Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Rhagfyr 2023.

Cefndir

Cyflwynwyd y casgliad data misol hwn yn ystod y pandemig COVID-19. 

Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety dros dro a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod yn ddigartref. 

Ar gyfer yr amcangyfrifon o gysgu ar y stryd ac unigolion sy'n byw mewn mathau o lety dros dro, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol. Ar gyfer data ar fynd i mewn ac allan o lety dros dro,  ar hyn o bryd rydym yn cyhoeddi data ar lefel Gymraeg yn unig.

Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol. 

Pan fydd diwygiadau wedi digwydd ers cyhoeddi data'r mis diwethaf, bydd y ffigurau'n wahanol i'r rhai a gyhoeddwyd yn flaenorol. Defnyddiwch y data diweddaraf, sydd i'w weld ar StatsCymru (Pobl sy'n cysgu ar y stryd yn ôl ardal awdurdod lleol), i sicrhau fod y ffigurau rydych chi'n eu defnyddio yn gyfredol. Mae ffigurau sydd wedi’u diwygio ers eu cyhoeddi'n flaenorol wedi'u marcio â [r].

Prif bwyntiau

Cymariaethau dros amser

Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi bod yn cydweithio i wella dibynadwyedd data yn y casgliad hwn. Oherwydd gwelliannau yn ansawdd data o fis Ebrill 2023 ymlaen, bydd siartiau sy'n dangos cyfres amser yn defnyddio Ebrill 2023 fel man cychwyn.

Defnyddio llety dros dro

  • Ledled Cymru, roedd 1,230 achos o bobl ddigartref yn cael eu rhoi mewn llety dros dro yn ystod y mis, 75 yn llai nag ym mis Tachwedd 2023. O’r rhain, roedd 207 yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 110 o fis Tachwedd 2023. [troednodyn 1]
  • O'r lleoliadau i lety dros dro yn ystod mis Rhagfyr 2023, daeth y rhan fwyaf o achosion o 'Symudwyd o lety anaddas arall' (492 o ddigwyddiadau), ac yna amgylchiadau 'Eraill' (405 o ddigwyddiadau). [troednodyn 1] [troednodyn 2]
  • Roedd 24% o unigolion a roddwyd mewn llety dros dro ym mis Rhagfyr 2023 eisoes wedi cael eu rhoi mewn llety dros dro o fewn y 12 mis diwethaf. [troednodyn 3]

Ffigur 1: Unigolion digartref sy'n cael eu lletya mewn llety dros dro ar ddiwedd y mis, Ebrill 2023 i Rhagfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos cynnydd bach yng nghyfanswm yr unigolion digartref a nifer gymharol sefydlog o blant dan 16 oed mewn llety dros dro ar ddiwedd y mis rhwng Ebrill 2023 a Rhagfyr 2023.

Ffynhonnell: Gwasanaethau digartrefedd Awdurdodau Lleol Cymru

Unigolion ddigartref a roddwyd mewn llety dros dro ar ddiwedd y cyfnod yn ôl ardal awdurdod lleol a chyfnod (StatsCymru)

  • Ar 31 Rhagfyr 2023, roedd 11,273 o unigolion mewn llety dros dro, gostyngiad o 44 ers 30 Tachwedd 2023. Roedd 3,077 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 280 ers 30 Tachwedd 2023.
  • Y math o lety dros dro oedd yn gartref i'r nifer fwyaf o unigolion ddiwedd mis Rhagfyr 2023 oedd 'gwely a brecwast a gwestai' gyda 3,468 o unigolion, a 703 ohonynt yn blant dibynnol o dan 16 oed.

Unigolion digartref sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas

Ym mis Rhagfyr 2023, symudwyd 623 o unigolion digartref i lety hirdymor addas, 39 yn llai nag ym mis Tachwedd 2023. O’r unigolion digartref a symudwyd i lety hirdymor addas, roedd 205 yn blant dibynnol o dan 16 oed, 43 yn llai nag ym mis Tachwedd 2023.

Cysgu allan

Ffigur 2: Nifer y bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru, Ebrill 2023 i Rhagfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell yn dangos, er gwaethaf gostyngiadau mewn rhai misoedd, bu cynnydd cyffredinol yn nifer y bobl sy'n cysgu allan ers mis Ebrill 2023.

Ffynhonnell: Gwasanaethau digartrefedd Awdurdodau Lleol Cymru

Pobl sy'n cysgu ar y stryd yn ôl ardal awdurdod lleol (StatsCymru)

  • Ar 31 Rhagfyr 2023, amcangyfrifwyd bod 136 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn gostyngiad o 38 o’r 174 unigolion sy’n cysgu allan ar 30 Tachwedd 2023. [troednodyn 4]
  • Ar 31 Rhagfyr 2023, Casnewydd (27), Caerdydd (22), Torfaen (16), Gwynedd (12) a Sir Fynwy (9) oedd yr awdurdodau lleol a nododd y niferau uchaf o unigolion yn cysgu allan. Nododd pob awdurdod lleol arall fod 8 neu lai unigolyn yn cysgu allan, gyda dau awdurdod lleol yn adrodd sero. [troednodyn 4]

Newidiadau

Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr, rydym wrthi'n datblygu'r cyhoeddiad yma, sy'n seiliedig ar wybodaeth reoli. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gryfhau'r canllawiau casglu data a gwella ansawdd y data.

Ar gyfer data o fis Ionawr 2024 ymlaen byddwn yn cyhoeddi datganiad estynedig gyda rhagor o ddadansoddiadau o ddata. Bydd data am unigolion a roddwyd mewn llety dros dro ac unigolion a symudwyd i lety tymor hir ar gael fesul awdurdod lleol ar StatsCymru.

Ar gyfer data o fis Hydref 2023 ymlaen, mae nifer yr unigolion di-gartref mewn llety dros dro ar ddiwedd y mis ar gael fesul awdurdod lleol yn ogystal ag yn ôl math o lety. Hefyd, mae data o fis Ebrill 2023 ymlaen wedi symud o'r fformat taenlen flaenorol i StatsCymru o dan yr adran Digartrefedd. Mae taenlen o ddata a gyhoeddwyd cyn mis Ebrill 2023 ar gael i'w lawrlwytho o StatsCymru.

Atal y cyfrif cenedlaethol o gysgu allan ar gyfer 2023

Cafodd y cyfrif cenedlaethol o gysgu allan ei atal dros dro rhwng 2020 a 2023 oherwydd pandemig Covid. 

Byddwn yn ystyried dyfodol hir dymor y cyfrif o gysgu allan ac yn trafod â defnyddwyr cyn cynnal y cyfrif ar gyfer 2024.

Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol ac y cyfrif o gysgu allan

Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad data rheoli misol hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol:

  • Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety dros dro neu lety hirdymor addas.
  • Mae ein casgliadau rheolaidd ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn ogystal, nid ydym yn argymell cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon cysgu allan o'r casgliad misol hwn a'r cyfrif blynyddol o gysgu allan (hyd at fis Tachwedd 2019). Yn y casgliad misol hwn, gofynnir i awdurdodau lleol seilio eu hamcangyfrifon ar ddeallusrwydd lleol. Mae gan y cyfrif blynyddol o gysgu allan fethodoleg wahanol: ymarfer casglu gwybodaeth dwy wythnos, ac yna cyfrif ciplun un noson.

Troednodiadau

[1] Mae proses rheoli datgelu wedi'i gymhwyso i'r ffigurau ar gyfer pobl yn cael eu rhoi mewn llety dros dro ac i ddata cysylltiedig ar StatsCymru. Mae pob ffigwr llai na 3 wedi ei atal, ac fe’I dangosir a ‘*’. Mae’r holl ffigyrau eraill wedi eu talgrynnu yn annibynnol i’r 3 agosaf.  Cyfrifwyd newidiadau rhwng misoedd gan ddefnyddio'r data heb ei dalgrynnu, felly efallai na fydd yn cyd-fynd â'r gwahaniaeth rhwng y ffigurau crwn a ddarparwyd.

[2] Mae amgylchiadau 'Eraill' yn cyfeirio at resymau heblaw symud oddi ar y stryd, gynt yn cysgu ar soffas eraill, wedi symud o lety amhriodol arall a’r rhai sy'n gadael y carchar.

[3] Mae'r ffigur hwn yn cael ei gyfrifo ac nid yw'n cael ei ddangos yn y set ddata gysylltiedig.

[4] Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r amcangyfrifon hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.

Cyswllt

Rachel Shepherd-Hunt

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.