Haint yw salmonela sy'n effeithio ar anifeiliaid (gan gynnwys da byw) ac adar. Mae'n cael ei achosi gan facteria.
Mae salmonela yn gallu cael ei drosglwyddo i bobl:
- mewn bwyd wedi'i halogi
- trwy gysylltiad â chynnyrch a rhannau cyrff anifeiliaid sydd wedi'u heintio
- trwy gysylltiad â siediau a bwyd anifeiliaid sydd wedi'u heintio
Amheuon a chadarnhad
Os ydych yn meddwl bod eich haid neu'ch buches yn dioddef o salmonela, cysylltwch â'ch milfeddyg preifat.
Arwyddion clinigol
Gall yr arwyddion amrywio rhwng rhywogaethau, ond maen nhw'n cynnwys:
- dolur rhydd (gall fod â gwaed neu fwcws ynddo)
- blinder
- cyfogi a gwres
Mae llawer o anifeiliaid, er bod salmonela arnyn nhw, yn edrych yn iach.
Trosglwyddo, atal a thriniaeth
Mae salmonela'n bod yn naturiol ym mherfedd llawer o anifeiliaid gwahanol. Gall anifeiliaid gael eu heintio:
- gan eu hamgylchedd
- trwy fwyta bwyd wedi'i halogi
- gan eu mamau cyn iddyn nhw gael eu geni neu ddeor
Mae anifeiliaid â salmonela arnyn nhw yn gollwng y bacteria yn eu tail Gall hynny halogi:
- rhannau eraill y corff - ffwr, pluf neu gen
- cartre a chynefin yr anifeiliaid, gan gynnwys eu bwyd
I helpu i atal a rheoli salmonela:
- cadwch at fesurau bioddiogelwch da a
- rhaglenni rheoli cenedlaethol y llywodraeth sy'n ceisio gostwng lefelau'r haint mewn anifeiliaid sy'n fwyd i bobl, gan gynnwys ieir
Mae triniaeth yn gallu bod yn anodd ac ofer. Yn enwedig mewn heidiau dofednod pan fydd llawer o adar wedi'u heintio. Bydd angen ynysu dofednod sydd wedi'u heintio a'u difa. Mae modd rhoi gwrthfiotig i rai anifeiliaid. Dylech drafod hyn â'ch milfeddyg.