Rhaid i ffermwyr ddilyn y rheolau hyn os ydyn nhw'n gwneud cais am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol 2024.
Rydym am gadw trwch y rheolau Trawsgydymffurfio fel ag yr oedden nhw yn 2023, ond rydym wedi diweddaru Taflenni Ffeithiau canlynol 2020 a'r adrannau perthnasol yn y Safonau Dilysadwy er mwyn nodi newidiadau yn y gofynion, yr arferion gorau ac i wella'r geiriad:
- SMR 1: diogelu dŵr
Taflen ffeithiau a Safonau Gwiriadwy wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r gofynion sy'n berthnasol i bob tir o 1 Ionawr a 1 Awst 2024 o dan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Mae'r newidiadau'n cynnwys gofynion i gydymffurfio â chyfnod gwaharddedig ar gyfer gwasgaru gwrtaith nitrogen (gan gynnwys slyri a thail organig arall sydd â nitrogen ar gael yn rhwydd) i sicrhau bod digon o gapasiti storio ar gyfer y tail yn ystod y cyfnod storio ac i beidio â bod yn fwy na 170kg o Nitrogen yr hectar o'r holl tail da byw ar draws yr holl ddaliad, oni bai eich bod wedi dewis y dull Rheoli Maethynnau Uwch ac wedi cyflwyno hysbysiad i CNC erbyn 31 Mawrth 2024.
Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â:- y gofynion
- sut maent yn berthnasol i'ch busnes fferm
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: canllawiau i ffermwyr a rheolwyr tir.
- SMR 2: adar gwyllt
Taflen ffeithiau a Safonau Gwiriadwy wedi'u diweddaru i gynnwys gofynion sy'n berthnasol i dir sydd wedi'i ddynodi'n:- Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
- SoDdGA arfaethedig
- Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
- SMR 3: cadwraeth ffawna a flora
Taflen ffeithiau wedi'i diweddaru i gynnwys dolenni i ddeddfwriaeth berthnasol ac egluro gofynion. Safonau Gwiriadwy wedi'u diwygio i gyfeirio at SoDdGA ac maent yn cwmpasu Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop (anifeiliaid gwyllt)
- SMR 4: cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid
Taflen ffeithiau a Safonau Gwiriadwy wedi'u diweddaru i egluro gofynion sy'n berthnasol i gynhyrchwyr llaeth amrwd
- SMR 10: cyfyngiadau ar ddefnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPP)
Dolenni i ganllawiau perthnasol wedi'u diweddaru
- SMR 11: safonau lles lloi
Dolenni i ganllawiau perthnasol wedi'u diweddaru
- SMR 12: safonau lles moch
Dolenni i ganllawiau perthnasol wedi'u diweddaru
- SMR 13: safonau lles ar gyfer anifeiliaid fferm
Dolenni i ganllawiau perthnasol wedi'u diweddaru