Cofnodion Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: 23 Chwefror 2022
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Kathryn Bishop, Cadeirydd
- Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
- Mary Champion, Aelod Anweithredol
- Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
- Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
- Jim Scopes, Aelod Anweithredol
- Dyfed Alsop, Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu
- Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
- Melissa Quignon-Finch, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu
- Karen Athanatos, Aelod Staff Etholedig
Ymgynghorwyr
- Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Trysorlys Cymru
Agoriad
1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdaro buddiannau ac ymddiheuriadau
- Croesawodd y Cadeirydd bawb. Roedd Jim Scopes yn mynychu ei gyfarfod ACC.
-
Ni adroddwyd am unrhyw wrthdrawiadau buddiannau newydd.
2. Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Mewn perthynas â'r Cofnodion blaenorol, gwnaed cais bod diweddariad yn cael ei roi mewn cyfarfod yn y dyfodol ar Safonau'r Gymraeg a pharatoadau ACC o dan y ddeddfwriaeth. Byddai nodyn yn cael ei wneud yn rhagolwg y Bwrdd.
3. Materion yn codi
Ni chodwyd unrhyw faterion eraill a godwyd o'r Cofnodion blaenorol.
Trafodaeth
4. Prosiect Data Tir ac Eiddo
- Rhoddodd Richard Pope ac Anthony Pritchard gyflwyniad diweddariad ar y prosiect data. Roeddem ar wythnos 6 o 12 o'r cyfnod darganfod, ac yn gweithio ar y Dreth Trafodiadau Tir ar hyn o bryd, cyn ystyried yr Ardoll Twristiaeth nesaf.
- Roedd y Gweinidog yn ymwybodol o'r dull gweithredu ac roedd yn fodlon ag ef. Roedd y dull gweithredu, nad yw’n ddull traddodiadol ar gyfer y gwasanaeth sifil, yn cynnwys gweithio’n agored, gyda phroses benagored a fyddai'n esblygu, yn hytrach na’r dull mwy nodweddiadol sef bod pwyntiau cyfnod terfynol sefydlog yn cyfateb i amserlen ddeddfwriaethol, ar gyfer pwyntiau cyhoeddi a dathlu y gellir eu hadnabod. Cyfunwyd tri gwasanaeth mewn un: cofrestru, cymorth cyfrifo, talu.
- Wedi'i olygu.
- Wedi'i olygu.
- Trafodwyd natur y model cofrestru-cyfrifo-cymorth Roedd yn fodel defnyddiol ar gyfer esbonio segmentau a chyffyrdd y pecyn gwasanaeth, a oedd yn cysylltu swyddogion a chwsmeriaid. Byddai’r cynllun corfforaethol yn cyfeirio ato.
- Rhoddwyd sicrwydd bod trafodaethau’n parhau ynghylch canlyniadau posibl yr astudiaeth 12 wythnos, a'r camau nesaf posibl ar gyfer sicrhau ymrwymiad ac adnoddau parhaus.
5. Cynllun Corfforaethol
- Ymgynghorwyd â'r Gweinidog a'r staff, fel rhan o ddull ailadroddol. Roedd ymgysylltiad gweinidogol wedi bod yn angenrheidiol ar rai dewisiadau. Byddai'r drafft terfynol yn dod i'r Bwrdd, cyn mynd at y Gweinidog erbyn diwedd mis Mawrth, ac wedyn yn cael ei osod gerbron y Senedd. Byddai sylw dyledus yn cael ei roi i amserlenni. Nodwyd y byddai'r cyfranogwyr yn y cynllun corfforaethol 2022-25 yn ehangach o gymharu â’r cynllun corfforaethol blaenorol.
- Roedd y gwaith ymgysylltu â staff wedi bod yn gynhyrchiol, a byddai’r allbynnau'n ymddangos yn y cynllun corfforaethol, weithiau gair am air. Roedd y staff yn gwerthfawrogi’r cyfraniad gwerthfawr yma, ac roedd yn atgoffa pawb o bwysigrwydd cadw mynegiant dilys.
6. Llety
Adroddiadau
7. Y Cadeirydd
- Byddai Arolwg Effeithiolrwydd y Bwrdd yn cael ei gynnal erbyn diwedd mis Chwefror. Byddai aelodau'r bwrdd a mynychwyr rheolaidd yn cael eu gwahodd i roi mewnbwn. Byddai'r un cwestiynau ag o'r blaen yn cael eu gofyn, er mwyn gallu cymharu o flwyddyn i flwyddyn. Byddai'r Arolwg Effeithiolrwydd yn cael ei ddarparu fel tystiolaeth i gefnogi arfarniad personol y Cadeirydd, a byddai cydweithwyr yn cael eu gwahodd i roi mewnbwn. Byddai arfarniadau'r Bwrdd yn cael eu cynnal ym mis Ebrill ac ym mis Mai.
- Soniodd y Cadeirydd bod Dangos a Dweud y prosiect data wedi bod yn llwyddiannus, a'i bod yn ddiddorol nodi sut roedd y prosiect wedi caniatáu i gysylltiadau defnyddiol gael eu gwneud a'u cynnal.
8. Y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu
- Cyflwynodd y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu ei adroddiad mewn fformat arbrofol. Byddai adroddiadau Prif Swyddog Cyllid a’r Grŵp Arwain Darpariaeth Gwasanaethau (SDLG), yn dilyn hyn, yn rhan o'r adroddiad y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu. Derbyniwyd y cynllun hwn yn wresog.
- Wedi'i olygu.
- Wedi'i olygu.
- Nodwyd a chroesawyd cyflwyno patrymau adrodd chwarterol.
9. Diweddariad: Deddf yr Economi Ddigidol
Byddai ACC yn cael ei restru fel sefydliad a enwir pe bai ACC yn dymuno elwa, yn y pen draw, o ddarpariaethau'r Ddeddf. Roedd y Bwrdd yn fodlon â hyn.
10. Adroddiad y Grŵp Arwain Darpariaeth Gwasanaethau (SDLG)
- Esboniwyd mesurau a pherfformiad, gan dynnu sylw at allanolion, a rhoddwyd sicrwydd ar ymchwiliadau ac allanolion yn y prosesau ad-dalu.
- Roedd perfformiad dyled yn gryf, ac erbyn hyn dangosir perfformiad gyda gwell metrigau. Roedd perfformiad risg hefyd yn gryf, gyda gostyngiad nodedig mewn risg drwy ymgysylltu â chwsmeriaid. Er mwyn lleihau risg ymhellach, efallai y bydd angen gwneud newidiadau i'r system, er mwyn galluogi ymgysylltiad manylach â chwsmeriaid.
- Wedi'i olygu.
11. Adroddiad y Prif Swyddog Cyllid
- Canolbwyntiodd Adroddiad y Prif Swyddog Cyllid ar lywodraethiant Cyllid a Risg.
- Roedd cysyniad yr SDLG yn gweithio'n dda, gan ddarparu darlun mwy cyflawn o berfformiad nag a welwyd o'r blaen.
- Roedd y Gofrestr Risg Gorfforaethol bellach mewn fformat newydd, ac wedi cael derbyniad da. Treuliodd y Bwrdd lawer o amser yn trafod Risg, ond dan benawdau eraill. Mynegodd y Prif Swyddog Cyllid ddull ymwybodol risg fel un sy'n anelu at ‘ddilyn y Llyfr Oren o fewn y sefydliad’. Roedd tebygolrwydd wedi cynyddu ar gyfer yr holl risgiau.
- Wedi'i olygu.
- Wedi'i olygu.
- Roedd ARAC wedi cefnogi cysylltu'r datganiad archwaeth risg â datblygu polisi risg.
- Wrth gaffael, roedd ymgyrch recriwtio llwyddiannus wedi dod o hyd ymgeisydd rhagorol. Roedd ARAC yn cydnabod y gwaith da a wnaed yn y broses gaffael, a byddai'n parhau i gefnogi gwaith i wella perfformiad ACC dros amser.
- Roedd archwiliad yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar y trywydd iawn. Roedd yn bwysig gosod ein cyfrifon gerbron y Senedd cyn y toriad. Gall hyn effeithio ar amserlenni a gweithgareddau ARAC a'r Bwrdd. Byddai'r adrodd gwell ar ddyled, a'r prosesau y tu ôl iddo, yn gwella ein sefyllfa gyda'r Archwilydd a'n cwsmeriaid yn sylweddol, ac o ran llywodraethiant mewnol. Trafodwyd y tanwariant a'r posibilrwydd o’i ailddyrannu.
- Dywedodd y Prif Weithredwr, fel Swyddog Cyfrifyddu, ei bod yn ddefnyddiol cael sicrwydd gan SDLG, ARAC a’r Prif Swyddog Cyllid. Roedd cyd-destun pellach y RAS hefyd yn bwysig, roedd yn tarddu o ofynion y Gweinidogion ynglŷn â sut y dylai ACC weithredu, ac roedd yn gweddu'n dda i ddiwylliant sefydliadol ACC.
12. Cyflwyniad y Cadeirydd i sesiwn y prynhawn
Croesawodd y Cadeirydd y Bwrdd i sesiwn y prynhawn.
13. Adroddiad Trysorlys Cymru
14. Pwyllgorau’r Bwrdd - ARAC
Diweddglo
15. Rhagolwg
- Cytunwyd ar Atodlen Ddiwygiedig y Bwrdd 2022-23, a byddai dyddiadau’n cael eu dosbarthu.
- Byddai fformat Sgwrs y Bwrdd yn cael ei ddatblygu yn ystod y misoedd nesaf. Gall nodiadau o'r Sgyrsiau fod yn ddefnyddiol, a darparu papurau ymlaen llaw lle bo hynny'n briodol. Un o swyddogaethau’r Sgyrsiau Bwrdd oedd gwella perfformiad mewn Cyfarfodydd Bwrdd.
- Byddai blaenoriaethau’r Tîm Arwain yn arwain y gwaith o osod agenda ar gyfer Sgyrsiau’r Bwrdd. Gallai adran ‘Beth yw’r diweddaraf?’ fod yn ddefnyddiol mewn cyfarfodydd Bwrdd ffurfiol. Byddai'r Cadeirydd yn adolygu dyddiadur y Bwrdd er mwyn sicrhau bod busnes statudol yn cael ei gynnwys yn y cyfarfodydd nesaf.
16. Unrhyw fater arall
Nid oedd unrhyw fusnes arall.
17. Adolygiad o’r Cyfarfod
- Adolygodd Karen Athanatos y cyfarfod. Roedd yr agenda yn llawn iawn ond yn amserol ac yn bwysig. Roedd diweddariad y prosiect data wedi bod yn werthfawr gan ei fod yn faes sy'n symud yn gyflym, ac yn gysylltiedig â'r agenda nesaf. Defnyddiwyd y swyddogaeth sgwrsio yn dda. Roedd yr eitem ar y llety, er ei fod wedi gor-redeg, yn haeddu'r amser a dreuliwyd arno gan ei fod yn bwysig. Roedd y graffigau wedi helpu i gyfleu negeseuon, ac roeddent yn arbennig o ddefnyddiol yn yr eitem SDLG.
- I wella – roedd y cysylltiad rhyngrwyd yn amlwg wedi effeithio ar y cyfarfod ar y dechrau, a byddai cyfarfod personol yn ystod y misoedd nesaf yn dda pe bai hynny'n bosib.
18. Cyfarfod nesaf
Sgwrs y Bwrdd ar 23 Mawrth.
Gwybodaeth wedi’i golygu
Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.