Rheoliadau ailgylchu yn y gweithle: asesiad effaith integredig - Asesiad o'r effaith ar y Gymraeg
Yn cynnwys adrannau 1 (camau gweithredu ystyriedig) ac 8 (casgliad) yn ogystal â'r asesiad hawliau plant ac asesiad iaith Gymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Cyfeirnod yr Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg (wedi’i gwblhau gan Dîm Safonau’r Gymraeg, e-bost: Safonau.Standards@gov.wales): 01/08/2023
2. A yw’r cynnig yn dangos cyswllt clir â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg? – Cymraeg 2050 Miliwn o Siaradwyr a’r Rhaglen Waith gysylltiedig ar gyfer 2017-2021
2.1 Mae’r rheoliadau’n cyflawni yn erbyn dau ymrwymiad trosfwaol yn y Rhaglen Lywodraethu:
- adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl; ac
- ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
2.2 Mae’r diwygiadau hefyd yn elfen graidd o’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gyflwyno cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) i roi cymhelliant i fusnesau leihau gwastraff. Y rheswm dros hyn yw eu bod yn hwyluso ac yn gwella’r broses o wahanu a chasglu deunyddiau o’r holl safleoedd annomestig, elfen allweddol o gyflawni system EPR gyflawn.
2.3 Mae’r Rhaglen Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr yn cyfrannu at nodau llesiant eraill hefyd, trwy sicrhau bod dwyieithrwydd yn rhan annatod o fywyd yng Nghymru. Gan hynny, bydd yr holl gyfathrebiadau ynglŷn â’r rheoliadau a’r broses o’u rhoi ar waith yn ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys yr ymgyrch ymwybyddiaeth cenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r rheoliadau a gwybodaeth ac offer i gynorthwyo safleoedd annomestig a’r sector gwastraff i gydymffurfio â’r Rheoliadau.
2.4 Gofynnodd yr ymgyngoriadau cyhoeddus diweddar a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Chwefror 2023 am adborth ar y Cod Ymarfer a’r gyfundrefn Orfodi arfaethedig ac fe’u cyhoeddwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg. Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr (79%) yn teimlo na fyddai unrhyw effaith gadarnhaol na negyddol ar y Gymraeg. Nododd dau ymatebydd bwysigrwydd y gofyniad i’r rheoliadau a chyfathrebu cysylltiedig fod yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan bwysleisio mor bwysig ydoedd bod y cyfieithiadau Cymraeg yn eglur iawn ar gyfer agweddau technegol ar y rheoliadau. Bydd y Cod Ymarfer yn mynd trwy wiriad cyfatebiaeth at ddibenion sicrhau ansawdd sy’n ymdrin â’r adborth hwn.
2.5 Mae’r diwygiadau hyn yn elfen graidd, alluogol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu dyfodol diwastraff ac yn cyfrannu at arbedion carbon sylweddol trwy gysoni ailgylchu annomestig â system ailgylchu domestig lwyddiannus Cymru. Ar ben hynny, bydd y diwygiadau hyn yn dwyn manteision pwysig o safbwynt amgylcheddol, economaidd ac iechyd i siaradwyr Cymraeg a Saesneg yng Nghymru. Nid oes unrhyw effeithiau rhagweladwy ar siaradwyr Cymraeg nac ar y Gymraeg. Bydd y rheoliadau, y Cod Ymarfer, gohebiaeth, canllawiau ac offer cymorth ar gyfer y sector a chyhoeddusrwydd yn cydymffurfio’n llawn â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
3. Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar y Gymraeg, ac eglurwch sut y byddwch yn ymdrin â’r effeithiau hyn er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer y Gymraeg.
Sut fydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oed (yn effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)? Dylech nodi eich ymatebion i’r canlynol yn eich ateb i’r cwestiwn hwn, ynghyd ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall:
3.1 Ni ragwelir unrhyw effeithiau andwyol ar y Gymraeg. O ran helpu i wella canlyniadau ar gyfer yr iaith, bydd yr holl gyfathrebu gan Lywodraeth Cymru, ei hasiantau a'r rheoleiddwyr mewn perthynas â’r rheoliadau a’u rhoi ar waith yn ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys yr ymgyrch ymwybyddiaeth cenedlaethol mewn perthynas â’r rheoliadau a gwybodaeth ac offer i gynorthwyo safleoedd annomestig a’r sector gwastraff i gydymffurfio.
3.2 Roedd adborth ymgynghori’n dynodi bod un ymatebydd yn pryderu y gallai’r rheoliadau leihau’r defnydd o’r Gymraeg trwy gynyddu’r galw am gasglwyr gwastraff preifat nad ydynt o bosibl yn gallu ymdrin ag ymholiadau yn Gymraeg, neu am eu bod yn ymdrin â chasglwyr/broceriaid sydd wedi’u lleoli’r tu allan i Gymru. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth i awgrymu y bydd y polisi hwn yn achosi newid sylweddol ym mhatrwm y galw am gasgliadau gwastraff gan wasanaethau preifat o’i gymharu â gwasanaethau Awdurdodau Lleol. Bydd gan feddianwyr safleoedd annomestig yr opsiwn i gontractio gyda’u Hawdurdod Lleol ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff. Mae gan ALlau ddyletswydd bresennol i gasglu unrhyw wastraff masnachol o safle yn ei ardal os yw’r meddiannwr yn gofyn iddo wneud hynny ac mae ganddynt ddyletswydd i gydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
4. Sut fydd y cynnig yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg [20] (yn effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)?
4.1 Ni fydd unrhyw effeithiau andwyol ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg – bydd ganddynt yr un lefel uchel o ddarpariaeth gwasanaethau ailgylchu ag unrhyw gymuned arall yng Nghymru.
4.2 Darparodd yr ymgyngoriadau diweddar fewnwelediad i’r effeithiau y byddai ein polisi’n eu cael ar y Gymraeg a sut yr oedd rhanddeiliaid yn teimlo ynglŷn â hynny. Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr i’r ymgyngoriadau (79%) yn teimlo na fyddai unrhyw effeithiau cadarnhaol na negyddol ar y Gymraeg. Hefyd, roedd dau ymatebydd yn teimlo y gallai fod effaith gadarnhaol o ran creu cyfle i siarad gyda chwsmeriaid yn Gymraeg.
4.3 Nododd llawer o ymatebwyr y gofyniad i’r rheoliadau a chyfathrebu cysylltiedig fod yn Gymraeg ac yn Saesneg, gydag un ymatebydd yn pwysleisio mor bwysig ydoedd bod y cyfieithiadau Cymraeg yn eglur iawn ar gyfer agweddau technegol ar y rheoliadau. Rydym yn sicrhau y bydd yr holl gyfathrebu mewn perthynas â’r rheoliadau a’u rhoi ar waith yn ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys yr ymgyrch ymwybyddiaeth cenedlaethol sy’n ymwneud â’r Rheoliadau a gwybodaeth ac offer i gynorthwyo safleoedd annomestig a’r sector gwastraff i gydymffurfi â’r rheoliadau.
[20] Gall y rhain fod yn gymunedau gwledig clòs, yn rhwydweithiau cymdeithasol gwasgaredig mewn lleoliadau trefol, ac mewn cymunedau rhithwir sy’n ymestyn ar draws mannau daearyddol.
5. Sut fydd y cynnig yn effeithio ar addysg cyfrwng Cymraeg a dysgwyr Cymraeg o bob oed, gan gynnwys oedolion (yn effeithiau cadarnhaol a/neu negyddol)?
5.1 Ni fydd unrhyw effaith andwyol ar addysg cyfrwng Cymraeg a dysgwyr Cymraeg o bob oed. Rydym wedi rhoi ystyriaeth gref i adborth o’r ymgyngoriadau diweddar, gyda llawer o ymatebwyr yn nodi’r gofyniad i’r rheoliadau a chyfathrebu cysylltiedig fod yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fe wnaeth un ymatebydd bwynt i bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod y cyfieithiadau Cymraeg yn eglur iawn ar gyfer agweddau technegol ar y rheoliadau. Gan gadw hyn mewn cof, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod yr holl gyfieithiadau’n eglur iawn ar gyfer agweddau technegol ar y rheoliadau o ystyried natur gymhleth y cynnwys yr oedd angen ei gyfieithu, gan ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dogfennau, cynnwys y wefan a chyhoeddiadau Gweinidogol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn cymryd y cam ychwanegol i gynnal gwiriad cyfatebiaeth o’r Cod Ymarfer at ddibenion sicrhau ansawdd. Bydd gwiriad cyfatebiaeth o’r Offerynnau Statudol yn cael ei gynnal hefyd gan ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu cymeradwy gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru. Bydd yr holl gyfathrebu a chanllawiau mewn perthynas â'r rheoliadau a'u rhoi ar waith yn ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys yr ymgyrch ymwybyddiaeth cenedlaethol mewn perthynas â’r rheoliadau a gwybodaeth ac offer megis canllawiau ar gyfer y sector ac astudiaethau achos i gynorthwyo safleoedd annomestig a’r sector gwastraff i gydymffurfio â’r rheoliadau.
6. Sut fydd y cynnig yn effeithio ar y gwasanaethau [21] sydd ar gael yn Gymraeg (yn effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)? (e.e. gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, cludiant, tai, digidol, ieuenctid, seilwaith, yr amgylchedd, llywodraeth leol ac ati)
6.1 Mae Strategaeth y Gymraeg yn amcanu at gynyddu ystod y gwasanaethau a gynigir i siaradwyr Cymraeg, a chreu cynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg. Rydym wedi rhoi ystyriaeth gref i adborth o ymgyngoriadau diweddar, ymgysylltiad â rhanddeiliaid a grwpiau ffocws. Bydd yr holl reoliadau, gohebiaeth a chyhoeddusrwydd yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 felly nid oes unrhyw effaith ar y Gymraeg.
6.2 Mae Awdurdodau Lleol yn bartneriaid allweddol, yn hanfodol i gyflawni’r rheoliadau, fel casglwyr gwastraff, fel rheoleiddwyr gwaharddiad ar anfon gwastraff bwyd i garthffos, fel meddianwyr safleoedd annomestig. Maent yn ymrwymedig i hyrwyddo’r Gymraeg ac mae’r holl gyfathrebiadau, cyfryngau cymdeithasol a marchnata’n cael eu cymhwyso’n ddwyieithog. Mae adran wastraff yr Awdurdod Lleol yn cyflogi nifer sylweddol o siaradwyr Cymraeg hefyd. [22] Roedd cwpl o ymatebwyr a ddarparodd adborth gan ddynodi pryder y gallai’r rheoliadau leihau’r defnydd o’r Gymraeg trwy gynyddu’r galw am gasglwyr gwastraff preifat nad ydynt o bosibl yn gallu ymdrin ag ymholiadau yn Gymraeg, neu am eu bod yn ymdrin â chasglwyr/broceriaid sydd wedi’u lleoli’r tu allan i Gymru. Nid oes tystiolaeth i awgrymu y bydd y polisi hwn yn achosi newid sylweddol ym mhatrwm y galw am gasgliadau gwastraff gan wasanaethau preifat o’i gymharu â gwasanaethau Awdurdodau Lleol. Bydd gan feddianwyr safleoedd annomestig yr opsiwn i gontractio gyda’u Hawdurdod Lleol ar gyfer eu gwasanaeth casglu gwastraff ac mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Mae gan ALlau ddyletswydd bresennol i gasglu unrhyw wastraff masnachol o safle yn ei ardal os yw’r meddiannwr yn gofyn iddo wneud hynny ac mae ganddynt ddyletswydd i gydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
6.3 Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr (68%) yn teimlo na fyddai unrhyw effeithiau andwyol ar y Gymraeg. Dywedodd dau ymatebydd hefyd eu bod yn teimlo y byddai’r rheoliadau’n achosi effaith gadarnhaol o ran cynhwysiant trwy greu cyfle i siarad gyda chwsmeriaid Cymraeg.
[21] Mae Strategaeth y Gymraeg yn amcanu at gynyddu ystod y gwasanaethau a gynigir i siaradwyr Cymraeg, a chreu cynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg.
[22] Llywodraeth Cymru, Casglu deunyddiau gwastraff ar wahân ar gyfer ailgylchu – cod ymarfer Cymru, 2023, .
7. Sut fyddwch chi’n sicrhau bod pobl yn gwybod am wasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg a’u bod yn gallu cael mynediad atynt a’u defnyddio mor rwydd ag y gallant yn Saesneg?
Pa dystiolaeth / data ydych chi wedi’u defnyddio i oleuo eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan siaradwyr Cymraeg neu grwpiau buddiant y Gymraeg?
7.1 Bydd yr holl reoliadau, gohebiaeth a chyhoeddusrwydd yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Hefyd, roedd ymgyngoriadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru ynghylch y Cod Ymarfer a’r gyfundrefn Orfodi arfaethedig rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Chwefror 2023 yn ddwyieithog i sicrhau ein bod yn ceisio barn gan randdeiliaid mor eang â phosibl.
7.2 Mae’r holl gyfathrebu ffurfiol gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r rheoliadau a’u rhoi ar waith yn ddwyieithog, ac os cysylltir â ni yn Gymraeg mae gennym fandad i hwyluso ymatebion yn Gymraeg. Mae’r ymgyrch cyfathrebu cenedlaethol mewn perthynas â dod â’r rheoliadau i rym a gwybodaeth ac offer i gynorthwyo safleoedd annomestig a’r sector gwastraff i gydymffurfio’n gwbl ddwyieithog. Cynhaliwyd grwpiau ffocws ac arolygon omnibws gyda busnesau bychain yn Gymraeg ac yn Saesneg i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu cynnwys. Mae’r holl ddeunyddiau cyfathrebu dilynol yn cael eu profi’n barhaus gyda siaradwyr Cymraeg ac mae eu hansawdd yn cael ei sicrhau ganddynt. Bydd canllawiau a seminarau gwybodaeth sector-benodol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg hefyd. Rydym hefyd yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg mewn perthynas â’r rheoliadau. Mae fersiynau o’r holl ddogfennau cysylltiedig mewn print bras, Braille, Iaith Arwyddion Prydain a fersiynau mewn ieithoedd eraill ar gael hefyd ar gais.
7.3 Fel partneriaid allweddol i roi’r rheoliadau ar waith, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Awdurdodau Lleol a WRAP Cymru yn anhepgor i ddarparu offer ac adnoddau dwyieithog. CNC fydd yn gyfrifol am reoleiddio’r gofynion ac eithrio’r gwaharddiad ar waredu gwastraff bwyd i garthffos. Awdurdodau Lleol fydd yn rheoleiddio’r gwaharddiad ar waredu gwastraff bwyd i garthffos o safleoedd annomestig. Bydd y ddau’n darparu canllawiau a gwybodaeth ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt, gan gynnwys offer ac adnoddau dwyieithog mewn perthynas â’r gyfundrefn orfodi a fydd yn cael ei chyflwyno i sicrhau bod pawb yr effeithir arnynt yn ymwybodol iawn o’r gofynion ac yn cydymffurfio. Yn yr un modd, mae Busnes Cymru’n rhanddeiliad allweddol sy’n rhoi cymorth i ddosbarthu gwybodaeth am y diwygiadau hyn ac sy’n rhoi cymorth i fusnesau trwy gyfrwng y Gymraeg os yw busnes yn gofyn am ymgynghorydd Cymraeg.
8. Pa dystiolaeth arall fyddai’n eich helpu i gynnal asesiad gwell?
8.1 Mae’r diwygiadau hyn yn cael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar siaradwyr Cymraeg, a byddant yn cael budd enfawr o’r llu o fanteision o safbwynt amgylcheddol, economaidd ac iechyd unwaith y daw’r diwygiadau i rym. O’r ymgysylltu hyd yma mae’n amlwg nad yw’n ymddangos bod angen am ymgysylltu ychwanegol wedi’i dargedu gyda siaradwyr Cymraeg.
8.2 Mae ymgyrch cyfathrebu cenedlaethol yn cael ei lansio a fydd yn codi ymwybyddiaeth o’r gofynion o ran yr hyn y mae’n rhaid i weithleoedd ei wneud i reoli eu gwastraff. Bydd hyn yn cynnwys hysbysebu ar draws ystod o sianeli (teledu, radio, oddi allan i’r cartref, digidol a chymdeithasol), marchnata uniongyrchol wedi’i dargedu, astudiaethau achos wedi’u datblygu o ystod o sectorau, gweminarau, pecynnau cymorth partneriaid a defnyddio sianeli presennol sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru a rhwydweithiau presennol rhanddeiliaid. Bydd yr ymgyrch cyfathrebu’n ddwyieithog ac mae’n cynnwys ymgysylltu wedi’i dargedu gyda siaradwyr Cymraeg. Bydd hefyd yn galluogi busnesau, gan gynnwys casglwyr gwastraff, i hysbysebu eu busnes a’u gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan felly gynyddu presenoldeb gweledol yr iaith a’r defnydd ohoni yn y gymuned fusnes.
9. Sut fyddwch chi’n gwybod a yw eich polisi’n llwyddiant?
9.1 Bydd yr holl safleoedd annomestig (gan gynnwys busnesau, a’r cyhoedd a’r trydydd sector) yn gwahanu deunyddiau ailgylchadwy allweddol yn y ffordd y mae’r mwyafrif o ddeiliaid tai Cymru eisoes yn ei wneud. Hefyd, bydd siaradwyr Cymraeg yn gallu ymgysylltu’n ddi-dor â’r rheoliadau unwaith y byddant wedi cael eu rhoi ar waith, gan ddefnyddio’r offer a’r adnoddau sydd ar gael iddynt, yn yr un ffordd ag y mae siaradwyr Saesneg yng Nghymru yn ei wneud.