Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ystadegol ar batrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd, gan ddefnyddio data ar lefel genedlaethol o asesiadau personol.
Mae asesiadau personol ar-lein yn cael eu cyflawni gan bob dysgwr ym Mlwyddyn 2 i Flwyddyn 9. Mae’r asesiadau hynny’n rhoi gwybodaeth i ysgolion am sgiliau darllen a rhifedd disgyblion unigol, gan gynnwys eu cryfderau a'r camau nesaf posibl, sy'n caniatáu i athrawon gefnogi pob dysgwr.
Mae'r adroddiad yn dangos yn glir yr effaith negyddol y mae'r pandemig wedi'i chael ar gyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd, yn ogystal â'r effeithiau gwahaniaethol ar ddysgwyr mewn perthynas â'u hoedran. Ac mae hyn oll yn ychwanegu at y dystiolaeth ryngwladol bresennol.
Nid yw'r patrymau hyn yn unigryw i Gymru. Mae tystiolaeth ar draws y DU, ac ar draws y byd, yn dangos yr effaith negyddol y mae'r pandemig wedi'i chael ar addysg. A’r ardaloedd hynny â’r lefelau uwch o amddifadedd sydd wedi cael eu heffeithio waethaf.
Roedd y buddsoddiad o £500 miliwn a wnaed gennym dros gyfnod y pandemig wedi'i neilltuo'n benodol i gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig. Dangosodd gwerthusiad diweddar yr effaith gadarnhaol a gafodd y buddsoddiad hwnnw – ond rydym yn parhau i wynebu heriau.
Mae llythrennedd a rhifedd yn elfennau sylfaenol o'r dysgu. Nid oes dim byd pwysicach – ac mae'n rhaid i'r ddau faes gael eu hystyried yn flaenoriaeth genedlaethol. Oherwydd y dysgwyr hynny sy’n gallu manteisio orau ar gyfoeth y cyfleoedd y mae ein Cwricwlwm i Gymru yn eu darparu yw’r rheini sydd â sgiliau llythrennedd a rhifedd da.
Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd ein Pecyn Cymorth ar gyfer Darllen a Llafaredd. I helpu ysgolion i gefnogi disgyblion ymhellach byddaf yn diweddaru'r pecyn cymorth hwnnw, ac yn ei gyhoeddi yn ddiweddarach y tymor hwn. A hynny er mwyn sicrhau eglurder ar addysgu ffoneg yn systematig ac yn gyson. Dyma'r cam nesaf yn y gwaith sydd wedi bod ar waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf i godi safonau darllen.
Ochr yn ochr â hyn, mae hyrwyddo pwysigrwydd mathemateg a meddylfryd cadarnhaol ar draws ysgolion, teuluoedd a'r gymuned ehangach yn hanfodol. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, byddaf yn cyhoeddi cynllun Mathemateg a Rhifedd cyn diwedd y tymor. Bydd hwnnw'n helpu i godi safonau ac yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar bob ymarferydd i helpu dysgwyr i gymhwyso eu sgiliau mathemategol ar draws y Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn glir mai diben yr asesiadau personol yw helpu dysgwyr i wneud cynnydd, ac ni luniwyd yr asesiadau i'w defnyddio at ddibenion atebolrwydd, ar unrhyw lefel. Nid oes angen i ysgolion nac awdurdodau lleol wneud unrhyw newidiadau o ganlyniad i gyhoeddi'r adroddiad cenedlaethol hwn.
Mae'r adroddiad yn manteisio ar y data cyfoethog a gynhyrchir am ddysgwyr yn sgil cyflawni'r asesiadau, sy'n darparu gwybodaeth am newidiadau o ran cyrhaeddiad dros amser mewn sgiliau darllen a rhifedd ar lefel genedlaethol. Bydd cyhoeddi'r dadansoddiad o ddata dienw ar lefel Cymru yn caniatáu i'r wybodaeth hon gael ei defnyddio i lywio polisïau ac ymchwil yn y dyfodol.
O hyn allan, bydd dadansoddi a deall patrymau cyrhaeddiad ar lefel genedlaethol, gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, yn rhan annatod o werthuso a gwella ysgolion ar bob agwedd ar y system, yn unol ag egwyddorion ein Canllawiau Gwella Ysgolion.
Bydd y data hynny'n ategu gwybodaeth o'n rhaglen genedlaethol ehangach o asesiadau monitro, sy'n seiliedig ar samplau, a fydd yn cwmpasu ehangder y Cwricwlwm i Gymru.
Nid yw effeithiau'r pandemig wedi dod i ben. Mae gwaddol Covid ynghyd â chostau byw cynyddol wedi gosod ein hysgolion ar reng flaen argyfwng y tu hwnt i fyd addysg – heb unrhyw fai ar yr ysgolion eu hunain. Mae'r llywodraeth hon yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu ein hysgolion, a byddwn yn parhau i ddefnyddio pob dylanwad sydd gennym i'w cefnogi.