Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofynion hyn yw diogelu lles lloi trwy bennu’r safonau sy’n ofynnol ar gyfer gofalu amdanyn nhw a’u cadw. Rhaid i bawb sy’n cadw lloi gadw at y rheolau hyn, yn ogystal â’r gofynion lles anifeiliaid fferm (SMR 13).

Prif ofynion

Rhaid bodloni’r safonau gofynnol canlynol wrth fagu neu besgi lloi:

  • rhaid archwilio pob llo sy’n cael ei gadw dan do o leiaf ddwywaith y dydd, a’r rheini sydd allan, o leiaf unwaith bob dydd
  • peidiwch byth â chlymu’ch llo heblaw am loi mewn grŵp y gellir eu clymu am gyfnod llai nag awr er mwyn ei fwydo â llaeth neu â llaeth ffug
  • ar gyfer llociau unigol:
    • rhaid i hyd y lloc fod o leiaf yr un hyd â chorff y llo pan fydd yn sefyll, er mwyn iddo allu sefyll, troi, gorwedd a llyfu ei hun
    • rhaid i led y lloc fod o leiaf yr un peth â thaldra’r llo at yr ysgwydd  pan fydd yn sefyll
  • peidiwch â chadw llo dros 8 wythnos oed mewn lloc ar ei ben ei hun oni bai bod milfeddyg wedi dweud bod angen ei ynysu neu fod angen triniaeth arno
  • rhaid i loc y llo fod yn lân ac wedi’i ddiheintio yn ôl y gofyn, bydd gwely (sarn) i orwedd arno a chaiff ei oleuo’n naturiol neu’n artiffisial
  • dylai llo gael: 
    • llaeth tor o fewn 6 awr ar ôl ei eni
    • digon o fwyd sy’n addas i’w oed
    • dŵr yfed glân ar gael bob amser
  • mae angen bwydo lloi â hylif o leiaf ddwywaith y dydd iddynt gael digon o faeth. Dim ond pan fydd llo’n gallu treulio bwyd caled yn iawn y gellid ystyried hwnnw’n ‘borthiant’
  • dylid dechrau rhoi brasfwyd iddynt pan fyddant yn bythefnos oed

Archwiliadau maes

Arfer da

  • dilynwch y canllawiau yn y Cod Lles ar gyfer cadw lloi dan do
  • dylai llaeth sy’n cael ei fwydo i loi ar safle dan gyfyngiadau TB gwartheg gael ei drin â gwres i ladd Mycobacterium bovis
  • peidiwch â rhoi llaeth i loi o wartheg sydd wedi adweithio i brawf TB
  • cyn belled â bod llaeth o wartheg â TB (adweithyddion ac achosion clinigol) yn cael ei fwydo yn unig i anifeiliaid ar yr un fferm a’i fod wedi’i drin â gwres (mae pasteureiddio’n lladd Mycobacterium bovis), bydd y ceidwad wedi cadw at reolau’r UE
  • os ydy’r lloi’n cael eu magu ar system lle mae llaeth yn cael ei fwydo iddynt trwy ddull artiffisial, cadwch olwg fanwl ar faint o laeth y maent yn ei yfed. Os ydynt yn yfed llai o laeth neu’n ei yfed yn arafach, mae hyn yn aml yn arwydd o afiechyd
  • dylech gadw lloi sâl neu loi sydd wedi’u hanafu mewn lle addas ar wahân gyda digon o ddeunydd gorwedd sych a chyfforddus iddynt gyda bwyd a dŵr ar gael

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2024).