Mae clwy'r traed a'r genau yn glefyd feirysol hysbysadwy. Mae'n effeithio ar wartheg, defaid, moch, geifr ac anifeiliaid eraill sydd â charnau hollt.
Yn 2007 y gwelwyd yr achosion diwethaf o glwy'r traed a'r genau ym Mhrydain. Cafodd yr achosion a welwyd yn y DU yn 2001 a 2007 effaith hynod andwyol ar y diwydiant ffermio.
Nid yw clwy'r traed a'r genau yn glefyd sy'n cael ei drosglwyddo i bobl ac nid yw'n risg iechyd cyhoeddus.
Amheuon bod gennych achosion o'r clefyd
Os ydych yn amau bod clwy'r traed a'r genau ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) leol ar unwaith ar 0300 303 8268.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r anifeiliaid yr ydych yn amau bod y clefyd arnyn nhw.
Arwyddion clinigol
Gall yr arwyddion clinigol amrywio gan ddibynnu ar rywogaeth yr anifeiliaid. Gall gymryd hyd at 14 diwrnod i'r clefyd fagu mewn anifeiliaid ond mae'r cyfnod hwnnw'n gallu bod yn fyrrach yn aml. Fel arfer, mae'r arwyddion clinigol mwyaf difrifol yn cael eu cofnodi mewn gwartheg.
Dyma'r arwyddion clinigol posibl:
- gwres uchel
- clecian gwefusau, crensian dannedd, glafoeri a chloffni sy'n cael eu hachosi gan friwiau a phothelli (fesiclau) yn y geg, ar y tafod a'r trwyn a/neu rhwng y carnau a chefn bonion y carnau
- cynhyrchu llai o laeth
- mae fesiglau i’w gweld ar y chwarennau llaeth hefyd weithiau
- colli'r awydd am fwyd
- anifeiliaid ifanc yn marw o myocarditis
Sut mae'n cael ei drosglwyddo
Gall anifeiliaid ddal y feirws drwy ddod i gysylltiad uniongyrchol â phoer, llaeth, wrin, carthion neu semen anifail heintiedig. Mae'n bosibl bod y feirws mewn aer sy'n cael ei anadlu allan, yn yr hylif sy'n dod o fesiglau sydd wedi'u rhwygo neu mewn hylifau a meinweoedd geni.
Gall y clefyd gael ei drosglwyddo'n anuniongyrchol hefyd drwy:
- gyfarpar
- cerbydau
- pobl
- dillad
- llaid/mwd
- deunydd gorwedd
- unrhyw eitem arall sydd wedi bod mewn cysylltiad ag anifeiliaid heintiedig
Mae'r feirws yn gallu ymledu drwy'r aer hefyd pan fydd amodau'r tywydd yn ffafriol. Gall rhai anifeiliaid wella o'r haint a chario'r feirws gan achosi achosion newydd o'r clefyd.
Rhagor o wybodaeth:
Clwy'r traed a'r genau - WOAH - Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd
Feirws clwy'r traed a'r genau | Feirws | Sefydliad Pirbright
Atal a rheoli clwy'r traed a'r genau
Gallwch helpu i atal feirws clwy'r traed a'r genau rhag lledaenu drwy:
- fod yn gyfrifol wrth brynu da byw ‒ holwch eich milfeddyg am y risgiau ac am statws iechyd yr anifeiliaid
- cadw llygad bob amser am arwyddion o glefydau a rhoi gwybod ar unwaith os ydych yn amau bod clefyd ar eich anifeiliaid
- hylendid a mesurau bioddiogelwch da ar eich safle, megis rhoi anifeiliaid newydd mewn cwarantin
Rhagor o wybodaeth am atal clefydau anifeiliaid ac am sut y bydd y llywodraeth yn rheoli achosion: