Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais fy mod yn sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidogol gorchwyl a gorffen a fydd yn ystyried y strwythurau llywodraethiant presennol yn GIG Cymru, yn darparu barn ynghylch a yw mesurau atebolrwydd yn glir ac yn briodol, ac yn rhoi cyngor ar unrhyw argymhellion sydd eu hangen i'w cryfhau.
Rwy'n falch bellach o allu cyhoeddi bod y bobl ganlynol wedi cael eu penodi i'r grŵp.
Cadeirydd
Ann Lloyd CBE
Mae Ann Lloyd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i gyrfa fel Prif Swyddog Gweithredol i sefydliadau mawr yn y gwasanaeth iechyd. Uchafbwynt ei gyrfa oedd cael ei phenodi'n Gyfarwyddwr Cyffredinol – Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Llywodraeth Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol GIG Cymru. Bu'n llenwi'r rôl honno am 8 mlynedd. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Comisiynydd Penodiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llundain am gyfnod o 2 flynedd, gan oruchwylio cymhwysedd Byrddau'r GIG a'u swyddogion anweithredol.
Mae Ann wedi bod yn gweithio fel cynghorydd a hyfforddwr annibynnol ers 2012, gan arbenigo mewn effeithiolrwydd Byrddau ac adolygiadau o lywodraethiant, archwiliadau sgiliau a datblygiad Byrddau ac ymchwiliadau arbennig. Ers 2017 mae Ann wedi gweithredu fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Aelodau’r grŵp
Victor Adebowale
Daeth yr Arglwydd Victor Adebowale yn Gadeirydd Cydffederasiwn y GIG ym mis Ebrill 2020. Cyn hynny, bu'n Brif Swyddog Gweithredol Turning Point, sef menter gymdeithasol sy'n darparu ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol i oddeutu 100,000 o bobl bob blwyddyn.
Mae Victor yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Anweithredol i'r Co-Operative Group, Cwmni Buddiannau Cymunedol Collaborate, Nuffield Health, Visionable a Leadership in Mind. Mae hefyd yn Gadeirydd Menter Gymdeithasol y DU. Bu Victor yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar fwrdd GIG Lloegr am gyfnod o 6 blynedd. Mae wedi cadeirio nifer o adroddiadau comisiwn yn y meysydd canlynol: plismona, cyflogaeth, iechyd meddwl, tai a thegwch ar gyfer Comisiwn Tegwch Llundain, a'r Heddlu Metropolitanaidd yn ogystal ag adroddiadau ar gyfer llywodraeth ganolog a lleol.
Nick Bennett
Ymunodd Nick â Savills ym mis Ebrill 2022 fel Cyfarwyddwr Economeg Cymru. Mae ganddo 30 mlynedd o brofiad ym maes polisi cyhoeddus, gan ganolbwyntio'n helaeth ar ddatblygu economaidd ac adfywio. Cyn hynny bu Nick yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac yn Brif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru. Mae gan Nick brofiad cynhwysfawr o'r dirwedd polisi cyhoeddus yng Nghymru, ond mae hefyd wedi cynrychioli ei rolau blaenorol ar lefel y DU, Ewrop a'r Byd. Bu'n Gadeirydd Cymdeithas yr Ombwdsmyn, yn aelod o Fwrdd Sefydliad Rhyngwladol yr Ombwdsmyn ar lefel Ewrop ac ar lefel Byd-eang, ac yn aelod o fwrdd Housing Europe.
Yr Athro Derek Feeley
Mae'r Athro Derek Feeley yn Uwch-gymrawd yn y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd, ar ôl gwasanaethu'n flaenorol fel Llywydd a Phrif Weithredwr y Sefydliad hwnnw. Mae hefyd yn gyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i GIG yr Alban ac yn gyn-Brif Weithredwr iddi.
Mark Hackett
Mae Mark wedi treulio ei yrfa fel swyddog gweithredol yn y GIG. Ymgymerodd â nifer o swyddi rheoli cyffredinol yn Llundain, Castell-nedd a Birmingham cyn dod yn Brif Weithredwr y GIG. Mae wedi gweithredu fel Prif Swyddog Gweithredol yn Birmingham, Wolverhampton, Southampton, Stoke-on-Trent a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn ddiweddarach, gan dreulio dros 25 mlynedd yn y rôl Prif Swyddog Gweithredol. Mae Mark yn Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe ac yn gymrawd ym Mhrifysgol Southampton.
Marcus Longley
Mae Marcus yn Athro Emeritws ym maes Polisi Iechyd ym Mhrifysgol De Cymru, ac yn Ddirprwy Gadeirydd yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bu'n Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg rhwng 2017 a 2021, ac am bedair blynedd cyn hynny bu'n Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgolion Rhydychen, Caerdydd a Bryste, ac fe'i hetholwyd yn Gymrawd Cyfadran Iechyd Cyhoeddus Colegau Brenhinol y Meddygon yn 2008.
Rhiannon Tudor Edwards
Mae Rhiannon Tudor Edwards BSc. Econ, M.A., D.Phil., Hon. MFPH yn Athro Economeg Iechyd. Mae'n Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Bangor ac mae'n arwain y Grŵp Ymchwil Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol yn y Ganolfan.
Cafodd ei henwi'n un o'r 5 awdur mwyaf cydweithiol, ac roedd Prifysgol Bangor ymhlith y 10 sefydliad mwyaf cydweithredol ym maes economeg iechyd.
Pam Wenger
Mae Pam yn weithiwr proffesiynol uchel ei pharch ym maes llywodraethiant, ac mae ganddi arbenigedd helaeth sy'n rhychwantu 30 mlynedd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Llywodraethiant ar gyfer y GIG yng Nghymru a Lloegr.
Ers 2021 mae Pam wedi bod yn gweithredu fel Ysgrifennydd Bwrdd Cygnet Health Care. Mae'r rôl hon wedi rhoi cyfle iddi ymchwilio i gyfleoedd llywodraethiant ehangach a defnyddio ei sgiliau sylweddol yn y sector annibynnol hefyd. Mae Pam yn Weithiwr Proffesiynol Siartredig ym maes Llywodraethiant.
Debra Williams
Mae Dr Debra Williams yn un o brif fenywod busnes Prydain ac mae ganddi hanes o lwyddiant a dawn reddfol ar gyfer sbarduno twf a nodi cyfleoedd busnes newydd. Roedd Debra yn Fenyw y Flwyddyn Cymru ar gyfer Arloesedd, cafodd ei henwi'n un o'r 200 o fenywod busnes gorau yn y DU gan y Frenhines, dyfarnwyd Gwobr Cyflawniad Oes iddi ac mae'n Ddoethur er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor.
Mae Debra yn aelod o Fwrdd y Sefydliad Alacrity, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Cymdeithas Adeiladu'r Principality a Co-op Insurance ac mae'n cadeirio'r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd.
Dr Olwen Williams OBE
Mae Olwen yn feddyg ymgynghorol sy'n siarad Cymraeg, sydd wedi gweithio ym maes Iechyd Rhywiol a meddygaeth HIV yng Ngogledd Cymru ers dros 30 mlynedd. Ar hyn o bryd mae ar secondiad i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) fel Cyfarwyddwr Cyswllt Arweinyddiaeth Glinigol. Mae'n gadeirydd etholedig Academi y Colegau Brenhinol yng Nghymru.
Mae cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp wedi'i atodi i'r datganiad hwn.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp ddechrau mis Hydref, a bydd yn rhannu ei argymhellion â mi erbyn 31 Mawrth 2024.