Clefyd bacteriol sy’n effeithio ar famaliaid a rhai rhywogaethau o adar yw Anthracs
Mae anifeiliaid sy’n pori’n wynebu risg arbennig o ddal y clefyd drwy’r sborau sy’n bodoli eisoes, ac mae’n angheuol yn aml. Gall Anthracs gael ei drosglwyddo o anifeiliaid i bobl (milhaint).
Amau a chadarnhau
Cysylltwch â’ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith ar 0300 303 8268, os ydych chi’n amau achos o Anthracs.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn ymchwilio i achosion posib.
Dylech amau achos o Anthracs bob amser os yw’ch da byw yn marw’n sydyn neu heb esboniad.
Arwyddion clinigol
Gall anifeiliaid sydd wedi’u taro fod yn sâl am sawl diwrnod gyda:
- tymheredd uchel
- crynu a gwingo
- côt/blew sych a garw
- ffitiau
- llygaid llachar yn rhythu
- poenau stumog
- mynd yn benisel
- gwrthod bwyta
- cynhyrchu llawer llai o laeth neu ddim llaeth o gwbl.
Mae cyfnod y salwch yn fyr mewn gwartheg a defaid yn aml. Gall anifeiliaid sydd wedi’u heffeithio gael eu canfod yn farw heb ddangos unrhyw arwyddion o’r salwch. Mae’r clefyd yn datblygu’n arafach mewn moch a cheffylau, ond yn angheuol fel arfer.
Trosglwyddo, atal, trin
Gall Anthracs fodoli fel sborau, sy’n gallu goroesi yn yr amgylchedd am flynyddoedd lawer. Gall anifeiliaid sy’n pori lyncu’r sborau hyn wedi i rywbeth aflonyddu’r pridd (fel glaw trwm neu lifogydd)
Mae carcasau wedi’u heintio’n beryg bywyd i anifeiliaid a phobl. Os ydych chi’n amau bod anifail wedi’i heintio, rhowch ef yn rhywle ar wahân ar unwaith, a ffonio’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Anaml iawn mae triniaeth yn effeithiol, gan fod y clefyd yn datblygu’n gyflym iawn. Holwch eich milfeddyg am gyngor os yw’ch anifeiliaid yn dod i gysylltiad ag achos o anthracs yn rheolaidd.