Sut mae Ysgol Gymunedol Tonyrefail yn datblygu ei dulliau gweithredu fel Ysgol Fro.
Cyd-destun yr ysgol
- Ysgol Gymunedol Tonyrefail, awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf
- 1623 o ddysgwyr ar y gofrestr (2022)
- 24.8% o ddysgwyr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (2022)
- o 3 i 19 oed
Y dulliau Ysgolion Bro a fabwysiadwyd
Mae Ysgol Gymunedol Tonyrefail yn cydnabod pwysigrwydd hanes a'r balchder a deimlir tuag at y gymuned leol gan weld y cyfle i’r ysgol gydweithio er lles y plant. Gwyddai Heather Nicholas, y Pennaeth, fod cyfathrebu yn hanfodol, gan roi llais i bawb a gwella'r ysgol a'r gymuned gyfan. Roedd sefydlu cydberthnasau’n hollbwysig er mwyn cyflawni hynny a gweithiodd yr ysgol yn galed er mwyn ymgysylltu'r holl sectorau o fewn y gymuned.
Trodd yr ysgol at y gymuned, gan ofyn sut y gallai'r ysgol ac asiantaethau cymunedol eraill gefnogi ei gilydd.
Dywedodd y Pennaeth:
Ar ôl edrych ar anghenion y gymuned fe wnaethom sylweddoli bod angen help y gymuned arnom ni. Nid oedd gennym yn ein barn ni y sgiliau na'r arbenigedd i fynd i'r afael â'r ystod eang o feysydd yr oedd y gymuned angen neu eisiau cefnogaeth mewn perthynas â nhw gan eu hysgol.
Er mwyn cefnogi'r datblygiad hwn, bu'r ysgol mewn cysylltiad â chymaint o bobl ag oedd yn bosibl yn cynnwys:
- Y Siambr Fasnach
- yr heddlu lleol
- swyddogion cymorth cymunedol
- gwerthwyr stryd fawr
- cartrefi gofal
Mae'r Pennaeth yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r grwpiau hyn, gan gynllunio allbynnau fydd yn fanteisiol i bawb sy'n gysylltiedig:
Pan fydd unrhyw fater yn codi, bydd modd i ni ei ddiffinio'n glir. Yna gallwn ei rannu efo'r bobl y credwn fydd yn medru cynorthwyo. Felly, byddwn wedyn yn cyfarfod a thrafod y ffordd orau ymlaen.
Dulliau penodol a fabwysiadwyd i gefnogi ymgysylltu â’r gymuned
Er mwyn dwyn y gymuned gyfan ynghyd, cyflwynwyd twrnamaint pêl-droed rhwng ysgolion. Roedd y timau yn cynnwys chwaraewyr o ysgolion gwahanol. Wrth gyd-chwarae llwyddwyd i ddatblygu cyfeillgarwch yn ogystal â dealltwriaeth o'i gilydd. Bu'r twrnamaint ysgol yn gyfrwng i ddatblygu cydberthnasau cadarnhaol y tu hwnt i'r ysgol hefyd.
Wrth weithio â chynrychiolwyr o'r gymuned daeth yr ysgol yn ymwybodol o rai o'r heriau ehangach a wynebir gan bobl ifanc. Er enghraifft, teimlai pobl ifanc nad oedd ganddynt le yn y gymuned a oedd ‘yn eiddo iddyn nhw’. Mewn ymateb i hynny, gweithiodd yr ysgol gyda chynghorwyr lleol i sicrhau nawdd ar gyfer parc sglefrio, gyda phobl ifanc yn cynorthwyo i gynllunio'r parc.
Ochr yn ochr â hyn, nodwyd yr angen am le penodol y gallai plant ei hawlio yn yr ysgol er mwyn gallu hunanreoli a myfyrio. Llwyddwyd i adnabod gofod dynodedig yn yr awyr agored. Codwyd 'podiau' fel bod y gofod yn gallu cael ei ddefnyddio ymhob tywydd. Cyflwynwyd cwningod hefyd i'r safle gan yr ysgol efo'r bwriad o ddarparu cysur i'r plant a gwella eu lles.
Yn ychwanegol at hynny, mae gan yr ysgol weithiwr ieuenctid arbenigol ar y safle, er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn medru siarad am unrhyw broblemau y gallent fod yn eu hwynebu, gan wybod y bydd rhywun yna i wrando arnynt, a hynny mewn man diogel.
Effeithiau cadarnhaol y dulliau Ysgolion Bro a fabwysiadwyd
Mae Ysgol Gymunedol Tonyrefail wedi gweld effeithiau gwych o'r mentrau a'r gwaith sydd wedi'i gyflawni yn cynnwys:
- llai o waharddiadau
- lefel uwch o bresenoldeb
- llai o ymddygiad gwrth-gymdeithasol o fewn y gymuned yn ehangach
- ymdeimlad uwch o gynhwysiant a gwell parch yn gyffredinol
Dywedodd y Pennaeth:
Mae hyn i gyd yn ymwneud â dysgu ar y cyd fel cymuned, a chael hyder oddi wrth ein gilydd. Siarad â phlant, â rhieni, â pherchnogion siopau, â’r clwb rygbi. Sicrhau llais unfrydol a symud ymlaen mewn undeb.
Y camau nesaf fel Ysgol Fro
Mae'r ysgol yn deall y fantais o gynnig cefnogaeth i blant y tu allan i oriau arferol yr ysgol. Mae'r ysgol ar hyn o bryd yn gweithio â staff i ddod o hyd i ffordd o fwrw ymlaen â hyn heb greu llwyth gwaith a baich ychwanegol, ac wrth barhau i ymateb i anghenion y gymuned.