Dyfodol cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021 i 2026 - adroddiad blynyddol 2022 i 2023 - Yr atodiad
Adroddiad 2022 i 2023 ar gynnydd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb o’r Ddeddf
1. Pasiwyd Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (“Deddf 2019”) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (ar y pryd) ar 16 Gorffennaf 2019 ac fe gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi 2019. Mae Deddf 2019 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru, ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru wella hygyrchedd cyfraith Cymru:
- Mae Rhan 1 yn gosod dyletswyddau ar Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru yn ymwneud â hygyrchedd cyfraith Cymru.
- Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch dehongli a gweithredu Deddf 2019 ei hun a deddfwriaeth Cymru a ddeddfir ar ôl i Ran 2 ddod i rym.
- Mae Rhan 3 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ddisodli disgrifiadau o ddyddiadau yn neddfwriaeth Cymru ac i wneud is-ddeddfwriaeth mewn gwahanol ffurfiau, ac mae’n darparu ar gyfer cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i wahanol weithdrefnau yn y Senedd (fel y’i gelwir erbyn hyn).
- Mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall a darpariaeth ynghylch pryd a sut y bydd Deddf 2019 yn dod i rym.
2. Mae Deddf 2019 yn rhan o raglen ehangach Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ac egluro a symleiddio’r ffordd y mae deddfwriaeth Cymru’n gweithredu.
Ymrwymiad i ddiwygio Deddf 2019
3. Pan gyflwynwyd y Bil, a fyddai’n dod yn Ddeddf 2019, i’r Cynulliad Cenedlaethol, ymrwymodd y Llywodraeth y byddai’r deddfwriaeth yn cael ei hadolygu yn 2026 ar ddiwedd y tymor Cynulliad cyntaf lle y byddai rhaglen o dan Ran 1 o Ddeddf 2019 wedi ei chyflwyno. Yn ystod y gwaith craffu ar y Bil, ystyriwyd yr ymrwymiad hwn gan y Pwyllgor a oedd yn gyfrifol am y Bil, sef y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor hwnnw, argymhellwyd:
Argymhelliad 6
Ar yr amod bod y Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol, dylai’r Cwnsler Cyffredinol ymrwymo i adolygu’r ddeddfwriaeth hanner ffordd drwy dymor cyntaf y Cynulliad pan ddaw’r ddeddfwriaeth i rym, h.y. erbyn diwedd 2023.
4. Derbyniodd y Cwnsler Cyffredinol, yr Aelod a oedd yn gyfrifol am y Bil, yr argymhelliad hwn, ynghyd ag argymhelliad cysylltiedig y dylid cyflwyno adroddiadau blynyddol (yn hytrach na rhai cyfnodol) ynglŷn â hynt y gwaith o dan raglen a luniwyd o dan Ran 1 o’r Bil. Yn ystod y ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil a gynhaliwyd ar 2 Ebrill 2019, eglurodd y Cwnsler Cyffredinol y byddai’r Llywodraeth, fel rhan o’r broses adrodd flynyddol “yn adolygu effeithiolrwydd Rhan 1 y Bil hanner ffordd drwy dymor nesaf y Cynulliad.”
5. Cyflwynodd y Pwyllgor Cyllid hefyd adroddiad ar y Bil yn ystod ystyriaethau’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghyfnod 1. Ei argymhelliad oedd:
Argymhelliad 2
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod gweithgarwch adolygu perthnasol sy’n gysylltiedig â’r Bil yn ystyried y goblygiadau ariannol a’r goblygiadau o ran adnoddau yn sgîl cyflawni amcanion y Bil.
6. Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn hefyd.
7. Ar 18 Mehefin 2019, yn dilyn trafodion Cyfnod 2 ar y Bil, gosododd y Cwnsler Cyffredinol Femorandwm Esboniadol diwygiedig i’r Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Ysgrifennodd hefyd at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gan nodi:
…byddai’r adolygiad canol tymor yn gwneud dau beth yn bennaf. Yn gyntaf, byddai’n adrodd ar gynnydd o ran gweithredu’r rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ac i ystyried a ddylid newid ei chynnwys arfaethedig. Yn ail (ac yn fwy cyffredinol), byddai’n darparu craffu ôl-ddeddfwriaethol ar y Bil ei hun, gan gynnwys Rhannau 2 a 3.
8. Yn ystod trafodion Cyfnod 2 gerbron y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gwahoddwyd y Cwnsler Cyffredinol i ysgrifennu i’r Pwyllgor yn nodi barn y Llywodraeth ynghylch sut y gallai Aelodau’r Cynulliad ddylanwadu ar gynnwys yr adolygiad canol tymor. Roedd llythyr y Cwnsler Cyffredinol ar 18 Mehefin 2019 yn cynnig:
...gwasanaeth fy swyddogion i’r Pwyllgor … er mwyn deall beth fyddai’r Pwyllgor yn ystyried sy’n bwysig, ac i werthfawrogi’n well sut, ym marn yr Aelodau presennol, y gallai Cynulliad y dyfodol gymryd rhan yn y broses o gynnal yr adolygiad canol blwyddyn. Hyderaf y gallai’r sgyrsiau hyn helpu i siapio’r farn y gallai’r Pwyllgor hwn ddymuno ei throsglwyddo i’w olynydd wrth i gyfnod y Cynulliad hwn ddirwyn i ben.
9. Ni roddodd y Pwyllgor unrhyw farn ar y mater hwn wedyn i swyddogion y Llywodraeth, nac ychwaith mewn unrhyw adroddiad a gyhoeddwyd ar gyfer y Pwyllgor a’i holynodd. Fodd bynnag, yn y Senedd bresennol cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad adroddiad ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, ac argymhellodd:
Argymhelliad 4
Dylai’r Cwnsler Cyffredinol, erbyn diwedd mis Mawrth, ddarparu dadansoddiad ynghylch pa un a yw’r costau staffio ychwanegol a ragwelwyd i Lywodraeth Cymru sydd wedi’u nodi yn y Memorandwm Esboniadol i’r Bil Deddfwriaeth (Cymru) yn gywir.
10. Yn ei ymateb, eglurodd y Cwnsler Cyffredinol:
Yn y gorffennol mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i nodi manylion goblygiadau adnoddau ac ariannol cyflawni’r rhaglen gyntaf sy’n anelu at wella hygyrchedd cyfraith Cymru, a chostau eraill sy’n deillio o weithredu [Deddf 2019]. Rhoddwyd yr ymrwymiad hwn mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan Bumed Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Senedd a’r Pwyllgor Cyllid, yn dilyn eu gwaith craffu Cyfnod 1 ar Fil Deddfwriaeth (Cymru). Cytunodd y Llywodraeth i gynnwys y manylion hyn yn yr adroddiad blynyddol o dan adran 2(7) o Ddeddf 2019 a fyddai’n cael ei wneud yn 2023. Byddaf, felly, yn darparu’r wybodaeth hon yn yr adroddiad a ddisgwylir yn ddiweddarach eleni.
11. Felly, mae’r adroddiad hwn yn adolygu Rhannau 1 i 3 o Ddeddf 2019 ac yn ystyried goblygiadau’r Ddeddf o ran adnoddau.
Gweithredu Deddf 2019
Cychwyn
12. Cafodd Deddf 2019 y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi 2019. Roedd adran 43 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y byddai’r Ddeddf yn dod i rym:
- Daeth Rhan 1 o’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, sef 11 Medi 2019. Fodd bynnag, ni chafodd adran 2 effaith uniongyrchol yn ymarferol, oherwydd mai’r tro cyntaf i’r ddyletswydd i lunio rhaglen godi oedd yn ystod tymor y Senedd a ddechreuodd ar ôl i’r adran ddod i rym (hynny yw, y Chweched Senedd a ddechreuodd ar ôl yr etholiad cyffredinol a gynhaliwyd ar 6 Mai 2021).
- Daeth darpariaethau Rhan 2 Deddf 2019 sy’n gymwys i ddehongli a gweithredu Deddf 2019 ei hun i rym ar 11 Medi 2019. Daeth y pŵer yn adran 5(2) a (3) i ddiwygio Atodlen 1 i rym y diwrnod ar ôl y Cydsyniad Brenhinol, rhag ofn bod angen diwygio’r Atodlen cyn iddi ddod i rym yn llawn. Nid oedd angen hyn yn y pen draw, er y gwnaed diwygiadau i Atodlen 1 ar ôl iddi ddod i rym yn llawn – gweler paragraff 20(f) isod.
- Gwnaed gorchymyn gan Weinidogion Cymru i ddod â Rhan 2 i rym mewn perthynas â Deddfau eraill gan y Cynulliad ac mewn perthynas ag is-offerynnau Cymreig. Disgwyliad y Llywodraeth yn ystod y gwaith o ddatblygu’r Bil oedd y byddai’r gorchymyn yn dod â Rhan 2 i rym yn llawn ar ddechrau blwyddyn galendr, fel y byddai modd gwybod oddi wrth y flwyddyn sydd wedi ei chynnwys yn nheitl Deddf neu offeryn ai Rhan 2 ynteu Deddf Dehongli 1978 sy’n gymwys. Cyflawnwyd y disgwyliad hwn, a daeth Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019 â gweddill agweddau Rhan 2 i rym ar 1 Ionawr 2020.
- Daeth Rhannau 3 a 4 i rym hefyd drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Roedd hyn yn golygu y gellid dibynnu ar ddarpariaethau yn Rhan 3 mewn offerynnau statudol a wneid gan Weinidogion Cymru o’r dyddiad hwnnw ymlaen (neu a osodid ganddynt gerbron y Senedd ar ffurf drafft ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn achos offerynnau sy’n ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol ddrafft).
Pwerau Gweinidogion Cymru
13. Rhoddodd Deddf 2019 nifer cyfyngedig o bwerau i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth, y mae rhai ohonynt wedi eu harfer (gweler isod).
Pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth a’r defnydd ohonynt
Adran 6(2)
Caiff Gweinidogion Cymru ychwanegu, dileu neu ddiwygio diffiniadau yn Atodlen 1 i’r Bil, yn ôl yr angen.
Defnydd - Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020.
Adran 38(1)
Mae’r pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio deddfwriaeth sy’n disgrifio dyddiad neu amser fel ei bod yn nodi’r dyddiad neu’r amser gwirioneddol.
Defnydd - Fe’i defnyddiwyd gyntaf yng Ngorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019 (ond gweler hefyd baragraff 20(b)).
Adran 42(1)
Mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach o ganlyniad i’r Ddeddf, neu i roi effaith lawn iddi.
Defnydd - Heb ei ddefnyddio eto.
Adran 44(2)
Pŵer i ddod â’r darpariaethau dehongli statudol, i’r graddau y maent yn gymwys i is-offerynnau Cymreig ac i Ddeddfau’r Cynulliad ac eithrio Deddf 2019 ei hun, i rym ar ddyddiad penodol.
Defnydd - Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019.
14. Roedd Deddf 2019 hefyd yn cynnwys dwy ddarpariaeth ynghylch arfer pwerau mewn deddfwriaeth arall:
- mae adran 39 yn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer pwerau i wneud rheoliadau, rheolau neu orchmynion drwy wneud unrhyw un arall o’r ffurfiau hynny ar is-ddeddfwriaeth.
- mae adran 40 yn ymwneud â chyfuno, mewn un offeryn statudol, isddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru a fyddai’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y Cynulliad, ac yn sicrhau bod yr offeryn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn fwyaf llym ohonynt.
Mae manylion am y defnydd dilynol o’r darpariaethau galluogi hyn wedi eu nodi o baragraff 38 ymlaen isod.
Canllawiau ar gyfer gweithredu
15. Ym mharagraff 205 o’r Memorandwm Esboniadol i’r Bil, nododd y Llywodraeth rai camau y gellid eu cymryd i helpu i weithredu’r hyn a fyddai’n dod yn Ddeddf 2019:
- Llunio a darparu canllawiau – nododd y Llywodraeth y byddai’n datblygu ac yn cyhoeddi canllawiau anstatudol i’r rhai sy’n drafftio is-ddeddfwriaeth. Llywodraeth Cymru fyddai’n ysgwyddo’r gost. Y bwriad oedd llunio’r canllawiau erbyn y byddai’r darpariaethau dehongli yn dod i rym. Câi’r costau paratoi eu cynnwys yn rhan o’r gwaith arferol, ond amcangyfrifwyd mai’r gost fyddai £5,000 (cost untro yn codi yn 2019/2020). Byddai’r canllawiau’n cael eu cyhoeddi ar-lein yn unig.
- Gwybodaeth am y newidiadau arfaethedig – nodwyd dau gam gweithredu posibl:
- Hysbysu – rhagwelid y byddai angen i ddrafftwyr Llywodraeth Cymru, awdurdodau Cymreig datganoledig eraill sy’n gwneud is-ddeddfwriaeth, gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, y farnwriaeth ac ysgolion cyfraith yng Nghymru gael gwybod am y newidiadau mewn perthynas â dehongli statudol. Y bwriad gwreiddiol oedd rhoi gwybod i sefydliadau a chyrff perthnasol am y Ddeddf newydd, gan ddefnyddio gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales o bosibl, a darparu gwybodaeth am y canllawiau i’r drafftwyr is-ddeddfwriaeth a grybwyllir uchod.
- Hyfforddiant – gallai cyrff fel Cymdeithas y Gyfraith neu Gyngor y Bar ddewis darparu hyfforddiant neu wybodaeth arall am y ddeddfwriaeth newydd i’w haelodau. Rhagwelid hefyd y byddai sesiynau gwybodaeth yn cael eu darparu’n fewnol yn Llywodraeth Cymru.
16. Ar 27 Mai 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019: Canllawiau ar baratoi deddfwriaeth Cymru’. Cyhoeddwyd y rhain yn hwyrach na’r disgwyl (a hynny’n rhannol er mwyn ystyried newidiadau a ddaeth yn sgil Deddf Senedd ac Etholiadau 2020 - mae canllawiau ar wahân wedi eu cyhoeddi hefyd ar oblygiadau Rhan 2 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 o ran drafftio deddfwriaeth), ond roedd drafft cynnar ar gael i’w ddefnyddio o fewn Llywodraeth Cymru hyd nes cyhoeddi’r canllawiau terfynol. Nid oedd unrhyw gostau, ar wahân i’r costau cyfle a oedd ynghlwm wrth yr amser a dreuliodd aelod o Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol yn llunio’r cyngor. Mae’r canllawiau terfynol yn berthnasol yn bennaf i:
- cyfreithwyr a swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n drafftio Biliau ac offerynnau statudol ar gyfer Gweinidogion Cymru
- swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n llunio is-ddeddfwriaeth
- cyfreithwyr a swyddogion eraill sy’n drafftio is-ddeddfwriaeth ar gyfer awdurdodau Cymreig datganoledig (megis is-ddeddfau a chynlluniau a wneir gan gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol).
17. Ers i’r canllawiau gael eu cyhoeddi, ni chafwyd unrhyw adborth sy’n golygu bod angen eu diweddaru, ac maent yn dal ar gael fel arweiniad defnyddiol.
18. Ym mis Hydref a mis Tachwedd 2019 cynhaliwyd dwy sesiwn hyfforddi wyneb yn wyneb, ar Rannau 2 a 3 o’r Ddeddf yn bennaf, ar gyfer cyfreithwyr drafftio yn Llywodraeth Cymru. Daeth oddeutu 100 o gyfreithwyr i’r ddau ddigwyddiad. Yn fwy diweddar cynhaliwyd sesiwn atodol fis Gorffennaf 2023, drwy MS Teams y tro hwn. Daeth oddeutu 70 o aelodau staff i’r sesiwn a gellir ei gwylio hefyd fel rhan o’r banc adnoddau sydd ar gael i gyfreithwyr y Llywodraeth. Nid oedd unrhyw gostau heblaw’r costau cyfle a oedd ynghlwm wrth baratoi a mynychu’r sesiwn.
19. Cyhoeddwyd gwybodaeth am Ddeddf 2019 ar wefan Cyfraith Cymru/Law Wales, a chafodd y fersiwn ddiwethaf o’r wybodaeth honno ei chyhoeddi fis Awst 2023. Mae elfen newydd o’r safle yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, sef tudalen o wybodaeth am bob un o Ddeddfau’r Senedd, ynghyd â dolenni at unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Ddeddf honno. Mae’r fersiwn ddiweddaraf o’r wybodaeth ar gyfer Deddf 2019 wedi ei chynnwys yn rhan o’r gwaith hwnnw. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ychwanegu at y dudalen honno ar ôl iddo gael ei osod gerbron y Senedd.
Diwygiadau i Ddeddf 2019
20. Mae Deddf 2019 wedi ei diwygio sawl gwaith ers iddi gael ei deddfu. Cafwyd llawer o newidiadau yn rhannol oherwydd ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ac nid ydym yn rhagweld y bydd y Ddeddf yn cael ei newid mor aml yn y dyfodol. Dyma’r newidiadau a wnaed:
- Pan gychwynnwyd Rhan 2 o Ddeddf 2019 drwy Orchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019, defnyddiodd Gweinidogion Cymru’r pŵer yn adran 38(1) o Ddeddf 2019. Felly, roedd y Gorchymyn yn diwygio’r darpariaethau yn Neddf 2019 sy’n cyfeirio at y diwrnod y daw Rhan 2 i rym, fel eu bod yn cyfeirio yn hytrach at 1 Ionawr 2020.
- Roedd Rhan 2 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru, a hynny o 6 Mai 2020. Roedd Atodlen 1 i’r Ddeddf honno yn diwygio Deddf 2019 i roi cyfeiriadau at Ddeddfau’r Senedd yn lle cyfeiriadau at Ddeddfau’r Cynulliad, ac i fewnosod diffiniadau yn Atodlen 1 i Ddeddf 2019 yn ymwneud â Senedd Cymru a Deddfau Senedd Cymru.
- Roedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 yn gweithredu’r Cytundeb Ymadael, fel y cytunwyd arno rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Roedd y Ddeddf yn ofynnol i roi’r Cytundeb Ymadael ar waith er mwyn iddo gael effaith gyfreithiol ddomestig ac i alluogi Llywodraeth y DU i gadarnhau’r Cytundeb Ymadael. O ganlyniad, diwygiodd y Ddeddf honno Ddeddf 2019 i fewnosod, disodli a diwygio cofnodion yn ymwneud â’r Cytundeb Ymadael ac, yn benodol, y cyfnod gweithredu.
- Roedd Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 a Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2019 (a deddfwriaeth arall sy’n ymwneud â dehongli cyfraith Cymru a chyfraith arall), i sicrhau bod deddfwriaeth yr UE a ymgorfforwyd mewn cyfraith ddomestig o dan Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 yn cael ei thrin yn yr un modd â deddfwriaeth yr UE a ymgorfforwyd mewn cyfraith ddomestig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
- Roedd Deddf Pysgodfeydd 2020, ymhlith materion eraill, yn estyn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru er mwyn galluogi’r Senedd i wneud deddfwriaeth sylfaenol ar faterion pysgota, pysgodfeydd ac iechyd pysgod ym mharth Cymru. O ganlyniad, diwygiodd adran 46 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020 Ddeddf 2019 i fewnosod diffiniad o “parth Cymru” yn Atodlen 1 ac i addasu cyfeiriadau yn Rhannau 1 a 3 o Ddeddf 2019 at is-ddeddfwriaeth yn ymwneud â Chymru er mwyn adlewyrchu’n gywir y disgrifiad newydd o “parth Cymru”.
- Gwnaeth Gweinidogion Cymru Reoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 a ddaeth i rym ar 27 Tachwedd 2020. Roedd y Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1 i Ddeddf 2019, i fewnosod darpariaethau ynghylch ystyr pedwar ymadrodd (“Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol”, “yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol”, “y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus”, a’r “Cod Dedfrydu”) ychwanegol ac i ddiwygio’r diffiniad o’r “graddfa safonol” o ddirwyon am droseddau diannod o ganlyniad i’r Cod Dedfrydu (yr ailddatganiad o’r ddeddfwriaeth ddedfrydu a nodir yn Neddf Dedfrydu 2020).
- Roedd Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â’r UE) 2020 yn diwygio Deddf 2019 (a deddfwriaeth ddehongli gysylltiedig) i fewnosod darpariaethau ynghylch effaith cyfeiriadau at offerynnau’r UE sy’n ffurfio rhan o gyfraith berthnasol ar y cytundeb gwahanu (fel y’i diffinnir yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018) ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu. Diwedd y cyfnod o 11 mis o 31 Ionawr 2020 pan oedd y DU yn parhau i fod yn ddarostyngedig i reolau’r UE. (Roedd y cyfnod hwn yn cael ei adnabod yn y Cytundeb Ymadael rhwng y DU a’r UE fel y ‘cyfnod pontio).
21. Bydd newidiadau pellach yn cael eu gwneud i Ddeddf 2019 gan Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023. Bydd y Ddeddf hon, pan fydd mewn grym yn llawn, yn galluogi cyfraith yr UE a ddargedwir (a elwir yn “REUL”) i gael ei diwygio ac yn dileu’r nodweddion arbennig sydd ganddi yn system gyfreithiol y DU. Mae’n gwneud diwygiadau i Ddeddf 2019 i roi cyfeiriadau at “cyfraith a gymathwyd” (a thermau cysylltiedig) yn lle cyfeiriadau at “cyfraith yr UE a ddargedwir” (a thermau cysylltiedig). Mae’r diwygiadau’n cynnwys newidiadau i Atodlen 1 i Ddeddf 2019, a fydd yn disodli’r holl ddiwygiadau a wnaed i Ddeddf 2019 gan Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020.
Rhan 1 o Ddeddf 2019
22. I lywio’r broses o wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, mae adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol (fel Swyddog y Gyfraith ar gyfer Cymru), adolygu hygyrchedd cyfraith Cymru yn rheolaidd. Mae Adran 2 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddatblygu rhaglen weithredu a gynlluniwyd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ar gyfer tymor pob Senedd gan ddechrau â’r tymor yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar 6 Mai 2021. Er mai mater i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol fydd union gynnwys rhaglen, mae adran 2(3) yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhaglen wneud darpariaeth ar gyfer mesurau y bwriedir iddynt gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru, cynnal ffurf cyfraith sydd wedi ei chodeiddio, hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru a hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
23. Cafodd y rhaglen gyntaf, Dyfodol Cyfraith Cymru: rhaglen hygyrchedd 2021 i 2026, ei datblygu yn dilyn yr etholiad cyffredinol i’r Chweched Senedd a chytunodd Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol arni cyn iddi gael ei gosod gerbron y Senedd ar 21 Medi 2021.
24. Mae adran 2(7) o Ddeddf 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiad blynyddol gael ei lunio ar hynt y gwaith yn unol â’r rhaglen. Gosodwyd yr adroddiad blynyddol cyntaf gerbron y Senedd ar 7 Tachwedd 2022. Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’r ail adroddiad blynyddol sydd bellach yn cael ei osod gerbron y Senedd. Mae’r ddau adroddiad blynyddol yn crynhoi’r gwaith a gyflawnwyd yn unol â phob rhaglen (ac nad yw’n cael ei ailadrodd yma).
25. Nodir manylion ynghylch goblygiadau adnoddau’r rhaglen gyntaf hon yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.
26. Prif bwrpas Rhan 1 oedd sicrhau ymrwymiad i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Roedd bwriad i hyn gael effaith fel addewid allanol i wneud hawliau a rhwymedigaethau pobl Cymru yn fwy eglur, yn ogystal ag fel dull o sicrhau bod gwella’r sefyllfa yn parhau i fod yn flaenoriaeth o fewn Llywodraeth Cymru. Hyd yn hyn credwn fod y Rhan wedi cael yr effaith a ddymunwyd. Mae codeiddio, yn arbennig, wedi ennyn cryn gefnogaeth gan randdeiliaid ac ymwybyddiaeth, ar ran gweinidogion a swyddogion, o’r anawsterau ymarferol a achosir gan ddeddfwriaeth anhygyrch.
27. Rhoddodd pandemig y coronafeirws yr ymrwymiad hwn ar brawf mewn ffordd nad oeddem erioed wedi ei disgwyl. Ar y naill law, arweiniodd y pandemig at arallgyfeirio rhai o’r adnoddau prin a neilltuwyd i’r prosiectau i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch, ond ar y llaw arall roedd ymateb cyfreithiol y Llywodraeth – a seiliwyd ar gyfathrebu gofynion yn eglur â’r cyhoedd yng Nghymru – yn enghraifft o arfer dda a’r modd y gellid gwella pethau o ran pob deddfwriaeth yn y dyfodol. Sylweddolodd y Llywodraeth yn fuan iawn fod angen iddi wneud mwy i sicrhau bod y gyfraith ei hun ar gael yn rhwydd, ac i egluro effaith y gyfraith. Gwnaed cryn ymdrech, o ganlyniad, i gyhoeddi’r gyfraith yn gyflym ac wedi ei diweddaru yn y ddwy iaith, i lunio canllawiau ac i gyhoeddi negeseuon syml ar ffurf cwestiwn ac ateb. Canlyniad hyn, yn ôl astudiaeth gan King’s College, oedd bod pobl yn deall y cyfyngiadau yn well o lawer yng Nghymru nag yn Lloegr.
24. Mae adran 2(7) o Ddeddf 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiad blynyddol gael ei lunio ar hynt y gwaith yn unol â’r rhaglen. Gosodwyd yr adroddiad blynyddol cyntaf gerbron y Senedd ar 7 Tachwedd 2022. Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’r ail adroddiad blynyddol sydd bellach yn cael ei osod gerbron y Senedd. Mae’r ddau adroddiad blynyddol yn crynhoi’r gwaith a gyflawnwyd yn unol â phob rhaglen (ac nad yw’n cael ei ailadrodd yma).
25. Nodir manylion ynghylch goblygiadau adnoddau’r rhaglen gyntaf hon yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.
26. Prif bwrpas Rhan 1 oedd sicrhau ymrwymiad i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Roedd bwriad i hyn gael effaith fel addewid allanol i wneud hawliau a rhwymedigaethau pobl Cymru yn fwy eglur, yn ogystal ag fel dull o sicrhau bod gwella’r sefyllfa yn parhau i fod yn flaenoriaeth o fewn Llywodraeth Cymru. Hyd yn hyn credwn fod y Rhan wedi cael yr effaith a ddymunwyd. Mae codeiddio, yn arbennig, wedi ennyn cryn gefnogaeth gan randdeiliaid ac ymwybyddiaeth, ar ran gweinidogion a swyddogion, o’r anawsterau ymarferol a achosir gan ddeddfwriaeth anhygyrch.
27. Rhoddodd pandemig y coronafeirws yr ymrwymiad hwn ar brawf mewn ffordd nad oeddem erioed wedi ei disgwyl. Ar y naill law, arweiniodd y pandemig at arallgyfeirio rhai o’r adnoddau prin a neilltuwyd i’r prosiectau i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch, ond ar y llaw arall roedd ymateb cyfreithiol y Llywodraeth – a seiliwyd ar gyfathrebu gofynion yn eglur â’r cyhoedd yng Nghymru – yn enghraifft o arfer dda a’r modd y gellid gwella pethau o ran pob deddfwriaeth yn y dyfodol. Sylweddolodd y Llywodraeth yn fuan iawn fod angen iddi wneud mwy i sicrhau bod y gyfraith ei hun ar gael yn rhwydd, ac i egluro effaith y gyfraith. Gwnaed cryn ymdrech, o ganlyniad, i gyhoeddi’r gyfraith yn gyflym ac wedi ei diweddaru yn y ddwy iaith, i lunio canllawiau ac i gyhoeddi negeseuon syml ar ffurf cwestiwn ac ateb. Canlyniad hyn, yn ôl astudiaeth gan King’s College, oedd bod pobl yn deall y cyfyngiadau yn well o lawer yng Nghymru nag yn Lloegr.
Rhan 2 o Ddeddf 2019
28. Mae Rhan 2 o Ddeddf 2019 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth a wneir gan y Senedd neu o dan bwerau y mae wedi eu rhoi, ac isddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau Cymreig datganoledig eraill.
29. Y sefyllfa cyn i Ran 2 ddod i rym oedd bod Deddf Dehongli 1978 (“Deddf 1978”) yn llywodraethu dehongli a gweithredu deddfwriaeth o’r mathau hyn. Mae Deddf 1978 yn parhau i fod yn gymwys i ddeddfwriaeth a wnaed cyn 1 Ionawr 2020 (pan ddaeth Rhan 2 i rym yn llawn). Mae Deddf 1978 hefyd yn parhau i fod yn gymwys i rai categorïau cyfyngedig iawn o offeryn a wneir gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau Cymreig datganoledig eraill o dan bwerau penodol ar ôl 1 Ionawr 2020, os yw’r offerynnau hynny hefyd yn cynnwys darpariaethau a wneir gan gyrff nad ydynt yn awdurdodau Cymreig datganoledig neu ddarpariaethau sy’n gymwys heblaw mewn perthynas â Chymru. Mae Rhan 2 yn gymwys yn unig i ddeddfwriaeth a wnaed ar ôl y dyddiad hwnnw (ac i Ddeddf 2019 ei hun).
30. Mae Rhan 2, felly, wedi bod yn gymwys i 12 o Ddeddfau’r Senedd a ddeddfwyd ers 1 Ionawr 2020, ac i 1,176 o Offerynnau Statudol a wnaed gan Weinidogion Cymru, ynghyd â rhyw 270 o eitemau o is-ddeddfwriaeth a wnaed yn ystod y cyfnod hwn gan Weinidogion Cymru a deddfwriaeth bellach a wnaed gan gyrff eraill (nad yw’r Llywodraeth yn cadw manylion amdanynt) - am y cyfnod hyd at a chan gynnwys 30 Medi 2023.
31. Bwriedid i’r mwyafrif o’r darpariaethau yn Rhan 2 gael yr un effaith â’r darpariaethau yn Neddf 1978, hyd yn oed os cawsant eu mynegi mewn termau gwahanol. Er hynny, roedd rhai gwahaniaethau a nodwyd ac a ddisgrifiwyd yn y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2019.
32. Un o’r prif wahaniaethau rhwng y ddwy Ddeddf yw nad yw Deddf 2019 yn cynnwys darpariaeth sy’n cyfateb i adran 11 o Ddeddf 1978. Mae’r adran honno’n darparu bod i ymadroddion a ddefnyddir mewn is-ddeddfwriaeth yr ystyr sydd iddynt yn y Ddeddf neu’r Mesur (neu ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir) y gwneir yr is-ddeddfwriaeth oddi tani neu oddi tano. O ganlyniad mae angen i’r rheini sy’n drafftio offerynnau statudol Cymru ystyried sut orau i sicrhau bod i’r geiriau a ddefnyddir yn yr offeryn yr un ystyr ag yn y ddeddfwriaeth sylfaenol (os dyna’r bwriad). Mae Drafftio Deddfau i Gymru (canllawiau’r Llywodraeth ar ddrafftio deddfwriaeth) a’r canllawiau a gyhoeddwyd ar Ran 2 o Ddeddf 2019 yn ymdrin yn fwy manwl â hyn. Mae tystiolaeth o offerynnau statudol a wnaed ers pasio Deddf 2019 yn dangos bod amryw o ddulliau yn cael eu dilyn, yn dibynnu ar yr effaith sydd ei hangen a ffactorau eraill, megis a yw ystyr benodol yn deillio o gyfraith achos. Mae trafodaethau anecdotaidd â chyfreithwyr drafftio yn y Llywodraeth wedi dangos bod y canllawiau ar y mater hwn a chyd-destun yr offeryn sy’n cael ei baratoi i gyd yn dylanwadu ar y dull sy’n cael ei ddilyn, ac nad oes unrhyw ddull unigol yn cael ei ffafrio.
33. Mae adran 35 o Ddeddf 2019 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch effeithiau diddymu ac ailddeddfu deddfwriaeth bresennol. Mae’n seiliedig ar ddarpariaethau tebyg iawn yn adran 17(2) o Ddeddf 1978, ond fe ehangwyd rhai agweddau arni i hwyluso Deddfau cydgrynhoi’r Senedd (yn benodol, nid yw adran 35 wedi ei chyfyngu i achosion pan fo’r diddymu a’r ail-ddeddfu ill dau yn yr un Ddeddf, ac mae’n galluogi cyfeiriadau at ddeddfiad a ddiddymwyd i gael eu ddarllen fel “yn cynnwys” eu hailddatgan ar gyfer Cymru pan fo hynny’n briodol). Serch hynny, gwnaeth Rhan 1 o Atodlen 14 i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 amryw o ddarpariaethau trosiannol ychwanegol yn delio gyda chyfeiriadau at y Ddeddf honno a’r Deddfau y mae’n eu disodli. Rydym yn ystyried a fyddai o gymorth i gael darpariaethau cyffredinol o’r math hwnnw, fel nad oes angen eu gwneud ar wahân ym mhob un o Ddeddfau’r Senedd sy’n ailddatgan deddfwriaeth bresennol.
34. Gan fod adran 35 yn darparu, pan fo Deddf y Senedd yn ailddatgan Deddf flaenorol, bod is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf gynharach yn parhau i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan yr un gynharach. Gall hyn olygu bod rhaid trin is-ddeddfwriaeth yr oedd Deddf 1978 yn gymwys iddi fel pe bai’n ddarostyngedig i Ddeddf 2019 yn awr. Yn gyffredinol ni fydd hynny’n gwneud unrhyw wahaniaeth, o ystyried y tebygrwydd agos rhwng y ddwy Ddeddf a’r ffaith bod y rhan fwyaf o’u darpariaethau dehongli yn ddarostyngedig i unrhyw fwriad i’r gwrthwyneb yn y ddeddfwriaeth o dan sylw. Fodd bynnag, mewn cysylltiad â’r gwaith sy’n mynd rhagddo gan y Llywodraeth i gydgrynhoi’r gyfraith, rydym yn ystyried a oes unrhyw achosion pryd y gallai gael effeithiau nas dymunir.
35. Fel y nodwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn, mae Atodlen 1 i Ddeddf 2019 wedi ei diwygio sawl gwaith. Dim ond un o’r rhain sydd wedi bod yn destun arfer y pwerau yn adran 6(2) o Ddeddf 2019. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu ystyried diwygiadau pellach i Atodlen 1 o dro i dro, i gynnwys diffiniadau newydd o dermau neu i ddiweddaru termau, yn ôl y galw.
Rhan 3 o Ddeddf 2019
36. Fel y nodwyd yn gynharach, mae Rhan 3 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru newid disgrifiadau o ddyddiadau yn neddfwriaeth Cymru (adran 38); ac i wneud isddeddfwriaeth mewn gwahanol ffurfiau (adran 39). Mae hefyd yn darparu ar gyfer cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y Senedd (adran 40).
37. Cafodd y pŵer galluogi yn adran 38 ei ddefnyddio gyntaf yn y gorchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf 2019, a oedd yn diwygio’r Ddeddf ei hun. Mae’r pŵer wedi cael ei ddefnyddio wedyn mewn gorchymyn cychwyn arall: Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022. Daeth y gorchymyn hwnnw â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym, i’r graddau nad oedd mewn grym yn barod, ar 1 Rhagfyr 2022. Yn ogystal, diwygiodd y gorchymyn 12 o offerynnau statudol i ddisodli cyfeiriadau at y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym â chyfeiriad at 1 Rhagfyr 2022. Dyma’r union fath o newid a ragwelwyd pan grëwyd y pŵer galluogi. Mae’n sicrhau y gallai darllenwyr y 12 o offerynnau statudol hynny weld y dyddiad perthnasol heb orfod gwneud rhagor o ymchwil.
38. Mae adran 39 wedi ei defnyddio i wneud rheoliadau yn lle gorchmynion a rheolau – gweler er enghraifft, Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2020 a Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022. Mae rheoliadau “Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân” yn enghraifft o paham y crëwyd y pŵer galluogi – mae’r oddeutu 20 o bwerau galluogi yr oedd eu hangen i wneud y rheoliadau hynny wedi eu nodi mewn sawl Deddf, ac mewn un achos (adran 34(4) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004) rhagwelwyd yn wreiddiol y byddent yn cael eu harfer drwy orchymyn. Heb adran 39 o Ddeddf 2019, byddai wedi bod yn ofynnol gwneud dau offeryn ar wahân – sef un set o reoliadau a’r gorchymyn ar wahân. Roedd Adran 39 yn caniatáu gwneud offeryn cyfun, gan wneud y gyfraith yn fwy hygyrch i’r darllenydd.
39. Mae adran 39 hefyd wedi ei defnyddio i wneud gorchymyn, yn hytrach na rheoliadau – gweler Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023. Roedd y Gorchymyn hwn hefyd yn dibynnu ar y pwerau yn adran 40 o Ddeddf 2019, sy’n caniatáu i is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol y Senedd gael eu cyfuno mewn un offeryn.
40. Mae adran 40 wedi cael ei defnyddio o leiaf 22 o weithiau ers i’r pŵer ddod i rym (gan gynnwys ar gyfer y Gorchymyn a grybwyllir yn union uchod). Diben yr adran hon yw hwyluso’r broses o gyfuno, mewn un offeryn statudol, ddarpariaethau sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol, p’un a ydynt yn cael eu gwneud o dan bwerau yn yr un Ddeddf neu mewn Deddfau gwahanol, ac osgoi unrhyw anawsterau gweithdrefnol a gâi eu hachosi drwy gyfuno darpariaethau yn y modd hwn. Mae’n sicrhau bod yr offeryn yn ddarostyngedig i’r gweithdrefnau mwyaf llym a fyddai’n gymwys fel arall. Gwnaed chwe offeryn wedi hynny o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ ac 16 o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft.
41. Mae cyfeiriad at adran 40 wedi ei gynnwys gan amlaf fel troednodyn i destun rhagarweiniol yr Offeryn Statudol, ond mewn rhai achosion nid oedd hyn yn yr Offeryn Statudol. Yn hytrach cafodd ei dynnu at sylw’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Memoranda Esboniadol sy’n cyd-fynd ag Offerynnau Statudol adeg eu gosod. Mewn un achos, roedd yr offeryn a’r Memorandwm Esboniadol ill dau yn cynnwys cyfeiriad at adran 40. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi nodi o leiaf un achos lle y dibynnwyd ar adran 40, ond na chyfeiriwyd at hyn yn yr offeryn nac yn y Memorandwm Esboniadol. Mae cyfreithwyr drafftio wedi cael eu hatgoffa am y canllawiau ynghylch cyfeirio at adran 40.
42. Mae trafodaethau anecdotaidd gyda chyfreithwyr sy’n drafftio o fewn y Llywodraeth wedi dangos bod adrannau 39 a 40 wedi eu defnyddio, ar y cyfan, i ddarparu safbwynt mwy rhesymegol a threfnus i’r rheini sy’n defnyddio deddfwriaeth neu oherwydd ei bod yn hwylus o safbwynt gweinyddol i wneud un offeryn yn hytrach na sawl offeryn.
Darparu adnoddau
Datblygu’r rhaglen, adrodd arni a’i diwygio o dan Ran 1 o Ddeddf 2019
43. Amcangyfrifwyd yn 2019 bod paratoi’r rhaglen yn gost cyfle o tua £12,000 (yn seiliedig ar 8 wythnos o weithgarwch amser llawn i un swyddog Gradd 7/Band Gweithredol 2). Gweler paragraff 139 a Thabl 4 o’r Memorandwm Esboniadol i Fil Deddfwriaeth (Cymru) (a osodwyd ar 18 Mehefin 2019)
44. Datblygwyd y rhaglen gyntaf yn ystod cyfnod o weithgarwch dwys i’r Swyddfa Codau Deddfwriaethol, yn ymwneud yn bennaf â pharatoi, cofrestru a chyhoeddi deddfwriaeth a oedd yn gysylltiedig â’r pandemig. Gwnaed gwaith ar y rhaglen ochr yn ochr â’r gweithgarwch arall hwnnw, ac nid oes modd pennu a oedd yn cyfateb i’r amcangyfrif gwreiddiol o amser.
45. Ochr yn ochr â’r adroddiadau blynyddol, rhagwelwyd hefyd mai digwyddiad achlysurol fyddai adrodd ar y rhaglen – er enghraifft, pan fyddai’r Cwnsler Cyffredinol yn ateb cwestiynau, yn gwneud datganiadau neu’n cymryd rhan mewn sesiynau tystiolaeth i Bwyllgorau. Nid oedd y costau sy’n gysylltiedig â hyn yn fesuradwy ond byddent yn gostau cyfle. Mae gweithgarwch o’r math hwn wedi digwydd ers i’r rhaglen gyntaf gael ei pharatoi. Fel rheol, mae gwybodaeth ar gyfer hyn yn cael ei pharatoi gan Bennaeth y Swyddfa Codau Deddfwriaethol fel rhan o ddyletswyddau eraill.
46. Yn 2019, amcangyfrifwyd bod cost cyfle paratoi’r adroddiad blynyddol yn rhyw £3,000 (sef pythefnos o weithgarwch amser llawn gan un swyddog ar radd Band Gweithredol 2). Gweler paragraff 140 o’r Memorandwm Esboniadol i Fil Deddfwriaeth (Cymru) (a osodwyd ar 18 Mehefin 2019). Mae dau adroddiad blynyddol wedi eu llunio hyd yn hyn. Yn y ddau achos, cawsant eu harwain gan un aelod ar radd Band Rheoli 1 yn y Swyddfa Codau Deddfwriaethol, a fu, fel rhan o ddyletswyddau eraill, yn casglu cyfraniadau o bob rhan o’r sefydliad ar hynt y gwaith o dan bob prosiect. Ni chyfrifwyd yr amser gwirioneddol ar gyfer y gwaith hwn, ond bernir bod yr amcangyfrif gwreiddiol yn llai na’r amser gwirioneddol a gymerwyd.
47. Yn 2019, amcangyfrifwyd y byddai cost cyfle adolygu’r rhaglen yn rhyw ddwy ran o dair o gost paratoi’r brif raglen. Gweler paragraff 141 o’r Memorandwm Esboniadol i Fil Deddfwriaeth (Cymru) (a osodwyd ar 18 Mehefin 2019). Hyd yn hyn nid yw’r rhaglen wedi cael ei hadolygu, felly nid oes unrhyw gostau o’r fath wedi codi.
Darparu’r rhaglen sy’n ofynnol o dan Ran 1 o Ddeddf 2019
48. Yn ystod hynt y Bil, gan gynnwys yn yr wybodaeth ategol megis y Memorandwm Esboniadol, pwysleisiwyd y byddai cost wirioneddol pob rhaglen unigol yn dibynnu ar raddfa’r gweithgarwch a fyddai’n rhan ohoni a’r adnodd a gâi ei neilltuo i’r gweithgarwch hwnnw. Nodwyd yr amcangyfrifon gorau o raglen ddangosol yn y Memorandwm Esboniadol (gweler paragraffau 144 i 147), a chynhwyswyd rhai costau yn ymwneud â’r staffio ychwanegol disgwyliedig y gallai fod ei angen i gynyddu capasiti drafftio a chyfieithu, yn ogystal â staff eraill i weithio ar y prosiectau anneddfwriaethol (gweler isod).
Amcangyfrif o gost flynyddol darparu rhaglen hygyrchedd fel y’i nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol i’r Bil yn 2019
- Cost adnodd drafftio sy’n gyfwerth â phedwar Cwnsler Deddfwriaethol: £376,900
- Cost adnodd cyfieithu sy’n gyfwerth â dau Gyfieithydd Deddfwriaethol: £93,000
- Cost un aelod staff Band Rheoli 2 a dau aelod staff Band Rheoli 3 yn cyflenwi rhaglen dreigl o brosiectau hygyrchedd: £118,500
- Cyfanswm y costau a amcangyfrifir: £588,400
49. O ran y costau ar gyfer pob Bil cydgrynhoi, nodwyd yn glir yn y Memorandwm Esboniadol i’r Bil (paragraff 146):
Amcangyfrifon dangosol yw’r ffigurau a ddyfynnir [ar gyfer pob bil cydgrynhoi] i bob pwrpas, ac ni ddylid ystyried eu bod yn diffiniadol nac yn gynrychioliadol o unrhyw brosiectau cydgrynhoi nac o bob prosiect cydgrynhoi. Y rheswm dros hyn yw nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymarferion cydgrynhoi o’r math a ragwelir; yn ail, bydd gan bob prosiect wahanol alwadau a gofynion yn seiliedig ar y gyfraith bresennol sy’n cael ei chydgrynhoi a’i chodeiddio.
50. Yr unig gostau y gellid eu meintioli bryd hynny oedd y costau drafftio a chyfieithu ychwanegol a ragwelid.
51. Mae’r profiad a gafwyd o gynhyrchu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 a llunio dau Fil arall sy’n ymwneud â rhaglen hygyrchedd y gyfraith wedi dangos mai ychydig iawn o wahaniaeth sydd yn y radd neu’r math o staff sy’n gysylltiedig â Bil cydgrynhoi a Bil diwygio’r gyfraith. Mae angen gweithwyr polisi proffesiynol, cyfreithwyr pwnc, cyfieithwyr deddfwriaethol a chyfieithwyr cyffredinol, a chwnsleriaid drafftio. Mae’n gofyn am ymrwymiad sylweddol o ran amser ac arbenigedd gan bawb o dan sylw ac mae’n weithgarwch trawslywodraethol. Adlewyrchwyd hyn ym mhapur tystiolaeth y Cwnsler Cyffredinol i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer ei bresenoldeb ar 16 Ionawr 2023, lle’r esboniodd:
…mae ein gwaith i gyflawni’r rhaglen ddeddfwriaethol yn elfen o waith y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd ac mae’r un peth yn wir am raglen hygyrchedd y gyfraith. Caiff cyfanswm y costau cyffredinol, gan gynnwys costau’r gwaith ar y Bil, eu talu gan ddefnyddio cyllid o sawl portffolio fel rhan o weithgarwch deddfwriaethol ehangach y sefydliad.
52. Er nad oes modd meintioli’r union gostau sy’n gysylltiedig â’r swyddogion polisi proffesiynol, y cyfreithwyr pwnc, y cyfieithwyr cyffredinol a’r swyddogion terminoleg proffesiynol o dan sylw, y mae’r mwyafrif ohonynt wedi bod yn gweithio ar faterion eraill ochr yn ochr â’u gwaith ar y prosiectau cydgrynhoi unigol, mae’n bosibl nodi’r adnodd drafftio a chyfieithu ychwanegol sydd wedi ei ddefnyddio ers mis Hydref 2021 pan ddechreuodd y rhaglen gyntaf (yn Nhabl 3 isod):
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) | 1 x Cwnsler Deddfwriaethol Cynorthwyol 1 x Cwnsler Deddfwriaethol 1 x Uwch-gwnsler Deddfwriaethol (gweler nodiadau A a D) |
2 x Uwch-gyfieithydd Deddfwriaethol (gweler nodyn E) |
---|---|---|
Bil Deddfwriaeth (Diddymiadau) (Cymru) | 3 x Cwnsler Deddfwriaethol Cynorthwyol 1 x Uwch-gwnsler Deddfwriaethol (gweler nodiadau B, D a G) |
2 x Uwch-gyfieithydd Deddfwriaethol (gweler nodyn F) |
Bil Cynllunio (Cymru) | 2 x Cwnsler Deddfwriaethol Cynorthwyol 1 x Cwnsler Deddfwriaethol 1 x Uwch-gwnsler Deddfwriaethol (gweler nodiadau C, D a H) |
2 x Uwch-gyfieithydd Deddfwriaethol (gweler nodyn F) |
Nodiadau
- Roedd y Cwnsleriaid Deddfwriaethol Cynorthwyol a neilltuwyd ar gyfer y prosiect hwn yn gweithio ar un agwedd ar y Bil ochr yn ochr â phrosiectau eraill; dyrchafwyd yr Uwch-gwnsler Deddfwriaethol i’r radd hon (o radd Cwnsler Deddfwriaethol) yn ystod y prosiect, ac ymunodd â’r prosiect ar gam diweddarach. Gweler hefyd Nodyn (c).
- Mae’r pedwar drafftiwr deddfwriaethol wedi gweithio ar y prosiect hwn yn achlysurol mewn cyfnodau tawelach yn eu prosiectau eraill, yn hytrach na’u bod i gyd yn gweithio ar hyn am gyfnod penodedig. Mae’r gwaith ar y prosiect hwn yn parhau a gallai’r adnodd drafftio newid yn y dyfodol.
- Mae gwaith ar y prosiect cynllunio wedi ei wneud gan rai o’r un Cwnsleriaid Deddfwriaethol a fu’n gweithio ar brosiect yr Amgylchedd Hanesyddol, ac yn ystod cyfnodau amser a oedd yn gorgyffwrdd. Mae’r gwaith ar y prosiect cynllunio yn parhau a gallai’r adnodd drafftio newid yn y dyfodol. Mae gwaith y Cwnsler Deddfwriaethol ar y prosiect hwn wedi digwydd yn ystod bylchau mewn prosiectau eraill.
- Mae gwaith cyfwerthedd deddfwriaethol wedi ei wneud gan sawl aelod o Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol ar y tri Bil. Nid oes modd meintioli’r niferoedd na’r graddau (na chanran yr amser) a gymerwyd i wneud hyn
- Un Uwch-gyfieithydd Deddfwriaethol i wneud y cyfieithiad cychwynnol ac un i’w olygu. Cyfrannodd y ddau hefyd at y broses cyfwerthedd deddfwriaethol. Yn ogystal â hyn, daethpwyd â sawl aelod arall o’r Uned Cyfieithu Deddfwriaethol i mewn ar adegau allweddol o’r prosiect.
- Un Uwch-gyfieithydd Deddfwriaethol i wneud y cyfieithiad cychwynnol ac un i’w olygu. Bydd y ddau hefyd yn cyfrannu at y broses cyfwerthedd deddfwriaethol. Mae’r gwaith ar y prosiect hwn yn parhau a gallai’r adnodd cyfieithu newid yn y dyfodol.
- Mae "Bil Deddfwriaeth (Diddymiadau) (Cymru)" yn deitl byr dangosol a ddefnyddir i gyfeirio at Fil a fydd yn diddymu darpariaethau sydd wedi darfod ac wedi eu disbyddu mewn perthynas â Chymru.
- Mae "Bil Cynllunio (Cymru)" yn deitl byr dangosol a ddefnyddir i gyfeirio at gydgrynhoi cyfraith gynllunio yng Nghymru.
Prosiectau i wella is-ddeddfwriaeth
53. Nid oes modd meintioli’r union gostau sy’n gysylltiedig â’r swyddogion polisi, y cyfreithwyr pwnc a’r staff cyfieithu sy’n ymwneud â pharatoi’r prosiectau is-ddeddfwriaeth a nodir yn y rhaglen. Mae’r mwyafrif o’r staff hyn wedi bod yn gweithio, neu maent wrthi’n gweithio, ar faterion eraill ochr yn ochr â’r gwaith hwn, sy’n cael ei wneud fel rhan o’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau parhaus.
Prosiectau anneddfwriaethol o fewn y rhaglen
54. Mae’r Memorandwm Esboniadol i’r Bil yn nodi (paragraff 147):
Mae’n debygol y bydd gweithgareddau mewn rhaglen nad ydynt yn cynnwys cydgrynhoi neu godeiddio yn cynnwys y rhai a wneir i wella cyhoeddi ac esbonio Cyfraith Cymru. Er enghraifft, datblygu ymhellach gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales, ymwneud ymhellach â chyhoeddi’r gyfraith ac ymchwilio i’r technolegau perthnasol sy’n dod i’r amlwg a’u defnyddio ar gyfer y tasgau hyn. Rhan o’r ffocws fyddai materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg lle ceir diffygion sylweddol yn y systemau presennol, fel y nodir gan Gomisiwn y Gyfraith. Câi’r gweithgareddau hyn eu gwneud yn bennaf gan dîm o staff gweinyddol Llywodraeth Cymru ar fand rheoli 2 a 3 yn gweithio’n amser llawn. Amcangyfrifir mai cost hyn yw £118,500 y flwyddyn. Nodir y costau cyfunol ychwanegol (i Lywodraeth Cymru) o ddarparu rhaglen enghreifftiol yn Nhabl 5 isod.
(gweler hefyd linell 3 o Dabl 2 uchod)
55. Ffurfiwyd y Swyddfa Codau Deddfwriaethol ar ddiwedd 2019 yn dilyn deddfiad Deddf 2019. Mae dau ddiben i’r tîm hwn:
- goruchwylio ac, mewn rhai achosion, arwain ar brosiectau allweddol o fewn rhaglen hygyrchedd y Llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys darparu adnoddau rheoli a llywodraethiant ar gyfer Biliau i gefnogi’r gwaith o gydgrynhoi a chodeiddio’r gyfraith, a
- sicrhau bod is-ddeddfwriaeth a wneir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru yn cael ei gwneud, ei chofrestru a’i chyhoeddi’n gywir.
56. Defnyddiwyd adnoddau a oedd yn bodoli eisoes:
- un Swyddog Gradd 7 ac un Swyddog Gweithredol Uwch, a oedd wedi bod yn gweithio ar y Bil, ar Cyfraith Cymru ac ar brosiectau eraill yn ymwneud â hygyrchedd y gyfraith
- dau Swyddog Gweithredol, a oedd wedi ymwneud â gwneud a chofrestru isddeddfwriaeth.
57. At hynny, recriwtiwyd Swyddog Gweithredol Uwch a dau Swyddog Gweithredol arall (yr adnoddau a nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol i’r Bil). Daeth un o’r swyddi Swyddog Gweithredol gwreiddiol yn wag drwy’r ymarfer recriwtio hwn ac fe’i tynnwyd o’r strwythur wedi hynny.
58. O ddechrau 2020 tan ddiwedd 2022, oherwydd y pandemig a’r paratoadau ynghylch ymadael â’r UE, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr offerynnau statudol (yn enwedig) a oedd yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru. Cafodd hyn effaith ar waith y Swyddfa Codau Deddfwriaethol, nid yn unig o ran prosesu’r offerynnau hyn ond hefyd am fod y tîm, mewn rhai achosion, yn rhan o’r gwaith o baratoi, cyhoeddi ac esbonio’r isddeddfwriaeth ei hun. Daethpwyd ag Uwch-swyddog Gweithredol a Swyddog Gweithredol Uwch i mewn i ychwanegu at adnodd y tîm.
59. Rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2022 ymunodd gwas sifil “Llwybr Carlam” â’r tîm, a bu’n gweithio, ymhlith materion eraill, ar y prosiect datblygiadau technolegol yr adroddwyd arno yn yr adroddiad blynyddol a osodwyd gerbron y Senedd yn 2022.
60. Dyma’r swyddi presennol o fewn y tîm sy’n ymwneud yn benodol â rheoli deddfwriaeth a hygyrchedd y gyfraith:
- un Swyddog Gradd 7
- un Uwch-swyddog Gweithredol
- tri Swyddog Gweithredol Uwch
- tri Swyddog Gweithredol
Noder: nid yw rhain yn swyddi amser llawn ac mae rhai deiliaid swyddi hefyd yn gweithio ar faterion heblaw rheoli deddfwriaeth a hygyrchedd y gyfraith, ac adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn mae gan y tîm un swydd wag.
61. Mae’r prosiectau o fewn y rhaglen gyfredol sy’n rhan o waith y Swyddfa Codau Deddfwriaethol yn cynnwys:
- gwaith ar y Biliau cydgrynhoi, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Bil Deddfwriaeth (Diddymiadau) (Cymru), Bil Cynllunio (Cymru) a nodi prosiectau cydgrynhoi a chodeiddio pellach posibl
- anodi cyfraith Cymru a gyhoeddir ar legislation.gov.uk. Fel y nodwyd ym mhapur tystiolaeth y Cwnsler Cyffredinol i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gynharach eleni:
Mae tri aelod o staff ar radd Swyddog Gweithredol ac un aelod o staff ar radd Swyddog Gweithredol Uwch wedi cael hyfforddiant i weithio ar anodi, ac maent yn gwneud y gwaith hwn ochr yn ochr â dyletswyddau eraill, gwaith sy’n gysylltiedig â llunio, cofrestru a chyhoeddi is-ddeddfwriaeth yn bennaf.
- cynnal a datblygu gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales
- trefnu a chyhoeddi’r prosiectau cyfraith yn ehangach, sy’n cynnwys dosbarthu deddfwriaeth.
62. Ochr yn ochr â hyn, mae’r Swyddfa hefyd yn gweithredu fel prif bwynt cyswllt y Llywodraeth â Chomisiwn y Gyfraith.
Costau ychwanegol nad ydynt yn rhan o’r rhaglen ffurfiol
63. Er nad yw’n rhan o’r rhaglen ffurfiol i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am waith sy’n cael ei wneud gan Brifysgol Bangor:
Mae swm dangosol o £350,000 [wedi ei ddyrannu] yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 i Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer gwaith ar dechnoleg iaith, sy’n cynnwys cyfieithu peirianyddol. Defnyddir rhan o’r cyllid hwn i barhau i gasglu data ar hyfforddiant er mwyn datblygu technoleg cyfieithu peirianyddol parth-benodol ar gyfer y parth cyfiawnder - gwaith a ddechreuwyd gennym yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23.