Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofynion hyn yw gwarchod cynefinoedd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol a diogelu anifeiliaid a phlanhigion gwyllt.

Prif ofynion

Pob tir:

  • peidiwch â phigo, casglu, torri, dadwreiddio na difetha’n fwriadol unrhyw blanhigion gwyllt sydd ar y rhestr ‘Rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod gan Ewrop’ na’r rhestr ‘Rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod yn genedlaethol’ e.e. clychau’r gog. (Mae’r planhigion ar y rhestr Ewropeaidd yn cael eu rhestru yn Atodlen 5 Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (ar legislation.gov.uk) ac mae’r rhywogaethau ar y rhestr genedlaethol (DU)  yn cael eu rhestru yn Atodlen 8 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (ar legislation.gov.uk)
  • peidiwch â lladd, anafu nac aflonyddu ar unrhyw anifeiliaid gwyllt sydd ar y rhestr ‘Rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod gan Ewrop’ na’r rhestr ‘Rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod yn genedlaethol’ na difrodi, difetha na chau eu llochesi (Mae’r anifeiliaid ar y rhestr Ewropeaidd yn cael eu rhestru yn Atodlen 2 Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 ac mae’r rhywogaethau ar y rhestr genedlaethol yn cael eu rhestru yn Atodlen 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981)

Tir mewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu ddarpar SoDdGA ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)

  • rhaid rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ymlaen llawn trwy lythyr am unrhyw gynnig i gynnal, peri neu ganiatáu gweithred benodedig sy’n debygol o niweidio’r budd gwyddonol mewn SoDdGA/ACA
  • rhaid cael caniatâd ysgrifenedig gan CNC cyn dechrau unrhyw weithred benodedig ar SoDdGA/ACA sydd wedi’i rhestru fel gweithred allai niweidio’r diddordeb arbennig. Er enghraifft: torri neu docio tyfiant, lladd gwair, llosgi, draenio, aredig neu drin y tir (e.e. llyfnu), gwasgaru gwrtaith neu galch, chwistrellu (gan gynnwys sbot-chwynnu), cwympo coed, codi pren marw a newid patrymau stocio a bwydo stoc. Os ceir caniatâd, rhaid cynnal pob gweithred yn unol â’r amodau a nodir yn y caniatâd a roddir
  • rhaid cydymffurfio ag unrhyw Rybudd neu Gytundeb Rheoli gan CNC sy’n ymwneud â nodweddion arbennig y SoDdGA/ACA
  • rhaid cydymffurfio ag amodau unrhyw Orchymyn Adfer gan Lys sy’n ymwneud â nodweddion arbennig y SoDdGA/ACA
  • fel perchennog, rhaid ichi roi gwybod i CNC os bydd y perchennog, neu’r denantiaeth neu’r les, yn newid, hynny o fewn 4 wythnos ar ôl i’r newid ddigwydd

Byddwch yn wedi mynd yn groes i’r SMR hwn:

  • os bydd unrhyw rai o nodweddion arbennig y safle wedi’i ddifrodi neu ei ddifetha trwy fwriad neu esgeulustod, neu os terfir ar ffawna/fflora a warchodir sy’n nodwedd arbennig (mae’r gofyn hwn yn ymwneud hefyd â gweithgarwch sy’n digwydd y tu allan i’r SoDdGA/ACA ei hun ond sy’n esgor ar yr un canlyniadau)
  • os bydd perchennog/meddiannydd yn cynnal gweithred hysbysadwy (ac eithrio mewn argyfwng neu o dan amgylchiadau penodedig eraill) heb ganiatâd CNC

Archwiliadau yn y maes

  • i ofalu bod y weithred benodedig sy’n cael ei chynnal ar y SoDdGA/ACA yn cael ei chynnal yn unol â chaniatâd ysgrifenedig CNC
  • i edrych i weld nad yw llochesi na mannau magu anifeiliaid sy’n cael eu gwarchod wedi’u cau, eu difrodi neu eu difetha
  • i chwilio am arwyddion bod anifeiliaid sy’n cael eu gwarchod wedi’u tarfu, eu lladd neu eu hanafu’n anghyfreithlon
  • i edrych i weld nad oes neb wedi pigo, casglu, torri, dadwreiddio na difetha’n fwriadol unrhyw blanhigion sy’n cael eu gwarchod

Arfer da

  • cadwch at amodau unrhyw gytundeb amaethamgylcheddol
  • cydymffurfiwch â phob hysbysiad rheoli a roddir gan CNC
  • mae llawer o ACAoedd wedi’u dynodi hefyd yn SoDdGAoedd ac yn Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA). Rhaid cadw at yr holl amodau sy’n gysylltiedig â’r safleoedd hyn (SMR2)

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2024) o fewn y pecyn hwn.