Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Roedd y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren (2014 i 2020) (CBBP) yn gynllun grant cyfalaf £9m sydd ar gael i berchenogion meithrinfeydd coed a choedwigoedd preifat, awdurdodau lleol, neu berchenogion coedwigoedd sector cyhoeddus eraill a mentrau bach a chanolig (BBaCh) oedd yn gweithio mewn gweithgareddau plannu a rheoli coedwigoedd, cynaeafu coed a/neu brosesu coed. Ariannwyd y cynllun drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) 2014 i 2020 a gweithredwyd y cynllun o gychwyn 2016 hyd at Fehefin 2023.

Y rhesymeg tu ôl i’r cynllun oedd i ddefnyddio buddsoddiad wedi ei dargedu i roi cyfleoedd i fusnesau pren dyfu, i wella cyflwr coetiroedd yng Nghymru, ac i ddod â choetiroedd anhygyrch o dan reolaeth. Roedd cyfran fawr o’r coetiroedd yng Nghymru heb eu rheoli, neu heb eu rheoli’n ddigonol, a hynny’n aml oherwydd y ffaith nad oeddent yn hygyrch, ac felly roedd angen cael gwahanol fathau o beiriannau ar gyfer cynhyrchu cynaliadwy.

Prif nod y gwerthusiad oedd darparu asesiad annibynnol o weithrediad ac effaith y cynllun yng Nghymru. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i fod yn sail dystiolaeth i hysbysu penderfyniadau yn y dyfodol yn ymwneud â buddsoddiadau sy’n cefnogi’r diwydiant pren yng Nghymru. Aseiniwyd wyth cwestiwn gwerthuso ar gyfer yr astudiaeth hon, fel a ganlyn.

  1. Pa mor effeithiol weithredwyd y broses Datganiad o Ddiddordeb (DoDd), ymgeisio a gwerthuso?
  2. Beth oedd y lefel o ymgysylltiad â buddiolwyr ac ymgeiswyr posibl? Pa mor effeithiol oedd y prosesau hyn?
  3. Pa mor effeithiol gafodd y cynllun ei ddylunio, ei weinyddu a’i gydlynu, yn cynnwys y broses ymgeisio, y systemau monitro, y cyfathrebu ac argaeledd cymorth ar ôl y dyfarniad?
  4. I ba raddau y llwyddodd CBBP i gyflawni’r targedau a osodwyd ar gyfer y cynllun?
  5. Beth oedd effaith gyffredinol y CBBP (gydag ystyriaeth arbennig i unrhyw effeithiau economaidd ac amgylcheddol y cynllun)?
  6. Sut werth am arian a gafwyd yn gyffredinol gan y cynllun?
  7. I ba raddau yr oedd y cynllun yn alinio â gwasanaethau cymorth eraill ac amcanion strategol Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd (UE)?
  8. Pa wersi a ddysgwyd a pha argymhellion ar gyfer y cynllun cyfredol ellir eu darparu o asesiad a gwerthusiad y CBBP?

Methodoleg

Defnyddiwyd dulliau ymchwil cymysg ar gyfer y gwerthusiad terfynol, gan ddefnyddio data ansoddol a meintiol. Cafodd y gwerthusiad ei seilio ar y gweithredoedd ymchwil canlynol:

  • Dwy rownd o gyfweliadau manwl gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid.
  • Arolwg o 31 o fusnesau oedd wedi derbyn y cymorth grant (h.y. y buddiolwyr), sy’n gyfystyr a chyfradd ymateb o 48%
  • Arolwg o 39 o fusnesau oedd wedi cyflwyno DoDd ond oedd heb dderbyn cymorth (h.y. oedd ddim yn fuddiolwyr), sy’n chyfystyr a gyfradd ymateb o 33%.
  • Adolygiad o’r wybodaeth rheoli sydd wedi cael ei choladu gan Llywodraeth Cymru.

Roedd yna pedwar cyfyngiad nodedig ar y gwerthusiad. Yn gyntaf, roedd cyfran fawr o brosiectau (26%) yn dal i fod yn weithredol pan cwblhawyd ein gwaith ymchwil yn Chwefror 2023, ac roedd rhai buddiolwyr yn dal i fod yn y broses o brynu’r offer, ac felly yn cyfyngu ein gallu i sefydlu’r effeithiau llawn, terfynol (er bod hyn wedi’i liniaru drwy archwilio’r potensial ar gyfer y dyfodol). Yn ail, roedd yna diffyg cadernid ystadegol yn y sampl gan roedd y buddiolwyr a’r busnesau oedd ddim yn fuddiolwyr profi'n anodd eu cyrraedd, er rydym yn nodi bod meintiau'r sampl yn caniatáu canfyddiadau addas, dangosol. Yn drydydd, roedd yna ddiffyg cadernid yn yr asesiad o'r effaith economaidd oherwydd diffyg gwaith mapio cadwyn gyflenwi fanwl (a fyddai wedi cymryd mwy o adnodd nag oedd ar gael), er roedd y data yn ddigonol i roi arwydd cryf o effaith y cynllun. Yn bedwerydd, ac yn gysylltiedig â’r ddau bwynt olaf, dim ond 65% o fuddiolwyr oedd yn hapus i rannu data trosiant, gan gyfyngu ymhellach ar y dadansoddiad o'r effaith economaidd.

Mynd i'r afael â chwestiynau allweddol y gwerthusiad

Effeithiolrwydd y broses DoDd, ymgeisio a gwerthuso

Cafwyd ymateb cymysg gan fuddiolwyr mewn perthynas â’u boddhad gyda’r broses ymgeisio, gyda 42% yn datgan anfodlonrwydd ac yr un gyfran yn datgan eu bod yn fodlon. Roedd yr heriau a grybwyllwyd amlaf gan fuddiolwyr yn ymwneud â natur feichus y broses a’i bod yn cymryd gormod o amser, tra fe wnaeth llawer siarad am gymhlethdod cyffredinol y broses. Penderfynodd mwy na thraean o’r buddiolwyr hurio ymgynghorydd i’w helpu i ddatblygu’r cais iddynt, sy’n codi cwestiynau am natur cydraddoldeb y cynllun ac effeithiolrwydd y broses ddethol (h.y. mai nid y prosiectau gorau oedd yn cael eu hariannu o anghenraid, ond hefyd yn rhannol ynglŷn â pha fusnesau oedd yn digon mawr i sicrhau cymorth gan y sector preifat i ddatblygu eu bidiau).

Cytunodd aelodau’r tîm cyflawni fod problemau wedi codi gyda’r broses, a soniwyd am oedi hir a heriau penodol gyda’r cais llawn (ail gam y broses) lle'r oedd y gyfradd o ymgeiswyr oedd wedi mynd ymlaen o’r cam DoDd i’r cam ymgeisio llawn yn annigonol. Roedd yr oedi hyn wedi ei waethygu gan ddigwyddiadau allanol fel Brexit, y pandemig COVID-19, a’r rhyfel yn Wcráin (a’r effeithiau cysylltiedig ar chwyddiant). I wneud pethau’n waeth, doedd dim hyblygrwydd o fewn y cynllun i gynyddu lefel y grant er mwyn cyfrif am gostau cynyddol yr offer, a oedd yn golygu mai’r buddiolwyr oedd yn gorfod delio gyda’r cynnydd yn y costau oedd yn gysylltiedig a chwyddiant. Roedd yna dystiolaeth o ddiffyg cysylltiad rhwng y ddau gam ymgeisio, gyda dau dîm gwahanol yn gweithio gyda’r ddwy broses, ac roedd hyn yn ei gwneud yn anoddach sicrhau taith esmwyth trwy’r broses ymgeisio.

Roedd y tîm cyflawni’n credu bod y broses gymeradwyo’n effeithiol, a thynnwyd sylw at y ffaith bod ganddynt gymysgedd priodol o bersonél yn asesu’r ceisiadau ac wedi llwyddo i gefnogi grŵp da ac addas o fuddiolwyr. Yr unig amheuaeth oedd gan y tîm cyflawni, fodd bynnag, oedd bod y meini prawf sgorio’n ffafrio ymgeiswyr mwy (o ran maint y busnes) oherwydd yr elfen gwerth am arian a oedd yn ffafrio ymgeiswyr ag ardaloedd mwy o goetir. Gwnaethpwyd addasiad yn y ffenestr ymgeisio derfynol i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Effeithiolrwydd yr ymgysylltiad â buddiolwyr ac ymgeiswyr posibl

Cafodd y cynllun ei hyrwyddo drwy ymgyrch farchnata gymhedrol oedd yn defnyddio sianelau diwydiannol yn bennaf. Roedd y tîm yn teimlo bod hyn yn briodol, o ystyried natur fach a chlos y sector. Wedi dweud hynny, roedd yr ymgeiswyr yn teimlo ar y cyfan nad oedd lefel arbennig o uchel o ymwybyddiaeth am y cynllun o fewn y sector.

Ymddengys mai cymorth hwyluso cyfyngedig rhoddwyd drwy’r broses ymgeisio a thu hwnt, gyda Llywodraeth Cymru dim ond yn gallu cynghori ar bolisi a rheolau'r cynllun – ni oedd hawl ganddynt gynghori ar brosiectau'r busnesau. Lle derbyniwyd cymorth, roedd yr ymateb yn gymysg iawn o ran ei defnyddioldeb. Tybier bod hynny, yn rhannol, oherwydd ddiffyg adnodd o fewn Taliadau Gwledig Cymru (a oedd yn gyfrifol am ddarparu’r cymorth) i ymateb i ymholiadau yn brydlon ac mewn person. Byddai’r mwyafrif llethol o ymgeiswyr wedi gwerthfawrogi derbyn cymorth arall i’w helpu i lywio drwy’r broses ymgeisio.  

Y tu hwnt i’r broses ymgeisio, ychydig iawn o fuddiolwyr a dderbyniodd unrhyw gymorth parhaus. Ar y cyfan, roedd y buddiolwyr yn fodlon gyda’r prosesau hawlio a monitro, ond mynegwyd anfodlonrwydd gan leiafrif gweddol fawr (23%) gyda buddiolwyr yn sôn amdan yr oedi a natur fiwrocratig y broses. Roedd diffyg hyblygrwydd, yn bennaf oherwydd rheoliadau’r RhDG, gyda buddiolwyr yn cael eu cosbi’n aml am ffactorau oedd y tu allan i’w rheolaeth hwy a rheolaeth y tîm cyflawni. Cydnabu’r tîm cyflawni bod y diffyg hyblygrwydd ac adnoddau wedi bod yn broblem drwy gydol y cynllun a bod “pob cam o’r broses wedi cymryd gormod o amser”.

Effeithiolrwydd dyluniad y cynllun

Cafodd y penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â dyluniad y cynllun eu derbyn yn dda ar y cyfan gan yr ymgeiswyr, gyda llawer yn cefnogi’r penderfyniad a wnaed ynghylch hyblygrwydd a phriodoldeb maint y grant, y gyfradd ymyrraeth, a’r costau a’r gweithgareddau oedd yn gymwys.        Ar bwynt mwy strategol, fodd bynnag, efallai roedd angen mwy o eglurder ynglŷn â’r hyn roedd y cynllun yn ceisio ei gyflawni a’r mathau o fuddsoddiadau y dylai eu gwneud. Er enghraifft, roedd yna ddisgwyliad yn wreiddiol y byddai gan y prosiectau ffocws amgylcheddol yn bennaf), ond mae’n ymddangos bod gan y rhan fwyaf o’r gweithgarwch fwy o ffocws economaidd. Yn ogystal, nid oedd y ffordd i’r cynllun cael ei ddylunio yn gweddu cyflawni rhai o’r amcanion eraill megis cefnogi busnesau llai (e.e. meithrinfeydd) a chadw mwy o’r gwariant cadwyn gyflenwi yng Nghymru (er bod newid wedi'i wneud yn y ffenestr ymgeisio derfynol i fynd i'r afael â hyn).

Cyflawniad yn erbyn targedau

Dim ond 71% o'r gyllideb grant o £9m a hawliwyd yn llwyddiannus gan fuddiolwyr. Er roedd yna ddigonedd o alw am gymorth, arweiniodd cyfuniad o broblemau mewnol ac allanol at leihad yn y swm a hawliwyd. Efallai mai’r prif gyfyngiad oedd y ffaith bod y cyllidebau wedi eu dyrannu yn flynyddol, a bod unrhyw danwariant yn dychwelyd i’r ‘pot’ RhDG ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer blaenoriaethau eraill. Felly, doedden nhw ddim yn gallu symud diffyg mewn cyllid o un ffenestr i’r llall.

O ran y dangosyddion perfformiad allweddol (DPA), fe wnaeth y cynllun cefnogi llai o weithredoedd nag y rhagwelwyd (74% o’r targed), er ei fod wedi perfformio’n dda yn erbyn y targedau DPA eraill. Aeth CBBP y tu hwnt i’r targed ar gyfer creu swyddi a gwneud yn llawer gwell na’r targed ar gyfer diogelu swyddi. Yn ogystal, fe wnaeth wedi cyflawni’n llawer gwell na’r targed am yr arwynebedd o goetir a gefnogir, a oedd fwy na 45 gwaith y targed. Nodwn, fodd bynnag, bod y ffigurau targed yn ymddangos yn gymedrol iawn ac, felly, yn rhoi darlun cyfyng o ran gwerth y cynllun. O ganlyniad, rydym yn ategu’r adolygiad hwn gydag asesiad manylach o’r effaith a’r gwerth am arian.

Effaith

Roedd y mwyafrif o’r buddiolwyr yn credu eu bod wedi cyflawni’r hyn roedden nhw wedi bwriadu ei gyflawni ac fe ddaeth arolygwyr Llywodraeth Cymru i’r un casgliad yn eu hadroddiadau in-situ. Soniodd y buddiolwyr am amrywiaeth eang o ganlyniadau gyda’r prif themâu yn cynnwys ‘mwy o gynhyrchiad’ a ‘chyrchu tiroedd anoddach’, a ‘chyrchu marchnadoedd newydd’. Wedi ei gysylltu â hyn, soniodd 30% am yr effaith ar eu gwerthiannau, tra bod eraill wedi dweud eu bod yn gallu gweithredu prosesau mwy effeithlon gyda’r mwyafrif yn dweud fod y prosiect wedi arwain at ostyngiad yn eu costau. Mae’r dystiolaeth yn sicr yn awgrymu bod y cynllun wedi cael effaith mewn perthynas â gwella galluoedd y sector pren yng Nghymru.

Amcangyfrifodd ein hasesiad effaith economaidd bod CBBP wedi creu neu ddiogelu 71 o swyddi i gyd, sy’n gyfatebol â thua £110k mewn buddsoddiad i bob swydd a grëwyd neu a ddiogelwyd, er ein bod yn nodi bod yr amcangyfrif hwn wedi'i gyfyngu gan faint bach y sampl a chyfyngiadau eraill o fewn y fethodoleg. Dywedodd y rhan fwyaf o fuddiolwyr hefyd fod eu prosiect wedi arwain at welliant yn ansawdd y gyflogaeth y maent yn ei darparu, gan gynnwys 77% yn nodi gwell diogelwch mewn swydd (e.e. osgoi oriau sero, contractau dros dro, oriau gweithredu), tra bo 55% wedi dweud ei fod wedi arwain at welliant yng nghyfansoddiad sgiliau eu gweithlu.

Mae’r dadansoddiad o ddata trosiant yn awgrymu ymhellach bod y CBBP wedi cynhyrchu twf i fuddiolwyr yn ogystal ag amcangyfrif o £2.5m mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) ychwanegol net. Y tu hwnt i hynny, mae potensial cryf ar gyfer enillion economaidd pellach yn y dyfodol, yn enwedig o ystyried bod 30% o brosiectau yn dal i fod yn weithredol ar adeg ein harolwg tra bod llawer o fuddiolwyr yn teimlo y byddai'n cymryd mwy o amser i weld yr effaith economaidd. Ar sail y rhagfynegiadau am drosiant a’r priodoliad a ddarparwyd gan fuddiolwyr, mae ein brasamcan yn awgrymu bod gan CBBP y potensial i gynhyrchu £5.8m mewn effeithiau GVA dros y flwyddyn nesaf (ar adeg yr adroddiad hon). Byddem yn rhybuddio, fodd bynnag, bod y brasamcanion hyn yn fwy sbeciannol ac yn fwy agored i dueddiad optimistiaeth.

Er roedd y prif gymhelliant tu ôl i’r prosiectau yn ymwneud fwy â’r ochr economaidd, ac mae ymatebion buddiolwyr yn awgrymu mai dyma oedd y brif effaith hefyd, fe wnaethom hefyd canfod tystiolaeth o ganlyniadau amgylcheddol. Roedd y mwyafrif o’r buddiolwyr wedi datblygu prosesau llai dwys a niweidiol i’r amgylchedd, roedd y mwyafrif wedi gallu gostwng y boblogaeth o goed peryglus neu wella amodau coetiroedd, tra bo tua hanner wedi dod â choetiroedd newydd dan reolaeth gynaliadwy (o goetiroedd fferm yn bennaf).

Ochr yn ochr â’r gwerth a gynhyrchwyd gan gynnydd mewn trosiant a chyflogaeth, mae hefyd werth economaidd sy’n gysylltiedig â’r effeithiau amgylcheddol a gynhyrchir gan y cynllun. Er enghraifft, mae dod ag ardaloedd newydd o goetir o dan reolaeth gynaliadwy yn allweddol o ran cynyddu gwerth y sector yng Nghymru, gan olygu gall yr economi elwa o ardaloedd o goetir oedd wedi eu gadael yn segur gynt. Yn ogystal, mae diogelu coedwigoedd a’u bioamrywiaeth gysylltiedig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ynghyd a’r gwerth o liniaru’r newid hinsawdd yn arwain at effaith economaidd cadarnhaol. Yn unol â hynny, er nad yw'n fesuradwy, mae'r effaith economaidd a gynhyrchir yn debygol o fod yn uwch na'r enillion uniongyrchol ar gyfer buddiolwyr.

Ymddengys bod y cynllun wedi cynrychioli ychwanegedd cryf. Gwelsom na fyddai unrhyw rai o’r buddiolwyr wedi gallu gwneud yr un buddsoddiad ar yr un pryd heb y cymorth, ac na fyddai oddeutu chwarter wedi gallu gwneud buddsoddiad o gwbl. Soniodd 65% y byddent wedi gwneud buddsoddiad gwahanol neu lai, a dywedodd 42% y byddent wedi gorfod aros yn hirach i wneud y buddsoddiad. Soniodd buddiolwyr ymhellach na fyddai 75% o’r buddsoddiad a wnaed wedi digwydd heb y cymorth gan CBBP. Ar y sail hon, rydym yn amcangyfrif bod y cynllun wedi trosoli £6.4m o fuddsoddiad gan fusnesau yn eu galluoedd na fyddai wedi digwydd heb y cymorth.

Aliniad strategol

Bu aliniad strategol cryf rhwng CBBP ac amcanion polisi ehangach mewn rhai ffyrdd. Er enghraifft, roedd yna sicr aliniad cryf gyda sawl un o dargedau strategaeth Coetiroedd i Gymru megis yr amcan ynghylch gwell rheolaeth gynaliadwy o goetiroedd. Ar yr un pryd, efallai nad oedd y weledigaeth strategol yn ddigon eglur fel yr ydym wedi sôn eisoes. Er enghraifft, nid oedd y buddsoddiad wedi cael ei dargedu mewn ffordd effeithiol o ran cwrdda amcan Llywodraeth Cymru i greu coetiroedd (un o’r prif amcanion) oherwydd roedd y meini prawf sgorio’n ei gwneud hi’n anodd i feithrinfeydd cyrchu’r cyllid. Yn ogystal, er mai rhan o uchelgais y cynllun oedd cadw mwy o werth y gadwyn gyflenwi yng Nghymru drwy gymryd cyfran o’r farchnad gan gyflenwyr y tu allan i Gymru, ychydig iawn o dystiolaeth sydd yn yr arolwg i ddangos bod hyn yn digwydd. Roedd gwerthiannau buddiolwyr bron yn gyfan gwbl i gwsmeriaid o Gymru ac ni chafodd y cynllun effaith o gwbl ar hynny.

Gwerth am arian

Mae cynhyrchu gwerth am arian cryf yn cysylltu’n ôl at ddarparu’r weledigaeth ac effeithiau o fewn y ddamcaniaeth newid cafodd ei ddatblygu ar gyfer y cynllun. Roedd rhain yn cynnwys uchelgeisiau i: roi cyfleoedd i fusnesau pren dyfu; gwella amodau coetiroedd yng Nghymru; dod â choetiroedd anhygyrch o dan reolaeth; cynyddu cynhyrchiad pren yng Nghymru; cadw mwy o werth y gadwyn gyflenwi yng Nghymru; darparu adenillion economaidd ar fuddsoddiad positif; a darparu buddion amgylcheddol. Mae'r cynllun wedi cyflawni'n llwyddiannus yn erbyn y rhan fwyaf o'r amcanion hyn, ac eithrio darparu adenillion economaidd ar fuddsoddiad positif a chadw mwy o’r cyflenwad gwerth cadwyn yng Nghymru.

Pe baem ni’n mynd i feirniadu’r gwerth am arian yn llwyr ar sail yr adenillion economaidd sy’n gysylltiedig â throsiant a gynhyrchwyd hyd yn hyn, byddai rhywfaint o amheuaeth a ellid disgrifio’r cynllun fel un llwyddiannus. Ond, ochr yn ochr â’r gwerth economaidd oedd wedi ei gynhyrchu’n barod i fuddiolwyr, mae tystiolaeth yr arolwg yn awgrymu y bydd y cynllun yn parhau i gynhyrchu adenillion economaidd dros y flwyddyn nesaf, a allai o bosib fod yn uwch na’r hyn a wariwyd drwy gyllid grant. Yn ogystal, mae’r cynllun wedi trosoli £6.4m mewn buddsoddiad gan fusnesau ac, heb os, wedi datblygu’r gallu o fewn y sector. Mae tystiolaeth gref hefyd ei fod wedi creu effeithiau amgylcheddol pwysig, sydd â gwerth economaidd sylweddol yn gysylltiedig â nhw. O’u rhoi at ei gilydd, mae’r dystiolaeth yn dangos bod y cynllun wedi cynhyrchu gwerth am arian.

Casgliadau ac argymhellion

Mae’r gwerthusiad hwn wedi dangos, er bod nifer o heriau a phroblemau wedi codi wrth gyflawni’r CBBP, mae wedi gallu cyflawni ei gylch gwaith i raddau mawr. Yn gyffredinol, gall y cynllun bwyntio tuag at nifer o gyflawniadau, yn cynnwys y cynnydd mewn rheolaeth gynaliadwy ar goetiroedd yng Nghymru, twf o fewn y busnesau a gefnogir, ac effeithiau amgylcheddol. Roedd y rhanddeiliaid yn teimlo bod angen am y math hwn o gymorth wrth symud ymlaen, er y dylai ymyraethau yn y dyfodol gael hunaniaeth a chylch gwaith mwy eglur.

Ar sail y canfyddiadau hyn, gwneir yr argymhellion a ganlyn.

Argymhelliad 1

Dylai unrhyw ymyrraeth yn y dyfodol sefydlu rôl a chylch gwaith clir o’r cychwyn un sy’n alinio â’r amcanion polisi ar gyfer y sector.

Argymhelliad 2

Dylai cynlluniau’r dyfodol gynnwys mecanweithiau i gymell busnesau’n well i archwilio marchnadoedd y tu allan i Gymru er mwyn sicrhau’r effeithiau gwerth ychwanegol gros gorau os mai dyna’r bwriad.

Argymhelliad 3

Dylid cael dealltwriaeth fwy eglur o’r gynulleidfa darged ar gyfer ymyriadau’r dyfodol (e.e. busnesau mawr/bach), gan gynllunio’r prosesau i gydfynd â hynny.

Argymhelliad 4

Dylid sicrhau gwell adnoddau ar gyfer cynlluniau’r dyfodol er mwyn osgoi oedi a tharfu, naill ai drwy sefydlu tîm cyflawni mwy neu drwy ostwng maint y rhaglen.

Argymhelliad 5

Yn gysylltiedig â’r uchod, dylai cynlluniau’r dyfodol naill ai ddarparu mwy o gymorth i helpu ymgeiswyr drwy’r broses (e.e. unigolyn wedi’i enwi gyda llinell uniongyrchol) neu fod yn llai amharod i gymryd risgiau yn fewnol er mwyn symleiddio’r broses fel bod modd prosesu ceisiadau’n gyflymach.

Argymhelliad 6

Gellid ystyried system haenog hefyd i wneud y broses yn fwy cymesur â’r ceisiadau am grantiau llai.

Argymhelliad 7

Dylid cael un corff yn gyfrifol am oruchwylio ceisiadau drwy’r broses gyfan er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwythach.

Argymhelliad 8

Dylai cynlluniau’r dyfodol gynnwys rhywfaint o hyblygrwydd yn y system i ganiatáu ar gyfer newidiadau chwyddiannol mewn costau lle mae’r amser prosesu’n hir.

Manylion cyswllt

Awduron: Ioan Teifi, Endaf Griffiths

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Richard Self
Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 99/2023
ISBN digidol: 978-1-83504-914-3

Image
GSR logo