Canllaw i helpu perchenogion i gadw anifeiliaid anwes a cheffylau yn ddiogel yn ystod cyfnod tân gwyllt.
Cynnwys
Anifeiliaid anwes
- Darganfyddwch amseroedd a lleoliadau digwyddiadau tân gwyllt wedi'u cynllunio yn eich ardal.
- I osgoi adegau pan fydd tân gwyllt yn debygol o gael eu cynnau, ewch â'ch ci am dro yn ystod oriau golau dydd.
- Ceisiwch gadw’ch ci a/neu gath y tu fewn gyda’r nos a darparwch fannau tawel iddynt gilio, neu guddio, os oes angen.
- Caewch y ffenestri a'r llenni i dawelu sŵn tân gwyllt. I greu awyrgylch heddychlon, gall chwarae cerddoriaeth dawel neu wylio'r teledu fod o gymorth hefyd.
- Ar adegau a allai fod yn drallodus, ceisiwch osgoi gadael eich anifeiliaid anwes gartref ar eu pen eu hunain.
Ceffylau
- Darganfyddwch amseroedd a lleoliadau digwyddiadau tân gwyllt wedi'u cynllunio yn eich ardal. Ni ddylai trefnwyr digwyddiadau gynllunio tân gwyllt ger ceffylau mewn caeau neu stablau.
- Gofalwch am eich ceffylau yn ôl yr arfer a chadwch nhw mewn amgylcheddau diogel a chyfarwydd. Gallai hyn olygu eu gadael nhw allan yn ystod y tân gwyllt os mai dyma yw eu trefn arferol. Fodd bynnag, os ydynt yn ofnus o dân gwyllt, efallai yr hoffech ystyried eu rhoi mewn stabl dros nos.
- I osgoi anaf, cadwch yn ddiogel a gwyliwch am geffylau sydd wedi dychryn.
- Y bore ar ôl tân gwyllt, mae'n bwysig gwirio iechyd eich ceffyl i sicrhau ei les a gwirio am unrhyw anafiadau gweladwy.