Canllawiau, Dogfennu
Diweddariad chwarterol (trosolwg): mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cyfnod darganfod
Trosolwg o gynnydd gyda mesurau arbennig a wnaed rhwng mis Mawrth a mis Mai 2023.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 95 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Fframwaith mesurau arbennig cytunedig
Wyth parth
- Llywodraethiant, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio.
- Y gweithlu a datblygu sefydliadol.
- Llywodraethiant a rheoli ariannol.
- Arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol.
- Llywodraethiant clinigol, profiad cleifion a diogelwch.
- Cyflawni gweithredol.
- Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau.
- Gwasanaethau sy'n agored i niwed yn glinigol.
Amodau ar gyfer cynaliadwyedd
- Gweledigaeth strategol glir.
- Taith newid diwylliannol.
- Bwrdd effeithiol.
- Arweinyddiaeth ac ymgysylltiad cryf.
- Arweinyddiaeth glinigol.
- Gwasanaethau clinigol cryfach.
- Perfformiad ac ansawdd integredig.
- Atebolrwydd.
- Ymatebol.
- Sefydliad sy’n dysgu a gwella.
- Rheoli rhaglenni’n gryf.
- Gwell mynediad, canlyniadau a phrofiad.
Ymchwilio i ddiwylliant, ansawdd, diogelwch a pherfformiad
- Canolbwyntio ar ddeall materion craidd ar draws y sefydliad.
- 6 adroddiad Rheoliad 28.
- 1 Atodlen 5.
- Erlyniad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi’i gadarnhau.
- Cwynion/disgyblu.
- Trosolwg perfformiad.
Gwaith ar y gweill
- Cymorth ar gyfer Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd ar waith.
- Adolygiad cyflym – Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd.
- Adolygu penodiadau interim.
- Cwmpasu materion diogelwch cleifion.
- Adolygu adolygiadau iechyd meddwl.
- Asesiad o'r effaith ar ddiogelwch cleifion mewnol iechyd meddwl.
- Cynaliadwyedd gwasanaethau orthopedig.
- Dileu amseroedd trosglwyddo o 4 awr.
- Asesiad sicrwydd fasgwlaidd.
Y gweithlu a datblygu sefydliadol
- Mae adolygiad y sefydliad wedi cychwyn.
- Mae rhaglen gwmpasu i asesu effeithiolrwydd a gweithrediad y model gweithredu newydd ar y gweill.
- Mae gweithdai gyda pwyllgor meddygol lleol a phartneriaethau lleol ar ochr staff yn cael eu trefnu.
- Mae adolygiad o bolisïau llesiant, ymgysylltu a'r gweithlu ar y gweill.
- Mae adolygiad o apwyntiadau interim wedi cychwyn.
Llywodraethiant clinigol, profiad cleifion a diogelwch
- Mae cwmpas adolygu llywodraethu clinigol yn cael ei gytuno.
- Mae asesiad interim mewn perthynas â phryderon ynghylch diogelwch cleifion ar y gweill.
- Adolygiadau cyflym Crwner ei Fawrhydi ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
- Strwythur rhaglenni dysgu ac adrodd ar waith.
Sefydlogi'r Bwrdd
- Mae chwech aelod annibynnol mewn swyddi.
- Mae pedwar pwyllgor wedi’u cynnal.
- Mae dau gyfarfod i’r Bwrdd a dau weithdy wedi’u cynnal.
- Mae pum cynghorydd annibynnol ar waith.
- Mae trafodaethau ar y gweill ynghylch tri archwiliad mewnol pellach.
- Cymorth ar gyfer gafael gweithredol sydd wedi'i wreiddio yn y bwrdd iechyd.
- Mae prif swyddog gweithredol dros dro ar waith ac mae’r broses recriwtio ar gyfer prif swyddog gweithredol newydd wedi cychwyn.
- Gwnaed newidiadau i Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd.
- Mae adolygiad cyflym o strwythur a chylch gwaith Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd ar y gweill.
Cyflawni gweithredol
- Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cymorth uniongyrchol.
- Canolbwyntio ar ddileu amseroedd trosglwyddo o 4 awr a darparu gwasanaethau orthopedig.
- Cynhelir gweithdai ar ganolfannau triniaeth rhanbarthol a gwasanaethau orthopedig.
- Uwchgynhadledd gofal brys a gofal mewn argyfwng.
Gwasanaethau clinigol
- Cynhaliwyd asesiad diogelwch cleifion mewnol iechyd meddwl ym mis Ebrill.
- Mae’r gwaith o adolygu adolygiadau iechyd meddwl blaenorol wedi cychwyn.
- Goruchwylir gwasanaethau fasgwlaidd ac asesiad sicrwydd.
- Adolygiad niwed ar gyfer y rhai sy'n aros am lawdriniaeth blastig (dermatoleg).
- Cynhaliwyd cynhadledd arweinyddiaeth glinigol uwch arweinwyr meddygol ym mis Ebrill.
Arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol
- Adolygiad rhagarweiniol o arweinyddiaeth ddiwylliannol dan arweiniad Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Llywodraethiant a rheoli ariannol
- Ymchwilio’n drylwyr ac yn fanwl i'r rhesymau dros y diffyg ariannol a ragwelir.
- Nodwyd opsiynau ar gyfer effeithlonrwydd.
- Dull sy’n seiliedig ar werth yn cael ei ddatblygu.
- Rheolaethau ariannol a llywodraethiant ariannol.
Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau
- Cynllun blynyddol drafft.
- Amlygwyd meysydd cyfle.
- Mae'r cynllun diwygiedig i'w gyflwyno ddiwedd mis Mehefin yn cael ei ddatblygu.
- Cynhelir gweithdy Bwrdd i ddeall yr heriau a'r opsiynau.
- Cynlluniau a dirprwyaethau ariannol yn cael eu datblygu.