Neidio i'r prif gynnwy

1. Amcanion polisi

Effaith pa benderfyniad ydych chi’n ei hasesu?

1.1.    Mae Llywodraeth Cymru’n cyflwyno rheoliadau newydd y mae disgwyl iddynt ddod i rym ar 6 Ebrill 2024 ac a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl safleoedd annomestig (gan gynnwys busnesau, a’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector) wahanu deunyddiau ailgylchadwy allweddol fel y mae’r mwyafrif o ddeiliaid tai Cymru eisoes yn ei wneud. Bydd hyn yn cynnwys yr holl ysgolion a cholegau, a safleoedd busnes eraill a safleoedd eraill yn y sector cyhoeddus y mae pobl ifanc yn ymweld â hwy.

1.2.    Bydd y rheoliadau:

  • yn ei gwneud yn ofynnol i feddianwyr safleoedd annomestig (gan gynnwys busnesau, elusennau a chyrff y sector cyhoeddus) gyflwyno deunyddiau ailgylchadwy penodedig i gael eu casglu ar wahân i’w gilydd ac ar wahân i wastraff gweddillol; 
  • yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n casglu’r deunyddiau eu casglu trwy gasgliad ar wahân a’u cadw ar wahân; 
  • yn gwahardd rhai deunyddiau ailgylchadwy penodol a gesglir ar wahân rhag cael eu llosgi a’u hanfon i safle tirlenwi; 
  • yn gwahardd yr holl wastraff pren o safleoedd tirlenwi;
  • yn dechrau gwaharddiad ar waredu gwastraff bwyd i garthffos o safleoedd annomestig. 

1.3.    Mae’r rheoliadau’n cyflawni yn erbyn dau ymrwymiad trosfwaol yn y Rhaglen Lywodraethu: 

  • adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl; ac 
  • ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn. 

1.4.    Mae’r diwygiadau’n elfen graidd o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiad i greu dyfodol diwastraff a chyfrannu at arbedion carbon sylweddol trwy gysoni ailgylchu annomestig â system ailgylchu domestig lwyddiannus Cymru. Bydd y diwygiadau hyn o fudd i bawb yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed a chenedlaethau’r dyfodol, trwy fynd i’r afael â lleihau gwastraff, creu arbedion carbon, a darparu’r deunyddiau sy’n angenrheidiol i hybu cynnydd tuag at economi gylchol.

1.5.    Er mwyn i Gymru fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, yn ogystal â gweithredu adferiad gwyrdd o’r pandemig, rhaid i ni fabwysiadu dull heb edifeirwch o fuddsoddi yn yr economi werdd ac mewn prawfesur o safbwynt yr hinsawdd yn awr. [11] Bydd cael a chadw mwy o fudd economaidd o’r deunyddiau a gesglir o safleoedd annomestig yng Nghymru’n gwella cydnerthedd cadwyni cyflenwi gan hefyd leihau ein dibyniaeth ar ddeunyddiau crai o dramor. Mae’r diwygiadau hyn felly’n gam gweithredu allweddol i fynd i’r afael ag effeithlonrwydd adnoddau a lleihau’r defnydd o ddeunyddiau crai, gan felly fynd i’r afael ag achosion sylfaenol yr argyfwng hinsawdd a natur.

[11]  Llywodraeth Cymru, Mwy Nag Ailgylchu: Asesiad Effaith Integredig, 2021 (llyw.cymru).

2. Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Pa ymchwil a data presennol ar blant a phobl ifanc sydd ar gael i oleuo eich polisi penodol? Gallai eich amcan polisi effeithio ar feysydd polisi eraill – bydd trafodaethau gyda thimau polisi eraill yn rhan bwysig o’r broses o asesu’r effaith gan sicrhau eich bod wedi casglu’r amrywiaeth o wybodaeth a thystiolaeth.

2.1.    Mae sylfeini’r ddeddfwriaeth ailgylchu mewn gweithleoedd yn ymestyn yn ôl i’r amser cyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru). Yn 2010, fe wnaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff [12] nodi’n ffurfiol gynllun hirdymor i leihau effaith gwastraff yng Nghymru trwy amcanu at ddileu gwastraff gweddillol ac ailgylchu unrhyw wastraff a gaiff ei gynhyrchu. Datganodd, “I gyflawni lefel uchel o ailgylchu, mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein holl ddeunyddiau eildro’n cael eu gwahanu yn y tarddiad fel eu bod yn lân a bod iddynt werth uchel”. Mae ystyriaeth i blant a phobl ifanc a llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn thema gref drwy’r strategaeth ac fe adolygir hynny yn Tuag at Ddyfodol Diwastraff: Adroddiad Cynnydd. [13]

2.2.    Fe gynhaliom ni adolygiad o lenyddiaeth bresennol, er enghraifft fe gyhoeddodd Pwyllgor Sbwriel a Gwastraff Plastig Senedd Ieuenctid Cymru adroddiad yn 2020, ‘Y Gorau o’n Gwastraff’, a ganfu fel a ganlyn:

  • mae 87% o ieuenctid Cymru’n meddwl bod ailgylchu, ailddefnyddio a lleihau gwastraff yn bwysig iddynt;
  • roedd cyfran fawr o’r rhai a arolygwyd yn teimlo’i bod hi’n bwysig lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu sbwriel a gwastraff plastig yn y cartref (87%),  tra’u bod allan gyda theulu neu ffrindiau (84%), ac yn yr ysgol (84%);
  • mae 85% yn hyderus eu bod yn gwybod beth maent yn gallu ei ailgylchu;
  • 67% o bobl ifanc sy’n gwybod am ffyrdd eraill o leihau sbwriel a gwastraff plastig heblaw am ailgylchu;
  • byddai 38% yn dewis eitemau gyda llai o becynnu;
  • 12% fyddai’n dewis gwneud cwyn neu siopa yn rhywle arall os nad yw cwmni/sefydliad yn delio â’i wastraff mewn ffordd gyfrifol.

2.3.    Fe welsant hefyd ymatebion ysgrifenedig i’w harolwg bod pobl ifanc am weld siopau a chynhyrchwyr yn gwneud mwy i ymateb i ailddefnyddio ac ailgylchu. Cyfeiriwyd at yr angen i leihau pecynnu, i siopau i gynnig gorsafoedd ail-lenwi a defnyddio pecynnu bioddiraddadwy

2.4.    Mae’r ymatebion hyn yn cyd-fynd yn gryf â barn rhanddeiliaid ehangach ynglŷn ag ailddefnyddio ac ailgylchu ac adborth sydd wedi arwain at y diwygiadau hyn.

Gan ddefnyddio’r ymchwil hon, sut ydych chi’n rhagweld y bydd eich polisi’n effeithio ar wahanol grwpiau [14] o blant a phobl ifanc, yn gadarnhaol ac yn negyddol? Cofiwch y gall polisïau sy’n canolbwyntio ar oedolion effeithio ar blant a phobl ifanc hefyd.

2.3    Mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn effeithio ar bawb, ond bydd yr effeithiau negyddol yn cael eu teimlo’n anghymesur gan ein plant a’n pobl ifanc a chenedlaethau’r dyfodol. [15] Mae newid hinsawdd wedi cael ei adnabod fel un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol; bydd rhoi’r ddeddfwriaeth ar waith yn cael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar ein hamgylchedd, ein hiechyd a’n llesiant, a’r economi yn y tymor byr a hir. YUn ei asesiad o’r Glasbrint Casgliadau, canfu Eunomia [16] fod casglu deunydd o ansawdd da trwy gasglu gwastraff ar wahân yn debygol o fod o gymorth i gadw deunydd yn economïau Cymru a’r DU – gan arwain at fanteision cymdeithasol ac economaidd yn unol ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

2.4    Mae’r rheoliadau’n gyfle i greu cydraddoldeb rhwng aelwydydd a safleoedd annomestig. Cyflwyno deunyddiau i’w hailgylchu mewn ffrydiau ailgylchu wedi’u gwahanu ac ar wahân i wastraff gweddillol yw arfer cyfredol y rhan fwyaf o aelwydydd yng Nghymru. Bydd y rheoliadau’n hybu mwy o gydraddoldeb a chysondeb gan ei gwneud yn ofynnol yn awr bod safleoedd annomestig yn gwahanu eu defnyddiau ailgylchadwy yn y ffordd y mae aelwydydd yn ei wneud. Bydd yn rhoi cyfleoedd cyfartal i bawb gyfranogi mewn ailgylchu. 

2.5    Mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dynodi hawl plant a phobl ifanc i leisio’u barn ynglŷn â phob mater sy’n effeithio arnynt hwy a bod y farn honno’n cael ei chymryd o ddifrif. Hefyd, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi saith Nod Llesiant a’r gofyniad i gynnwys pobl â buddiant mewn cyrraedd y nodau llesiant fel un o’i phum ffordd o weithio. Mae plant a phobl ifanc yn rhanddeiliaid yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan y diwygiadau hyn ac a fydd yn cael nifer o fanteision cadarnhaol.

2.6    Mae arnom eisiau harneisio awch a brwdfrydedd ein pobl ifanc, gan ddefnyddio’r ysgogiadau sydd ar gael i ni fel ein rhaglenni addysg amgylcheddol, i sicrhau ein bod yn cynnwys plant a phobl ifanc ac yn dylanwadu ar newid cadarnhaol mewn ymddygiad a syniadau creadigol ymhlith ein cenhedlaeth nesaf.

2.7    Byddwn yn darparu’r offer i alluogi cymunedau i weithredu. Mae hyn yn cynnwys offer cymorth i helpu i roi’r newidiadau ar waith, megis astudiaethau achos arfer gorau, canllawiau, arwyddion y gellir eu lawrlwytho, arwyddion ar gyfer biniau a phosteri, gweminarau ar-lein, ac adnoddau eraill. Trwy gefnogi camau gweithredu lleol, bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr ar y cyd. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru’n hybu ac yn cefnogi proses i gaffael cynwysyddion â chynnwys wedi’i ailgylchu ar gyfer y sector cyhoeddus. Un o flaenoriaethau allweddol y cytundeb hwn yw cynyddu cynnwys polythen wedi’i ailgylchu o fewn y cynhyrchion a gyflenwir. Bydd y dull hwn yn galluogi sefydliadau sy’n cyfranogi i wneud penderfyniad sy’n cyd-fynd â’u strategaeth amgylcheddol a masnachol. Byddwn yn ymgysylltu â’n hysgolion a’n cymunedau, gan weithio gyda dinasyddion i gefnogi mentrau lleol a chamau gweithredu sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon. 

Pa waith cyfranogol gyda phlant a phobl ifanc ydych chi wedi’i ddefnyddio i oleuo eich polisi? Os nad ydych wedi ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, eglurwch pam os gwelwch yn dda. [17

2.8    Mae ein gweithgarwch ymgysylltu hyd yma’n cynnwys mwy na degawd o ymgynghori ac ymgysylltu parhaus i bennu’r sefyllfa bolisi derfynol, a danategwyd gan waith casglu a dadansoddi data ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid ar ddatblygu polisi gwahanu yn y tarddiad ar sail barhaus ers 2009 o leiaf.

2.9    Ymgynghoriad Tuag at Ddyfodol Diwastraff 2009:

Roedd yr ymgynghoriad ynghylch y polisi hwn yn cynnwys y nod “I gyflawni lefel uchel o ailgylchu, mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein holl ddeunyddiau eildro’n cael eu gwahanu yn y tarddiad fel eu bod yn lân a bod iddynt werth uchel. Rydym yn amcanu at ddatblygu system gasglu effeithlon ac effeithiol i wahanu gwastraff masnachol a diwydiannol cymysg.”

  • Cynhaliwyd tri digwyddiad ymgynghori ledled Cymru – daeth rhanddeiliaid o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol neu’r trydydd sector.
  • Ymgynghoriad ar gyfer pobl ifanc.
  • Ymgynghoriad ar-lein ffurfiol a oedd yn agored i bawb.

2.10    2013-14 – Ymgynghoriad ynghylch Papur Gwyn Bil yr Amgylchedd: Fe ymgynghorwyd ynghylch y ddyletswydd gwahanu yn ymgynghoriad Papur Gwyn Bil yr Amgylchedd trwy:

  • bedwar digwyddiad ymgynghori rhanbarthol a gynhaliwyd ar gyfer y cyhoedd;
  • gweithdai i randdeiliaid;
  • ymgynghoriad ar-lein ffurfiol a oedd yn agored i bawb.

2.11    2019-2020 – Ymgynghoriad ynghylch Mwy Nag Ailgylchu, Strategaeth Economi Gylchol Cymru: 

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys dau amcan penodol a oedd yn gysylltiedig â’r diwygiadau hyn “Er mwyn annog busnesau a’r sector cyhoeddus i ailgylchu mwy o wastraff, bydd angen ailgylchu o safon ym mhob lleoliad annomestig, er mwyn i fusnesau wahanu eu gwastraff yn yr un modd ag y mae cartrefi eisoes yn ei wneud…” a “Byddwn yn deddfu i sicrhau bod deunyddiau ailgylchadwy allweddol wedi’u gwahanu’n cael eu gwahardd o safleoedd adfer ynni neu dirlenwi”. Cynhaliwyd y gweithgareddau ymgysylltu canlynol fel rhan o’r ymgynghoriad:

  • Cynhaliwyd oddeutu 40 o ddigwyddiadau wyneb-yn-wyneb, gan gynnwys sesiynau gwahoddiad agored a digwyddiadau rhanbarthol a oedd wedi’u teilwra i gynulleidfaoedd penodol a oedd yn cynnwys pobl ifanc, awdurdodau lleol, busnesau, y sector gwastraff, grwpiau amgylcheddol, cyrff rheoleiddio ac academyddion.
  • Cafodd llawer o’r digwyddiadau ymgynghori swyddogol eu cynnal mewn cymunedau ac ysgolion. Gofynnwyd i’r rhai a oedd yn bresennol nid dim ond beth oeddent yn ei feddwl am yr ymgynghoriad fel yr oedd wedi’i ddrafftio, ond beth oedd eu syniadau i Gymru gyflawni dyfodol diwastraff, statws carbon sero net ac economi fwy cylchol.
  • Ymgynghoriad ar-lein ffurfiol a oedd yn cynnwys ymgynghori ynghylch y nod: “Er mwyn annog busnesau a’r sector cyhoeddus i ailgylchu mwy o wastraff, bydd angen ailgylchu o safon ym mhob lleoliad annomestig, er mwyn i fusnesau wahanu eu gwastraff yn yr un modd ag y mae cartrefi eisoes yn ei wneud”.

2.12    Ymgynghoriad yn 2019 ynghylch Cynyddu Ailgylchu ymhlith Busnesau yng Nghymru: Fe wnaeth ymgynghoriad ffurfiol tuag at ddiwedd 2019 nodi cynigion i gyflwyno offerynnau statudol (OSau) i gynyddu ailgylchu o safleoedd annomestig megis busnesau a’r sector cyhoeddus yng Nghymru. [18] Cafwyd cyfanswm o 100 o ymatebion gan 96 o wahanol sefydliadau.
 
2.13    Ymgynghoriad yn 2022-23 ynghylch y Ddeddfwriaeth Ailgylchu mewn Gweithleoedd: Rhwng 2022 a 2023 fe ymgysylltodd Llywodraeth Cymru â rhanddeiliaid a’r cyhoedd ynghylch y ddeddfwriaeth yn y ffyrdd canlynol:

  • Ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ynghylch y Cod Ymarfer drafft a chynigion gorfodi 2022-23, gan gael 95 o ymatebion gan 79 o wahanol sefydliadau ynghylch y Cod Ymarfer a 39 o ymatebion gan 33 o sefydliadau ynghylch y gyfundrefn orfodi.
  • Cyfarfodydd anffurfiol gydag ystod o randdeiliaid dros dair blynedd.
  • Pum digwyddiad ymgynghori rhithwir gydag ystod o sectorau gan gynnwys y sector gwirfoddol a chymunedol, busnesau, llywodraeth leol a’r sector cyhoeddus ehangach.

2.14    Trwy gydol ein gweithgarwch ymgysylltu helaeth ynghylch y polisi hwn o wahanu yn y tarddiad, nid yw Llywodraeth Cymru wedi canfod unrhyw dystiolaeth o effeithiau negyddol penodol ar gyfer plant a phobl ifanc.

2.15    Trwy ddatblygu’r polisi hwn, tan y dyddiad y daw’r ddeddfwriaeth i rym, sef 6 Ebrill 2024, bydd Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yn parhau â digwyddiadau ymgysylltu i barhau i adnabod materion sy’n dod i’r amlwg ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd gan blant a phobl ifanc rôl flaenllaw o ran llywio’r economi gylchol. Byddwn yn parhau i gefnogi cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol trwy addysg, hyfforddiant a’n rhaglenni amgylcheddol. Mae hyn yn hollbwysig i dyfu ymwybyddiaeth o ailgylchu a datblygu dealltwriaeth am newid hinsawdd, allyriadau, defnydd o ynni a chynhyrchu gwastraff.

[12] Llywodraeth Cymru, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, 2010 (llyw.cymru).

[13] Llywodraeth Cymru, Tuag at Ddyfodol Diwastraff 2010–2050 Adroddiad Cynnydd, 2015 (Saesneg yn Unig), (llyw.cymru).

[14] Gallech ystyried, er enghraifft, sut y byddai eich polisi’n effeithio’n wahanol ar y grwpiau canlynol o blant a phobl ifanc: y blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd, oedolion ifainc; plant ag anghenion dysgu ychwanegol; plant anabl; plant sy’n byw mewn tlodi; plant o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol; Sipsiwn, Roma a Theithwyr; ymfudwyr; ceiswyr lloches; ffoaduriaid; siaradwyr Cymraeg; plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal; plant LHDTC+. Sylwer nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac na fydd un profiad homogenaidd o fewn y carfannau hyn. 

[15]  Effeithiau newid hinsawdd ar iechyd a llesiant”, 202.

[16] Adolygiad o Lasbrint Casgliadau Llywodraeth Cymru, Eunomia, 2016.  

[17] Mae Erthygl 12 o CCUHP yn amodi bod gan blant yr hawl i fynegi eu barn, yn enwedig pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, a hawl i’w barn gael ei hystyried.

[18]   Llywodraeth Cymru, Ymgynghoriad – crynodeb o’r ymatebion. Cynyddu Ailgylchu ymhlith Busnesau yng Nghymru, 2021.

3. Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Gan ddefnyddio’r dystiolaeth yr ydych wedi’i chasglu, pa effaith y mae eich polisi’n debygol o’i chael ar blant a phobl ifanc? Pa gamau fyddwch chi’n eu cymryd i liniaru a/neu leihau unrhyw effeithiau negyddol?

3.1    Mae gan blant a phobl ifanc rôl hollbwysig o ran cefnogi ymrwymiadau Cymru i greu dyfodol diwastraff a bod ag allyriadau carbon sero net erbyn 2050, yn ogystal â chefnogi ein cynnydd tuag at economi fwy cylchol. Mae’r diwygiadau hyn yn hollbwysig i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur sydd nid yn unig yn allweddol i gynyddu swm a gwella ansawdd y deunyddiau ailgylchu o safleoedd annomestig ond sydd hefyd yn elfen hanfodol o’r gwaith i gyflawni ymrwymiadau Cymru i greu dyfodol diwastraff a bod ag allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Byddant hefyd yn ein helpu i leihau llygredd amgylcheddol a’r effaith yr ydym yn ei chael y tu allan i Gymru trwy echdynnu deunyddiau crai ar gyfer y nwyddau a ddefnyddir gennym.

3.2    Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £1 biliwn mewn ailgylchu gan aelwydydd, sydd wedi trawsnewid Cymru o wlad a oedd yn ailgylchu llai na 5% o’i gwastraff trefol i wlad sy’n ailgylchu mwy na 65% yn 2021-22 ac sydd eisoes yn cyfrannu arbedion o oddeutu 400,000 o dunelli o allyriadau CO2 y flwyddyn. Bydd y diwygiadau hyn i wella ailgylchu gan ein busnesau, ein sector cyhoeddus a’n trydydd sector yn golygu ein bod yn cymryd y cam nesaf yn ein taith fel gwlad sy’n ailgylchu. Mae gweithredu parhaus yn y maes hwn yn allweddol i’n hymrwymiadau i ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn ac adeiladu economi gryfach, wyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at ddatgarboneiddio; gan greu Cymru werdd a llewyrchus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Sut y mae eich cynnig yn gwella neu’n herio hawliau plant, fel a amodir gan erthyglau CCUHP a’i Brotocolau Dewisol? Cyfeiriwch at yr erthyglau i weld pa rai sy’n berthnasol i’ch polisi chi eich hun.

Erthyglau neu Brotocol Dewisol CCUHP

Yn gwella (X)

Yn herio (X)

Eglurhad

Erthygl 12 Mae gan blant yr hawl i ddweud beth maen nhw’n meddwl ddylai ddigwydd, pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, a hawl i'w barn gael ei hystyried.

X

 

Mae plant a phobl ifanc yn rhanddeiliaid uniongyrchol yr effeithir arnynt gan y diwygiadau hyn. Fodd bynnag, byddant yn cael budd enfawr o’r llu o fanteision economaidd ac o safbwynt iechyd.

Bydd effaith uniongyrchol ar blant a phobl ifanc gan bod y diwygiadau hyn yn cwmpasu ysgolion a cholegau a lleoedd eraill y maent yn ymweld â hwy. Bydd disgwyl iddynt roi eu sbwriel yn y bin ailgylchu cywir.

Erthygl 13 Mae gan blant yr hawl i gael ac i rannu gwybodaeth cyn belled nad yw’r wybodaeth yn niweidiol iddynt hwy nac i eraill.

 

X

 

Byddwn yn darparu gwybodaeth ac offer i gynorthwyo’r holl safleoedd annomestig a’r sector gwastraff i gydymffurfio â’r rheoliadau, fel astudiaethau achos arfer gorau a chanllawiau ac arwyddion ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho. Hefyd, bydd y cynnwys ar llyw.cymru yn cael ei ddiweddaru, a bydd ymgyrch cenedlaethol a fydd yn canolbwyntio ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ymgysylltu â chyfryngau traddodiadol a gweithio gyda’n partneriaid.

Mae’r holl ddata cryno ar sut y caiff gwastraff ei reoli yng Nghymru’n cael ei gyhoeddi ar y rhyngrwyd, i bawb allu ei gyrchu. Mae data mwy manwl ar gael ar gais.

Erthygl 24 Mae gan blant yr hawl i ofal iechyd o ansawdd da ac i ddŵr glân, bwyd maethlon ac amgylchedd glân fel eu bod yn aros yn iach. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.

X

 

Mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn fater dybryd sy’n effeithio ar genedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Mae’r diwygiadau hyn yn hybu Erthygl 24 yn uniongyrchol a byddant yn helpu i leddfu pryderon sylweddol sy’n ymwneud ag amgylchedd glân. Bydd y rheoliadau hyn yn golygu bod ailgylchu gan fusnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn gyson â’r system lwyddiannus ar gyfer ailgylchu gan aelwydydd yng Nghymru sy’n cyfrannu arbedion o oddeutu 400,000 o dunelli o allyriadau CO2 y flwyddyn, gan sicrhau Cymru lanach, wyrddach ac iachach i blant a phobl ifanc.

 

3.3    Ystyriwch a yw unrhyw Hawliau ar gyfer Dinasyddion yr UE (y cyfeirir atynt yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb) yn ymwneud â phobl ifanc hyd at 18 oed.

3.4    Mae’r cynigion hyn yn cynnwys eithriadau i sicrhau nad yw ein polisi’n effeithio ar unrhyw erthyglau yn y Ddeddf Hawliau Dynol. Bydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi i roi cymorth i roi’r cynigion ar waith. Y bwriad yw darparu gwybodaeth a fydd yn sicrhau bod eglurder ar gyfer swyddogion gorfodi, cyflenwyr, manwerthwyr ac aelodau’r cyhoedd. Bydd yn cael ei chyhoeddi a bydd ar gael i'r holl ddinasyddion mewn ystod o fformatau i sicrhau ei bod yn hygyrch i bawb. I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

4. Cyfathrebu gyda Phlant a Phobl Ifanc

Os ydych wedi ceisio barn plant a phobl ifanc ynglŷn â’ch cynnig, sut fyddwch yn eu hysbysu ynghylch y canlyniad?

4.1    Mae’r ymgyngoriadau a arweiniodd at y diwygiadau hyn ac a’u goleuodd wedi cynnwys pobl ifanc yn weithredol. Fodd bynnag, nid yw barn pobl ifanc am fanylion manwl a thechnegol y diwygiadau i drefniadau ailgylchu mewn gweithleoedd wedi cael ei cheisio y tu allan i’r ymgynghoriad cyffredinol. Y rheswm dros hyn yw bod cynnwys y diwygiadau i drefniadau ailgylchu’n weithle-benodol ac yn dechnegol o ran eu natur. Er y bydd yr effeithiau’n dwyn budd cadarnhaol i blant a phobl ifanc, ac y bydd plant a phobl ifanc yn ymgysylltu â’r diwygiadau pan fyddant mewn gweithleoedd, nid dyna brif amcan y diwygiadau. Wedi dweud hynny, bydd y polisi hwn yn effeithio ar blant o ran y manteision, a bydd yn effeithio arnynt gan y bydd angen iddynt roi eu sbwriel yn y biniau cywir pan fyddant yn ymweld â gweithleoedd fel ysgolion, canolfannau hamdden, caffis ac ati yn yr un ffordd ag y byddant eisoes yn ei wneud gartref.

4.2    Eco-Sgolion a Maint Cymru yw’r prif lwyfannau sydd gan Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc ynghylch ymddygiadau cynaliadwy, newid hinsawdd a blaenoriaethau o ran adnoddau naturiol. Mae’r rhaglenni wedi datblygu cenhedlaeth sy’n ymwybodol o’r amgylchedd ac nad ydynt yn syml yn canolbwyntio ar leihau gwastraff ac ailgylchu ond sy’n canolbwyntio ar sut y gall ysgolion a chymunedau gyfrannu tuag at wella canlyniadau ehangach yn eu cymunedau gan leihau allyriadau ar yr un pryd. [19] Mae llawer o ysgolion eisoes yn ymgysylltu â’r gwaith hwn trwy weithredu i leihau eu gwastraff, creu partneriaethau lleol â busnesau a sefydliadau eraill i wella’u cymunedau lleol a dod o hyd i ddefnyddiau pellach ar gyfer y deunyddiau.

4.3    Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn briffio plant a phobl ifanc unwaith y bydd y ddeddfwriaeth wedi’i chyflwyno i’r Senedd ac yn rhoi gwybodaeth gyson iddynt am ddatblygiadau. Er mwyn gwneud hynny, byddwn yn darparu crynodeb hawdd i’w ddarllen o’r cod ymarfer, cyfathrebiadau, offer a chanllawiau. Bydd ymgyrch cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol cenedlaethol hefyd i godi ymwybyddiaeth o’r gofynion. Byddwn hefyd yn defnyddio’r eiconograffeg WRAP a gynhyrchwyd i helpu ymwelwyr â gweithleoedd i ddeall pa sbwriel sy’n mynd ym mha fin. Bydd hyn yn defnyddio delweddau a dyluniadau syml a lliwiau cyson i gynorthwyo pobl i ddeall ac i sicrhau cydymffurfiaeth. Hefyd, byddwn yn darparu gwybodaeth ac offer i gefnogi safleoedd annomestig (gan gynnwys ysgolion a cholegau) a’r sector gwastraff i gydymffurfio â’r rheoliadau, megis astudiaethau achos a chanllawiau arfer gorau ac arwyddion ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho. Y bwriad yw darparu gwybodaeth a fydd yn sicrhau bod eglurder ar gyfer swyddogion gorfodi, cyflenwyr, manwerthwyr ac aelodau’r cyhoedd.

 [19]   “Eco-Sgolion”, Cadwch Gymru’n Daclus.

5. Monitro ac Adolygu

Amlinellwch y mecanwaith monitro ac adolygu y byddwch yn ei roi ar waith i adolygu’r Asesiad hwn o’r Effaith ar Hawliau Plant.  

5.1    Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi cynllun monitro ar ôl gweithredu a fydd yn ceisio mesur llwyddiant prif amcanion ac amcanion eilaidd y diwygiadau. Bydd y cynllun yn golygu ei bod yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad o bryd i’w gilydd i ganfod a fydd manteision y polisi o fudd i genedlaethau’r dyfodol a phlant, i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gwireddu. 

Yn dilyn yr adolygiad hwn, a oes unrhyw ddiwygiadau’n ofynnol i’r polisi neu’r modd y caiff ei roi ar waith? 

5.2    Bydd canlyniadau’r broses o roi’r rheoliadau ar waith yn cael eu monitro gyda chyfuniad o ddulliau meintiol ac ansoddol, gan ddibynnu ar natur y canlyniad ac argaeledd ffynhonnell ddata briodol. Rhagwelir ar hyn o bryd y bydd system tracio Gwastraff, o 2025 ymlaen, yn cael ei defnyddio fel y brif ffynhonnell ddata i dracio lefelau ailgylchu ar gyfer gwastraff diwydiannol a masnachol yng Nghymru, gan y bydd yn darparu gwybodaeth a fydd yn ei gwneud yn bosibl mesur swm y gwastraff a anfonir i gael ei ailgylchu, i safle tirlenwi, neu i gael ei losgi, a ble y caiff ei waredu. 

5.3    Os bydd unrhyw fylchau yn y data neu oedi cyn dechrau defnyddio’r system Tracio Gwastraff, mae nifer o ffynonellau data ychwanegol yn bodoli a gellid eu defnyddio yn y cyfamser: Maent yn cynnwys WasteDataFlow, y Cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio, arolygon gwastraff ac ailgylchu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), data ‘ffurflenni safleoedd’ CNC.

5.4    Bydd y canlyniadau sy’n ymwneud â gwaredu llai o wastraff bwyd i garthffos yn cael eu monitro yn ystod yr arolygiadau a gynhelir gan Swyddogion Iechyd Amgylcheddol Awdurdodau Lleol, a fydd yn rhoi gwybod am y safleoedd sy’n gwaredu gwastraff bwyd i garthffos.

5.5    Yn ychwanegol at yr uchod, bydd Llywodraeth Cymru’n archwilio’r angen am arolygon a gomisiynir yn benodol i fonitro ymhellach faint o gydymffurfio sydd ac unrhyw rwystrau posibl i roi’r cynigion ar waith yn llwyddiannus neu ychwanegu cwestiynau sy’n ymwneud yn benodol â’r rheoliadau at yr arolygon busnes sydd eisoes yn yr arfaeth ar gyfer y dyfodol. Gallai hyn gynnwys ystyried pa mor dda y mae plant a phobl ifanc yn gallu deall y gofynion i ddidoli eu gwastraff yn y safleoedd annomestig y maent yn ymweld â hwy a chydymffurfio â’r gofynion hynny. Ar ben hynny, bydd data ansoddol a gesglir yn ystod arolygiadau gan CNC, ALlau ac ar lefel Cymru gyfan o safleoedd annomestig a thrinwyr gwastraff yn darparu gwybodaeth bellach am effeithiau’r rheoliadau ar fusnesau ac yn cael ei ddefnyddio i adnabod ffyrdd o godi rhwystrau posibl.

5.6    Mae’r uchod yn rhestr helaeth ond nid yw’n rhestr gynhwysfawr o’r manteision ehangach y bydd y rheoliadau’n helpu i’w cyflawni. Fodd bynnag, bydd y llwyddiant o ran cyflawni’r canlyniadau hyn yn dibynnu ar yr ystod o bolisïau sydd eisoes ar waith a/neu a fydd yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol. Bydd union faint a chwmpas camau i fesur manteision ehangach yn cael eu pennu yn seiliedig ar argaeledd adnoddau. Bydd yr angen i fonitro budd ehangach ar ôl rhoi’r ddeddfwriaeth ar waith yn cael ei gynnwys ym mhroses cynllunio busnes a phennu cyllideb Llywodraeth Cymru, y mae’n rhaid iddi daro cydbwysedd rhwng y blaenoriaethau a’r adnoddau sydd ar gael.