Y llynedd, fel rhan o'n gwaith hirdymor ehangach i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, cyhoeddais nifer o gamau i gefnogi pobl sy'n denantiaid mewn llety cymdeithasol rhent, fel rhan o gytundeb gydag awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Heddiw, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi cyhoeddi parhad o'r gefnogaeth honno gan landlordiaid cymdeithasol yn ogystal ag uchafswm newydd yn y cynnydd mewn rhent cymdeithasol o 6.7% o fis Ebrill 2024.
Meddai'r Gweinidog:
Y llynedd, penderfynais bennu uchafswm ar y codiad mewn rhent tai cymdeithasol islaw lefel chwyddiant i roi cymorth ychwanegol i'n tenantiaid tai cymdeithasol wrth iddynt wynebu pwysau yn sgil costau cynyddol bwyd, ynni a nwyddau eraill i gartrefi.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod chwyddiant y DU yn 6.7% yn y flwyddyn hyd at fis Medi, sy'n golygu bod yn rhaid i mi, unwaith eto, ymyrryd a phenderfynu ar y codiad rhent uchaf ar gyfer y flwyddyn nesaf o dan Safon rhent a thaliadau gwasanaeth 2020 i 2025 | LLYW.CYMRU.
Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai sy'n wynebu caledi ariannol difrifol, a dyna pam rwyf wedi gwneud y penderfyniad i bennu uchafswm y cynnydd ar lefel chwyddiant.
Mae hyn yn golygu y gall landlordiaid cymdeithasol godi uchafswm cynnydd rhent cymdeithasol o 6.7% ar draws eu holl eiddo.
Mae'r cyhoeddiad heddiw hefyd yn sicrhau ymrwymiadau parhaus gan landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru i gefnogi tenantiaid sy'n cael trafferth gydag effeithiau'r argyfwng costau byw parhaus, gan gynnwys parhau â'r polisi o beidio troi pobl allan oherwydd caledi ariannol i denantiaid sy'n trafod gyda'u landlordiaid.
Mae'r setliad rhent ar gyfer 2024-25 yn golygu y darperir cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sy'n profi caledi ariannol i gael gafael ar gymorth yn ogystal â buddsoddi mewn cartrefi presennol i'w cadw'n ddiogel, yn gynnes ac yn fforddiadwy i fyw ynddynt.
Ychwanegodd y Gweinidog:
Er bod Mynegai Prisiau Defnyddwyr wedi gostwng yn sylweddol ers mis Medi 2022, mae'r hinsawdd economaidd presennol yn parhau i olygu heriau i landlordiaid cymdeithasol a'u tenantiaid.
Dangosodd arolwg diweddar Gwasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid Cymru (tpas.cymru) ostyngiad o 9% yn nifer yr ymatebwyr oedd yn teimlo nad oedd eu rhent yn fforddiadwy.
Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol iawn o'r effeithiau y mae'r argyfwng costau byw parhaus wedi'i gael ar denantiaid tai cymdeithasol ac efallai na fydd y codiad hwn yn teimlo'n 'is' i lawer o bobl ledled Cymru.
Nid yw'n ofynnol i unrhyw landlord godi'r uchafswm ac rwy'n annog pob landlord i ystyried fforddiadwyedd yn ofalus ac i osod rhenti priodol ar draws eu stoc tai.
Y flwyddyn nesaf fydd blwyddyn olaf ein polisi rhenti pum mlynedd.
Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â landlordiaid cymdeithasol, y sector ehangach a phartneriaid eraill i lywio ein polisi rhent yn y dyfodol, datblygu dull cyson o asesu fforddiadwyedd a pharhau i ddarparu cymorth i landlordiaid cymdeithasol a'u tenantiaid.
Mae fforddiadwyedd wrth wraidd polisïau rhent cymdeithasol yng Nghymru, a byddwn yn parhau i gryfhau ein dulliau gweithredu a gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid i gyflawni ein hymrwymiadau.