Cofnodion Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: 15 Rhagfyr 2021
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Kathryn Bishop, Cadeirydd
- Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
- Mary Champion, Aelod Anweithredol
- Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
- Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
- Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
- Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
- Melissa Quignon-Finch, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu
- Karen Athanatos, Aelod Staff Etholedig
Ymgynghorwyr
- Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Trysorlys Cymru
Agoriad
1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdaro buddiannau ac ymddiheuriadau
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Hwn oedd cyfarfod ffurfiol cyntaf Karen fel Aelod Staff Etholedig. Croesawyd sylwedyddion, a oedd yn mynychu er mwyn ennill profiad defnyddiol. Roedd Anna Adams yn mynychu ar ran Andrew Jeffreys, Trysorlys Cymru.
- Eglurodd y Cadeirydd fod dwy eitem sylweddol i'w trafod yn y cyfarfod hwn, ond roedd penderfyniadau neu gasgliadau ar y naill fater neu'r llall yn annhebygol ar hyn o bryd. Serch hynny, roedd yn bwysig bod yr eitemau hyn yn cael eu trafod, a bod materion yn cael eu mynegi fel rhan o gynllunio ACC ar gyfer y dyfodol.
- Derbyniwyd log gwrthdaro buddiannau'r Bwrdd heb ychwanegiadau.
2. Cofnodion y cyfarfod diwethaf
- Wedi'i olygu.
- O ran Camau Gweithredu a Phenderfyniadau, nododd y Cadeirydd ei bod yn bwriadu llofnodi'r datganiad dim goddefgarwch cyn gynted â phosibl. Nodwyd bod camau gweithredu a gytunwyd yn flaenorol gan gynnwys ar y Cynllun Corfforaethol wedi’u nodi fel rhai sy’n dal i fod heb eu cyflawni.
3. Materion yn codi
- Cylchredwyd diweddariad fframwaith polisi treth Llywodraeth Cymru mewn ymateb i gais yn ystod y drafodaeth.
- Adroddodd y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu ar wqgyfarfod Llywodraeth Cymru ar yr ymateb i Covid, gan nodi'r angen i leihau cysllt wyneb yn wyneb cymaint â phosibl. Roedd ymdeimlad cryf hefyd o'r angen i fod yn hyblyg wrth gefnogi ymdrechion i reoli'r sefyllfa dros yr wythnosau nesaf a thu hwnt. Roedd yr her gyfathrebu yn cynnwys rhybuddio pobl am yr hyn oedd i'w ddisgwyl yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddai'n rhaid i'r cyfarfod hwn ystyried y cyd-destun hwnnw.
Adroddiadau
4. Adroddiad y Cadeirydd
- Eglurodd y Cadeirydd fod y cyfarfod hwn wedi'i fwriadu fel un ysgafn o ran papur, a diolchodd i'r aelodau am gytuno i ganslo'r cyfarfod ymlaen llaw ddydd Llun 13 Rhagfyr. Byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi eto, fesul cyfarfod, yn y dyfodol ynglŷn ag a oedd angen cyfarfodydd ymlaen llaw, a gwahoddwyd mewnbwn gan aelodau'r Bwrdd.
- Roedd y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu wedi cwrdd â'r Ysgrifennydd Parhaol ym mis Tachwedd. Byddai'r Cadeirydd yn copïo ei Hamcanion Personol i'r Bwrdd, a fyddai'n llywio'r arfarniad o'i pherfformiad.
- Cynigiodd y Cadeirydd ohirio Adolygiad Effeithiolrwydd y Bwrdd (BER) 2021-22, a oedd wedi’i drefnu’n flaenorol ar gyfer 26 Ionawr 2022, a threfnu dyddiad newydd mewn pryd ar gyfer arfarniadau unigol aelodau'r Bwrdd. Roedd amseru datblygiadau diweddar a pharhaus yn golygu y byddai gohirio trefniadau arfarnu yn caniatáu canolbwyntio ar flaenoriaethau uwch ar unwaith ac yn sicrhau arfarniad mwy ystyrlon maes o law. Roedd trefniadau llywodraethu newydd wedi'u cyflwyno, roedd aelodau newydd o'r Bwrdd wedi'u cyflwyno'n ddiweddar a byddai un arall yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd, roedd gweithio o bell wedi yn digwydd ers dros flwyddyn, ac roedd gan ACC flaenoriaethau brys ac uniongyrchol eraill ar hyn o bryd.
- Ar ôl trafod, cytunwyd y byddai'r BER yn cael ei ohirio tan ddiwedd y flwyddyn ariannol, i gyd-fynd â chwblhad disgwyliedig y Cynllun Corfforaethol. Byddai hyn yn gwneud y defnydd gorau o amser ym mis Ionawr i fis Mawrth, yn caniatáu persbectif sy'n canolbwyntio ar ofynion y Bwrdd ar gyfer y dyfodol, a byddai'r amser ychwanegol yn caniatáu i aelodau newydd o'r Bwrdd gyfrannu'n fwy sylweddol. Byddai'r arolwg ar-lein i gefnogi'r BER yn cael ei gynnal ddiwedd mis Ionawr i fis Chwefror, gyda thrafodaethau am y canlyniadau ym mis Mawrth, ac adolygiadau unigol yn dod i ben erbyn dechrau mis Mai.
- Roedd y drafodaeth yn cynnwys sylwadau ynghylch a ellid oedi'r holiadur ymhellach, a fyddai'n well cynnal arfarniadau wyneb yn wyneb lle bo hynny'n bosibl, ac a allai'r BER ganolbwyntio ar ba fath o Fwrdd rydym ei eisiau ar gyfer y dyfodol, yn ogystal ag edrych yn ôl.
- Byddai slot cyfarfod y Bwrdd ar 26 Ionawr yn cael ei gadw am y tro, gan y gallai fod yn fuddiol ar gyfer trafodaethau a gweithgareddau eraill ar gyfer aelodau newydd, a byddai trefniadau'n cael eu cynnig maes o law.
- Er ei fod yn dal yn obeithiol y gallai'r Bwrdd gyfarfod wyneb yn wyneg ryw adeg yn ystod y Gwanwyn, cydnabu'r Cadeirydd fod hynny bellach yn ymddangos yn llai tebygol.
- Byddai'r Cadeirydd yn anfon neges Nadolig i'r Staff, a fyddai'n diolch iddynt ac yn cydnabod eu hymdrechion.
5. Adroddiad y Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
-
Eglurodd y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu fod hwn yn gyfle da i fyfyrio ar 2021; byddai hyn hefyd yn digwydd gyda’r staff mewn digwyddiad ACC byw ar 16 Rhagfyr.
6. Adroddiad Trysorlys Cymru
7. Diweddariad ar y Perfformiad Dyled
- Cyflwynodd y Prif Swyddog Gweithrediadau (COO) yr eitem hon mewn ymateb i gais gan y Bwrdd mewn cyfarfod blaenorol. Roedd hwn yn adroddiad dros dro, byddai diweddariad llawnach yn cael ei ddarparu ym mis Chwefror fel rhan o'r adroddiad perfformiad chwarterol. Nododd y COO natur hylifol dyled a'r gwahanol fathau o ddyled a reolir, a oedd yn herio ac yn dylanwadu ar y ffordd y cai dyled ei hadrodd.
Trafodaeth
8. Swyddfeydd / Llety
- Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu am y nodyn trafod.
9. Cynllun Corfforaethol a Rhaglen Lywodraethu
- Roedd y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu wedi rhannu papur ymlaen llaw. Byddai data gronynnog yn ddefnyddiol nawr ac yn y dyfodol, naill ai trwy fynd i'r afael ag amrywiolion daearyddol TTT, neu drwy wneud rhywbeth mwy defnyddiol ar gyfer y dyfodol. Byddai setiau tebyg o randdeiliaid yn rhan o'r gwaith o fynd ar drywydd y ddau.
- Wedi'i olygu.
- Wedi'i olygu.
- Wedi'i olygu.
- Cynllun Corfforaethol. Adroddodd y Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu ganlyniadau'r sesiwn ymgysylltu â staff gyntaf (roedd yr ail sesiwn wedi’i ohirio oherwydd salwch). Byddai cydgynhyrchu'r Cynllun Corfforaethol yn cael ei adlewyrchu o ran y modd y byddai'n cael ei ysgrifennu a'i gyflwyno. Byddai'r Cynllun Corfforaethol yn cael ei gyflwyno er mwyn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd gwahanol sydd â gwahanol ofynion.
Diweddglo
10. Edrych ymlaen
- Ym mis Chwefror (ac - os yn berthnasol ym mis Ionawr) 2022, byddai'r Bwrdd yn clywed mwy am y gwaith ar ddata er mwyn rhoi sicrwydd ar drefniadau llywodraethu a’r effaith ar gapasiti.
- Safonau'r Gymraeg – roedd paratoadau ar waith ar gyfer enwi ACC yn y ddeddfwriaeth fel sefydliad sydd angen mabwysiadu Safonau’r Gymraeg yn ffurfiol. Roedd ACC eisoes wedi bod yn cysgodi gweddill LlC, felly byddai wedi paratoi'n dda.
11. Unrhyw fater arall
- Wedi'i olygu.
- Cadarnhaodd y Cadeirydd na fyddai Gweithdy Effeithiolrwydd y Bwrdd yn cael ei gynnal ar 26 Ionawr 2022. Dylid gwneud penderfyniad maes o law ynghylch a ddylid cynnal busnes arall y Bwrdd ar y diwrnod hwnnw neu ganslo'r slot.
Gwybodaeth wedi’i golygu
Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.