Mae clefyd affricanaidd y ceffylau yn glefyd angeuol. Mae’n cael effaith ar geffylau, mulod, asynod a sebras. Mae’n glefyd hysbysadwy.
Nid yw erioed wedi codi yn y DU, ond mae i’w gael yn Ne Affrica.
Amheuaeth a chadarnhad
Cysylltwch â’ch Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith ar 0300 303 8268 os ydych yn amau salwch affricanaidd y ceffylau.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn archwilio achosion posibl.
Arwyddion clinigol
Gallai’r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:
- tymheredd uchel
- trafferth mawr i anadlu
- pesychu a hylif o’r trwyn
- chwyddo dros y pen a’r llygaid, y gwefusau, y bochau ac o dan y gên
- tymheredd uchel, ond yn is yn y bore, gan godi yn y prynhawn
Troglwyddo ac atal
Caiff y clefyd ei ledaenu gan:
- wybed, sy’n hoffi tywydd cynnes, gwlyb a llawer o law
- lledaenu gan wynt
Nid oes brechlyn ar gyfer clefyd affricanaidd y ceffylau wedi’i drwyddedu yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar hyn y bryd.