Clefyd heintus iawn ar foch sy'n cael ei achosi gan feirws yw clwy clasurol y moch. Mae'n glefyd hysbysadwy.
Amheuon a chadarnhad
Os oes gennych unrhyw amheuon y gall clwy clasurol y moch fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Arwyddion clinigol
Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:
- rhwymedd, ac yna dolur rhydd
- llygaid gludiog
- peswch
- blotiau ar y croen
- perchyll yn cael eu herthylu a'u geni cyn pryd, a thoreidiau gwan
- gwendid yn y coesau ôl
- arwyddion nerfus gan gynnwys trawiadau a chryndod mewn perchyll newydd-anedig
Trosglwyddo ac atal
Mae'r clefyd yn cael ei ledaenu trwy:
- symud moch heintiedig
- cerbydau, dillad, esgidiau ac offer heintiedig