Mae undebau credyd yn fenthycwyr cymunedol dielw, yn darparu benthyciadau fforddiadwy, a chynilion.
Mae'r angen am gredyd fforddiadwy yn fwy dybryd nawr nag erioed. Mae'r argyfwng costau byw yn pwyso’r drwm ar incwm llawer o aelwydydd. Efallai y bydd teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn troi at gredyd drud i fantoli cyllideb eu haelwyd. Efallai y byddan nhw'n troi at roddwyr benthyciadau cost uchel neu roddwyr benthyciadau anghyfreithlon hyd yn oed. Mae pobl sydd â hanes credyd gwael a phobl nad ydyn nhw’n gallu fforddio defnyddio mathau cyffredin o gredyd yn wynebu risg o wneud hyn.
Cwmnïau nid-er-elw, ym mherchnogaeth yr aelodau yw undebau credyd, sy'n cynnig cyfrifon cynilo cymunedol a benthyciadau. Maen nhw'n foesol, ac maen nhw hefyd:
- yn rhoi cyfle i bobl sydd â hanes credyd gwael fanteisio ar gredyd teg a fforddiadwy
- yn helpu'r bobl hynny na allan nhw fanteisio ar fathau cyffredin o gredyd
- neu'r bobl hynny efallai nad ydyn nhw'n gwybod am ddarparwyr fforddiadwy
- yn darparu benthyciadau yn dechrau o £50
- yn cynnig ffordd fwy diogel o fenthyg arian am dymor byr
- yn ystyried fforddiadwyedd bob amser wrth asesu ceisiadau am fenthyciadau
- yn cynnig opsiwn amgen yn lle benthyciadau diwrnod cyflog, rhoddwyr benthyciadau llog uchel a rhoddwyr benthyciadau stepen drws anonest
- yn cynnig benthyciadau a chynilion wedi'u diogelu gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol.
Mynnwch help gan yr undeb credyd sy’n cefnogi eich ardal, os ydych yn byw yn:
- Ardaloedd Caerffili, Blaenau Gwent neu Bowys ewch i Banc Cymunedol Smart Money Cymru.
- Ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ewch i Undeb Credyd Celtic.
- Ar gyfer pob ardal arall yng Nghymru ewch i Undeb Credyd Cymru.