Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, cyflwynodd Canghellor y Trysorlys ei Ddatganiad yr Hydref, ochr yn ochr â rhagolygon economaidd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR).
Mae'r Canghellor yn honni bod camau sydd wedi’u cymryd gan Lywodraeth y DU wedi helpu’r economi i droi cornel. Fodd bynnag, y realiti yw bod y rhagolygon yn dangos bod perfformiad economi’r DU yn debygol o fod gyda’r gwaethaf ymhlith yr economïau blaengar y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf – o ran chwyddiant uchel a thwf isel. Mae rhagolygon yr OBR yn dangos twf yn yr economi o 0.2% yn unig ar gyfartaledd bob chwarter hyd at ddiwedd y flwyddyn nesaf, o’i gymharu â chyfradd twf chwarterol gyfartalog o 0.5% a gyflawnwyd rhwng 1997 a 2010.
Er bod targed Prif Weinidog y DU i haneru chwyddiant wedi'i gyrraedd, cyfuniad o ffactorau byd-eang sydd wedi gorfodi cwymp mewn prisiau ynni a bwyd a rhaglen Banc Lloegr i gynyddu cyfraddau llog sydd bron yn gyfan gwbl gyfrifol am hyn. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn nodi nad oes gwelliant ystyrlon wedi’i weld o ran cyllid cyhoeddus, mae’r rhagolygon ar gyfer twf wedi gwanhau, ac mae disgwyl i chwyddiant aros ar lefel uwch am gyfnod hwy. Mae’r OBR yn rhagweld y bydd safonau byw 3.5% yn is y flwyddyn nesaf nag yr oeddent cyn y pandemig – y cwymp mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw yn y 1950au.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £305m yn ychwanegol dros 2023-24 a 2024-25. Mae hyn yn cynnwys £133m yn ychwanegol ar ffurf cyllideb adnoddau yn 2023-24, a £167m yn ychwanegol mewn adnoddau a £5.8m yn ychwanegol mewn cyfalaf yn 2024-25. Yn dilyn Datganiad yr Hydref heddiw, bydd gostyngiad o 0.1% mewn termau real yn setliad adnoddau Llywodraeth Cymru yn 2024-25 ac mae ein cyllideb gyfalaf 6% yn is mewn termau real. Yn gyffredinol, mae hynny yn ostyngiad mewn termau real o 1% flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ein setliad.
Pe bai ein cyllideb wedi cadw i fyny â'r twf yn yr economi ers 2010, byddai gennym £3bn arall i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus a busnesau yng Nghymru yn 2024-25. Yn hytrach, rydym yn wynebu dychwelyd at fesurau cyni. Mae ein setliad ar gyfer 2024-25 yn werth hyd at £1.3bn yn llai mewn termau real na'r disgwyl adeg yr Adolygiad o Wariant yn 2021.
Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru eisoes yn gorfod gwneud penderfyniadau anhygoel o anodd – mae'r GIG ac awdurdodau lleol yn nodi heriau difrifol, a phwysau sylweddol ar wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, a digartrefedd. Mae methiant y Canghellor i gydnabod y pwysau hyn yn golygu bod ysgolion, ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn wynebu toriadau mewn termau real, gan effeithio'n ddifrifol ar gynaliadwyedd y gwasanaethau hynny i’r dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol mewn diogelwch rhag tomenni glo, gan ddarparu dros £50m ers 2020. Cyn Datganiad yr Hydref, pwysais ar y Canghellor i gynorthwyo’r rhaglen waith hon drwy roi cyfraniad tuag at adfer tomenni glo. Gofynnais hefyd iddo ailgategoreiddio’r hyn sy'n weddill o brosiect rheilffordd HS2 fel prosiect ar gyfer Lloegr yn unig a darparu'r £270m o gyllid canlyniadol na welwyd gennym yng Nghymru hyd yma. Roedd Datganiad yr Hydref heddiw yn gyfle arall a gollwyd i'r Canghellor fuddsoddi yng Nghymru a darparu cyllid teg yn y meysydd hyn.
Nid yw'r argyfwng costau byw ar ben – mae disgwyl i brisiau ynni godi eto ym mis Ionawr, ac mae chwyddiant yn dal i fod ymhell uwchlaw targed Banc Lloegr o 2%. Rwy'n falch bod y Canghellor wedi gwrando o’r diwedd ar ein galwadau niferus i gynyddu Lwfans Tai Lleol, sydd wedi'i rewi ers 2020. Fodd bynnag, mae'n anffodus na fydd ei gyhoeddiad yn sicrhau bod y cynnydd hwn yn cyrraedd pocedi tenantiaid incwm isel tan fis Ebrill nesaf. Nid yw hyn yn fawr o gysur dros y gaeaf, felly. Mae hefyd yn destun pryder bod Llywodraeth y DU yn parhau i ganolbwyntio ar ddulliau sy’n cosbi, megis tynnu budd-daliadau yn ôl, i orfodi pobl anabl i swyddi a allai fod yn anaddas, yn hytrach na darparu cefnogaeth i'r rhai sydd ei hangen fwyaf.
Mae'r cyhoeddiadau a wnaed heddiw ar gyfer busnesau yng Nghymru yn rhai tocenistaidd sy’n tynnu sylw oddi wrth y materion ehangach, llawer mwy o ran eu maint, y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gyfrifol amdanynt. Mae wedi methu â darparu'r amodau ar gyfer twf economaidd ac mae wedi creu amgylchedd gwael ar gyfer buddsoddi, gan niweidio safonau byw a gwasanaethau cyhoeddus.
Er bod cyhoeddiad y Canghellor y bydd cyfraddau cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu torri yn rhoi rhywfaint o gymorth i bobl sy'n gweithio, nid yw’n gwneud iawn o gwbl am y cynnydd llechwraidd mewn treth incwm yn sgil rhewi trothwyon. Gallai rhywfaint o’r £17bn y flwyddyn o adnoddau y mae'r Canghellor wedi'u defnyddio i ariannu'r mesurau yn Natganiad yr Hydref fod wedi cael eu defnyddio i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus.
Nid yw’r Datganiad hwn yn cynnwys unrhyw gymorth wedi’i dargedu ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed, ac nid oes dim byd newydd nac ystyrlon i Gymru. Mae’n drychineb i wasanaethau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig, sy'n cael eu hamddifadu o gyllid angenrheidiol. Unwaith eto, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i ganolbwyntio ar bolisïau byrdymor, cynlluniau peilot ac ambell brosiect dethol, yn hytrach na chynlluniau tymor hwy, gan gronni problemau i lywodraeth yn y dyfodol eu datrys.
Byddwn yn ystyried manylion y datganiad heddiw yn ofalus wrth inni barhau â’r paratoadau ar gyfer cyhoeddi Cyllideb ddrafft 2024-25 fis nesaf. Nid yw'r dewisiadau y mae’r Canghellor wedi’u gwneud yn Natganiad yr Hydref eleni yn gwneud ein dewisiadau ni yn ddim haws. Mae ein sefyllfa gyllidol yn dal i fod yn un hynod o anodd, ac mae penderfyniadau dwys yn wynebu Gweinidogion Cymru. Ond, yn wahanol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi ein gwasanaethau cyhoeddus, ein pobl, ein busnesau a’n cymunedau yn gyntaf.