Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Mae cymryd camau tuag at ddatganoli cyfiawnder a phlismona yn un o'r ymrwymiadau yn Rhaglen Lywodraethu 2021-26 Llywodraeth Cymru. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r ymrwymiad hwn yn seiliedig ar argymhelliad unfrydol gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (Comisiwn Thomas), a gyflwynodd adroddiad yn 2019 yn sgil yr ymchwiliad mwyaf erioed i sut y mae'r system gyfiawnder yn gweithredu yng Nghymru. Hefyd, roedd datganoli plismona yn argymhelliad penodol gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk) a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU, ac a gyflwynodd adroddiad yn 2014.
Ein nod yn y pen draw yw datganoli cyfiawnder a phlismona yn eu cyfanrwydd. Fodd bynnag, credwn fod gweithredu fesul cam yn well. Plismona yw un o'r meysydd yr ydym wedi ei nodi'n gyson fel maes addas ar gyfer datganoli cynnar, yn ogystal â'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid - ac mae’r gwaith eisoes yn mynd rhagddo yn y ddau faes hyn i baratoi ar gyfer datganoli posibl, fel y nodwyd yn ein datganiad ar 27 Mehefin.
Wrth fwrw ymlaen â'r achos dros ddatganoli plismona, mae'n bwysig deall yr heriau cysylltiedig, yn ogystal â sut y gellid ymateb iddynt. Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn cynnwys deall yr effeithiau ar feysydd eraill yn y system gyfiawnder, ar weithio trawsffiniol, ac ar y capasiti ychwanegol y bydd ei angen yng Nghymru.
Nid yw datganoli yn nod ynddo'i hun; mae Llywodraeth Cymru o'i blaid am ei fod yn cynnig cyfleoedd i wella gwasanaethau cyhoeddus er budd pobl Cymru. Felly, mae hefyd yn bwysig deall yn llawn y manteision posibl, gan gynnwys sut y gallem ddarparu gwasanaethau mewn modd mwy integredig, pwrpasol ac effeithiol. Mae'r pedwar heddlu yng Nghymru eisoes wedi dewis cydweithio â’i gilydd ac â Llywodraeth Cymru a chyrff eraill, yn enwedig drwy Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru sy'n gweithio i wella'r gwasanaeth plismona i'r cyhoedd yn yr amgylchedd datganoledig.
Rydym felly wedi comisiynu tîm annibynnol i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddeall y manteision, y cyfleoedd, yr heriau a'r risgiau sy’n gysylltiedig â gweithredu model plismona datganoledig yng Nghymru. Bwriad yr adolygiad yw cynnig gweledigaeth hirdymor ar gyfer gwasanaeth plismona datganoledig yng Nghymru, gan gynnwys ei egwyddorion a'i werthoedd sylfaenol a'r canlyniadau cyffredinol y gellid disgwyl eu gweld i bobl a chymunedau. Hefyd, gofynnir i’r adolygiad adrodd ar yr ystyriaethau ymarferol sy’n gysylltiedig â rhoi trefniadau plismona datganoledig ar waith yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn cael ei arwain gan Carl Foulkes, cyn Brif Gwnstabl Gogledd Cymru, a fydd yn cydweithio â'r Fonesig Vera Baird yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd Arbenigol Annibynnol ar Ddatganoli Cyfiawnder i Lywodraeth Cymru.
Mae’r adolygiad yn cael ei gefnogi gan bob un o’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu etholedig yng Nghymru. Rydym hefyd yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd yr adolygiad, fel gyda Chomisiwn Thomas a Chomisiwn Silk, yn elwa ar gyfranogiad cryf gan bob un o’r prif gyrff sy’n ymwneud â phlismona yng Nghymru, gan gynnwys pob un o heddluoedd Cymru. Yn olaf, bydd yr adolygiad hefyd yn ymgysylltu â grwpiau a chymunedau sydd wedi delio â'r heddlu mewn sefyllfa bersonol yn hytrach na phroffesiynol – megis dioddefwyr troseddau, neu gymunedau ethnig lleiafrifol sydd â lefelau hanesyddol isel o ymddiriedaeth mewn plismona.