Mae'r Ddeddf yn rhan o'n gwaith i ddiwygio ardrethi annomestig (ardrethi busnes) a'r Dreth Gyngor.
Cynnwys
Crynodeb
Mewn perthynas â'r system ardrethi annomestig, bydd y Ddeddf yn:
- cynyddu pa mor aml y bydd gwerth pob eiddo yn cael ei ddiweddaru i bob 3 blynedd
- darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer newid rhyddhadau ac esemptiadau
- galluogi newidiadau wrth gyfrifo taliadau ar gyfer gwahanol gategorïau o dalwyr ardrethi
- cau ‘bylchau’ hysbys a gwella'r gallu i fynd i'r afael ag ymddygiad osgoi trethi yn y dyfodol
- ei gwneud yn bosibl i well gwybodaeth gael ei darparu gan dalwyr ardrethi
Mewn perthynas â system y Dreth Gyngor, bydd y Ddeddf yn:
- darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer trefnu a labelu bandiau
- darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer newid disgowntiau
- cyflwyno diweddariadau i werth pob eiddo bob 5 mlynedd