Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Ddwy flynedd yn ôl, llofnododd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y Cytundeb Cydweithio; cytundeb unigryw sy'n nodi cyfres o ymrwymiadau y mae gennym fuddiannau ac uchelgais ar y cyd ynddynt i sicrhau newid blaengar i bobl ledled Cymru.

Mae hon yn rhaglen dair blynedd o bolisïau, gan amrywio o fynd i'r afael â'r diffyg tai i bobl leol mewn llawer o gymunedau i ddarparu mwy o ofal plant am ddim a phrydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd. Pan lofnodwyd y Cytundeb Cydweithio, roedd pandemig y coronafeirws, yr argyfwng costau byw a oedd yn datblygu, y rhyfel yn Wcráin a'r helynt wleidyddol a oedd yn mynd rhagddi o fewn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, i gyd yn amlwg iawn. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn hytrach na chilio, mae llawer o'r heriau hyn wedi dwysáu. Mae sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwaethygu, a hynny yn sgil chwyddiant a phrisiau ynni sydd wedi parhau'n uchel a setliad gan Lywodraeth y DU nad yw'n cydnabod y ffactorau hyn.

Er gwaethaf y cyd-destun ehangach hwn, rydym wedi parhau i wneud cynnydd sylweddol o ran cyflawni ein rhaglen ar y cyd. Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r hyn yr ydym wedi'i wneud yn ail flwyddyn y Cytundeb Cydweithio.

Yn ystod yr ail flwyddyn hon o'r Cytundeb, bu newid yn arweinydd Plaid Cymru. Ymddiswyddodd Adam Price AS, a wnaeth negodi a llofnodi'r Cytundeb Cydweithio yn wreiddiol, fel arweinydd ym mis Mai 2023. Arweinydd newydd Plaid Cymru yw Rhun ap Iorwerth AS. Mae ymrwymiad y ddwy blaid i'r Cytundeb wedi parhau'n gryf ac mae ailbenodi Siân Gwenllian AS yn Aelod Dynodedig Arweiniol a Cefin Campbell AS yn Aelod Dynodedig wedi sicrhau cysondeb yn y gwaith o weithredu'r 46 o feysydd polisi sydd yn y Rhaglen Bolisi a Rennir.

Rydym yn falch o weld y cynnydd sydd wedi'i wneud drwy'r Cytundeb Cydweithio ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n gilydd yn ystod trydedd flwyddyn y Cytundeb.

Crynodeb gweithredol

Ers llofnodi’r Cytundeb Cydweithio ar 1 Rhagfyr 2021, mae cynnydd gwirioneddol wedi'i wneud mewn perthynas â’r ymrwymiadau polisi yn y Cytundeb.

Roedd Adroddiad Blynyddol cyntaf y Cytundeb Cydweithio, a gyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr 2022, yn nodi'r cynnydd sylweddol a wnaed yn y flwyddyn gyntaf. Rydym wedi parhau i weithio ar y cyd i gyflwyno polisïau a gyhoeddwyd y llynedd ac i gwblhau'r gwaith o ddatblygu polisïau mewn meysydd eraill a nodir yn y Cytundeb Cydweithio.

Yn 2023, gan weithio gyda'n gilydd rydym wedi:

  • Parhau i gyflwyno prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd. Hyd yma, mae dros 15 miliwn o brydau am ddim ychwanegol wedi'u gweini ledled Cymru.
  • Gweithio i ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed gan ganolbwyntio’n benodol ar ddarparu ac atgyfnerthu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn cyflwyno'r polisi drwy'r rhaglen ragorol, Dechrau'n Deg.
  • Gweithredu pecyn radical o fesurau er mwyn helpu pobl i fyw yn eu cymunedau lleol a mynd i'r afael â niferoedd uchel o ail gartrefi. Ym mis Ebrill, daeth rheolau newydd i rym gan gynnwys defnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant.
  • Lansio ymgynghoriad Papur Gwyrdd ar greu llwybr tuag at dai digonol, gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd.
  • Cwblhau ymgynghoriad ar gynigion i gyflwyno ardoll ymwelwyr ddewisol i Gymru a chyhoeddi'r canfyddiadau. Bydd deddfwriaeth a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll yn eu hardaloedd yn cael ei chyflwyno yn nhymor y Senedd hon.
  • Pasio Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn gyfraith ym mis Mai 2023.
  • Lansio cwmni ynni newydd i Gymru o dan berchnogaeth gyhoeddus, Ynni Cymru, i ddatgloi ein potensial ynni gwyrdd.
  • Cyhoeddi'r adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol a Chyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd eithafol gaeaf 2020-2021.
  • Pasio Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) sy'n darparu'r pwerau angenrheidiol i ddarparu cymorth yn y dyfodol ac yn sicrhau bod cefnogaeth yn parhau i fod ar gael i ffermwyr yn ystod cyfnod pontio.
  • Dechrau gwaith drwy Grŵp Her Sero Net 2035 i ymchwilio i lwybrau posibl tuag at sero net erbyn 2035 – y dyddiad targed presennol yw 2050.
  • Buddsoddi mwy mewn rheoli a lliniaru llifogydd i ymateb i berygl cynyddol llifogydd, drwy gronfa gwerth £214m ar gyfer cynlluniau llifogydd.
  • Cyflwyno Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) i'r Senedd a fydd, os cytunir arno, yn gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy modern ac effeithiol.
  • Cael adroddiad annibynnol y panel arbenigol ar Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru.
  • Parhau â rhaglen Arfor i roi hwb economaidd a chryfhau'r Gymraeg ledled Gwynedd, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn.
  • Croesawu adroddiad annibynnol Sharron Lusher ar ddyfodol cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru. 
  • Datgan y dyhead i Gymru fod yn genedl flaengar ac arloesol drwy ein strategaeth arloesi newydd. 
  • Darparu cyllid newydd i helpu i gryfhau newyddiaduraeth leol yng Nghymru a chymorth i gwmnïau yng Nghymru i ddatblygu cynnwys dwyieithog ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.
  • Cyflwyno'r ganolfan argyfwng iechyd meddwl gyntaf yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc sydd angen cymorth brys. Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i gyfleusterau iechyd meddwl cymunedol.
  • Cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol i gyrraedd y nod o ddod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop.
  • Cwblhau'r ymgynghoriad cam cyntaf ar ein huchelgais i ddiwygio'r dreth gyngor i'w gwneud yn decach.
  • Lansio cynllun Benthyciadau i Ddatblygwyr ar gyfer Diogelwch Adeiladau Cymru, gwerth £20m, i ddarparu benthyciadau di-log dros bum mlynedd i helpu datblygwyr i gynnal gwaith unioni i ddiogelu adeiladau 11 metr o uchder a mwy yng Nghymru rhag tanau. Rydym hefyd wedi dod i gytundeb â datblygwyr mawr i lofnodi cytundeb sy'n eu rhwymo'n gyfreithiol i gynnal gwaith atal tanau ar adeiladau uchel a chanolig yng Nghymru.

Trosolwg o’r Gyllideb

Rydym yn parhau i weithio gyda'n gilydd i fonitro gwariant wrth inni ganolbwyntio ar gyflawni ymrwymiadau'r Cytundeb Cydweithio.

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Aelod Dynodedig Arweiniol yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion cyllidebol amrywiol. Yn ogystal, cynhelir cyfarfodydd dwyochrog rheolaidd rhwng gweinidogion unigol a'r Aelodau Dynodedig i ganolbwyntio ar gyllidebau portffolios a sicrhau bod ymrwymiadau'n aros ar y trywydd iawn a bod adnoddau priodol ar eu cyfer.

Fel rhan o Gyllideb 2023-2024, ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ac Aelodau Dynodedig Plaid Cymru bapur ar y cyd yn amlinellu manylion y gwaith a wnaed i nodi ble y darparwyd cyllid pellach ar gyfer blaenoriaethau a rennir.

Bu pwysau digyffelyb ar gyllideb Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon ac mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau Dynodedig Plaid Cymru wedi cydweithio i fynd i'r afael ag effaith bosibl yr heriau hyn ar y Cytundeb Cydweithio. Bydd y cydweithio hwn yn parhau wrth inni baratoi ar gyfer Cyllideb Derfynol 2024-2025.

Fframwaith llywodraethu a threfniadau trosolwg

Ar ôl i Rhun ap Iorwerth AS gael ei benodi'n Arweinydd Plaid Cymru, cadarnhawyd y byddai Siân Gwenllian AS a Cefin Campbell AS yn parhau'n Aelod Dynodedig Arweiniol ac yn Aelod Dynodedig ar gyfer y Cytundeb Cydweithio.

Drwy gydol yr ail flwyddyn hon o'r Cytundeb Cydweithio, mae'r Aelodau Dynodedig wedi parhau i weithio'n agos gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chyflawni'r ymrwymiadau yn y Cytundeb. Mae Gweinidogion ac Aelodau Dynodedig yn cyfarfod yn rheolaidd i fynd â'r maen i'r wal yn hyn o beth.

Mae’r Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru yn cadw trosolwg o’r Cytundeb Cydweithio ac yn cynnal cyfarfodydd o’r Bwrdd Trosolwg i adolygu’r cynnydd a’r camau nesaf.

Rhaglen bolisi: Gweithredu radical mewn cyfnod heriol

Yn ystod ail flwyddyn y Cytundeb Cydweithio, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar yr ymrwymiadau hynny sy'n helpu i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw. Gwnaethom weithio’n gyflym yn y flwyddyn gyntaf i roi mesurau ar waith sy'n cael effaith uniongyrchol ar bob cenhedlaeth. Mae hyn wedi parhau yn ystod yr ail flwyddyn wrth i ymrwymiadau pellach gael eu gweithredu a'u datblygu.

Prydau ysgol am ddim

Bydd pob plentyn ysgol gynradd, gan gynnwys disgyblion oed meithrin sy'n mynychu dwy sesiwn y dydd mewn ysgol a gynhelir, yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn 2024, gan gyrraedd tua 176,000 o ddisgyblion a fydd newydd ddod yn gymwys. Hyd yma, mae dros 15 miliwn o brydau am ddim ychwanegol wedi'u gweini ledled Cymru.

Dechreuodd y cam nesaf o ehangu'r cynnig ym mis Medi, gan olygu ei fod yn cynnwys y mwyafrif o ddisgyblion blynyddoedd tri a phedwar. Mae hyn yn golygu bod dros 145,000 o ddisgyblion cynradd bellach yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim. Bydd y rhaglen yn ehangu ymhellach ym mis Ebrill 2024, gan gyrraedd y mwyafrif o ddisgyblion blynyddoedd pump a chwech. Drwy gytuno ar ddulliau gweithredu lleol, mae hyblygrwydd wedi'i ddarparu i alluogi awdurdodau lleol sy'n gallu ehangu'r ddarpariaeth yn gynt na hyn i wneud hynny. Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi gwneud cynnydd ardderchog hyd yma, gan ganolbwyntio i ddechrau ar feithrin gallu ysgolion i ddarparu'r cynnig ehangach yn ddiogel ac yn gynaliadwy.

Gofal plant

Rydym wedi ymrwymo i ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddarparu ac atgyfnerthu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn cyflwyno'r polisi drwy'r rhaglen ragorol, Dechrau'n Deg, y mae cymunedau lleol yn ymddiried ynddi. Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd â phlant ifanc sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae’n cynnwys gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel yn rhad ac am ddim i blant dwy a thair oed yn yr ardaloedd hynny.

Mae cam cyntaf y rhaglen ehangu bellach wedi'i gwblhau – mae gwasanaethau Dechrau'n Deg yn cael eu cynnig i fwy na 3,175 o blant ychwanegol o dan bedair oed. Mae'r ail gam ar y gweill, ac mae 12.5 awr yr wythnos o ofal plant o ansawdd uchel drwy Dechrau'n Deg ar gael am ddim i fwy na 3,800 o blant ychwanegol yn barod. Rydym yn disgwyl i'r cam hwn yn y pen draw gefnogi dros 4,500 yn fwy o blant dwy oed i gael gofal plant o ansawdd uchel drwy Dechrau’n Deg yn 2023-2024. Yn 2024-2025, bydd 5,200 yn fwy o blant dwy oed yn cael eu cefnogi i gael gofal plant Dechrau'n Deg.

Yn ystod 2023-2024 a 2024-2025, rydym yn buddsoddi £46m i ehangu darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg er mwyn helpu i sicrhau effeithiau cadarnhaol hirdymor ar fywydau'r plant a'r teuluoedd hynny ledled Cymru sy'n wynebu'r heriau mwyaf.

Dyfodol gofal cymdeithasol

Ein huchelgais ar y cyd yw creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen, a fydd yn parhau yn wasanaeth cyhoeddus. Fel cam cyntaf, gwnaethom sefydlu Grŵp Arbenigol Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol. Cyhoeddwyd ei adroddiad terfynol ym mis Tachwedd 2022, gan gynnwys cyfres o argymhellion ynghylch sut i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol. Byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu cychwynnol cyn diwedd y flwyddyn hon.

Ym mis Mai 2023, lansiwyd ymgynghoriad gennym ar y rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth, sy'n ffurfio conglfaen pwysig tuag at greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yng Nghymru.

Ail gartrefi

Yn ystod dwy flynedd gyntaf y Cytundeb Cydweithio, rydym wedi cymryd camau uniongyrchol a mwy hirdymor i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn ail gartrefi a phroblem tai anfforddiadwy sy’n effeithio ar lawer o gymunedau yng Nghymru. Rydym wedi cyflwyno rhaglen radical i greu cymunedau bywiog a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fyw yn eu cymuned leol – boed drwy brynu neu rentu cartref.

Ers 1 Ebrill, mae cymunedau Cymru yn cael gwell cefnogaeth i fynd i’r afael â’r lefelau uchel o ail gartrefi ac eiddo gwag, drwy reolau newydd ynghylch y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Daeth y rheolau hyn i rym yn dilyn ymgyngoriadau cenedlaethol a lleol, gan alluogi awdurdodau lleol i roi mesurau cryfach ar waith. Mae’r mesurau’n rhan o ymdrechion i sicrhau y caiff pobl gyfle i fyw yn eu cymuned leol, ac i geisio gwella argaeledd a fforddiadwyedd tai rhent a thai i’w prynu.

Mae gan awdurdodau lleol yr hawl i osod a chasglu premiymau’r dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor hyd at 300% – i fyny o 100% – yn seiliedig ar anghenion lleol. Yn 2023-24, mae naw o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn codi premiwm ar ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor. Mae chwe awdurdod lleol arall yn codi premiymau ar anheddau gwag hirdymor yn unig. Mae un awdurdod lleol wedi penderfynu codi premiwm o 150% ar ail gartrefi yn 2023-2024. Ers 1 Ebrill 2023, mae awdurdodau lleol yn cael eu hannog i gyhoeddi, ar eu gwefannau, fanylion yr incwm a wnaed o godi premiwm yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

Mae'r meini prawf ar gyfer llety gwyliau sy'n atebol am ardrethi annomestig yn lle'r dreth gyngor hefyd wedi'u cryfhau. Y nod yw ei gwneud yn gliriach bod eiddo'n cael ei osod yn rheolaidd yn rhan o fusnesau gwyliau go iawn, sy'n cyfrannu at yr economi leol. I gyd-fynd â'r newid hwn, mae canllawiau statudol diwygiedig wedi'u cyhoeddi ar gyfer awdurdodau lleol.

Cafodd ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion i sefydlu cynllun trwyddedu statudol newydd ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr ei gwblhau ym mis Mawrth. Cyhoeddwyd yr ymatebion ym mis Gorffennaf.

Ym mis Hydref 2022, gwnaed newidiadau i'r 'Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd' ym maes cynllunio a chwblhaodd un awdurdod cynllunio lleol ymgynghoriad ym mis Medi 2023 ar ei ddefnyddio. Rydym yn ei gefnogi'n ariannol er mwyn gallu rhannu'r hyn a ddysgir ledled Cymru pe bai'r newidiadau'n cael eu gweithredu.

Ym mis Ionawr 2023, lansiodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y cynllun grant cartrefi gwag cenedlaethol, gwerth £50m, i adnewyddu eiddo gwag er mwyn eu defnyddio eto. Mae 16 o awdurdodau lleol bellach yn cymryd rhan yn y cynllun ac mae dros 400 o geisiadau dilys wedi dod i law hyd yma.

Mae trafodaethau manwl wedi bod am y farchnad forgeisi a'r rôl bosibl y gall cymorth morgeisi lleol ei chwarae. Mae cyfle bellach i helpu rhagor o bobl drwy ehangu'r cymorth achub morgeisi rydym yn ei gynnig ar hyn o bryd er mwyn inni fedru cynnig cymorth yn gynt, ac nid dim ond pan fo bygythiad i eiddo pobl gael ei adfeddu, gan eu galluogi i aros yn eu cartrefi. Bydd Cynllun Cymorth i Aros Cymru yn darparu cymorth wedi'i dargedu fel rhan o'n cytundeb ar gyfer cyllideb 2023-2024, gan gynnig £40m o gyllid cyfalaf ad-daladwy eleni a'r flwyddyn nesaf i gyflwyno cynlluniau i ddarparu cymorth ariannol hyblyg. Bydd Cynllun Cymorth i Aros Cymru yn cynnig opsiwn i berchnogion cartrefi sy'n ei chael yn anodd fforddio eu taliadau morgais ac sydd mewn perygl difrifol o golli eu cartref. Bydd yn gwneud hynny drwy gynnig ad-dalu rhan o falans morgais sydd ganddynt eisoes drwy roi benthyciad ecwiti cost isel sy'n cael ei ddiogelu drwy ail arwystl (i'w dalu ar ôl talu benthyciwr yr arwystl cyntaf), gan leihau'r ad-daliadau morgais diwygiedig i lefel y gall yr ymgeisydd ei fforddio. Bydd y Cynllun yn cael ei weithredu gan Fanc Datblygu Cymru a bydd yn ddi-log am y pum mlynedd gyntaf. Pwrpas y Cynllun yw lleihau nifer y perchnogion tai sydd mewn perygl o weld eu cartrefi'n cael eu hadfeddu ac o fod yn ddigartref, drwy roi amser iddynt ddatrys y problemau ariannol sylfaenol sy'n eu hwynebu.

Diogelwch adeiladau

Rydym wedi creu rhaglen diogelwch adeiladau uchelgeisiol i ddiogelu ein stoc bresennol o adeiladau uchel a chanolig rhag tanau, yn ogystal â gwneud diwygiadau sylfaenol i'r system diogelwch adeiladau bresennol.

Mae deg datblygwr preswyl mawr yn y DU wedi llofnodi contract â Llywodraeth Cymru sy'n eu rhwymo'n gyfreithiol i fynd i’r afael â diffygion tân sy’n peryglu bywyd mewn adeiladau 11 metr o uchder a mwy, y maent wedi'u datblygu yn y 30 mlynedd diwethaf. Mae'r datblygwyr hyn wedi nodi 84 o adeiladau sydd angen gwaith. Cynhaliwyd y cyfarfodydd monitro cyntaf rhwng datblygwyr a swyddogion yn yr haf i drafod y cynnydd hyd yma.

Er mwyn sicrhau na fydd unrhyw rwystrau ariannol yn atal y gwaith angenrheidiol, mae Cynllun Benthyciadau i Ddatblygwyr, gwerth £20m, wedi'i sefydlu i sicrhau y gellir gwneud y gwaith cyn gynted â phosibl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gamu i mewn a gwneud gwaith unioni mewn grŵp cychwynnol o 30 o adeiladau o dan berchnogaeth breifat pan fo'r datblygwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu neu pan nad yw'r datblygwr yn hysbys – gelwir y rhain yn adeiladau amddifad neu ddi-riant. Cynhaliwyd arolygon i nodi diffygion sy'n bresennol ac, yn sgil hynny, mae gwaith pellach yn cael ei wneud i sefydlu pa gamau y mae angen eu cymryd i leihau'r perygl o dân yn yr adeiladau hyn a darparu amserlen ar gyfer y gwaith sydd i'w wneud.

Cwblhawyd rownd derfynol o geisiadau mewn perthynas â'n rhaglen i wella diogelwch tân yn y sector cymdeithasol. Hyd yn hyn, mae dros 100 o adeiladau wedi cael cyllid ar gyfer gwaith y mae angen ei wneud.

Eiddo a Rhenti Teg

Rydym yn cydnabod y pwysau y mae'r cynnydd mewn costau byw, gan gynnwys costau rhentu i denantiaid, yn ei roi ar gyllidebau aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd. Rydym wedi ymrwymo i helpu tenantiaid ac i ymdrechu i ddarparu cartrefi digonol a sicrhau bod cyfle teg i gartref rhent preifat: un agwedd bwysig ar hyn yw fforddiadwyedd.

Ym mis Mehefin, lansiwyd ymgynghoriad Papur Gwyrdd Galwad am dystiolaeth ar greu llwybr tuag at dai digonol gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd i gasglu tystiolaeth i gefnogi a datblygu un o ymrwymiadau ein Cytundeb Cydweithio. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 15 Medi 2023 ac mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi er mwyn deall yn well y farchnad rentu yng Nghymru, yn enwedig y ffactorau sy'n dylanwadu ar ymddygiad landlordiaid wrth bennu rhenti a chymryd tenantiaid a beth yng ngolwg tenant sy'n gartref fforddiadwy a digonol.

Digartrefedd

Rydym wedi nodi cynlluniau uchelgeisiol i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru drwy Bapur Gwyn newydd sy'n ymdrin â diwygio polisïau a deddfwriaeth. Ein hymrwymiad ar y cyd yw rhoi diwedd ar bob math o ddigartrefedd yng Nghymru, drwy ei wneud yn beth 'prin, byr, nad yw'n ailddigwydd'. Mae'r cynigion yn canolbwyntio ar wella mesurau atal ac ymyriadau cynnar, drwy gyflwyno pecyn o ddiwygiadau fydd yn gweddnewid y system bresennol yng Nghymru ar gyfer ymdrin â digartrefedd a thai. Mae'r Papur Gwyn yn seiliedig i raddau helaeth ar ganfyddiadau Panel Adolygu Arbenigol Annibynnol y gofynnwyd iddo adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru. Fel rhan o'r adolygiad hwn, mae dros 350 o bobl sydd â phrofiad bywyd o fod yn ddigartref wedi rhannu eu barn i helpu i ddatblygu’r cynigion.

Diwygio'r Dreth Gyngor

Rydym wedi ymrwymo i ddiwygio'r dreth gyngor i'w gwneud yn decach a mwy blaengar. Rydym wedi cynnig newidiadau sy'n cynnwys bandiau mwy blaengar sy'n adlewyrchu'r data diweddaraf, ailbrisiadau rheolaidd ac adolygiad o’r drefn disgowntiau a gostyngiadau i sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi yn y ffordd fwyaf effeithiol. Gwelwyd mwy o fanylion ynghylch sut olwg allai fod ar y system newydd yn yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd ar 14 Tachwedd. Bydd rhai agweddau ar y newidiadau'n cael eu gwneud drwy Fil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), a gyflwynwyd ym mis Tachwedd. Bydd y dreth gyngor yn parhau i ariannu gwasanaethau hanfodol fel ysgolion a gofal cymdeithasol, ond nid oes bwriad i'r diwygiadau godi mwy o refeniw nag a godir ar hyn o bryd.

Caffael

Daeth Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn gyfraith ym mis Mai 2023. Mae cyllid wedi'i neilltuo i barhau â'n gwaith ar hyrwyddo prynu nwyddau a gwasanaethau o Gymru. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i helpu i ddiffinio beth yw cyflenwr o Gymru ac i fesur y manteision economaidd y gall y drefn gaffael esgor arnynt.

Ardoll ymwelwyr

Bydd cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth i alluogi awdurdodau lleol i weithredu ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd yn cael eu cyflwyno i'r Senedd cyn diwedd 2024. Tâl bychan fydd yr ardoll, a fydd yn cael ei dalu gan ymwelwyr sy'n aros mewn llety dros nos. Mae taliadau tebyg yn gyffredin ledled y byd, ac mewn mwy na 40 o gyrchfannau gan gynnwys Gwlad Groeg, Frankfurt, Amsterdam a Chatalonia. Awdurdodau lleol fydd yn penderfynu a ydynt am gyflwyno ardoll a bydd yr arian a godir yn cael ei ddefnyddio i wella'r hyn a gynigir i dwristiaid yn eu hardaloedd.

Cwblhawyd ymgynghoriad ar y cynigion i gyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru a chyhoeddwyd y canfyddiadau ac adroddiad ymchwil i ddefnyddwyr ym mis Mawrth 2023. Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac ymchwil bellach yn cael eu defnyddio i lywio'r gwaith o ddatblygu'r cynigion deddfwriaethol.

Rhaglen bolisi: Cymru wyrddach i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’r argyfwng natur

Gwelsom ddigon o bethau yn 2023 i'n hatgoffa bod yr hinsawdd wrthi'n newid. Mae gwres, stormydd a llifogydd eithafol yn dod yn ddigwyddiadau rheolaidd wrth i'r ddaear gynhesu. Rydym yn parhau i weithio gyda'n gilydd i gyrraedd ein targedau Sero Net, ac, ar yr un pryd, yn datblygu math newydd a chynaliadwy o gymorth i ffermwyr yn ein sector amaethyddiaeth.

Cwmni ynni sero net (Ynni Cymru)

Lansiwyd Ynni Cymru, cwmni ynni newydd i Gymru o dan berchnogaeth gyhoeddus, ym mis Awst. Bydd y cwmni, o'i gartref yn M-SParc, Ynys Môn, yn helpu i sicrhau bod mwy o gymunedau ledled Cymru'n cael bod yn berchen ar ffynonellau cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae gwaith cwmpasu cychwynnol yn dangos bod cyfle da i Ynni Cymru wneud Cymru'n geffyl blaen o ran datblygu a chynnal prosiectau ynni lleol clyfar. Fel rhan o'r gwaith, mae cyllid wedi'i roi i 10 prosiect ar ffurf grantiau adnoddau dros dair blynedd ac i helpu prosiectau ynni cymunedol i ddatblygu.

Adolygiad o lifogydd

Cyhoeddodd yr Athro Elwen Evans KC adolygiad annibynnol ym mis Awst o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol a Chyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd eithafol gaeaf 2020-2021. Mae'r adolygiad yn gam pwysig i reoli'r perygl o lifogydd yn well, gan gynnwys yr ymateb i lifogydd a'i ganlyniadau, yng Nghymru.

Llygredd amaethyddol

Gwnaethom ymrwymo i weithio gyda'r gymuned ffermio i ddefnyddio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 i wella ansawdd dŵr ac aer, gan dargedu'r gweithgareddau hynny yr ydym yn gwybod sy'n achosi llygredd. Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar gefnogaeth a'r dystiolaeth o blaid cynigion ar gyfer cynllun trwyddedu sy'n gyfyngedig o ran amser, cyflwynwyd diwygiadau i Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 i weithredu ‘Dull Rheoli Maethynnau Uwch’ rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2024. Caiff ei weithredu pan fo angen mwy na 170kg/ha o nitrogen o dail da byw ar y tir. Mae'r dull hwn yn disodli'r broses ymgeisio arfaethedig am drwydded, gan gadw'r egwyddorion yr ymgynghorwyd arnynt a'r rhai yr oedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad o'u plaid.

Mae'r camau newydd hyn yn weithredu pellach tuag at ein nod cyffredin o leihau'n sylweddol y llygredd sy'n dod o amaethyddiaeth, gan ddangos ein hymrwymiad di-dor i wneud hynny mewn partneriaeth â'r gymuned ffermio i sicrhau canlyniadau parhaol.

Sero net

Ym mis Ionawr, dechreuodd Grŵp Her Sero Net 2035 ymchwilio i’r llwybrau posibl i gyrraedd sero net erbyn 2035 yn hytrach na 2050. Mae’n edrych ar yr effaith ar gymdeithas ac ar sectorau'r economi a sut y gallwn leihau unrhyw effeithiau niweidiol, gan gynnwys sut i rannu'r costau a’r manteision yn deg. Mae nifer o arbenigwyr technegol wedi ymuno â'r grŵp, o'r byd academaidd a sefydliadau cyhoeddus a phreifat, gan gynnig arbenigedd o holl sectorau allweddol ein heconomi. Mae pob arbenigwr yn rhoi o'i amser heb dâl. Mae nifer o arsylwyr wedi ymuno hefyd, gyda chefnogaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Buddsoddiad cyfalaf a chydnerthedd cenedlaethol o ran llifogydd

Mae ein hymrwymiad i fuddsoddi mwy mewn rheoli a lliniaru llifogydd ac ymateb i'r perygl cynyddol o lifogydd yn parhau. Rydym wedi cyhoeddi'r dyraniadau cyllid diweddaraf o gronfa gwerth £214m ar gyfer cynlluniau llifogydd. Cafodd £75m ei ddyrannu fel rhan o'r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar gyfer 2023-2024. Mae'r arian ar gael i Awdurdodau Rheoli Risg i leihau perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru.

Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

I'n cefnogi wrth gynllunio ar gyfer llifogydd yn y dyfodol, rydym wedi gofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru asesu sut y gallwn leihau llifogydd i gartrefi, busnesau a seilwaith erbyn 2050. Bydd yn ystyried y sgiliau, y capasiti a'r adnoddau sydd eu hangen arnom, heriau addasu, yr angen i weithio ar lefel dalgylch a sut i ennyn mwy o feddylfryd partneriaeth nid yn unig ar draws awdurdodau rheoli risg ond hefyd ar draws adrannau eraill y llywodraeth. Rydym yn disgwyl i'r gwaith hwn gael ei gwblhau yn haf 2024.

Bioamrywiaeth

Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth yn nhymor y Senedd hon i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru ac i gyflwyno dyletswydd a thargedau statudol i warchod ac adfer bioamrywiaeth. Caiff Papur Gwyn ei gyhoeddi ddechrau 2024.

Plannu coed

Ym mis Mai, cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd gyfraddau talu uwch i'r rheini sydd am greu coetir. Bydd yn rhan o ymgyrch Cymru i blannu 86m o goed erbyn diwedd y degawd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Yn dilyn adolygiad ac mewn ymateb i adborth gan y sector, bydd y cyfraddau talu'n codi yn unol â chostau gwirioneddol creu coetiroedd yn 2023.

Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Ym mis Mehefin, pleidleisiodd Aelodau o'r Senedd o blaid Bil Amaethyddiaeth cyntaf Cymru a fydd yn allweddol i helpu ffermwyr ac i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy am genedlaethau i ddod. Mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) yn diwygio degawdau o gefnogaeth yr UE ar gyfer ffermwyr ac yn sefydlu Rheoli Tir yn Gynaliadwy fel y fframwaith ar gyfer helpu a rheoleiddio amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr drwy gyflwyno cyfnod pontio, gan gynnwys taliadau sefydlogrwydd, wrth inni ddiwygio'r system taliadau ffermio, yn unol â'r ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio. Bydd hyn yn rhoi'r sefydlogrwydd sydd mawr ei angen ac yn sicrhau na chaiff unrhyw ffermwr fod heb ddim taliadau cymorth.

Ym mis Gorffennaf gwnaethom gyhoeddi'r adroddiadau cyd-ddylunio ar y cynigion bras ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan ddarparu adborth gwerthfawr iawn. Mae'r ddau adroddiad cyd-ddylunio yn cynnwys barn ffermwyr a rhanddeiliaid eraill, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru. Cam nesaf y broses fydd yr ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni, cyn ei lansio yn 2025.

Strategaeth Bwyd Cymunedol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau "astudiaeth mapio systemau" o faterion sy'n berthnasol i fwyd cymunedol, hynny fel cam pwysig at ddatblygu strategaeth. Mae grwpiau ffocws rhanddeiliaid wedi ystyried y "map o'r systemau", gan ymateb i'r pwyntiau y mae'r map yn eu dangos a chan gynnig awgrymiadau ar gyfer cyfeiriad polisi.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae Trafnidiaeth Cymru yn dal i ddatblygu opsiynau ar gyfer yr ymrwymiad i ymchwilio i sut y gellir datblygu’r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y Gogledd a’r De, gan gynnwys sut i ddiogelu coridorau teithio posibl ar arfordir y Gorllewin. Mae gwaith dichonoldeb yn parhau ar sut i ddiogelu coridorau trafnidiaeth a datblygu opsiynau aml-ddull i wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y Gogledd a'r De.

Rhaglen bolisi: Diwygio sylfeini Cymru

Mae'r pethau y mae Llywodraeth bresennol y DU yn eu gwneud yn parhau i fygwth datganoli yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i anfon neges glir i San Steffan na fydd y Senedd hon yn symud gam o'r fan a bod penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru.

Byddwn yn diwygio ein system etholiadol er mwyn i seneddwyr Cymru allu cynrychioli pobl yn fwy effeithiol ac rydym yn disgwyl ymlaen at adroddiad y comisiwn annibynnol am ein dyfodol cyfansoddiadol.

Diwygio’r Senedd

Rydym wedi cyflwyno Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Mae'n gwireddu argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, a gymeradwywyd gan fwyafrif o Aelodau o'r Senedd ym mis Mehefin 2022. Ei nod yw cryfhau democratiaeth yng Nghymru drwy greu Senedd fodern fydd yn gallu cynrychioli pobl yng Nghymru yn well, gyda mwy o allu i graffu, gwneud cyfreithiau a dwyn y llywodraeth i gyfrif.

Mae ail Fil ym mhecyn diwygio'r Senedd wedi cael ei ddatblygu, i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr mewn etholiadau i'r Senedd, gyda'r nod o wneud y sefydliad yn fwy effeithiol ac yn fwy cynrychioliadol o'r bobl y mae'n eu gwasanaethu.

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Mae Gweinidogion Cymru a’r Aelodau Dynodedig wedi cyfarfod yn rheolaidd â chyd-gadeiryddion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i weld sut mae gwaith y comisiwn yn mynd yn ei flaen.

Mae'r comisiwn wedi ymgysylltu â'r cyhoedd i lywio ei adroddiad terfynol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, a fydd ar gael ym mis Ionawr 2024.

Darlledu

Sefydlwyd y panel arbenigol annibynnol yn 2022 i ystyried sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru ac ym mis Awst cyhoeddodd adroddiad terfynol gydag argymhellion helaeth ar gyfer y dyfodol. Mae'r rhain wrthi'n cael eu hystyried.

Cymorth ariannol ar gyfer y cyfryngau

Rydym wedi sicrhau bod cyllid ar gael i helpu i gryfhau newyddiaduraeth leol yng Nghymru. Defnyddiwyd yr arian i gefnogi Cynllun Sbarduno Newyddion er Budd y Cyhoedd yng Nghymru, sydd wedi dyfarnu grantiau i ddeg sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddarparu newyddion budd cyhoeddus ag iddo berthnasedd lleol ac i helpu sector newyddion cymunedol Cymru i dyfu. Mae'r cyllid wedi cefnogi hefyd nifer bach o brosiectau newyddiaduraeth at ddiben ymchwil, gwella cynrychiolaeth a darparu mwy o newyddion am waith y Senedd.

Rydym hefyd wedi neilltuo cyllid i gwmnïau yng Nghymru i ddatblygu deunydd dwyieithog ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc. Mae wyth prosiect wedi derbyn cymorth, gan gynnwys animeiddiad a gêm wedi'u hysbrydoli gan chwedloniaeth Cymru; sioe sgetsys comedi wedi'i hanelu at gynulleidfa cyn oed ysgol sy'n cynnwys band eclectig o gymeriadau wedi'u gwneud o fotymau ac edau; a sioe hwyliog i blant sy'n seiliedig ar ddŵr sy'n cyfuno heriau meddyliol a chorfforol. Dyfarnwyd cyllid i helpu i sicrhau bod y platfform AM yn parhau'n gynaliadwy.

Arfor a'r Cymoedd

Nod rhaglen Arfor yw rhoi hwb economaidd a chryfhau'r Gymraeg ledled Gwynedd, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn. Mae'n cefnogi nifer o fentrau, gan gynnwys pwyslais ar gyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd, er mwyn iddynt allu aros yn eu cymunedau cartref neu ddychwelyd i’r cymunedau hynny.

Yn dilyn llwyddiant ei cham cyntaf, mae'r rhaglen yn agored i dendrau ar gyfer ffrwd waith Cymunedau Mentrus. Mae'n gyfle i gwmnïau, mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol wneud cais am gyllid hyd at fis Mawrth 2025 i gefnogi cymunedau Cymraeg.

Ysgol Lywodraethu Genedlaethol

Yn y flwyddyn ddiwethaf mae gwaith wedi cael ei wneud i weld sut y gallai Ysgol Lywodraethu Genedlaethol gyfrannu at Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru. Mae'r gwaith hwnnw wedi cynnwys adolygiad o ysgolion llywodraethu mewn rhannau eraill o’r byd, trafod helaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ac astudiaeth ymchwil i fesur y galw am ysgol o'r fath. Mae grŵp cyfeirio annibynnol wedi'i greu i graffu ar y gwaith a'i herio, ac mae'r broses o adolygu ac ystyried manwl yn parhau. Mae'r gwaith wedi nodi rhaglen arweinwyr arfaethedig fel blaenoriaeth.

Adolygu trefniadau partneriaethau rhanbarthol

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ar y cyd â’r Aelod Dynodedig, wedi ymgysylltu'n helaeth â chadeiryddion amrywiaeth o bartneriaethau strategol i gloriannu'r gwaith sydd wedi'i wneud ers adolygu'r partneriaethau strategol ym mis Mehefin 2020. Rhannwyd canlyniad yr ymarferiad hwnnw â Chyngor Partneriaeth Cymru a chael ei gytundeb. Bydd yr adroddiad a'r camau nesaf yn cael eu cyhoeddi.

Plant sy’n derbyn gofal

Y llynedd gwnaethom ymgynghori ar ddeddfwriaeth a fyddai'n dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, hynny fel rhan o'r diwygio ehangach ar wasanaethau plant. Ym mis Mehefin, gwnaethom gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a fydd yn ein helpu i ddatblygu'r polisi a'r ddeddfwriaeth, a fydd yn cael ei chyflwyno'r flwyddyn nesaf.

Athrawon cyflenwi

Ym mis Rhagfyr 2022, eglurodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ei gynlluniau i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer athrawon cyflenwi gydag egwyddorion gwaith teg yn ganolog iddo. Mae hyn wedi golygu gwaith mewn tri maes. Rydym wedi caffael platfform archebu cenedlaethol y bydd ysgolion yn gallu ei ddefnyddio i gael hyd i staff cyflenwi a'u harchebu’n uniongyrchol. Mae'n cael ei gyflwyno fesul cam i Awdurdodau Lleol.

Rydym wedi creu fframwaith newydd ar gyfer asiantaethau cyflenwi ac mae 41 o asiantaethau wedi bod yn llwyddiannus. Mae'r fframwaith wedi'i gryfhau ac mae'n cynnwys amod bod asiantaethau'n ymuno â'r rhwydwaith 'SaferJobs', gofyniad cryfach i asiantaethau gydymffurfio â gofynion cyflogaeth statudol a bydd yn sicrhau bod asiantaethau'n cefnogi’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol i athrawon cyflenwi. Rydym hefyd wedi comisiynu Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru i gynnal adolygiad strategol o gyflogau ac amodau athrawon.

Dyddiadau tymhorau ysgol

Rydym wedi ymrwymo i ddiwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Rydym yn ymchwilio i'r modd y gall amseriad tymhorau a gwyliau ysgol helpu i fynd i'r afael ag anfantais, cefnogi llesiant a rhoi mantais i ddysgwyr, staff ysgolion a rhieni. Ar 21 Tachwedd, cyhoeddwyd ymgynghoriad ffurfiol i ofyn barn am nifer o gynigion i wella'r calendr ysgol presennol. Mae'n cynnig cynlluniau i weithio gyda chyrff perthnasol i newid paramedrau traddodiadol calendr ysgolion i greu tymhorau mwy cyson eu hyd ac estyn rhai gwyliau hanner tymor fel bod pob hanner tymor fwy neu lai yr un hyd. Mae cynigion penodol yn cynnwys estyn gwyliau hanner tymor mis Hydref i bythefnos a chwtogi gwyliau'r haf o wythnos, yn ogystal â rhoi'r hyblygrwydd i ddatgysylltu gwyliau'r gwanwyn oddi wrth wyliau cyhoeddus y Pasg. Bydd yr ymgynghoriad yn para tan fis Chwefror 2024. Caiff y cam nesaf ei gyhoeddi ar ôl ystyried y canfyddiadau.

Diwygio cymwysterau

Cyhoeddwyd yr adroddiad annibynnol ar ddyfodol cymwysterau galwedigaethol ar 11 Medi, gyda 33 o argymhellion i Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill, fel Cymwysterau Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd ac yn cydnabod yr hyn sydd eisoes yn dda yn y cymwysterau galwedigaethol a'r ffordd y maent yn cael eu cynnal, ond yn argymell newid lle barnwyd bod angen. Ystyriwyd y byd galwedigaethol yn y DU yn ogystal ag yn rhyngwladol gan gydnabod pwysigrwydd rhoi cefnogaeth gref i gyflogwyr i ddatblygu a darparu cymwysterau galwedigaethol.

Ymhlith yr argymhellion oedd cefnogaeth i gymwysterau a wneir yn benodol er lles Cymru ac i ddatblygiadau strategol sy'n ymwneud â darparu cymwysterau galwedigaethol a'r seilwaith cysylltiedig.

Addysg Drydyddol ac Ymchwil, gan gynnwys y strategaeth arloesi

Rydym wedi lansio strategaeth arloesi newydd i Gymru, sy'n disgrifio'r dyhead bod Cymru'n wlad flaengar ac arloesol. Mae'n canolbwyntio ar sicrhau bod cynhyrchion a phrosesau newydd arloesol yn cael eu datblygu i helpu i ddatrys yr heriau mwyaf sy'n wynebu cymunedau a sicrhau eu bod yn cyrraedd pob rhan o gymdeithas. Drwy gydweithio, y nod yw sicrhau gwell gofal iechyd, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur a chreu gwell swyddi a ffyniant i fusnesau, prifysgolion a chymunedau lleol. Cyhoeddwyd cynllun cyflawni ym mis Hydref, a oedd yn nodi'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ysgogi arloesedd yng Nghymru. Bydd llawer o'r camau hyn yn cael eu cymryd mewn partneriaeth ag eraill, gan gydnabod yr ymdrech a'r effaith sydd eu hangen gan bob aelod o'r byd arloesi, i adeiladu diwylliant arloesi cryfach yng Nghymru.

Rhaglen bolisi: Creu Cymru unedig, sy’n decach i bawb

Mae gennym ymrwymiad ar y cyd y bydd pawb yng Nghymru yn rhannu cyfleoedd y dyfodol, fel nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl ble bynnag y mae’n byw, a bod amrywiaeth yn cael ei pharchu a'i dathlu. Rydym yn parhau i gyflawni ein hymrwymiadau yn y Cytundeb Cydweithio yn erbyn cefndir yr argyfwng costau byw parhaus sy'n cael effaith ar bobl a busnesau ledled y wlad. Er gwaethaf hyn, rydym wedi ymrwymo o hyd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a sicrhau Cymru decach i bawb.

Strategaeth Ddiwylliant

Rydym wedi bod yn cydweithio â phartner allanol arweiniol i ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau i lunio Strategaeth Ddiwylliant newydd i Gymru. Mae ymgysylltu wedi digwydd drwy gydol y flwyddyn – cynhaliwyd dros 100 o gyfweliadau manwl a 15 gweithdy gyda sectorau, cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol ledled Cymru.

Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd aelodaeth grŵp llywio cyffredinol i graffu ar hynt y gwaith o ddatblygu'r strategaeth ac i’w werthuso'n feirniadol. Mae ein ffocws o hyd ar sicrhau bod y strategaeth derfynol yn bragmatig ac yn uchelgeisiol, a'i bod yn annog mwy o gydlyniant rhwng y sectorau perthnasol ac yn y ffordd y caiff diwylliant ei adlewyrchu ar draws gwaith Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd ym mis Mawrth hefyd fynediad am ddim i deuluoedd o dan anfantais i Eisteddfod yr Urdd 2023. Gyda chymorth cyllid o £150,000, roedd modd i deuluoedd o dan anfantais hawlio tocynnau am ddim i Eisteddfod yr Urdd.

Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol

Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran datblygu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Mae'r prosiect i greu'r rhwydwaith gwasgaredig o orielau ledled Cymru yn cael ei gyflawni drwy gydweithio rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd y rhwydwaith o orielau yn darparu mynediad am ddim i gelf gyfoes a'r casgliad cenedlaethol ac yn dod â chelf yn nes at gymunedau Cymru. Bydd yr orielau lletya yn parhau i arddangos casgliad celf cenedlaethol Cymru a bydd oriel angor yn darparu wyneb cyhoeddus amlwg i'r oriel gelf gyfoes genedlaethol. Mae'r casgliad cenedlaethol yn perthyn i bawb yng Nghymru ac yn cael ei ddarparu'n ddigidol drwy blatfform digidol Celf ar y Cyd. Bydd y model unigryw hwn yn galluogi pobl i edrych ar y casgliad yn eu cymunedau lleol, gan sicrhau bod mwy o bobl ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol yn gallu cael cyfle i fwynhau'r casgliad cenedlaethol.

Y cwricwlwm (hanes Cymru)

Mae hanes Cymru yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd a gyflwynwyd ym mis Medi 2022. Rydym yn rhoi pwys mawr ar hanes cymhleth ac amrywiol Cymru. Gwnaethom ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer maes y dyniaethau mewn perthynas â hanes Cymru a'r byd, er mwyn dangos ein hymrwymiad i hyn yn glir.

Cafodd y cynigion gefnogaeth eang a chyhoeddwyd canlyniad yr ymgynghoriad ym mis Chwefror 2023. Yn dilyn yr ymgynghoriad, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru fersiwn wedi'i diweddaru o'r Cod datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar 2 Mehefin er mwyn cyflwyno newidiadau i'r datganiadau gorfodol o'r hyn sy'n bwysig mewn perthynas â hanesion Cymru. Daeth y newidiadau dilynol i ganllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer maes y dyniaethau i rym ym mis Mai 2023.

Prosiect 2050

Rydym yn parhau i weithio tuag at ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac wedi datblygu, ariannu a hyrwyddo ystod o raglenni Cymraeg dros y 12 mis diwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei nod o ddod yn weinyddiaeth ddwyieithog yn ei strategaeth ar y defnydd mewnol o'r Gymraeg, Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd. Mae hyn yn galluogi staff i ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg mewn modd cyfnewidiol wrth weithio. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gyflawni amcanion y strategaeth, a gyhoeddwyd yn 2020, ac mae cynnydd wedi'i wneud drwy ganolbwyntio ar bedair thema'r strategaeth ar gyfer y pum mlynedd gyntaf: arweinyddiaeth, dysgu, recriwtio a thechnoleg.

Mae’r drydedd garfan ar gyfer cam prawf ein rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog wedi dechrau. Mae'r rhaglen yn dwyn ynghyd uwch arweinwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru i drafod sut y gallant arwain mewn ffordd sy'n ymgorffori ysbryd a llythyren Cymraeg 2050.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn rhan o brosiect peilot gweithio'n ddwyieithog a arweinir gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Rydym yn buddsoddi £1 miliwn ar gyfer y Gymraeg fel rhan o gymorth i ddeall a threialu ymyriadau mewn ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad y Gymraeg 2021 yn Sir Gaerfyrddin ac ardaloedd cyn-gadarnleoedd diwydiannol Cymoedd y Gorllewin.

Bil Addysg Gymraeg

Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd Papur Gwyn yn nodi cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg a oedd yn cynnwys nodau ac uchelgeisiau newydd ar gyfer ein system addysg. Bydd cyflawni'r rhain yn golygu cynyddu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg, ond hefyd cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion nad ydynt eisoes wedi'u dynodi'n ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn syml, rydym am i bob disgybl ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy'r system addysg statudol. Fel y cyhoeddwyd yn Natganiad y Prif Weinidog ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol, bydd Bil Addysg Gymraeg yn cael ei gyflwyno yn y drydedd flwyddyn hon o’r rhaglen ddeddfwriaethol, cyn toriad haf 2024.

Mae'r gwaith wedi dechrau, a bydd yn parhau yn 2024, ar astudiaeth dechnegol lawn ynghylch y taflwybr, gyda mewnbwn arbenigol i gyd-fynd â'r uchelgais newydd a fydd yn ganolog i'r Bil. Bydd yr astudiaeth yn ystyried taflwybr mwy serth ar gyfer 2050 a’r tu hwnt.

Safonau’r Gymraeg

Gwnaed Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 9) 2023 ar 19 Medi yn dilyn pleidlais yn y Cyfarfod Llawn. Mae'r rhain yn gymwys i gwmnïau dŵr sy'n darparu dŵr i'r cyhoedd yng Nghymru.

Enwau lleoedd Cymraeg

Gan adeiladu ar y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022, cyhoeddwyd polisi seilwaith ieithyddol Cymraeg Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2023. Roedd y polisi yn nodi rôl yr uned seilwaith ieithyddol newydd yn Llywodraeth Cymru, a fydd yn gyfrifol am fwrw ymlaen â'r gwaith ar ddiogelu enwau lleoedd Cymru. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar enwau tai, enwau nodweddion topograffig, ac enwau hanesyddol. Mae ymchwil wedi'i chomisiynu i nodi sut, ble a pham mae enwau lleoedd yn cael eu newid.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i’r Coleg Cymraeg er mwyn cryfhau a chefnogi'r ddarpariaeth yn y sectorau hamdden a chwaraeon, iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant ac amaethyddiaeth; yn ogystal ag ehangu'r ddarpariaeth yn y sectorau busnes a'r celfyddydau creadigol. Yn y sector prentisiaethau, mae'r Coleg yn parhau i feithrin capasiti yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant gan alluogi mwy o ddysgwyr i siarad Cymraeg a bod yn siaradwyr dwyieithog hyderus yn y gweithle. Mae'r cyllid hefyd yn cefnogi parhad dau brosiect addysg gychwynnol i athrawon.

Yn 2023-2024, gwnaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol estyn y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed a'r gweithlu addysg er mwyn darparu mynediad am ddim i gyrsiau Cymraeg. Mae'r cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiect peilot mewn ysgolion lle mae disgyblion yn defnyddio adnodd digidol newydd Say Something in Welsh ochr yn ochr â gwersi mwy ffurfiol. Mae cynllun peilot llwyddiannus eisoes wedi'i gynnal gyda dwy ysgol ac yn cael ei estyn i ddeg ysgol arall.

Rhwydwaith Seren

Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, cynigiwyd pedwar cyfle i ddysgwyr Seren yn ystod haf 2023. Yn dilyn proses ymgeisio pan gafwyd 495 o ymgeiswyr, aeth 50 o ddysgwyr i ysgol breswyl feddygol am dridiau ym Mhrifysgol Caerdydd; aeth 78 i ysgol breswyl dyniaethau am bedwar diwrnod, ac aeth 39 o ddysgwyr i ysgol gwyddor filfeddygol breswyl am bedwar diwrnod ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ogystal, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, cymerodd 86 o ddysgwyr ran mewn ysgol STEM ar-lein dros bum diwrnod.

Mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb

Rydym yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiad i archwilio'r seilwaith sydd ei angen i baratoi ar gyfer datganoli'r gwaith o weinyddu lles drwy ymgymryd â rhaglen gynhwysfawr o waith a fydd nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth i unigolion yng Nghymru yn y tymor byr ond a fydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud penderfyniadau yn y dyfodol ar ddatganoli pwerau pellach. Mae tri llinyn o waith: cyhoeddi Siarter Budd-daliadau Cymru, datblygu a chyflwyno cynllun i symleiddio Budd-daliadau Cymru ac ymchwil bellach i ddatgymalu'r cymlethdod ynghlwm â gweinyddu yn hytrach na pholisi'r system budd-daliadau lles. Bydd y gwaith hwn yn cael ei oruchwylio gan grŵp llywio allanol. Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip y dull gweithredu arfaethedig yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth Cymru ar 8 Tachwedd 2023 a chytunwyd arno. Y bwriad yw cyhoeddi'r Siarter ym mis Ionawr 2024 gyda chefnogaeth gan yr holl bartneriaid cyflawni, sy'n cynnwys y 22 awdurdod lleol. Nod y Siarter yw ysgogi newid diwylliant o ran darparu budd-daliadau drwy ofyn i bartneriaid cyflawni ymrwymo i set o egwyddorion sy’n seiliedig ar degwch, tryloywder a dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Iechyd meddwl

Mae'r ganolfan argyfwng iechyd meddwl gyntaf yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc sydd angen cymorth brys yn weithredol. Mae'r cyfleuster Hwb Argyfwng 24/7 wedi'i sefydlu yng Nghaerfyrddin gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r gwasanaeth noddfa yn cynnig darpariaeth iechyd meddwl bwrpasol i blant a phobl ifanc yn yr amgylchedd cywir, pan fydd ei angen arnynt fwyaf. Bydd yn atal arosiadau hir i blant mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn golygu na fydd angen i wardiau iechyd meddwl acíwt dderbyn plant ar gyfer asesiadau byr.

Hefyd mae Ward Betws yn Ysbyty Sant Cadog, sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn cael ei hailddatblygu'n helaeth i ddarparu canolfan argyfwng i blant a phobl ifanc er mwyn cynnig dewis arall yn lle cael eu derbyn i'r ysbyty. Disgwylir iddo fod yn weithredol ym mis Mawrth 2024. Mae prosiectau tebyg eraill yn cael eu datblygu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Anabledd

Rydym wedi ymrwymo i'r model cymdeithasol o anabledd ac i gryfhau hawliau pobl anabl. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, a'r Aelod Dynodedig ill dwy yn mynychu cyfarfodydd y Tasglu Hawliau Anabledd a sefydlwyd i ymateb i'r adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19.

Cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol

Yn dilyn cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, lansiwyd Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru ym mis Medi 2022 sy'n amlinellu camau pendant i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ar draws y system. Yr ymrwymiad hwn yw'r tro cyntaf i bartneriaid cyfiawnder troseddol, gan gynnwys y pedwar heddlu yng Nghymru, comisiynwyr heddlu a throseddu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi ddod at ei gilydd i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n amlwg ym mhob cam o'r system cyfiawnder troseddol.

Er mwyn sicrhau system cyfiawnder troseddol sy'n fwy cymwys yn ddiwylliannol ac yn wrth-hiliol, mae'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, sy'n gyfrifol am weithredu'r Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru, wedi sefydlu ffrwd waith sy'n canolbwyntio ar gymhwysedd diwylliannol, addysg a hyfforddiant i nodi'r pecynnau addysg a hyfforddiant effeithiol a seiliedig ar dystiolaeth sydd ar gael yn ymwneud â hil i weithwyr ar draws y gweithlu cyfiawnder troseddol yng Nghymru.

Mae cyllid wedi'i glustnodi i gyflymu a chefnogi gwaith cyrff noddedig a sefydliadau lleol, rhanbarthol a llawr gwlad i gyflawni'r nodau a'r camau gweithredu’n ymwneud â diwylliant, treftadaeth a chwaraeon yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae mentrau ar waith i hyrwyddo arferion gwrth-hiliol, sicrhau cyfleoedd teg, a meithrin mwy o ymgysylltu.

LHDTC+

Er mwyn cefnogi ein huchelgais i fod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop, cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru ym mis Chwefror. Mae'r cynllun yn dwyn ynghyd ymrwymiadau i osod cyfres o amcanion mentrus ond realistig ar gyfer creu cymdeithas lle mae cynnwys a dathlu pobl LHDTC+ yn elfen gwbl ganolog.

Ym mis Ebrill, gwnaeth y Cenhedloedd Unedig a'u Harbenigwr Annibynnol ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd gydnabod Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru fel "enghraifft o arfer da wrth lunio polisi hawliau dynol".

Ym mis Awst, agorodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol a'r Aelod Dynodedig y Camp Cymru cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwnaeth y digwyddiad, a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, ddwyn ynghyd artistiaid, pobl greadigol ac aelodau o'r gymuned LHDTC+ i drafod y celfyddydau cwiar Cymraeg yng Nghymru. Y digwyddiad oedd y sgwrs gelfyddydol cwiar genedlaethol gyntaf o'i bath yng Nghymru.

Casgliad

Mae'r Cytundeb Cydweithio yn rhaglen uchelgeisiol, dair blynedd o ymrwymiadau. Fel y nodwyd yn yr adroddiad hwn, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn 2023. Bydd cyhoeddiadau pellach yn dilyn yn ystod 2024.