Heddiw, mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi cymorth ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a darparu cyllid teg i Gymru yn Natganiad yr Hydref.
Wrth i'r Canghellor roi'r wedd derfynol ar y Datganiad, a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher yma, fe wnaeth y Gweinidog hefyd annog Llywodraeth y DU i gydnabod yr angen am fuddsoddiad ychwanegol mewn diogelwch tomenni glo a seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Dywedodd:
Rydyn ni'n wynebu pwysau eithriadol ar ein cyllideb o ganlyniad i gyfnod hir o chwyddiant uchel, ynghyd â'r cyfuniad gwenwynig o fwy na degawd o gyni ac effeithiau parhaus Brexit.
Mae'r holl wasanaethau cyhoeddus yn wynebu penderfyniadau anodd tu hwnt ac mae'r GIG a'r awdurdodau lleol yn sôn am heriau eithafol ar draws eu cyllidebau, gan gynnwys pwysau sylweddol ar wasanaethau ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a digartrefedd.
Bydd effaith sylweddol ar ddyfodol uniongyrchol ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol os bydd Llywodraeth y DU yn methu â buddsoddi.
Mae'r Gweinidog wedi ysgrifennu at y Canghellor yn galw am fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth y DU ar gyfer diogelwch tomenni glo a seilwaith rheilffyrdd.
Ers 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £50 miliwn ar gael ar gyfer archwilio a chynnal a chadw tomenni glo. Mae hwn yn fater sy’n bodoli ers cyn dyddiau datganoli, ond nid yw wedi’i gydnabod yn y setliad cyllid.
Heddiw, fe wnaeth y Gweinidog annog Llywodraeth y DU i gyfrannu £20 miliwn at gefnogi'r gwaith o adfer safleoedd dethol.
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi lleoliadau tomenni glo categori C a D ar draws Cymru, dyma'r rhai sydd angen eu harchwilio'n fwy aml.
Tynnodd y Gweinidog sylw hefyd at y gwahaniaeth yn yr arian sy'n cael ei fuddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru, gan ddweud:
Nawr, gan mai dim ond rheilffordd rhwng Llundain a Birmingham yw HS2, mae dadleuon simsan Llywodraeth y DU dros ei alw'n brosiect 'Cymru a Lloegr' wedi chwalu'n llwyr.
Mae HS2 yn brosiect ar gyfer Lloegr yn unig a dylai Cymru gael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol, gan gynnwys y £270 miliwn rydyn ni wedi'i golli hyd yn hyn.
Rydyn ni hefyd yn galw am adolygiad ehangach o’r ffordd y mae prosiectau rheilffyrdd yn cael eu dosbarthu.
Yn yr un modd, rydyn ni am i Lywodraeth y DU ailgysylltu â gwaith y Bwrdd Rheilffyrdd ar y Cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflwyno rhaglen fuddsoddi dreigl sy'n darparu'r seilwaith rheilffyrdd sydd ei angen ar Gymru.