Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Rhoddodd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 rym cyfreithiol i gred hirsefydlog Llywodraeth Cymru bod rhaid i ddatblygu yng Nghymru fod yn gynaliadwy – yn dda i'r bobl sy'n byw yma nawr ac yn dda i'r bobl hynny fydd yn galw Cymru'n gartref yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn credu mewn gwneud penderfyniadau hirdymor a fydd yn helpu ein holl bobl i fyw bywydau gwell a hirach, heb danseilio gallu natur i gynnal ei hun a ninnau. Rydym hefyd wedi ymrwymo i wneud hyn wrth gyflawni ein cyfrifoldebau byd-eang a sicrhau bod ein treftadaeth ddiwylliannol yn parhau i ffynnu.
Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn nodi'r ffyrdd y gall llywodraethau ledled y byd weithio i wella bywydau eu dinasyddion a gofalu am systemau naturiol. Mae'r ddwy nod ar bymtheg yn cynrychioli diben byd-eang a rennir i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu dynoliaeth - gan gynnwys dileu tlodi a newyn, creu cydraddoldeb o ran rhywedd, darparu addysg o ansawdd, iechyd da, a llesiant.
Cymru yw'r unig wlad yn y byd sydd wedi deddfu ar gyfer y Nodau Datblygu Cynaliadwy drwy ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Ddeddf yn sefydlu nodau llesiant cenedlaethol ac egwyddor datblygu cynaliadwy, sy'n ein helpu i wneud penderfyniadau integredig, ataliol a hirdymor yn seiliedig ar gydweithio ar draws partneriaethau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector a chyfranogiad y bobl hynny y bydd y canlyniadau'n effeithio arnynt.
Mae ein gwybodaeth yn y maes hwn yn adnodd gwych y gallwn ei rannu â'r byd. Mae'r Ddeddf yn rhoi fframwaith inni wneud hynny. Drwyddi, gallwn hyrwyddo ein gwerthoedd ar y llwyfan rhyngwladol, gan gyflawni un o uchelgeisiau allweddol ein Strategaeth Ryngwladol, sef bod yn Gymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Er hynny, nid ydym yn hunanfodlon. Yng Nghymru ac ar draws y byd, mae cyflawni'r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn parhau i fod yn her, yn enwedig wrth i effeithiau argyfyngau rhyngwladol gael eu teimlo gartref ac o amgylch y byd.
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru, rydym yn cyhoeddi'r adroddiad Llesiant Cymru blynyddol, sy'n ein galluogi i edrych ar sut mae pobl a lleoedd yng Nghymru yn newid, ac i fyfyrio ar ein cynnydd tuag at gyrraedd cerrig milltir cenedlaethol. Cyhoeddwyd adroddiad 2023 ar 28 Medi. Gyda chwyddiant yn codi'n sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan arwain at ostyngiadau yn incwm gwirioneddol pobl, mae'r effaith ar gostau byw yn ymddangos yn rheolaidd drwy gydol yr adroddiad. Mae dadansoddiad yn awgrymu bod effaith yr argyfwng wedi cael ei theimlo’n fwyaf difrifol gan bobl ar incwm isel. Mae tystiolaeth hefyd eleni bod plant a phobl ifanc yn ei chael yn waeth o lawer nag oedolion mewn rhai ardaloedd ers y pandemig. Mae cynnydd yng nghostau ynni aelwydydd wedi bod yn nodwedd amlwg o’r blynyddoedd diwethaf ac mae hyn wedi arwain at gynnydd yng nghanran yr aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd.
Ar y cyfan, mae'r adroddiad yn dangos bod bywyd yn anodd i lawer o grwpiau ac unigolion a bod panedmig COVID-19 a'r argyfyngau costau byw wedi dwysáu rhai o'r heriau hyn. Er hynny, mae'r adroddiad hefyd yn dangos ein bod wedi gwneud cynnydd hirdymor mewn meysydd fel ansawdd aer, cyfranogiad rheolaidd mewn chwaraeon gan oedolion, cyfraddau cynhyrchu ac ailgylchu gwastraff, a gostyngiad yn ein hôl troed byd-eang cenedlaethol. Rwy'n falch ein bod wedi cyhoeddi adroddiad atodol eleni sydd, am y tro cyntaf, yn canolbwyntio'n benodol ar ethnigrwydd a llesiant. Nod yr adroddiad atodol yw dwyn ynghyd y dystiolaeth bresennol er mwyn archwilio cynnydd tuag at y nodau llesiant ar gyfer gwahanol grwpiau ethnig. Ochr yn ochr â mathau eraill o dystiolaeth, gellir defnyddio'r adroddiad atodol hwn i helpu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau i gyflawni ein nod llesiant o greu Cymru fwy cyfartal.
Wrth inni nodi ein cynnydd ein hunain tuag at ein cerrig milltir cenedlaethol ein hunain, mae'r Cenhedloedd Unedig yn parhau i fonitro a hybu cynnydd byd-eang tuag at y Nodau Datblygu Cynaliadwy. Ar 18-19 Medi, cyfarfu arweinwyr a chynrychiolwyr yn Efrog Newydd ar gyfer uwchgynhadledd y Nodau Datblygu Cynaliadwy, gan nodi'r pwynt hanner ffordd yn y cynllun cyflawni dros 15 mlynedd a gynlluniwyd i gyflawni'r nodau. Yma, clywodd cynrychiolwyr mai dim ond 15 y cant o'r nodau hyn sydd ar y trywydd iawn, ac ailymrwymodd arweinwyr i gyflymu'r cynnydd tuag at gyflawni'r nodau erbyn 2030. Rydym yn cefnogi gwaith allgymorth rhyngwladol Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, a gynrychiolodd Gymru yn Efrog Newydd mewn cyfres o ddigwyddiadau yn gysylltiedig â'r uwchgynhadledd, gan gynnwys cyflwyno astudiaethau achos o Gymru i Raglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig. Roeddem hefyd yn falch o weld ein partneriaid yn y grŵp Regions4 yn ymuno â'r uwchgynhadledd a digwyddiadau ehangach i roi mwy o lais i ranbarthau ledled y byd a chyflymu'r gwaith a wneir yn rhanbarthol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Yng Nghymru, rydym yn parhau i fod yn gadarn yn ein hymrwymiad i gyfrannu at Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy ac rydym yn croesawu'r alwad o'r newydd i gyflawni'r nodau. Rydym yn rhannu'r uchelgais i weddnewid y byd ar gyfer pobl, y blaned a ffyniant ac rydym yn teimlo'n falch o allu rhannu ein profiad yng Nghymru â chynulleidfa fyd-eang. Rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus o heriau sy'n ein hwynebu heddiw ac yfory ac rydym yn benderfynol o chwarae ein rhan wrth ymateb iddynt.