Darpariaeth tai fforddiadwy: Ebrill 2022 i Fawrth 2023
Nifer yr unedau ychwanegol a ddarparwyd, yn ogystal â sut y mae'r system gynllunio yn cyfrannu at ddarparu'r unedau hyn ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Ystyr tai fforddiadwy yw tai lle mae systemau cadarn ar waith i sicrhau eu bod yn hygyrch i’r rhai na allant fforddio tai'r farchnad, ar feddiannaeth gyntaf ac ar feddiannaeth ddilynol fel y'u diffinnir yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 2.
Mae'r Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Mehefin 2021, ac a ddiweddarwyd ym mis Rhagfyr 2021, a'r Datganiad Ysgrifenedig ar Dai Cymdeithasol yng Nghymru a wnaed gan y Gweinidog Newid Hinsawdd (15 Mehefin 2021), yn cynnwys yr ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y llywodraeth hon. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y rhestr termau.
Mae'r ffigurau yn cwmpasu'r holl unedau tai ychwanegol fforddiadwy, boed hynny drwy eu hadeiladu o'r newydd, eu prynu, eu caffael, eu prydlesu neu drwy addasu anheddau presennol. Nid ydynt yn ystyried unrhyw stoc tai fforddiadwy a gollwyd drwy eu dymchwel neu eu gwerthu yn ystod y flwyddyn.
Trwy gydol yr adroddiad, defnyddir cyfeiriadau at flynyddoedd ariannol. Wrth gyfeirio at flynyddoedd ariannol defnyddir '-' (e.e. 2021-22).
Prif bwyntiau
Ffigur 1: Y ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol, 2007-08 i 2022-23
Graff bar yn dangos nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 2011-12 a 2022-23, wedi'i rannu yn ôl cyfanswm ac unedau landlord cymdeithasol cofrestredig. Cynyddodd nifer yr unedau a ddarparwyd yn 2022-23 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Darpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol yn ôl lleoliad a blwyddyn (StatsCymru)
Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru
Yn 2022-23, darparwyd 3,369 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru. Mae hyn yn gynnydd o 26% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol a'r ail uchaf ers i'r data gael eu cofnodi gyntaf yn 2007-08.
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru oedd yn gwneud y cyfraniad mwyaf at dai fforddiadwy ychwanegol yng Nghymru o hyd, gan ddarparu 70% o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol yn ystod 2022-23 (2,366 o unedau).
Darparwyd 72% o'r holl unedau tai fforddiadwy â chyllid grant cyfalaf.
Mesur y cynnydd o ran ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod 2021-26
Roedd y targed tai fforddiadwy ar gyfer tymor y llywodraeth flaenorol (2016-2021) yn cynnwys cartrefi a ddarparwyd drwy gynlluniau Cymorth i Brynu-Cymru a Rhentu i Berchnogi.
Mae diffiniad y targed o 20,000 o gartrefi ar gyfer tymor y llywodraeth hon yn gulach, ac nid yw'n cynnwys cartrefi sy'n cael eu darparu drwy'r rhaglenni hyn. Wrth fesur cynnydd, rydym wedi cynnwys unedau rhent cymdeithasol, unedau rhent canolradd ac unedau rhanberchenogaeth, a ddarperir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, awdurdodau lleol a darparwyr y sector preifat. Mae'r ffigurau hefyd yn cynnwys unedau tai a gynigiwyd ar brydles i ddarparu llety i deuluoedd digartref lle mae'r les am fwy na blwyddyn. Nid yw'r ffigur targed a adroddwyd yn cynnwys unedau ecwiti fforddiadwy a rennir ac felly mae'n is na chyfanswm y tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd.
Yn 2022-23, cafodd 3,212 o unedau fforddiadwy eu darparu i'w rhentu yn y sector cymdeithasol ledled Cymru.
Mae hyn yn cynnwys 1,940 o unedau rhent cymdeithasol, 201 o unedau rhent canolradd a 111 o unedau rhanberchnogaeth a ddarperir gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, 642 o unedau a ddarperir gan awdurdodau lleol ar rent cymdeithasol neu ganolradd a 318 arall a ddarperir gan ddarparwyr eraill.
Mae hyn yn dod â chyfanswm yr unedau a ddarperir ers 2021 i 5,775.
Y tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd
Nid yw'r Unedau Tai Fforddiadwy a ddarparwyd drwy'r cynllun Rhentu i Berchnogi-Cymru wedi'u cynnwys yn y ffigurau ar gyfer cyfanswm y tai fforddiadwy ychwanegol a ddangosir yn yr adran hon gan nad ydynt yn cydymffurfio'n llawn â'r diffiniad yn TAN 2.
Rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, darparwyd cyfanswm o 3,369 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru. Ers 1 Ebrill 2007, pan gasglwyd gwybodaeth am dai fforddiadwy am y tro cyntaf, roedd cyfanswm cronnol o 40,643 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol wedi'u darparu. Roedd y 3,369 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yn ystod 2022-23 yn gynnydd o 26% (693 o unedau) o'i gymharu â'r unedau a ddarparwyd y flwyddyn flaenorol a'r ail gyfanswm uchaf ers i'r data gael eu cofnodi gyntaf yn 2007-08.
Darparodd yr Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig 11% yn fwy o unedau tai fforddiadwy ychwanegol yn ystod 2022-23 na'r flwyddyn flaenorol (2,366 o'i gymharu â 2,130), ond 22% yn llai o unedau nag yn 2020-21 (3,018). Gostyngodd cyfran yr holl unedau tai fforddiadwy a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i 70% o'r 80% a welwyd yn 2021-22. O'u plith, roedd 2,062 (87%) yn eiddo a adeiladwyd o'r newydd.
Roedd 685 o unedau pellach (20%) yn unedau tai fforddiadwy a oedd yn eiddo i awdurdodau lleol. Darparwyd y mwyafrif ohonynt (83%) gan bum awdurdod lleol, sef Caerdydd (223 o unedau), Sir Gaerfyrddin (134 o unedau), Abertawe (86 o unedau), Powys (569 o unedau) a Ynys Môn (56 o unedau). O blith y 486 o unedau hyn, roedd 300 (62%) yn eiddo a adeiladwyd o'r newydd. Ym Mro Morgannwg a Chaerffili, roedd yr holl dai fforddiadwy newydd yn eiddo a adeiladwyd o'r newydd (23 ym Mro Morgannwg a 18 yng Nghaerffili). Darparodd awdurdodau lleol eraill unedau tai fforddiadwy newydd drwy gaffael neu drwy gyfuniad o gaffael ac adeiladu o'r newydd (gweler y data ar StatsCymru am fanylion llawn).
Darparwyd y 318 uned (9%) arall gan ddarparwyr eraill ac roeddent yn cynnwys unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yn uniongyrchol gan ddatblygwyr preifat drwy'r system gynllunio drwy gytundeb Adran 106. Ceir rhagor o wybodaeth am gytundebau Adran 106 yn adran Rhestr Termau'r datganiad hwn.
Cynyddodd nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarperir yn ardaloedd y Parc Cenedlaethol ychydig i 58 o unedau yn 2022-23. Mae hyn yn gynnydd o 5 uned o'i gymharu â'r 53 o unedau oedd ar gael yn 2021-22. Roedd hyn yn cynrychioli 2% o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol yn ystod 2022-23, yn debyg i'r gyfran oedd ar gael yn 2021-22 (Tabl 1).
Amcangyfrifir gan awdurdodau lleol y bwriedir darparu 3,135 o unedau tai fforddiadwy pellach yn ystod 2023-24. Fodd bynnag, wrth gymharu'r ystadegau ar unedau a gynlluniwyd ac unedau a ddarparwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol, gall y ffigurau hyn newid, felly dylid eu trin yn ofalus. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran ‘Cywirdeb’ yr Adroddiad ansawdd.
Darparwr | Ddarparwyd 2020-21 | Ddarparwyd 2021-22 | Ddarparwyd 2022-23 | Cynlluniwyd 2023-24 [Nodyn 1] |
---|---|---|---|---|
Ynys Môn | 101 | 71 | 124 | 131 |
Gwynedd | 101 | 38 | 80 | 0 |
Conwy | 107 | 116 | 89 | 220 |
Sir Ddinbych | 120 | 256 | 143 | 72 |
Sir y Fflint | 228 | 76 | 50 | 92 |
Wrecsam | 69 | 54 | 100 | 6 |
Powys | 137 | 139 | 148 | 75 |
Ceredigion | 83 | 70 | 22 | 48 |
Sir Benfro | 117 | 126 | 92 | 255 |
Sir Gaerfyrddin | 106 | 242 | 241 | 70 |
Abertawe | 297 | 213 | 290 | 250 |
Castell-nedd Port Talbot | 107 | 98 | 78 | 130 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 166 | 63 | 85 | 104 |
Bro Morgannwg | 232 | 202 | 171 | 255 |
Caerdydd | 541 | 324 | 705 | 619 |
Rhondda Cynon Taf | 238 | 160 | 189 | 297 |
Merthyr Tudful | 49 | 7 | 25 | 0 |
Caerffili | 174 | 67 | 188 | 108 |
Blaenau Gwent | 90 | 43 | 4 | 6 |
Tor-faen | 163 | 134 | 120 | 90 |
Sir Fynwy | 146 | 91 | 66 | 128 |
Casnewydd | 231 | 86 | 359 | 179 |
Cymru | 3,603 | 2,676 | 3,369 | 3,135 |
O'u plith, y cyfanswm a ddarparwyd o fewn y Parciau Cenedlaethol: | ||||
PC Eryri | 34 | 1 | 11 | 0 |
PC Arfordir Penfro | 33 | 21 | 27 | 45 |
PC Bannau Brycheiniog | 73 | 31 | 20 | 2 |
Cyfanswm Parciau Cenedlaethol | 140 | 53 | 58 | 47 |
Cyfanswm y tu allan i'r Parciau Cenedlaethol | 3,463 | 2,623 | 3,311 | 3,088 |
Cymru | 3,603 | 2,676 | 3,369 | 3,135 |
Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru
Darpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol yn ôl lleoliad a blwyddyn (StatsCymru)
[Nodyn 1] Mae'r ffigurau a goladwyd o'r ffurflenni a ddychwelwyd gan awdurdodau lleol yn cynnwys darpariaeth a gynlluniwyd a darpariaeth arfaethedig ar gyfer pob deiliadaeth gan gynnwys darpariaeth gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, awdurdodau lleol a'r sector preifat. Amcangyfrifon yw'r ffigurau ar gyfer y blynyddoedd hyn ac mae'n bosibl y byddant yn newid pan gânt eu cyflwyno fel ‘Darparwyd’ mewn ‘blynyddoedd yn y dyfodol’.
Mae Tabl 1 yn dangos, ar lefel awdurdodau lleol unigol, fod 11 o'r 22 o awdurdodau lleol wedi nodi cynnydd yn y ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol yn ystod 2022-23 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gyda chynnydd amlwg yng Nghaerdydd (o 324 i 705), Casnewydd (o 86 i 359) a Chaerffili (o 67 i 188). Gwelwyd y gostyngiadau mwyaf yn Sir Ddinbych (o 256 i 143), Ceredigion (o 70 i 22) a Blaenau Gwent (o 43 i 4).
Mae pob awdurdod lleol yn pennu targed ar gyfer tai fforddiadwy a bydd y targed hwn yn dylanwadu ar y ddarpariaeth (Tabl 1).
Mae’r ffigurau tai fforddiadwy ychwanegol a ddangosir yn y datganiad hwn yn cynnwys yr unedau tai hynny a gynigiwyd ar brydles er mwyn darparu llety i deuluoedd digartref lle mae'r brydles am gyfnod o fwy na blwyddyn. Yn 2022-23 roedd 225 o unedau tai o'r fath, i fyny o'r 43 o unedau yn 2021-22 a'r cyfanswm uchaf ers 2013-14.
Cyfradd yr holl dai fforddiadwy ychwanegol
Er mwyn ystyried nifer yr aelwydydd ym mhob ardal, ar gyfer 2022-23, cyfrifwyd cyfradd y ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol fesul 10,000 o aelwydydd gan ddefnyddio'r amcangyfrifon o aelwydydd (StatsCymru) ar gyfer canol 2020 ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a luniwyd gan Lywodraeth Cymru.
Ffigur 2: Cyfradd yr holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd fesul 10,000 o aelwydydd, yn ôl ardal awdurdod lleol, 2022-23
Graff bar yn dangos cyfradd yr unedau tai ychwanegol a ddarparwyd fesul 10,000 o aelwydydd yng Nghymru, yn ôl ardal awdurdod lleol. Mae gan 9 o'r 22 awdurdod lleol gyfraddau uwch na chyfartaledd Cymru.
Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru, ac Amcangyfrifon o Aelwydydd canol-2020 Llywodraeth Cymru
Mae ffigur 2 yn dangos mai cyfradd y ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru gyfan yn 2022-23 oedd 24.4 o unedau fesul 10,000 o aelwydydd.
Yr awdurdod lleol a ddarparodd y nifer uchaf o unedau tai fforddiadwy yn 2022-23 oedd Caerdydd (705 o unedau neu 21% o gyfanswm Cymru). Fodd bynnag, wrth ystyried nifer yr aelwydydd ym mhob ardal, Casnewydd oedd yr awdurdod â'r gyfradd ddarparu uchaf, sef 54.0 o unedau fesul 10,000 o aelwydydd.
Roedd y gyfradd ddarparu isaf i'w gweld ym Blaenau Gwent, sef 1.3 uned fesul 10,000 o aelwydydd gyda 4 uned yn cael eu darparu yn 2022-23.
Tai fforddiadwy ychwanegol yn ôl ffynhonnell gyllido
Bydd argaeledd cyllid grant Llywodraeth Cymru ar gyfer tai fforddiadwy fel y Grant Tai Cymdeithasol, y Grant Tai Cymdeithasol wedi'i ailgylchu, y Grant Cyllid Tai a y Cronfa Tai â Gofal yn effeithio ar allu pob darparwr, ond yn enwedig Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, i ddarparu tai fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru.
Tai fforddiadwy ychwanegol | 2019-20 | 2020-21 | 2021-22 | 2022-23 |
---|---|---|---|---|
Gyda chyllid grant cyfalaf | 1,811 | 2,530 | 1,813 | 2,440 |
Heb gyllid grant cyfalaf | 1,131 | 1,073 | 863 | 929 |
Cyfanswm | 2,942 | 3,603 | 2,676 | 3,369 |
Tai fforddiadwy ychwanegol | 2019-20 | 2020-21 | 2021-22 | 2022-23 |
---|---|---|---|---|
Gyda chyllid grant cyfalaf | 61.6 | 70.2 | 67.8 | 72.4 |
Heb gyllid grant cyfalaf | 38.4 | 29.8 | 32.2 | 27.6 |
Cyfanswm | 100.0 | 100.0 | 100.0 | 100.0 |
Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru
Darpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol yn ôl lleoliad, blwyddyn a chyllid (StatsCymru)
Darparwyd 72% o'r unedau tai fforddiadwy drwy gyllid grant cyfalaf yn 2022-23, a oedd yn uwch na'r gyfran ar gyfer 2021-22 (68%). Gostyngodd cyfran yr unedau tai fforddiadwy a ddarparwyd heb gyllid grant cyfalaf o 32% (863 o unedau) yn 2021-22 i 28% (929 o unedau) yn 2022-23.
Yn ystod 2022-23, darparwyd 79% o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru gan ddefnydddio rhyw fath o gyllid grant cyfalaf, i fyny o 67% yn ystod y flwyddyn flaenorol. Ledled Cymru, cyrhaeddodd y ddarpariaeth gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig â chyllid grant cyfalaf dros 80% mewn 12 o awdurdodau lleol.
Tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru sy'n gwneud y cyfraniad mwyaf o hyd, gan ddarparu 70% o'r holl dai fforddiadwy ychwanegol yng Nghymru yn ystod 2022-23. Fel prif ddarparwr tai fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru, mae'n ofynnol i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ddarparu gwybodaeth fanylach i Llywodraeth Cymru am y math o ddeiliadaeth sy'n gysylltiedig â'r unedau tai a ddarperir a'r nifer a ddarperir gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig o fewn ardaloedd y Parciau Cenedlaethol.
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru a ddarparodd yr holl dai fforddiadwy ychwanegol yn 7 o'r 22 o awdurdodau lleol ledled Cymru a mwy na hanner yr holl dai fforddiadwy ychwanegol yn 13 o'r 15 o awdurdodau lleol eraill. Yr eithriadau oedd Sir Gaerfyrddin a Phowys lle roedd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gyfrifol am 44% a 28% (yn y drefn honno) o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy yn 2022-23.
Awdurdod Lleol | 2018-19 | 2019-20 | 2020-21 | 2021-22 | 2022-23 |
---|---|---|---|---|---|
Ynys Môn | 111 | 20 | 48 | 22 | 62 |
Gwynedd | 112 | 97 | 82 | 37 | 75 |
Conwy | 40 | 79 | 107 | 116 | 89 |
Sir Ddinbych | 19 | 86 | 100 | 200 | 95 |
Sir y Fflint | 121 | 37 | 144 | 66 | 50 |
Wrecsam | 156 | 10 | 64 | 39 | 81 |
Powys | 51 | 70 | 103 | 104 | 41 |
Ceredigion | 34 | 23 | 83 | 70 | 15 |
Sir Benfro | 117 | 146 | 114 | 64 | 70 |
Sir Gaerfyrddin | 28 | 120 | 67 | 141 | 107 |
Abertawe | 251 | 237 | 253 | 137 | 204 |
Castell-nedd Port Talbot | 153 | 171 | 107 | 98 | 78 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 148 | 84 | 166 | 63 | 85 |
Bro Morgannwg | 105 | 294 | 204 | 176 | 148 |
Caerdydd | 255 | 225 | 288 | 225 | 404 |
Rhondda Cynon Taf | 87 | 128 | 235 | 150 | 160 |
Merthyr Tudful | 21 | 21 | 49 | 7 | 25 |
Caerffili | 75 | 117 | 174 | 61 | 170 |
Blaenau Gwent | 31 | 12 | 90 | 43 | 3 |
Tor-faen | 121 | 141 | 163 | 134 | 120 |
Sir Fynwy | 125 | 113 | 146 | 91 | 66 |
Casnewydd | 177 | 239 | 231 | 86 | 218 |
Cymru | 2,338 | 2,470 | 3,018 | 2,130 | 2,366 |
O'u plith, y cyfanswm a ddarparwyd o fewn y Parciau Cenedlaethol: | |||||
PC Eryri | 0 | 0 | 15 | 0 | 9 |
PC Arfordir Penfro | 15 | 26 | 33 | 16 | 22 |
PC Bannau Brycheiniog | 3 | 0 | 68 | 3 | 7 |
Cyfanswm y Parciau Cenedlaethol | 18 | 26 | 116 | 19 | 38 |
Cyfanswm y tu allan i'r Parciau Cenedlaethol | 2,320 | 2,444 | 2,902 | 2,111 | 2,328 |
Cymru | 2,338 | 2,470 | 3,018 | 2,130 | 2,366 |
Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru
Cyfradd ddarparu gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
Gan ystyried nifer yr aelwydydd ym mhob ardal, yn ystod 2022-23, darparodd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig 17.2 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol fesul 10,000 o aelwydydd ledled Cymru.
Ffigur 3: Cyfradd yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig fesul 10,000 o aelwydydd, yn ôl ardal awdurdod lleol, 2022-23
Graff bar yn dangos cyfradd yr unedau tai ychwanegol a ddarparwyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru fesul 10,000 o aelwydydd, yn ôl ardal awdurdod lleol. Roedd gan 8 o'r awdurdodau lleol gyfradd uwch na chyfartaledd Cymru, gyda'r rhan fwyaf o'r rhain yn rhai trefol.
Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru, ac amcangyfrifon o aelwydydd canol-2020 Llywodraeth Cymru
Mae ffigur 3 yn dangos mai Casnewydd oedd â'r gyfradd uchaf o ran y ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ystod 2022-23, sef 32.8 o unedau fesul 10,000 o aelwydydd.
Blaenau Gwent oedd â'r gyfradd ddarparu isaf, sef 1.0 o unedau fesul 10,000 o aelwydydd.
Darpariaeth Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ôl deiliadaeth
Deiliadaeth | 2019-20 | 2020-21 | 2021-22 | 2022-23 |
---|---|---|---|---|
Rhent cymdeithasol | 1,870 | 2,443 | 1,712 | 1,940 |
Rhent canolradd | 392 | 380 | 204 | 201 |
Ecwiti a rennir | 133 | 108 | 77 | 114 |
Rhanberchnogaeth – Cymru | 75 | 87 | 137 | 111 |
Cyfanswm | 2,470 | 3,018 | 2,130 | 2,366 |
Deiliadaeth | 2019-20 | 2020-21 | 2021-22 | 2022-23 |
---|---|---|---|---|
Rhent cymdeithasol | 75.7 | 80.9 | 80.4 | 82.0 |
Rhent canolradd | 15.9 | 12.6 | 9.6 | 8.5 |
Ecwiti a rennir | 5.4 | 3.6 | 3.6 | 4.8 |
Rhanberchnogaeth – Cymru | 3.0 | 2.9 | 6.4 | 4.7 |
Cyfanswm | 100.0 | 100.0 | 100.0 | 100.0 |
Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Gwybodaeth o ffurflenni a ddychwelwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yn nodi'r holl dai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yn ardal yr awdurdodau lleol y maent yn gweithredu ynddynt.
Mae Tabl 4a yn dangos bod 82% o'r 2,366 o unedau tai fforddiadwy a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yn ystod 2022-23 yn dai rhent cymdeithasol (1,940 o unedau). Mae hyn yn debyg i gyfran yr unedau rhent cymdeithasol a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn 2021-22. Roedd yr unedau tai rhent cymdeithasol a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ystod 2022-23 yn cyfateb i 58% o'r holl dai ychwanegol a ddarparwyd gan bob darparwr.
Opsiwn tai fforddiadwy arall yw eiddo rhent canolradd, lle mae'r rhenti yn uwch na lefel rhenti cymdeithasol, ond yn is na rhenti tai'r farchnad.
Yn ystod 2022-23, darparwyd cyfanswm o 201 o eiddo rhenti canolradd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, gostyngiad bach i'r 204 o unedau a ddarparwyd yn 2021-22. Eiddo rhenti canolradd oedd 8% o'r holl ddarpariaeth gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig hefyd yn darparu unedau ecwiti a rennir i'r rhai hynny nad ydynt yn gymwys i gael tai cymdeithasol, ond na allant fforddio prynu neu rentu eiddo ar y farchnad agored (gweler y Rhestr termau). Yn ystod 2022-23, darparwyd 114 o unedau ecwiti a rennir, sy'n gynnydd o 48% o 2021-22 ond yn debyg i'r ffigurau a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Dim ond 5% o'r holl ddarpariaeth gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig oedd yn unedau ecwiti a rennir.
Rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, roedd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ledled Cymru wedi darparu 111 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol drwy'r cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru (gweler y Rhestr termau), sef gostyngodd o 19% o gymharu â 2021-22.
Roedd 2% (38 o unedau) o'r 2,366 o unedau a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ystod 2022-23 o fewn ardaloedd y Parciau Cenedlaethol, yr oedd pob un ohonynt yn cael eu rhentu'n gymdeithasol.
Eiddo ‘anghenion cyffredinol’ oedd y rhan fwyaf o'r tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ystod 2022-23. Roedd yr eiddo hyn yn cynnwys unedau hunangynhwysol na chânt eu cadw ar gyfer grwpiau cleientiaid penodol ond hefyd eiddo a gaiff eu haddasu i'w defnyddio gan bobl ag anableddau ond lle na chaiff unrhyw wasanaethau neu gymorth ychwanegol eu darparu fel rhan o delerau'r ddeiliadaeth. Yn ystod 2022-23, roedd 88% (2,088 o unedau) o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn eiddo o'r math hwn. Unedau tai a ddarparwyd i'w defnyddio gan grwpiau cleientiaid penodol neu at ddibenion penodol oedd yr 12% (278 o unedau) arall.
Ceir rhagor o wybodaeth am unedau tai rhent cymdeithasol, rhent canolradd, ecwiti a rennir ac unedau tai o dan gynllun Rhanberchnogaeth – Cymru yn yr adran Rhestr termau.
Tai fforddiadwy ychwanegol drwy rwymedigaethau cynllunio
Caiff nifer y cartrefi fforddiadwy i'w darparu mewn ardal benodol ei bennu gan bolisi cynllunio'r awdurdod cynllunio lleol a thrafodaethau â datblygwyr am yr hyn sy'n ymarferol o ystyried yr amgylchiadau economaidd a ffactorau eraill. Caiff y cyfraniad tai fforddiadwy y cytunir arno ei sicrhau drwy'r hyn a elwir yn rhwymedigaeth gynllunio (neu gytundeb adran 106), sef contract cyfreithiol gyfrwymol rhwng datblygwr ac awdurdod cynllunio lleol sy'n gweithredu ochr yn ochr â chaniatâd cynllunio i sicrhau bod datblygiad yn dderbyniol i'r ddwy ochr. Gellir defnyddio'r trefniadau hyn i wrthbwyso canlyniadau negyddol datblygiad, helpu i ddiwallu anghenion lleol neu sicrhau buddiannau a fyddai'n gwneud datblygiad yn fwy cynaliadwy.
Mae Tabl 5a a 5b isod yn dangos nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer bob blwyddyn drwy rwymedigaethau cynllunio (trefniadau adran 106) neu amodau cynllunio, naill ai fel rhan o ddatblygiadau'r farchnad dai neu o ganlyniad i ddatblygiadau o'r fath. Mae'r caniatadau cynllunio a roddwyd yn cyfeirio at ganiatadau cynllunio manwl (h.y. nid amlinellol) terfynol a roddwyd yn ystod y flwyddyn, a fydd yn golygu bod cytundeb adran 106 (lle y bo'n berthnasol) eisoes wedi'i lofnodi.
Mae'r tabl hefyd yn dangos gwybodaeth am nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd bob blwyddyn, ni waeth pryd y rhoddwyd y caniatâd cynllunio. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth gan awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ymddiriedolaethau tir comin a'r sector preifat.
Dylid nodi y gall yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd neu y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer drwy rwymedigaethau cynllunio fod ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy neu ar safleoedd eraill.
Rhwymedigaethau cynllunio | 2019-20 | 2020-21 | 2021-22 | 2022-23 |
---|---|---|---|---|
Awdurdodau Lleol | 1,094 | 982 | 1,116 | 1,014 |
Parciau Cenedlaethol | 125 | 105 | 14 | 26 |
Cymru Gyfan | 1,219 | 1,087 | 1,130 | 1,040 |
Rhwymedigaethau cynllunio | 2019-20 | 2020-21 | 2021-22 | 2022-23 |
---|---|---|---|---|
Awdurdodau Lleol | 699 | 881 | 644 | 941 |
Parciau Cenedlaethol | 28 | 39 | 70 | 83 |
Cymru Gyfan | 727 | 920 | 714 | 1024 |
Canran (%) yr holl dai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio: | 24.7 | 25.5 | 26.7 | 30.4 |
Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Ni ellir cyfuno’r unedau tai a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio a’r unedau tai a ddarparwyd ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy, oherwydd gall uned tai gael ei darparu drwy rwymedigaethau cynllunio a bod yn rhan o safle eithriadau tai ar yr un pryd.
Yn ystod 2022-23, gostyngodd nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer 8% i 1,040. Cynyddodd nifer yr unedau tai fforddiadwy y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer mewn Parciau Cenedlaethol 86% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol i 26 ond mewn awdurdodau lleol (y tu allan i ardaloedd Parciau Cenedlaethol), gostyngodd 9% i 1,014 o unedau.
Yn ystod 2022-23, cynyddodd nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio (cytundebau Adran 106) 43% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol i 1,024 o unedau.
Cynyddodd nifer y tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio 46% (o 644 i 941) ar gyfer awdurdodau lleol. Roedd 22% ohonynt yng Nghaerdydd, 13% yng Nghasnewydd a 10% ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ar gyfer Parciau Cenedlaethol, cynyddodd nifer y tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio 19% (o 70 i 83 o unedau) yn ystod 2022-23 (Tabl 5b).
Yn ystod 2022-23, roedd 30% o’r holl dai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd wedi’u darparu drwy rwymedigaethau cynllunio o gymharu â 27% yn ystod y flwyddyn flaenorol a 26% yn ystod 2020-21.
Mae nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio yn gyson is na’r nifer y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer. Gall hyn fod oherwydd y cyfnod o amser rhwng rhoi’r caniatâd cynllunio a darparu’r uned tai ar ei ffurf derfynol.
Tai fforddiadwy ychwanegol ar safleoedd eithriadau tai
Safleoedd tai ar raddfa fach o fewn aneddiadau presennol neu wrth ymyl aneddiadau presennol a ddefnyddir i ddarparu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol yw safleoedd eithriadau tai fforddiadwy, na fyddent yn cael eu neilltuo fel arall yn y cynllun datblygu. Cyn mis Gorffennaf 2010, cyfeiriwyd atynt fel ‘safleoedd eithriadau gwledig’.
Gwnaeth nifer yr unedau tai fforddiadwy a roddwyd caniatâd cynllunio i'w hadeiladu ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy ostwng 58% i 102 o unedau yn 2022-23, a phob un ohonynt o fewn awdurdodau lleol (Tabl 6a).
Safleoedd eithriadau tai fforddiadwy | 2019-20 | 2020-21 | 2021-22 | 2022-23 |
---|---|---|---|---|
Awdurdodau Lleol | 64 | 28 | 230 | 102 |
Parciau Cenedlaethol | 0 | 0 | 14 | 0 |
Cymru Gyfan | 64 | 28 | 244 | 102 |
Safleoedd eithriadau tai fforddiadwy | 2019-20 | 2020-21 | 2021-22 | 2022-23 |
---|---|---|---|---|
Awdurdodau Lleol | 91 | 39 | 108 | 85 |
Parciau Cenedlaethol | 0 | 21 | 0 | 27 |
Cymru Gyfan | 91 | 60 | 108 | 112 |
Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Ni ellir cyfuno'r unedau tai a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio a'r unedau tai a ddarparwyd ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy, oherwydd gall uned tai gael ei darparu drwy rwymedigaethau cynllunio a bod yn rhan o safle eithriadau tai ar yr un pryd.
Mae Tabl 6b yn dangos bod nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy yn 2022-23 wedi cynyddu 4% i 1012 o unedau o gymharu â 108 yn ystod y flwyddyn flaenorol. Roedd y rhan fwyaf o'r rhain yn Ynys Môn (27 o unedau), Powys (23 o unedau) a Pharc Cenedlaethol Sir Benfro (17 o unedau). Ni ddarparwyd unrhyw unedau ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy ar gyfer 15 o awdurdodau lleol nac ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Lle bydd awdurdod cynllunio lleol wedi nodi diffyg tai fforddiadwy, rhaid iddo ystyried cynnwys polisi 'safleoedd eithriadau tai fforddiadwy' yn ei gynllun datblygu, yn nodi'r amgylchiadau lle y gellir rhyddhau safleoedd a fydd yn cynnig 100% o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol fel eithriad i'r polisïau ar gyfer darparu tai cyffredinol.
Tai fforddiadwy ychwanegol ar dir y sector cyhoeddus
Mae Tabl 7 isod yn dangos i ba raddau y mae'r sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn rhyddhau ei dir ei hun at ddibenion darparu tai fforddiadwy ychwanegol.
Yn ystod 2022-23, cynyddodd nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd ar yr holl dir sector cyhoeddus 88% i 1,362 o unedau, sef 40% o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy.
Sector Cyhoeddus | Gyda chyllid grant cyfalaf | Heb gyllid grant cyfalaf | Cyfanswm |
---|---|---|---|
Tir awdurdod lleol | 666 | 157 | 823 |
Tir sector cyhoeddus arall | 340 | 199 | 539 |
Yr holl dir sector cyhoeddus | 1,006 | 356 | 1,362 |
Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Gwybodaeth o ffurflenni a ddychwelwyd gan awdurdodau lleol yn nodi'r holl dai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yn eu priod ardaloedd.
[Nodyn 2] Mae cyrff eraill yn y sector cyhoeddus yn cynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru, adrannau eraill llywodraeth ganolog, awdurdodau iechyd a'r heddlu, gwasanaethau/awdurdodau tân ac achub. Ceir rhagor o fanylion yn y Rhestr termau tuag at ddiwedd y datganiad.
Mae Tabl 7 yn dangos bod y rhan fwyaf o'r unedau a ddarparwyd ar yr holl dir sector cyhoeddus yn cael eu darparu â chyllid grant cyfalaf o hyd. Gostyngodd canran yr unedau a ddarparwyd â chyllid grant cyfalaf o 82% yn 2021-22 i 74% yn 2022-23.
Cynyddodd nifer yr unedau a ddarparwyd â chyllid grant cyfalaf ar dir awdurdod lleol o gymharu â'r flwyddyn flaenorol o 414 o unedau i 666 ac ar dir sector cyhoeddus arall, cynyddodd nifer yr unedau o 181 o unedau i 340 (Tabl 7).
O'r 666 o unedau a ddarparwyd ar dir awdurdodau lleol yng Nghymru, cafodd 44% (361 o unedau) eu dosbarthu yng Nghasnewydd, ac yna 15% (124 o unedau) yng Nghaerdydd ac 11% (88 o unedau) yn Sir Gaerfyrddin. Nododd 11 o awdurdodau lleol nad oedd unrhyw unedau wedi'u darparu ar dir awdurdod lleol.
Nododd 10 o'r 22 o awdurdodau lleol fod unedau tai fforddiadwy ychwanegol yn cael eu darparu ar dir a ryddhawyd gan gyrff eraill y sector cyhoeddus yn ystod 2022-23, gyda'r cyfrannau uchaf yng Nghaerffili (31%), Torfaen (20%) a Sir Gaerfyrddin (19%).
Ceir rhagor o fanylion am gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yn y Rhestr termau.
Cydlyniant gyda chyhoeddiadau ystadegol eraill
Mae'r data a gaiff eu casglu a'u cyhoeddi bob blwyddyn ar dai fforddiadwy yn seiliedig ar wybodaeth a gaiff ei chasglu drwy ffurflenni ystadegol blynyddol a gwblheir gan awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. Maent yn cynnwys darpariaeth drwy adeiladu tai newydd yn ogystal â phrynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau sy'n bodoli eisoes. Felly, caiff is-set o ddata tai fforddiadwy ei chynnwys yn ystadegau adeiladu tai newydd Llywodraeth Cymru, a gaiff eu cyhoeddi ar wahân.
Fodd bynnag, mae'r ystadegau adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC). Gall fod yn anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu sy'n cofnodi'r data nodi deiliadaeth derfynol fwriadedig yr eiddo, a gall hyn arwain at dangyfrif y tai newydd a gaiff eu hadeiladu ar gyfer y sector cymdeithasol a gorgyfrif y tai newydd a gaiff eu hadeiladu ar gyfer y sector preifat. Fel y cyfryw, gall fod rhywfaint o anghysondeb rhwng yr ystadegau adeiladu tai newydd a'r ystadegau tai fforddiadwy.
Gellir cael rhagor o wybodaeth yn yr adroddiadau ansawdd perthnasol ar gyfer yr ystadegau tai fforddiadwy a'r ystadegau adeiladu tai newydd.
Ar 6 Tachwedd 2019, cyhoeddodd SYG ddau adroddiad ar ystadegau tai fforddiadwy fel rhan o raglen waith DU gyfan i wella ystadegau tai a chynllunio:
- Cymharu tai fforddiadwy yn y DU (SYG), erthygl yn cymharu ystadegau tai fforddiadwy ledled y DU.
- Ystadegau Tai Fforddiadwy yn y DU (SYG), adolygiad o ddiffiniadau, terminoleg a dichonoldeb cysoni diffiniadau ystadegol mewn perthynas â thai fforddiadwy.
Rhestr termau
Safleoedd eithriadau tai fforddiadwy
Safleoedd tai ar raddfa fach o fewn aneddiadau presennol neu wrth ymyl aneddiadau presennol a ddefnyddir i ddarparu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol yw safleoedd eithriadau tai fforddiadwy, na fyddent yn cael eu neilltuo fel arall yn y cynllun datblygu. Cyn mis Gorffennaf 2010, cyfeiriwyd atynt fel ‘safleoedd eithriadau gwledig’.
Tai fforddiadwy ychwanegol
Tai fforddiadwy a ddarparwyd drwy eu hadeiladu o'r newydd neu drwy brynu, prydlesu neu addasu unedau a oedd yn bodoli eisoes ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny. Felly, nid yw hyn yn cynnwys unedau fforddiadwy sy'n bodoli eisoes a gafodd eu hailwampio neu eu hadnewyddu, gan nad ystyrir eu bod yn ychwanegol. Lle cafwyd colled net o ran yr unedau fforddiadwy yn ystod y flwyddyn, fe'i cofnodwyd fel sero. Er enghraifft, os cafodd dau fflat hunangynhwysol o fewn un eiddo eu haddasu i greu un cartref teuluol, sero yw nifer yr unedau ychwanegol oherwydd bu lleihad yn nifer yr unedau fforddiadwy.
Cyllid Grantiau Cyfalaf
Mae Cyllid Grantiau Cyfalaf yn cynnwys y Grant Tai Cymdeithasol, unrhyw Grant Tai Cymdeithasol wedi'i ailgylchu, y Grant Cyllid Tai a'r Cronfa Tai â Gofal ond nid yw'n cynnwys yr unedau tai hynny a gaiff eu cyllido o ffynonellau eraill.
Eiddo a gaiff ei addasu
Pan gaiff un uned ei newid i greu unedau lluosog neu pan gaiff unedau lluosog eu newid i greu un uned. Er enghraifft, pan gaiff un tŷ teuluol ei addasu i greu llety a rennir ar gyfer tri meddiannydd, bydd dwy uned ychwanegol.
Darparwyd
Mae'r uned wedi'i chwblhau ac ar gael i'w meddiannu.
Gofal ychwanegol (tai gwarchod)
Yn cynnig mwy o gymorth i breswylwyr na thai ymddeol eraill ond yn eu galluogi i fod yn fwy annibynnol na phe baent yn symud i mewn i gartref gofal. Mae'r preswylwyr yn byw mewn fflatiau hunangynhwysol o hyd ond mae'n bosibl y caiff eu prydau eu darparu, naill ai yn y fflat neu mewn ystafell fwyta a rennir ac yn aml, bydd staff gofal ar gael i ddarparu gofal personol.
Anghenion cyffredinol
Unedau hunangynhwysol na chânt eu cadw ar gyfer grwpiau cleientiaid penodol. Roedd eiddo wedi'i addasu i'w ddefnyddio gan bobl ag anableddau wedi'i gynnwys yn y categori hwn pe na fyddai unrhyw wasanaethau neu gymorth ychwanegol yn cael eu darparu fel rhan o delerau'r ddeiliadaeth.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio
Yn cyfeirio at ganiatadau cynllunio manwl (h.y. nid amlinellol) terfynol a roddwyd yn ystod y flwyddyn. Bydd Rhoddwyd Caniatâd Cynllunio yn golygu bod cytundeb adran 106 eisoes wedi'i lofnodi.
Grant Tai Cymdeithasol
Grant Tai Cymdeithasol yw'r rhaglen ariannu cyfalaf sylfaenol i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel sy'n cyfrannu tuag at yr 20,000 o dai carbon isel ychwanegol ar gyfer targed rhent cymdeithasol.
Uned tai
Annedd hunangynhwysol sy'n cynnig o leiaf un ystafell sy'n addas i fyw ynddi, a chegin, ystafell ymolchi/cawod, sinc a thoiled at ddefnydd yr annedd honno'n unig.
DS: Mewn tŷ a rennir, bydd uned yn ymwneud â nifer y mannau gwely neu ystafelloedd gwely a ddarperir at ddefnydd y meddiannydd yn unig neu at ddefnydd y teulu yn unig yn achos hosteli neu lochesi. Er enghraifft, gall un tŷ ddarparu llety â chymorth i dri meddiannydd – bydd gan bob meddiannydd ystafell wely at ddefnydd y meddiannydd hwnnw'n unig a bydd yn rhannu lolfa, cegin a chyfleusterau ymolchi. Roedd hyn yn cael ei gyfrif fel tair uned. Nid oedd ystafelloedd gwely at ddefnydd y staff yn unig yn cael eu cyfrif.
Cronfa Tai â Gofal
Mae'r Gronfa Tai â Gofal (cyfalaf) yn cael ei dyrannu i Fyrddau Partneriaethau Rhanbarthol i gefnogi ystod o ymyriadau, gan gynnwys tai fforddiadwy gyda gofal ar rent cymdeithasol a ddarperir gan awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, tai gofal ychwanegol i bobl hŷn a byw â chymorth i oedolion ag anabledd dysgu.
Tai rhent canolradd
Lle mae'r prisiau neu'r rhenti yn uwch na thai rhent cymdeithasol ond yn is na phrisiau neu rhenti tai'r farchnad. Gall hyn gynnwys cynlluniau rhannu ecwiti (er enghraifft, Cymorth Prynu). Mae tai canolradd yn wahanol i dai'r farchnad cost isel, nad yw Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn dai fforddiadwy at ddiben y system cynllunio defnydd tir.
Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (APCau)
Mae ffiniau APC Bannau Brycheiniog ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thor-faen.
Dim ond yn Sir Benfro y mae ffiniau APC Arfordir Penfro.
Mae ffiniau APC Eryri yng Nghonwy a Gwynedd.
Cyrff eraill yn y sector cyhoeddus
Caiff unedau tai fforddiadwy ychwanegol eu darparu ar dir a ryddheir gan yr awdurdod lleol ac ar dir a oedd yn eiddo i'r cyrff sector cyhoeddus canlynol yn flaenorol:
- Llywodraeth Cymru gan gynnwys Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru
- Adrannau eraill Llywodraeth Ganolog (gan gynnwys, er enghraifft, safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn neu'r Llysoedd gynt)
- Ystadau Iechyd Cymru (gan gynnwys safleoedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a oedd yn eiddo i Awdurdodau Iechyd, Ymddiriedolaethau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Ambiwlans ac ati yn flaenorol)
- Heddluoedd/awdurdodau
- Gwasanaethau/awdurdodau tân ac achub
Cynlluniwyd
Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw unedau tai fforddiadwy ychwanegol sydd wrthi'n cael eu datblygu ac y disgwylir iddynt gael eu darparu yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24.
Rhwymedigaethau cynllunio (cytundebau Adran 106)
Fel rhan o ddatblygiadau tai'r farchnad, gofynnir yn aml i ddatblygwyr gyfrannu at ddiwallu'r anghenion lleol a nodwyd ar gyfer tai fforddiadwy. Caiff nifer y cartrefi fforddiadwy i'w darparu ar safle penodol ei bennu gan bolisi cynllunio'r awdurdod cynllunio lleol (sydd fel arfer yn seiliedig ar ganran ar gyfer safleoedd sy'n fwy na maint penodol) a negodiadau â'r datblygwr am yr hyn sy'n ymarferol o ystyried yr amgylchiadau economaidd a ffactorau eraill sy'n gysylltiedig â'r safle penodol hwnnw. Caiff y cyfraniad tai fforddiadwy y cytunir arno ei sicrhau drwy'r hyn a elwir yn rhwymedigaeth gynllunio (neu gytundeb adran 106), sef contract cyfreithiol gyfrwymol rhwng datblygwr ac awdurdod cynllunio lleol sy'n gweithredu ochr yn ochr â chaniatâd cynllunio. Y tir ei hun, yn hytrach na'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n datblygu'r tir, sy'n gaeth i Gytundeb Adran 106 – felly mae'n rhywbeth y bydd angen i unrhyw berchnogion yn y dyfodol ei ystyried.
Gellir defnyddio'r trefniadau hyn i oresgyn rhwystrau a fyddai fel arall o bosibl yn atal caniatâd cynllunio rhag cael ei roi, i wrthbwyso canlyniadau negyddol datblygiad, helpu i ddiwallu anghenion lleol neu sicrhau buddiannau a fyddai'n gwneud datblygiad yn fwy cynaliadwy.
Rhentu i Brynu – Cymru
Cyflwynwyd y cynllun hwn ym mis Chwefror 2018 er mwyn rhoi'r cyfle i aelwydydd a all fforddio'r taliadau morgais misol ond nad oes ganddynt y blaendal sydd ei angen fel arfer i brynu cartref, ddod yn berchen ar gartref. O dan Rhentu i Brynu – Cymru, bydd darpar brynwyr yn talu rhenti'r farchnad am gartrefi a adeiladwyd o'r newydd gan gymdeithasau tai sy'n cymryd rhan yn y cynllun, a byddant yn cael cynnig prynu'r cartrefi hyn o ddiwedd ail flwyddyn eu cyfnod rhentu.
Ar ôl arfer yr opsiwn i brynu, rhoddir swm o arian i'r darpar brynwr a fydd yn cyfateb i 25% o'r rhent y mae wedi'i dalu a 50% o unrhyw gynnydd yng ngwerth y cartref, i'w ddefnyddio fel blaendal ar gyfer morgais. Bydd hyn yn ei helpu i brynu'r cartref y mae'n ei rentu.
Nid yw'r tai a ddarperir drwy'r cynllun Rhentu i Brynu – Cymru yn cydymffurfio'n llawn â diffiniad TAN 2 o dai fforddiadwy ac nid yw nifer yr unedau a ddarperir o dan y cynllun wedi'i gynnwys yn y cyfanswm cyffredinol ar gyfer tai fforddiadwy ychwanegol a nodir yn y datganiad hwn.
Cytundebau Adran 106
Gweler ‘Rhwymedigaethau cynllunio’.
Ecwiti a rennir
Mae hyn yn cynnwys unedau:
- lle mae'r landlord cymdeithasol cofrestredig yn darparu benthyciad ecwiti er mwyn helpu i brynu eiddo (e.e. drwy'r cynllun Cymorth Prynu)
- lle mae unrhyw drefniant perchentyaeth cost isel arall
- sy'n cael eu cynnig o dan egwyddorion ‘deiliadaeth niwtral’ (lle gall ymgeiswyr ddewis rhentu neu brynu gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol) os yw'r ddeiliadaeth gyntaf yn unol â thelerau rhannu ecwiti
Cyn cyflwyno'r cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru newydd ym mis Chwefror 2018, mae'n bosibl y byddai unedau â rhanberchnogaeth rhwng y meddiannydd a'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (e.e. perchnogaeth rannol / rhent rhannol) wedi cael eu cynnwys o dan ‘Ecwiti a Rennir'.
Rhanberchnogaeth – Cymru
Mae Rhanberchnogaeth – Cymru yn gynllun prynu rhannol, rhentu rhannol a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2018. Mae wedi'i anelu at ddarpar brynwyr sydd â pheth blaendal ond na allant gael y lefel o forgais i brynu'r tŷ yn gyfan gwbl. Gall darpar brynwyr brynu cyfran gychwynnol o 25% i 75% o werth cartrefi wedi'u hadeiladu o'r newydd, sydd ar gael ar gyfer y cynllun hwn gan gymdeithasau tai sy'n cymryd rhan.
Gallant gynyddu cyfran eu perchentyaeth yn raddol hyd at berchnogaeth lawn ar unrhyw adeg. Bydd rhent yn daladwy ar y gyfran na fyddant yn berchen arni. Mae'r unedau tai fforddiadwy a ddarperir o dan y cynllun hwn yn cydymffurfio â diffiniad TAN 2 o dai fforddiadwy ac mae'r niferoedd a ddarparwyd wedi'u cynnwys yn y cyfanswm cyffredinol ar gyfer y ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol a nodir yn y datganiad hwn.
Tai gwarchod
Wedi'u dylunio'n benodol ar gyfer pobl hŷn a'u hadeiladu fel arfer mewn datblygiadau sy'n cynnwys rhwng 20 a 40 o fflatiau neu fyngalos hunangynhwysol. Bydd bron bob amser system larwm sydd wedi'i chysylltu â chanolfan gyfathrebu 24 awr a all anfon help mewn argyfwng ac, fel arfer, bydd rheolwr cynllun (warden) a fydd o bosibl yn byw ar y safle.
Tai rhent cymdeithasol
Caiff tai rhent cymdeithasol eu darparu gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru lle mae lefelau rhent yn is na lefelau'r farchnad ac maent wedi'u gosod o fewn fframwaith Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru.
Cynyddu neu leihau cyfrannau perchentyaeth
Mae'r gallu i gynyddu neu leihau cyfrannau perchentyaeth ('stair-casing' yn Saesneg) yn rhoi'r hawl gyfreithiol i berchennog eiddo o dan gynllun Rhanberchnogaeth – Cymru gaffael cyfranddaliadau ychwanegol (ecwiti) yn ei eiddo.
Tai â chymorth
Mae sawl gwahanol fath o lety â chymorth i ddiwallu anghenion amrywiaeth eang o bobl. Gall fod gan y preswylwyr anghenion ychwanegol oherwydd anabledd, eu hoedran neu resymau eraill. Mae'n bosibl y bydd eu llety wedi'i addasu neu wedi'i ddylunio'n arbennig i ddiwallu anghenion corfforol penodol neu y bydd yn darparu cymorth ychwanegol drwy ddefnyddio wardeniaid neu aelodau eraill o staff er mwyn helpu'r preswylwyr i fyw'n annibynnol.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob nod llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiol ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd yn y cyhoeddiad hwn ddarparu naratif cefnogol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Ceir gwybodaeth fanwl am ansawdd data a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd ar gyfer y ddarpariaeth tai fforddiadwy.