Clefyd sy'n cael ei achosi gan feirws yw clwy Affricanaidd y moch sy'n effeithio ar foch domestig a gwyllt. Mae'n glefyd hysbysadwy.
Amheuon a chadarnhad
Os ydych chi'n meddwl y gall clwy Affricanaidd y moch fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Arwyddion clinigol
Mae arwyddion clinigol clwy Affricanaidd y moch a chwy clasurol y moch bron union yr un peth. Mae ffurf acíwt a chronig:
- rhwymedd, ac yna dolur rhydd
- llygaid gludiog
- peswch
- blotiau ar y croen
- perchyll yn cael eu herthylu a'u geni cyn pryd, a thoreidiau gwan
- gwendid yn y coesau ôl
- arwyddion nerfus gan gynnwys trawiadau a chryndod mewn perchyll newydd-anedig
Trosglwyddo ac atal
Mae'r feirws yn gallu cael ei drosglwyddo gan drogod croen meddal. Gellir ei ledaenu trwy:
- symud moch heintiedig
- cerbydau, dillad, esgidiau ac offer heintiedig
- ac wrth i foch fwyta porc neu gynnyrch porc heintiedig
Dylai ffermwyr moch gofio ei bod yn anghyfreithlon bwydo moch ag unrhyw fath o wastraff cegin yn y DU.
Cyngor ar fioddiogelwch
Gallwch helpu i gadw'r clefyd draw trwy gadw'ch fferm yn fioddiogel. Er mwyn cynnal lefelau uchel o fioddiogelwch, dylai ffermwyr moch:
- roi gwybod i'r awdurdodau ar unwaith os ydyn nhw'n credu bod y clefyd ar eu moch
- dim ond symud anifeiliaid, pobl ac offer i ac o'r fferm pan fydd rhaid
- prynu moch o leoedd dibynadwy
- deall peryglon cyflwyno'r clefyd wrth ddod â moch a chynnyrch moch i'r fferm
- rhoi moch newydd mewn cwarantin a pheidio â gadael iddyn nhw gymysgu â'r brif genfaint
- peidio â gadael ymwelwyr diangen i'r fferm
- glanhau a diheintio pob cerbyd sy'n cario moch
- archwilio'r moch unwaith bob dydd am arwyddion afiechyd
- peidio â rhoi gwastraff cegin yn fwyd i'r moch
- gosod rhwydi a thrapiau abwyd i gadw llygod, adar a chlêr draw o siediau'r moch
- rhwystro cŵn, cathod a fermin rhag cael at foch marw
- peidio â defnyddio'r un staff ac offer ar fwy nag un safle - os nad oes modd peidio, eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr.