlwm ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy'n briodol yn ddatblygiadol
Mae gofynion cyfreithiol sy'n ei gwneud yn ofynnol i Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fod yn briodol yn ddatblygiadol. Mae hyn yn cynnwys yr adnoddau y mae ysgolion a lleoliadau addysg yn eu defnyddio i gyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Amlinellir y gofyniad hwn yn y canllawiau statudol ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
Mae'n ofynnol hefyd i Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fod yn wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ysgolion a lleoliadau ddarparu gwybodaeth ffeithiol. O ran cwestiynau ynglŷn â gwerthoedd, rhaid rhoi amrywiaeth o safbwyntiau ar bwnc penodol, a arddelir yn gyffredinol mewn cymdeithas.
Cynnwys rhieni a gofalwyr: Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
Mae canllawiau statudol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn nodi'n glir ein bod yn disgwyl i ysgolion a lleoliadau weithio'n agos gyda rhieni a gofalwyr i wneud yn siŵr eu bod yn deall yr hyn y mae eu plant yn ei ddysgu. Dylai ysgolion a lleoliadau:
- fod â llinellau cyfathrebu clir o ran Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
- ymgysylltu â dysgwyr, rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach o ran dysgu ac addysgu ym maes Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb gan roi cyfle i ofyn cwestiynau a chael eglurder
Mae Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb wedi cael ei gyhoeddi i roi eglurder a thryloywder i rieni a gofalwyr ynglŷn â'r hyn y bydd eu plant yn ei ddysgu a phryd.
Mae hwn yn faes lle mae cyfathrebu ar gam cynnar ac yn barhaus, yn enwedig â rhieni a gofalwyr o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr, yn hanfodol er mwyn sicrhau y gellir ymdrin â phryderon teuluoedd lle bynnag y bo modd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid i sicrhau bod ysgolion yn cael eu helpu i gyflwyno'r maes sensitif hwn o'r cwricwlwm.
Caiff adnodd i helpu ysgolion i gyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ei ddatblygu yn 2024. Bydd yn rhoi cymorth ymarferol y gall ysgolion a lleoliadau ei ddefnyddio wrth gynllunio cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy'n gynhwysol i blant a phobl ifanc o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Person penodedig neu oedolyn y gellir ymddiried ynddo yn yr ysgol
Yr her
Ochr yn ochr â chyfathrebu da rhwng ysgolion a chymunedau, dywedodd llawer o ddysgwyr wrthym pa mor bwysig ydyw bod rhywun yn yr ysgol sy'n deall eu diwylliant. Maent am gael rhywun y gallant droi ato os bydd ganddynt broblem.
Lle mae Gwasanaethau Addysg i Deithwyr neu berson penodedig yn yr ysgol i gefnogi plant a phobl ifanc, mae cysylltiadau cadarn wedi cael eu creu â'r cymunedau. Dyma rai o safbwyntiau'r dysgwyr ynglŷn â pha unigolion y maent yn ymddiried ynddynt ac yn siarad â hwy yn eu hysgol neu’u lleoliad os bydd angen cymorth arnynt:
“Dwi ddim yn ’nabod neb mewn gwirionedd, felly os na fydd y person o’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr i mewn, dwi ddim yn gwybod sut i archebu cinio neu rwy'n mynd ar goll. Fyddai neb gen i i siarad â nhw drwy'r dydd.”
“Gall fy nheulu siarad â thîm y Gwasanaeth Addysg i Deithwyr os byddan nhw'n poeni am unrhyw beth.”
“Rwyf wedi setlo i mewn i Flwyddyn 7 yn iawn. Roedd cael Gwasanaeth Addysg i Deithwyr yn yr ysgol yn ei gwneud yn haws am fod rhywun y gallwn droi ato ac y gallai fy mam ei ffonio.
Cynhwysiant digidol
Yr her
Yn ystod pandemig COVID-19, nid oedd dyfeisiau digidol addas na chysylltedd ar gael yng nghartrefi llawer o blant a phobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i'w helpu i ddysgu. Hefyd, nid oedd man penodol ar gael i lawer lle roeddent yn gallu gweithio.
Tanlinellodd hyn pa mor bwysig ydyw bod ysgolion a lleoliadau’n cynnig man lle y gall plant weithio yn ystod amser cinio, amser egwyl neu mewn clwb ar ôl ysgol, lle y bo modd.
Efallai y bydd rhai plant a phobl ifanc yn wynebu problemau gyda chysylltedd â'r rhyngrwyd neu efallai na allant fforddio'r data, hyd yn oed os oes ganddynt ddyfais. Mae'n well gan lawer o blant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr beidio â gweithio ar liniaduron. Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch technoleg, dywedodd plant a phobl ifanc wrthym:
“Mae gen i liniadur gartref – un a roddodd yr ysgol i mi yn ystod y cyfnod clo.”
“Mae angen help gyda thechnoleg arna i, does dim cysylltiad â'r rhyngrwyd gartref na gliniadur.”
“Dw i ddim yn hoffi defnyddio technoleg. Mae'n cymryd gormod o amser i mi.”
“Mae'n well gen i ddefnyddio technoleg wrth ddysgu, er nad yw ein hysgol bob amser yn rhoi amser i ni ddefnyddio'r cyfleusterau TGCh. Rwy'n hoffi gwneud fy ngwaith ar gyfrifiadur am ei bod yn gwneud tasgau yn haws ac mae'n fwy o hwyl na defnyddio papurau.”
“Mae'n well gen i ysgrifennu â llaw yn lle defnyddio'r gliniadur.
Gweithredu gan Lywodraeth Cymru
Er mwyn sicrhau bod gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru fynediad teg at adnoddau ar-lein i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ystod o wasanaethau ac adnoddau dysgu digidol dwyieithog a ariennir yn ganolog drwy Hwb. Hwb yw'r sianel ddigidol strategol sy'n helpu i gyflwyno'r cwricwlwm yng Nghymru ac mae'n elfen allweddol o raglen Technoleg Addysg Hwb ehangach Llywodraeth Cymru.
Mae gan bob ymarferydd a dysgwr yng Nghymru fynediad at nifer o wasanaethau, gan gynnwys:
- Google Workspace for Education
- Microsoft Office 365
- Just2 easy
- Adobe Spark
Mae'r gwasanaethau hyn yn rhoi mynediad i leoliadau addysg a dysgwyr at nifer o adnoddau pwerus sy'n effeithiol, yn syml i'w defnyddio ac yn cynnig amgylchedd diogel i ysgolion a lleoliadau. Gall ymarferwyr a dysgwyr rannu syniadau'n hyderus a mabwysiadu dull cydweithredol o ddysgu ac addysgu. Mae modd cyrchu Hwb yn unrhyw le, unrhyw bryd o ddyfais sydd wedi'i chysylltu â'r rhyngrwyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein. Drwy ardal Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb, rydym yn cefnogi cadernid digidol plant a phobl ifanc, teuluoedd, ymarferwyr addysg, gweithwyr proffesiynol a llywodraethwyr. Rydym yn darparu'r adnoddau, yr wybodaeth, yr hyfforddiant a'r canllawiau diweddaraf iddynt, er mwyn eu gwneud yn fwy gwydn yn ddigidol.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i:
- helpu ysgolion i fabwysiadu ac ymgorffori dysgu digidol yn yr ystafell ddosbarth ymhellach
- parhau i symleiddio a safoni'r ffordd y cyflwynir gwasanaethau digidol a TGCh yng nghyd-destun ysgolion, gan gynnwys cymorth i ddysgu o bell
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y defnydd o ddyfeisiau digidol yn rhan bwysig o'n bywyd beunyddiol. Roedd hyn yn allweddol i gynnwys cymhwysedd digidol fel sgìl trawsgwricwlaidd wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru.
Addysg ddewisol yn y cartref
Yr her
Mae teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yn fwy tebygol o ddewis addysgu eu plant a'u pobl ifanc yn y cartref am amrywiol resymau Ymhlith y rhain mae'r heriau a nodwyd yn y canllawiau hyn.
Gweithredu gan Lywodraeth Cymru
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol ar Addysg Ddewisol yn y Cartref ym mis Mai 2023.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru lawlyfr i addysgwyr yn y cartref ym mis Mehefin 2023.
Gwahardd o'r ysgol
Yr her
Nododd ymchwil a wnaed wrth ddatblygu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ar gyfer y flwyddyn o fis Medi 2019 i fis Awst 2020, mai dysgwyr â chefndir Teithwyr ethnig oedd â'r gyfradd uchaf o waharddiadau o'r ysgol am gyfnod penodol (5 diwrnod neu lai). Roedd cyfraddau uwch o waharddiadau o'r ysgol am gyfnod penodol o 5 diwrnod neu lai yn 2019 i 2020 ymhlith dysgwyr o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr nag unrhyw grwpiau ethnig eraill. Fodd bynnag, nodwch nad oes gennym ddata ar gefndir ethnig pob dysgwr. Mae'n well gan rai dysgwyr beidio â rhoi'r wybodaeth ac, yn achos rhai dysgwyr, ni chafwyd yr wybodaeth honno (Llywodraeth Cymru, 2021b)
Gweithredu gan Lywodraeth Cymru
Mewn ymateb i'r data hyn a data'r flwyddyn ddilynol ar gyfer 2020 i 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau canllawiau ar Wahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion mewn perthynas â dysgwyr sy'n cael eu gwahardd yn barhaol neu dros dro ar raddfa anghymesur.
Bydd data yn parhau i gael eu tynnu o ystadegau swyddogol cyhoeddedig Llywodraeth Cymru ar waharddiadau parhaol a chyfnod penodol o ysgolion. Mae’r rhain yn cynnwys data ar wahardd yn ôl cefndir ethnig.
Ceir rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar waharddiadau o'r ysgol yn ‘Gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol o ysgolion’.
Cymorth ariannol a gwisg ysgol
Yr her
Gall fod yn heriol i lawer o rieni a gofalwyr, ac nid rheini o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn unig, dalu am gost anfon eu plentyn i'r ysgol. Fodd bynnag, efallai na fydd teuluoedd o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn gwybod sut i gael y cymorth sydd ar gael iddynt, yn enwedig os bydd systemau yn wahanol rhwng awdurdodau lleol.
Dywedodd rhanddeiliaid yn y gymuned wrthym eu bod yn credu bod angen i ysgolion a lleoliadau godi ymwybyddiaeth o'r grantiau sydd ar gael, er enghraifft grantiau i helpu gyda chost gwisg ysgol, a rhoi'r wybodaeth hon i rieni a gofalwyr. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym hefyd fod angen i ysgolion gynnig mwy o hyblygrwydd ynglŷn â gwisg ysgol.
Ar gyfer teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr, gall fod yn heriol prynu gwisg ysgol lle mae plentyn wedi trosglwyddo o un ysgol neu wedi bod yn teithio ac wedi tyfu nes bod y wisg ysgol yn rhy fach. Efallai na all teuluoedd – neu efallai na fyddant yn dymuno – prynu gwisg newydd os na fydd y plentyn yn mynychu ysgol benodol yn hir.
Mae llawer o ysgolion sy'n cefnogi teuluoedd yn dda wedi rhannu eu bod yn sicrhau eu bod yn codi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd ac yn rhoi cymorth i gwblhau ffurflenni. Dylid ystyried rhoi cymorth gydag unrhyw brosesau gwneud cais.
Bydd yr wybodaeth ganlynol yn helpu i nodi'r grantiau sydd ar gael i helpu gyda chost gwisg ysgol, dillad chwaraeon a chostau eraill sy'n gysylltiedig ag anfon plentyn i'r ysgol.
Gweithredu gan Lywodraeth Cymru: Grant Hanfodion Ysgol (Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn flaenorol)
Efallai y bydd teuluoedd yn gymwys i gael cymorth i brynu gwisg ysgol, dillad chwaraeon, bagiau ysgol, deunyddiau ysgrifennu a chyfarpar arall, sy'n galluogi plant i fynychu'r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â'u cyfoedion.
Gall plant y mae eu teuluoedd ar incwm isel ac yn gymwys i gael budd-daliadau penodol (sy'n gysylltiedig â meini prawf cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim) a'r rhai heb hawl i gyllid cyhoeddus (gan gynnwys ceiswyr lloches) wneud cais am y grant Grant Hanfodion Ysgol.
Gall teuluoedd cymwys gyflwyno cais os oes ganddynt blentyn yn:
- yr ysgol gynradd o'r dosbarth derbyn i Flwyddyn 6
- yr ysgol uwchradd o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11
Mae pob plentyn sy'n derbyn gofal yn gymwys i gael y grant, p'un a yw'n cael prydau ysgol am ddim ai peidio. Nid yw dysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau diogelwch trosiannol yn gymwys i gael y cyllid hwn. Dim ond unwaith fesul plentyn, fesul blwyddyn ysgol y gall teuluoedd hawlio'r grant.
Efallai y bydd angen cymorth ar deuluoedd i gael gafael ar y grant hwn. Felly dylid ystyried rhoi cymorth iddynt gyda'r broses gwneud cais.
Gweithredu gan Lywodraeth Cymru: cost y diwrnod ysgol
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys cost y diwrnod ysgol fel blaenoriaeth allweddol. Mae'n fater pwysig i lawer o deuluoedd ledled Cymru. Comisiynodd Llywodraeth Cymru sefydliad yn y trydydd sector, Plant yng Nghymru, i lunio cyfres o ganllawiau ar Bris Tlodi Disgyblion i ysgolion/ Maent yn ymdrin ag agweddau allweddol ar gost y diwrnod ysgol, gan gynnwys dulliau ymarferol o godi ymwybyddiaeth o dlodi a sut mae'n effeithio ar ddysgwyr pan fyddant yn mynychu'r ysgol. Rydym yn annog ysgolion a lleoliadau i'w defnyddio.
Ochr yn ochr â'i waith uniongyrchol gydag ysgolion, datblygodd Plant yng Nghymru daflenni ffeithiau yn amlinellu sut y gall ysgolion helpu eu dysgwyr mewn ffyrdd ymarferol, syml drwy leihau'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi. Mae Plant yng Nghymru hefyd wedi cyhoeddi Pris Tlodi Disgyblion: canllaw i lywodraethwyr ysgolion. Mae’r canllaw hwn yn helpu holl lywodraethwyr ysgolion i gefnogi eu hysgolion i leihau stigma tlodi. Mae’r canllawiau ar gael ar Hwb.
Fel rhan o'r broses ac yn unol ag arfer gorau, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynghori ysgolion i ystyried lleisiau eu dysgwyr ac yn eu hannog i ddefnyddio adnoddau Siarter ar gyfer Newid y Comisiynydd Plant. Cafodd y rhain eu datblygu i helpu lleoliadau addysg i leihau costau i deuluoedd. Mae'r adnoddau hyn yn cynnwys “adnodd Cofia Ceri”, sy'n galluogi plant, pobl ifanc, ac oedolion i gymryd rhan i leihau costau i deuluoedd yng nghymuned eu hysgol.
Gweithredu gan Lywodraeth Cymru: Gwisg ysgol
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol ar wisg ysgol ym mis Mai 2023, er mwyn rhoi mwy o gymorth i gyrff llywodraethu wrth iddynt wneud penderfyniadau ar bolisïau gwisg ysgol. Mae’n ymdrin â:
- mynediad
- fforddiadwyedd
- hyblygrwydd
- y sefyllfa bresennol yng Nghymru o ran rhoi cymorth ariannol i rieni a gofalwyr tuag at gost prynu gwisg ysgol
Ymdrinnir â chost a fforddiadwyedd gwisg ysgol yn adran 3 o'r canllawiau, sy'n rhestru'r meysydd hynny y dylai cyrff llywodraethu eu hystyried er mwyn cadw costau'n isel, gan gynnwys pennu eitemau sylfaenol a lliwiau yn unig, ond nid steiliau. Mae hyn yn golygu y gellir prynu eitemau mewn siopau manwerthu amrywiol am bris rhesymol ac nid gan un cyflenwr awdurdodedig yn unig. Mae hefyd yn cynnwys ystyriaethau ynglŷn â chost ac argaeledd meintiau nad ydynt yn safonol a chyfyngu ar ba mor aml y newidir gwisg ysgol.
Gall gwisg ysgol ail law fod yn fanteisiol i bob rhiant a gofalwr, yn enwedig teuluoedd ar incwm isel neu deuluoedd mawr. Hefyd, drwy estyn oes dillad, gall ysgolion annog cynaliadwyedd a'i fanteision amgylcheddol ehangach. Mae'r canllawiau yn nodi y dylai ysgolion roi cynlluniau ailgylchu a chyfnewid ar waith. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am gynlluniau cyfnewid ac ailgylchu gwisg ysgol.
Mae'r canllawiau ar wisg ysgol hefyd yn hyrwyddo Gwasanaethau Addysg i Deithwyr, ac arferion da eraill i leihau costau. Mae ‘adnoddau Gwyrdd-droi’ y Comisiynydd Plant yn helpu plant a phobl ifanc i sefydlu siopau ailddefnyddio gwisg ysgol.
Mae'r canllawiau statudol ar wisg ysgol yn cyfeirio at Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Gall darpariaethau’r Ddeddf effeithio ar bolisïau ynglŷn â gwisg ysgol ac edrychiad. Mae'n rhaid i gyrff llywodraethu a phenaethiaid eu hystyried er mwyn sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon ar sail:
- rhyw
- ailbennu rhywedd
- cyfeiriadedd rhywiol
- Beichiogrwydd
- mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred
- anabledd
Pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd
Yr her
Gall sicrhau proses o bontio'n llwyddiannus o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd i ddysgwyr fod yn heriol. Mae llawer o deuluoedd o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr am i'w plant a'u pobl ifanc ddysgu am rolau traddodiadol eu diwylliant. Mae’n bosibl y byddant yn gweld bod pontio i'r ysgol uwchradd yn rhwystr rhag gwneud hynny.
Mae awdurdodau lleol, ynghyd ag ymchwil gyhoeddedig, yn nodi bod gan deuluoedd bryderon ynglŷn â'r cwricwlwm a diwylliant ysgolion uwchradd. Gall hyn golygu nad yw rhai plant yn cael eu cofrestru i barhau â'u haddysg ar lefel uwchradd. Cadarnheir hyn gan ddata Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) sy’n dangos bod dipyn yn llai o ddysgwyr o gefndir Sipsiwn a Theithwyr ym Mlwyddyn 7 nag ym Mlwyddyn 6.
Mae agweddau tuag at yr ysgol a mynychu'r ysgol uwchradd yn amrywio'n fawr. Mae plant a phobl ifanc wedi dweud wrthym:
“Dwi ddim yn mynd i'r ysgol uwchradd am nad oedd fy chwaer hŷn wedi mynd, na fy mam.”
“Dwi ddim yn mynd i'r ysgol uwchradd. Bydd fy mam yn trefnu tiwtor gartref fel y gwnaeth i fy mrawd a fy chwaer hŷn.”
“Dim ond os na fydda i'n gallu darllen nac ysgrifennu'n ddigon da erbyn i mi adael yr ysgol gynradd y bydda i'n mynd i'r ysgol uwchradd.”
“Dyw fy mrodyr hŷn ddim wedi mynd i'r ysgol uwchradd nac i'r coleg felly fwy na thebyg fydda i ddim yn gwneud hynny chwaith.
Cyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau, addysg bellach ac addysg uwch
Yr her
Gall addysg bellach ac addysg uwch gryfhau cyfleoedd mewn bywyd i unigolion drwy:
- ehangu eu profiadau
- rhoi sgiliau a gwybodaeth hollbwysig iddynt, sy'n gallu cefnogi datblygiad eu gyrfa yn y dyfodol
Fodd bynnag, gall profiadau dysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a'r anghydraddoldeb o ran deilliannau effeithio ar eu dyheadau i barhau mewn addysg ar ddiwedd addysg orfodol.
Dylai profiadau o addysg fod yn gadarnhaol i bob dysgwr ac aelod o staff. Fodd bynnag, gwyddom, yn ogystal â'r rhwystrau a'r heriau a wynebir gan blant a phobl ifanc, y gall athrawon, darlithwyr ac addysgwyr eraill o gymunedau ethnig leiafrifol wynebu annhegwch a hiliaeth. Mae hyn, nid yn unig yn cael effaith ar y rhai mewn swyddi, ond y rhai sydd ag uchelgais i ymuno â'r proffesiwn.
Mae llawer o bobl ifanc o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn gwerthfawrogi addysg a'r cyfleoedd i symud ymlaen i addysg bellach ac addysg uwch. Pan ofynnwyd iddynt, roedd plant a phobl ifanc yn mynegi diddordeb penodol mewn gwallt a harddwch, cerddoriaeth a sgiliau adeiladu.
Fodd bynnag, dywedodd llawer o blant a phobl ifanc o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr wrthym hefyd eu bod yn teimlo nad yw'r ysgol na'r system addysg, yn eu barn nhw, yn cynnig y sgiliau bywyd sy'n angenrheidiol i lwyddo ar ôl 16 oed.
Pan gawsant eu holi am eu dyheadau at y dyfodol, dywedodd pobl ifanc wrthym:
“Dwi'n astudio pynciau TGAU yn yr ysgol a fydd yn fy helpu i fynd i'r coleg. Fe hoffwn i fod wedi gwneud coginio ond nid yw'n beth gwrol i'w wneud. Fi yw'r hynaf o dri o blant a hoffwn i weld fy mrawd a fy chwaer yn gorffen yr ysgol.”
“Fe fydda i'n gwneud cais i'r coleg i astudio adeiladu neu gerddoriaeth.
Dwi’n dwli ar gerddoriaeth a hoffwn ddysgu sut i gynhyrchu fy ngherddoriaeth fy hun. Hoffwn weld hyn yn cael ei addysgu yn yr ysgol.”
“Dwi am orffen Safon Uwch a mynd i'r brifysgol. Rwy'n meddwl fy mod i eisiau astudio troseddeg.”
“Hoffwn i ddysgu mwy o sgiliau er mwyn mynd i mewn i'r gweithle. Rwyf wedi cofrestru i fynd i'r coleg. Fy uchelgais i yw bod mewn cyflogaeth llawn amser.”
“Aeth fy mrodyr i goleg chweched dosbarth. Rwy'n meddwl y bydda i'n aros tan Flwyddyn 12 achos galla i gael swydd ac addysg dda. Hoffwn i fod yn bianydd neu'n fecanydd a chael teulu a phrynu tŷ.
Gweithredu gan Lywodraeth Cymru: Addysg Ôl-16 – Prentisiaethau a phrentisiaethau iau, addysg bellach ac addysg uwch
Dylai pob person ifanc gael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad cynhwysfawr i'w helpu i ddewis yr opsiynau ôl-16 mwyaf priodol. Gallai hyn gynnwys:
- Safon Uwch
- rhaglenni galwedigaethol
- prentisiaethau
- raglenni cyflogadwyedd
- hunangyflogaeth
Mae Cymru'n Gweithio yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr am yr holl opsiynau sydd ar gael i bobl ifanc.
I bobl ifanc o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr, mae'n bwysig iawn sicrhau bod y cyngor a'r arweiniad hwnnw yn:
- annog pob unigolyn i wireddu ei uchelgeisiau, yn hytrach na gwneud tybiaethau ynglŷn â nodau addysgol neu yrfa ar sail rhagfarn ddiwylliannol
- cynnig nifer o opsiynau sy'n herio tybiaethau traddodiadol ynglŷn â rhywedd
- pwysleisio hyblygrwydd a'r posibilrwydd o ddychwelyd at ddysgu yn ddiweddarach, astudio'n rhan amser, ac yn ystyried opsiynau gwahanol (er enghraifft drwy gyrsiau rhagflas a rhaglenni cyflogadwyedd)
- codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd i ailsefyll arholiadau ac i gael cymorth dysgu ychwanegol, i ddysgwyr nad ydynt wedi cyflawni yn unol â’r dymuniad yn yr ysgol
- hyrwyddo modelau rôl Sipsiwn, Roma a Theithwyr sydd wedi llwyddo yn eu gyrfaoedd, mewn entrepreneuriaeth, neu ar lwybrau addysgol
Yn aml, mae'n bosibl astudio'n rhan amser, yn hyblyg neu o bell a gall hyn fod yn fwy addas i rai dysgwyr. Mae gan bob coleg addysg bellach dîm Gwasanaethau Myfyrwyr a ddylai gynnig y pwynt cyswllt cyntaf i gael gwybodaeth am gyfleoedd hyblyg, yn ogystal ag unrhyw gymorth dysgu ychwanegol neu gymorth ariannol y gall dysgwyr fod yn gymwys i'w hawlio.
Efallai y bydd dysgwyr yn amharod i nodi eu bod yn Sipsiwn, yn Roma neu'n Deithwyr wrth ddechrau addysg ôl-16, oherwydd pryderon y câi'r wybodaeth hon ei chamddefnyddio i wahaniaethu yn eu herbyn. Gall hyn ei gwneud yn anodd i fesur cyfranogiad a deilliannau i'r grŵp hwn o ddysgwyr ac mae'n golygu ei bod yn bwysig iawn bod darparwyr dysgu yn ennyn ymddiriedaeth a hyder. Mae rhagor o wybodaeth am bryderon ynghylch camddefnyddio data ar gael ar wefan Senedd y DU.
Ni fydd colegau na darparwyr ôl-16 eraill bob amser yn gwybod bod dysgwr o gefndir Sipsiwn, Roma neu Deithwyr. Felly dylent ystyried sut i’w gwneud yn hawdd cael gafael ar wybodaeth am gymorth, arweiniad ac opsiynau, fel y gall dysgwyr ddod o hyd iddi heb orfod datgelu gwybodaeth y maent yn anghyfforddus i'w rhannu. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am:
- opsiynau dysgu hyblyg
- cymorth ariannol
- ymgysylltu â rhieni
- ymateb ‘dim goddefgarwch’ i wahaniaethu a bwlio
Ym mis Ebrill 2019 cyhoeddodd Estyn adroddiad thematig ‘Adolygiad o Ddarpariaeth ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr oed uwchradd’. Mae’r adroddiad hwn yn nodi bod tua hanner yr awdurdodau lleol a'r ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth â choleg lleol neu ddarparwr dysgu seiliedig ar waith er mwyn gwella cyfleoedd dysgu i ddysgwyr o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghyfnod Allweddol 4, blynyddoedd 10 i 11 (14 i 16 oed). Mewn rhai ardaloedd ceir rhaglenni prentisiaethau iau, a ariennir yn bennaf gan yr awdurdod lleol ar y cyd â rhai colegau addysg bellach.
Mae prentisiaethau iau yn cynnig cyfle i ddysgwyr Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11 astudio'n llawn amser ar gyfer gyrfa yn y dyfodol mewn coleg o 14 oed. Mae'r rhaglen yn cynnig rhaglen 2 flynedd o addysg gysylltiedig â gwaith sy'n cynnwys profiad gwaith, ochr yn ochr â chwrs Lefel 2. Mae’n arwain at gymhwyster sy'n cyfateb i 4 neu 5 TGAU, mewn amrywiaeth o lwybrau galwedigaethol. Mae pob prentis hefyd yn astudio TGAU mewn Mathemateg a Saesneg ochr yn ochr â dewis faes y prentis. Mae nifer o wahanol lwybrau prentisiaeth iau.
Dylai pob prentis iau gael cymorth:
- dysgu ac addysgu
- i reoli ymddygiad
- gan swyddog lles dynodedig ar faterion o ddydd i ddydd yn ogystal â gofal bugeiliol
Nod y cynllun prentisiaeth iau yw gwneud y dysgwr yn barod i’r byd gwaith neu i symud ymlaen i gwrs neu brentisiaeth alwedigaethol lefel uwch yn 16 oed.
Atodiad A: deddfwriaeth berthnasol
Mae’r wybodaeth hon yn gysylltiedig â: Dathlu a Chyfranogi – canllawiau addysg i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Mae’r atodiad hwn yn egluro’r ddeddfwriaeth a’r Hawliau allweddol i’r graddau y maent yn berthnasol i blant ac unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig.
Y fframwaith cyfreithiol
Mae hawl plentyn i addysg o safon a hawl plentyn i gyfle cyfartal yn hawliau sylfaenol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).
Yng Nghymru, mae'r hawliau sylfaenol hyn wedi cael eu hymgorffori mewn cyfraith ddomestig drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae’r Mesur hwn yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi ‘sylw dyledus’ i CCUHP wrth gyflawni eu swyddogaethau.
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (Deddf 2010) yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth yng nghyd-destun y canllawiau hyn.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn datgan ei bod yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn disgybl, neu ddarpar ddisgybl, drwy ei drin yn llai ffafriol oherwydd ei nodwedd warchodedig neu ei nodweddion gwarchodedig: rhyw, hil, anabledd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd neu famolaeth ac ailbennu rhywedd. Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn disgybl oherwydd nodwedd warchodedig person y mae'n gysylltiedig ag ef, neu oherwydd nodwedd warchodedig sydd ganddo yn ôl eich canfyddiad chi, hyd yn oed os ydych wedi camsynio.
Sut y caiff Sipsiwn, Roma a Theithwyr eu diogelu
Caiff Sipsiwn, Roma a Theithwyr eu diogelu o dan nodwedd warchodedig ’Hil’ fel y'i diffiniwyd yn Neddf 2010, sy'n cynnwys yr agweddau canlynol ar hunaniaeth person:
- lliw
- cenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth)
- tarddiad ethnig
- tarddiad cenedlaethol
Mae Sipsiwn Romani wedi cael eu cydnabod o dan y gyfraith fel grŵp hil ers 1988. Mae Teithwyr Gwyddelig wedi cael cydnabyddiaeth gyfreithiol debyg fel grŵp ethnig ers 2000. Mae'r ddau grŵp wedi'u cwmpasu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar y sail bod ‘hil’ (a all hefyd gynnwys grwpiau ethnig) yn nodwedd warchodedig yn unol ag adran 9 o Ddeddf 2010.
Mae pobl Roma yn ‘grŵp ethnig’ o dan y gyfraith, ac felly wedi'u diogelu gan ddeddfwriaeth cydraddoldeb. Gall llawer o bobl Roma wynebu hiliaeth neu wahaniaethu am eu bod yn dod o wlad arall, neu y canfyddir eu bod yn dod o wlad arall, ac felly maent wedi'u diogelu o dan y Ddeddf oherwydd eu cenedligrwydd neu eu tarddiad cenedlaethol.
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Cyflwynodd Deddf Cydraddoldeb 2010 Ddyletswydd Cydraddoldeb unigol i'r Sector Cyhoeddus yn 2011 sy'n gymwys i amrywiaeth eang o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae'n golygu bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried pob unigolyn:
- wrth gyflawni eu gwaith o ddydd i ddydd o ran llunio polisïau
- wrth ddarparu gwasanaethau
- mewn perthynas â'u cyflogeion eu hunain
Mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus, wrth arfer eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i'r angen i wneud y canlynol:
- dileu achosion o wahaniaethu ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt yn ei rhannu
- meithrin cydberthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt yn ei rhannu
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn sicrhau cydymffurfiaeth ac y cymerir camau i gefnogi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ar gael yng nghanllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ‘Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: Canllawiau i Ysgolion yng Nghymru’. Mae’r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth am:
- Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
- y camau y mae angen i ysgolion eu cymryd mewn perthynas â’r ddyletswydd hon
Atodiad B: Y codau i’w defnyddio ar gyfer Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) i’r graddau y maent yn berthnasol i blant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Mae CYBLD yn gasgliad data electronig o ddata ar lefel disgybl ac ysgol a ddarperir pob mis Ionawr gan bob ysgol gynradd, canol, uwchradd, meithrin ac arbennig y sector a gynhelir.
Fel rhan o CYBLD, mae'n ofynnol i ysgolion gyflwyno gwybodaeth am gefndir ethnig ac iaith gyntaf pob disgybl.
Mae'n anodd bod yn fanwl gywir ynglŷn â nifer y plant a phobl ifanc o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Mae hynny oherwydd eu bod yn gallu bod yn amharod i nodi eu hethnigrwydd am resymau sy'n ymwneud ag ofn:
- rhagfarn
- diffyg preifatrwydd a rhywun yn rhannu eu manylion personol gydag eraill
Dylid annog teuluoedd i deimlo'n gyfforddus i nodi eu hethnigrwydd.
Er mwyn gwella lefel a chywirdeb y data a gesglir a phriodoli ymhlith y grwpiau hyn, ers 2018 mae Codau Ethnigrwydd CYBLD wedi cael eu hestyn i gynnig mwy o ddewisiadau i deuluoedd briodoli eu hethnigrwydd. Mae’r newidiadau’n cynnwys:
- gwahanu Sipsiwn oddi wrth Roma
- cod ychwanegol o dan Deithiwr am Berson Sioe
Mae’r codau fel a ganlyn:
Prif god
WIRT Teithiwr
Codau estynedig
WITH Teithiwr o Dras Wyddelig
WNAG Teithiwr ‘Newydd’
WOCC Teithiwr Galwedigaethol
WOTT Teithiwr Arall
WSHP Pobl sioe
Prif god
WRGG Sipsi
Codau estynedig
WOBG Sipsi Prydeinig
WOOG Sipsi o Wledydd Eraill
WOTG Sipsi Arall
Prif god
WRRR Roma
Codau estynedig
WOER Roma UE
WOOR Roma o Wledydd Eraill
WOTR Roma Arall
Atodiad C: Enghreifftiau ychwanegol o ymarfer effeithiol
Yn ychwanegol at yr ymarfer effeithiol a gynigiwyd ar gyfer yr heriau penodol a godwyd yn y canllawiau hyn, ceir rhai enghreifftiau defnyddiol o arferion llwyddiannus mewn meysydd eraill hefyd.
Helpu dysgwyr sy'n Deithwyr i wella lefelau llythrennedd
Mae ysgol gynradd yn cynnwys canran uchel iawn o ddysgwyr sy'n Deithwyr – 13%. Nid oedd llawer ohonynt yn datblygu cystal â'u cyfoedion o ran llythrennedd. Roedd hynny’n effeithio ar eu gallu i astudio agweddau ar y cwricwlwm Roedd yr ysgol hefyd o'r farn bod hyn o bosibl wedi cyfrannu at:
- ymddieithrio
- diffyg hyder
- amharodrwydd i fynychu'r ysgol
Roedd achosion o darfu ar bresenoldeb o ganlyniad i deithio a lefelau llythrennedd isel ymhlith rhieni hefyd yn ychwanegu at yr heriau hyn.
Penodwyd Swyddog Addysg yn y Gwasanaeth Addysg i Deithwyr gan yr awdurdod lleol i oruchwylio llythrennedd, a chynnal asesiad llinell sylfaen o sillafu a darllen dysgwyr. Drwy hyn, bu modd i'r ysgol nodi pa ddysgwyr a fyddai'n cael budd o gael eu cynorthwyo.
Cynhelir sesiynau un i un a sesiynau i grwpiau bach yn wythnosol. Mae hyfforddiant wedi cael ei roi i staff y Gwasanaeth Addysg i Deithwyr i'w galluogi i gyflwyno sesiynau hefyd. Hefyd, mae rhieni a gofalwyr wedi cael eu gwahodd i'r ysgol i gael cymorth ac adnoddau i helpu eu plant.
Mae'r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr yn rhoi diweddariad i rieni bob tymor, a chynhelir cyfarfodydd yn yr ysgol rhwng y rhieni a'r staff a'r gweithiwr cyswllt a nodwyd gan yr ysgol er mwyn iddynt gael gwybod am gynnydd a chael cyngor lle y bo angen.
Mae'r ysgol wedi cael cronfa o adnoddau i'w defnyddio yn yr ysgol. Mae cofnod benthyca hefyd wedi’i sefydlu i ganiatáu i'r dysgwyr fynd â'r adnoddau hyn gartref. Mae’r adnoddau’n cynnwys:
- llyfrau
- llyfrynnau gweithgareddau
- gemau
- pennau ysgrifennu electronig
Mae Swyddog y Gwasanaeth Addysg i Deithwyr yn cyfarfod â'r gweithiwr cyswllt bob wythnos i roi adborth ar gynnydd. Mae hefyd yn gweithio'n agos gyda'r staff addysgu er mwyn sicrhau bod targedau llythrennedd yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau datblygu dysgwyr. Cynhelir cyfarfodydd mwy ffurfiol â'r pennaeth bob tymor er mwyn:
- rhannu data
- trafod cynnydd
- trafod meysydd sy'n achos pryder
Mae'r fenter wedi bod ar waith ers 5 mlynedd bellach ac mae'r data yn dangos, ym mron bob achos, fod:
- dysgwyr yn gwneud cynnydd
- y fenter yn cael effaith gadarnhaol ar gyflawniad yn yr ystafell ddosbarth
Mae pob dysgwr sy'n cael ei drosglwyddo i'r ysgol uwchradd bellach o fewn yr amrediad disgwyliedig ar gyfer ei oedran. Hefyd, mae rhieni a gofalwyr yn ymddiddori mewn cefnogi llythrennedd eu plant yn y cartref.
Ymarfer effeithiol yn cefnogi dysgwyr sy'n Roma yn yr ysgol uwchradd
Mae un ysgol uwchradd yn y de yn cynnal y gweithgareddau canlynol i gefnogi teuluoedd sy'n Roma yng nghymuned eu hysgol:
- mentora dysgwyr
- cydgysylltu ag asiantaethau allanol
- rhedeg cynllun C-Card i gefnogi iechyd rhywiol dysgwyr
- helpu rhieni, gofalwyr a dysgwyr i hawlio arian
- darparu rhoddion, gan gynnwys bwyd, dillad, dodrefn
- dathlu treftadaeth a diwylliant
- rhoi hyfforddiant i staff
- gwirfoddoli yn y gymuned i gefnogi dysgwyr
- darparu gwisg ysgol
- sicrhau prosesau cyfathrebu ardderchog rhwng yr ysgol a rhieni a gofalwyr
- helpu rhieni a gofalwyr i lenwi ffurflenni
- cynnig cyngor i rhieni a gofalwyr
- gweithio gydag asiantaethau eraill, ac artistiaid ar amrywiaeth o brosiectau
- cynnig llwybr amgen sy'n addas i ddysgwyr, gan gynnwys cymwysterau SWEET mewn meysydd gan gynnwys sgiliau cyflogadwyedd a gwaith a chymwysterau lefel mynediad gan ganiatáu i ddysgwyr ddilyn cyrsiau sy'n hygyrch ac sydd hefyd yn rhoi opsiynau iddynt pan fyddant yn gadael yr ysgol neu'r coleg
Ar gyfer adegau pontio, mae tîm yr awdurdod lleol yn cynnal prosiect sy'n cynnwys ‘New to English’ a dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Prosiect 3 i 4 wythnos ydyw, sy'n rhoi cyfle i'r dysgwyr o ysgolion cynradd bwydo gydweithio. Mae'r ysgol uwchradd yn cydgysylltu â'r ysgol gynradd arweiniol i ddatblygu cynlluniau ac yna gwahoddir ysgolion cynradd i gymryd rhan.
Mae cynorthwywyr addysgu dwyieithog o'r ysgol uwchradd yn ymweld â'r ysgol gynradd i gydgysylltu â rhieni sy'n Roma. Mae athrawon iaith hefyd wedi ymweld ag ysgolion cynradd bwydo i gyfarfod â'r garfan newydd.
Cefnogi balchder mewn diwylliant ac ethnigrwydd
Mae un ysgol uwchradd wedi gweld dysgwyr a oedd yn amharod i ddatgelu eu treftadaeth ar adeg eu derbyn i'r lleoliad. Rhannodd yr ysgol enghraifft o ddysgwr nad oedd am rannu gwybodaeth am ei dreftadaeth Roma â'r ysgol. Er bod y person ifanc hwn yn dangos llawer o sgiliau trosglwyddadwy a'i fod yn alluog iawn ac yn gwneud cynnydd da fel dysgwr, dechreuodd ymddieithrio oddi wrth gwersi ysgol, cafodd ei wahardd o'r ysgol ac roedd ei bresenoldeb dipyn yn is na tharged disgwyliedig yr ysgol.
Wrth ymdrin â'r problemau uchod yn ystod sgyrsiau un i un, daeth yn amlwg fod gan y person ifanc nifer o anghenion cymorth. Roedd angen cymorth ar y dysgwr o ran ei hunaniaeth ei hun, yng nghyd-destun amgylchedd yr ysgol newydd.
Mewn ymateb, trefnodd yr ysgol sesiynau lle roedd treftadaeth Roma yn cael ei dathlu ac roedd hanes Roma yn cael ei esbonio. Gwnaeth yr ysgol hefyd:
- drefnu cyfarfodydd â chynghorydd gyrfaoedd i godi dyheadau
- sicrhau ymwneud y person ifanc ag asiantaethau allanol priodol
- cefnogi ei rieni i gael sgyrsiau am draddodiadau Roma a rhannu straeon Roma
Gwnaeth yr ysgol hefyd annog a dathlu'r defnydd o'r iaith Romanes.
Yna, dechreuodd y person ifanc ddod i wybod am hanes Roma a chydnabod pwysigrwydd dathlu ei gefndir a'i ethnigrwydd. Dechreuodd y person ifanc ymwneud yn fwyfwy â dysgwyr eraill a oedd yn Roma gan:
- helpu i gefnogi digwyddiadau
- gwirfoddoli i gefnogi dysgwyr iau â threftadaeth Roma
- helpu gyda'r prosiectau pontio
- rhoi cyngor i ymarferwyr ynglŷn â sut i ddathlu diwylliant Roma
Ers hynny, mae'r dysgwr wedi symud ymlaen i addysg uwch ac mae'n parhau i fynd ati i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth Roma.
Gwella presenoldeb
Mae gan un ysgol uwchradd yn y de strategaeth ar waith i wella presenoldeb i ddysgwyr o gefndir Roma. Mae gan yr ysgol dîm penodedig i gefnogi dysgwyr a'u teuluoedd o safbwynt academaidd a bugeiliol. Mae cael aelod o’r tîm o'u cymuned y mae dysgwyr a'u teuluoedd yn ymddiried ynddo ac yn ei barchu wedi bod yn bwysig i sicrhau prosesau cyfathrebu effeithiol. Mae'r tîm yn arwain y camau gweithredu canlynol:
- cysylltu â theuluoedd drwy lythyr yn eu mamiaith
- gwahoddiadau i gyfarfodydd yn yr ysgol
- cyfathrebu dros y ffôn ag athro o'r awdurdod lleol sydd hefyd yn gweithio i gefnogi'r gymuned a datblygu cydberthnasau
- gwahodd athro sy'n siarad Roma ac sydd â chysylltiadau agos â'r cymunedau a'r teuluoedd i ddod i bob cyfarfod a lle y bo angen, mae staff Gwasanaeth Lleiafrifoedd Ethnig Gwent (GEMS) hefyd yn cymryd rhan
Fel ysgol, bu ffocws ar ddangos i rieni a gofalwyr bod gan athrawon ddisgwyliadau mawr o ran eu plant a'u bod am iddynt lwyddo. Mae gwella cydberthnasau â theuluoedd wedi cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb.
Yn ogystal â gweithredu gan yr ysgol, yn ystod nosweithiau i rieni, mae tîm yr awdurdod lleol a GEMS hefyd yn cefnogi athrawon, dysgwyr a rhieni.
Meithrin cydberthnasau cymunedol i gefnogi dysgwyr sy'n Roma
Mewn un ysgol gynradd yn y de, mae disgyblion Roma ym Mlwyddyn 6 yn cymryd rhan mewn rhaglen fentora. Caiff y rhaglen ei chyflwyno gan elusen a arweinir gan Roma. Nod y rhaglen yw codi dyheadau, ac maent yn cymryd rhan ynddi ym Mlwyddyn 7 hefyd.
Mae'r ysgol wedi datblygu cydberthnasau â'i chymuned Roma dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae’r gydberthynas wedi’i seilio ar gyd-barch, dealltwriaeth a gofal. Mae'r staff o'r ysgol wedi cael ac wedi derbyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau Eglwys Roma, digwyddiadau cymunedol a phriodasau.
Mae presenoldeb a diddordeb mewn digwyddiadau a gynhelir gan yr ysgol ac yn y gymuned wedi gwella'n sylweddol.
Nododd yr ysgol nad oedd rhai rhieni yn ddigon hyderus i rannu eu treftadaeth wrth gwblhau ffurflenni cofrestru am y tro cyntaf ac y byddent yn aml yn dweud eu bod yn dod o Slofacia, y Weriniaeth Tsiec neu Rwmania. Erbyn hyn, mae'r mwyafrif o'r teuluoedd yn nodi gyda balchder eu bod yn Roma.
Diolch i gefnogaeth staff yr ysgol, mae’r teuluoedd hefyd yn ymwneud ag asiantaethau allanol, gan gynnwys:
- yr heddlu
- gwasanaethau cymdeithasol
- y system cyfiawnder ieuenctid
Mae ymdeimlad cryf o ffyniant ymhlith dysgwyr Roma yn yr ysgol am eu bod yn falch o bwy ydynt, gan ddangos eu diwylliant a'u hunaniaeth i eraill. Maent yn gwybod:
- eu bod yn perthyn
- eu bod yn bwysig
- bod eu hathrawon yn dangos gofal tuag atynt
Mae gan ddysgwyr Roma ddyheadau mawr, gyda llawer ohonynt yn dymuno dod yn feddygon, yn ASau, yn swyddogion heddlu ac yn berchenogion busnes. Maent yn dangos angerdd ac uchelgais i ddylanwadu ar newid dros y gymuned.
Arweinyddiaeth a mabwysiadu dull ‘ysgol gyfan’
Mae amrywiaeth o ddulliau ‘ysgol gyfan’ yn cael eu defnyddio'n llwyddiannus ledled Cymru er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn:
- gallu cyflawni eu potensial
- teimlo bod croeso iddynt yn yr ysgol
- ymddiddori'n llwyr yn eu haddysg.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- dynodi uwch-aelod o'r staff yn brif bwynt cyswllt i ddysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr, eu teuluoedd a'r Gwasanaeth Addysg lleol i Deithwyr
- gwella prydlondeb a lefelau presenoldeb yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd drwy sicrhau bod cydgysylltu parhaus rhwng yr ysgol, rhieni, gofalwyr, staff y Gwasanaeth Addysg i Deithwyr a swyddogion lles addysg
- penodi cynorthwyydd addysgu, ymarferydd dwyieithog o'r cymunedau, er mwyn cefnogi dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn yr ystafell ddosbarth – mewn rhai rhannau o Gymru, mae staff y Gwasanaeth Addysg i Deithwyr yn cyflawni'r rôl hon, ac maent hefyd yn helpu dysgwyr gyda llythrennedd, rhifedd a gwaith cwrs TGAU
- dynodi aelod o staff y Gwasanaeth Addysg i Deithwyr i uwch-dîm arwain yr ysgol
- codi ymwybyddiaeth o ffordd o fyw a diwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr ymhlith staff addysgu drwy hyfforddiant a gynigir drwy'r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr a thrwy fynd i gynadleddau
- rhoi adnoddau a thechnoleg i athrawon a chynorthwywyr addysgu a fydd yn cynorthwyo dysgwyr sydd ag anawsterau darllen, megis llawlyfr darllen amlsynhwyraidd a dyfais gludadwy fach sy'n darllen testun yn uchel
- gwella lefelau diddordeb mewn gwersi, presenoldeb a chanlyniadau drwy drefnu clybiau gwaith cartref, sesiynau mentora galw heibio gan y Gwasanaeth Addysg i Deithwyr, a chymorth dysgu ychwanegol yn ystod amser egwyl ac amser cinio
- cofnodi digwyddiadau hiliol a chymryd camau priodol yn ddi-oed, gan roi hyder i deuluoedd bod lles eu plant yn flaenoriaeth i'r ysgol, gan y gall dysgwyr o'r grwpiau hyn gael eu bwlio
- datblygu cwricwlwm cynhwysol a hyblyg sydd ar gael yn ei gyfanrwydd i bawb, yn unol â chanllawiau Cwricwlwm i Gymru, sy'n golygu bod dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn gallu cael yr un cyfleoedd â'u cyfoedion
- ymgorffori profiadau dysgu priodol a pherthnasol yng nghwricwlwm yr ysgol, yn unol â'r dysgu eang a fynegir yng nghanllawiau Cwricwlwm i Gymru
- cyflwyno rhaglenni a chymwysterau ASDAN i ddysgwyr. Elusen addysg a sefydliad dyfarnu yn y DU yw ASDAN. Mae ei raglenni cwricwlwm a'i gymwysterau yn helpu pobl ifanc i feithrin gwybodaeth a sgiliau dysgu ar gyfer gwaith a bywyd
- annog dysgwyr o bob cefndir i gymryd rhan mewn dysgu a phrofiadau eang sy'n atgyfnerthu cynwysoldeb, gan gynnwys prosiectau ysgol
- neilltuo rolau a chyfrifoldebau dynodedig yn yr ysgol i ddysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ochr yn ochr â dysgwyr nad ydynt o gefndir Teithwyr (gweler Cyfrifoldebau amser egwyl i annog gwaith tîm a chyfranogi)
- sefydlu swyddfeydd Gwasanaeth Addysg i Deithwyr mewn ysgolion uwchradd, sydd wedi helpu i atgyfnerthu cydberthnasau rhwng y Gwasanaeth Addysg i Deithwyr a'r ysgol, hyrwyddo cydberthnasau â theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr y dywedir eu bod yn teimlo'n fwy cyfforddus wrth ymgysylltu â'r ysgol, a gwella presenoldeb dysgwyr
Hyrwyddo cynhwysiant: alldaith Gwobr Dug Caeredin
Gwnaeth 4 dysgwr Blwyddyn 10 o gefndir Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y gorllewin gwblhau gwobr Efydd Dug Caeredin drwy alldaith derfynol, y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn eu hysgol. Dywedodd y bobl ifanc dan sylw fod y rhaglen wedi bod yn drawsnewidiol. Esboniodd un person ifanc ei fod wedi bwriadu gadael addysg ffurfiol cyn dod yn rhan o'r rhaglen. Cafodd eu cyflawniad sylw cenedlaethol yng nghylchgrawn Gwobrau Dug Caeredin a'i ddathlu drwy ddigwyddiad cyflwyno arbennig yn yr ysgol. Gwnaeth pob un o'r 4 dysgwr aros mewn addysg brif ffrwd, a mynd ymlaen i astudio mewn coleg lleol.
Cyfrifoldebau amser egwyl i annog gwaith tîm a chyfranogi
Mae un ysgol yn y de-ddwyrain yn hyrwyddo integreiddio ac ymgysylltu drwy neilltuo rolau a chyfrifoldebau dynodedig i ddysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn yr ysgol, ochr yn ochr â dysgwyr nad ydynt yn dod o gefndir Teithwyr. Mae’r rolau yn cynnwys bod yn:
- fonitorau maes chwarae sy'n gyfrifol am drefnu a gofalu am gyfarpar chwarae yn ystod amser egwyl
- monitorau anifeiliaid sy'n gofalu am gwningen yr ysgol
- cyflwynwyr ar orsaf radio'r ysgol sy'n cael ei rhedeg gan y dysgwyr yn ystod amser egwyl ac amser cinio
Drwy ymgymryd â'r rolau hyn gall dysgwyr o gefndir Teithwyr:
- chwarae rhan fwy amlwg yng nghymuned yr ysgol
- gweithio ochr yn ochr â'u cyd-ddysgwyr tuag at nodau cyffredin.
Mae prosiect gwallt a harddwch yn ennyn hunanhyder ac yn ysbrydoli gyrfaoedd
Mae cwrs gwallt a harddwch a drefnir gan ysgol yn y de mewn partneriaeth â menter gymdeithasol a siop trin gwallt leol, wedi:
- rhoi hwb i hunan-barch a hyder dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- wedi ysbrydoli rhai dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gofrestru â chyrsiau galwedigaethol cysylltiedig yn y coleg
- gwella lefelau presenoldeb ac ymgysylltu â'r ysgol ymhlith y dysgwyr a gymerodd
Atodiad D: Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru
Mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) yn fetafframwaith cynhwysol sy'n dangos y system gymwysterau yng Nghymru. Ei nod yw cynnig ‘elfennau cyffredin’ o ran cyflawniad dysgu ac mae o blaid cydnabod credydau, cymwysterau a dysgu ym mhob sector ac ar bob lefel.
Mae FfCChC yn cynnig hyblygrwydd i ddysgwyr, yn enwedig y rhai sydd wedi ymddieithrio oddi wrth ddysgu. Ei nodau yw:
- codi lefelau sgiliau
- rhoi cyfle iddynt ddysgu yn eu hamser eu hunain, wrth eu pwysau eu hunain ac yn eu lle eu hunain
Mae'n cynnig parch cydradd o ran cymwysterau ac yn helpu dysgwyr i weld llwybrau datblygu, yn enwedig lle maent yn dilyn llwybrau nad ydynt yn draddodiadol.
Mae FfCChC wedi'i seilio ar gyfres o egwyddorion lefel uchel y mae'n rhaid i bob math o ddysgu fod yn seiliedig arnynt er mwyn cael ei gydnabod. Mae'r rhain yn cynnwys y gofyniad i ddysgu fod yn seiliedig ar safonau cydnabyddedig, a Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol y DU lle maent yn bodoli.
Mae'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn rhoi disgrifiad cadarn o sut y dylid cyflawni swydd, ac maent yn cael eu cydnabod ledled y DU, am eu bod yn cynnig sylfaen cyffredin i gymwysterau, dysgu a hyfforddiant. Defnyddir Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol fel y sail dros gymwysterau galwedigaethol i oedolion a fframweithiau prentisiaeth yng Nghymru. Maent yn hwyluso natur drosglwyddadwy a chludadwy sgiliau ar draws sectorau a ffiniau.