Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yn ystyried effaith Bil Senedd Cymru (Aelodaeth ac Etholiadau) ar blant yng Nghymru a’u hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Mae CCUHP yn gytuniad hawliau dynol rhyngwladol sy’n berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc hyd at 18 oed. Fe’i cadarnhawyd gan y DU ym mis Rhagfyr 1991 a daeth i rym yn y DU ym mis Ionawr 1992.

Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y Confensiwn fel sail i lunio polisïau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru yn 2004. Mae hawliau plant yng Nghymru yn cael eu diogelu ymhellach gan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i’r hawliau a’r rhwymedigaethau sylweddol yn CCUHP a’i brotocolau dewisol.

Mae Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant yn fecanwaith allweddol ar gyfer gweithredu CCUHP. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’w cynnal fel ffordd o sicrhau bod sylw dyledus yn cael ei roi i hawliau plant wrth gyflwyno deddfwriaeth neu arfer swyddogaethau Gweinidogol.

Wrth baratoi’r Bil, ystyriwyd a allai hyn effeithio ar blant a grwpiau penodol o blant. Mae hyn wedi cyfrannu at y dadansoddiad o sut mae’r Bil yn effeithio ar Erthyglau’r Confensiwn.

Amcanion y polisi

Diben cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yw gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer, ac ar ran, pobl Cymru. Bydd cynyddu capasiti’r Senedd yn ei galluogi i wneud y canlynol yn fwy effeithiol:

  • dal Llywodraeth Cymru i gyfrif
  • craffu, goruchwylio a gwella polisi, deddfwriaeth a gwariant, a
  • cynrychioli, gwasanaethu ac ymateb i bobl Cymru.

Yn benodol, mae’r Bil yn darparu ar gyfer:

  • cynyddu maint y Senedd i 96 o Aelodau
  • cynyddu’r cyfyngiad deddfwriaethol ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i 17 (yn ychwanegol at y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol), gyda’r pŵer i gynyddu’r cyfyngiad hwn ymhellach i 19
  • cynyddu'r nifer mwyaf o Ddirprwy Lywyddion y gellir eu hethol o’r tu mewn i’r Senedd i 2
  • newid system etholiadol y Senedd fel bod yr holl Aelodau’n cael eu hethol drwy system rhestr gyfrannol gaeedig, gyda’r pleidleisiau’n cael eu trosi i seddi drwy fformiwla D’Hondt
  • addasu ac ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gan gynnwys:
    • rhoi i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau newydd Cymru y swyddogaethau angenrheidiol er mwyn iddo allu cynnal adolygiadau parhaus o ffiniau etholaethau'r Senedd
    • rhoi cyfarwyddiadau i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru eu dilyn wrth gynnal adolygiadau o’r ffiniau, gan gynnwys:
      • mewn perthynas â’r adolygiad symlach i baru 32 etholaeth Seneddol newydd y DU cyn etholiad 2026 y Senedd (i ffurfio 16 o etholaethau newydd ar gyfer y Senedd)
      • adolygiad llawn cyn yr etholiad dilynol, ac
      • adolygiadau cyfnodol parhaus.
  • newid y cyfnod arferol rhwng etholiadau cyffredinol y Senedd yn ôl i 4 blynedd
  • ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr, ac aelodau o’r Senedd, gael eu cofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad yng Nghymru
  • y Senedd i ystyried adolygiad o weithrediad y darpariaethau deddfwriaethol newydd ar ôl etholiad 2026
  • annog rhagor o waith, dan arweiniad y Senedd, i edrych ar heriau deddfwriaethol a dichonoldeb sy’n gysylltiedig â rhannu swyddi.

Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Aseswyd nad yw’r effaith gyffredinol ar Hawliau Plant yn sylweddol, ac mae’n gadarnhaol ar y cyfan.

Wrth ddod i’r casgliad hwn, nododd yr Asesiad hwn fod ymgynghoriad 2018 Comisiwn y Senedd, Creu Senedd i Gymru, wedi gofyn yn flaenorol am safbwyntiau ar argymhellion y Panel Arbenigol (gan gynnwys newidiadau i drefniadau gweithredol, etholiadol a maint y Senedd). Ni chodwyd unrhyw bryderon penodol am blant a phobl ifanc. Cafodd yr ymgynghoriad hwn ei lywio gan amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys cyhoeddi dogfen ymgynghori a ffurflen ymateb Hawdd eu Darllen, yn ogystal â gweithdai a grwpiau ffocws gyda dros 400 o bobl ifanc (er bod gweithdai o’r fath yn canolbwyntio’n bennaf ar ostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, a gafodd ei argymell hefyd gan y panel arbenigol, ac sydd wedi cael ei roi ar waith ers hynny).

Yn gyffredinol, mae’r Asesiad hwn yn ystyried y bydd newidiadau i faint y Senedd yn cael effaith gadarnhaol ar bob plentyn, o ran eu cynrychiolaeth gan Aelodau’r Senedd, a’u cyfle i gyfrannu’n uniongyrchol at waith y Senedd, drwy ddeisebau cyhoeddus, ymgysylltu ag ymchwiliadau pwyllgor, ac ati. Ni nodwyd effeithiau negyddol sylweddol a oedd yn ymwneud yn benodol â phlant a phobl ifanc.

Erthyglau CCUHP neu brotocolau dewisol sy'n ymwneud â'n deddfwriaeth arfaethedig

Erthyglau 1, 3, 4 a 5

Mae erthyglau 1, 3, 4 a 5 yn cynnwys egwyddorion cyffredinol y Confensiwn mewn perthynas â phwy sy’n cael ei amddiffyn, cadarnhad y dylai pob sefydliad perthnasol weithio tuag at fuddiannau pennaf plant, a rhyddid rhieni.

Statws: Gwella

Esboniad

Mae Erthyglau 1, 3, 4 a 5 yn cael eu parchu gan y Bil.

Erthygl 2

Mae’r Confensiwn yn berthnasol i bob plentyn heb wahaniaethu, beth bynnag fo’i ethnigrwydd, rhyw, crefydd, iaith, gallu neu unrhyw statws arall, beth bynnag mae’n ei feddwl neu'n ei wneud, beth bynnag fo’i gefndir teuluol.

Statws: Amherthnasol

Esboniad

Bydd newidiadau i system etholiadol y Senedd yn effeithio ar bobl ifanc 16 a 17 oed sy’n gallu pleidleisio, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod yr effeithiau hyn yn gadarnhaol nac yn negyddol o’i gymharu ag effaith y Bil ar bleidleiswyr sydd dros 18 oed.

Nid yw’r Bil yn effeithio ar hawliau pobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio – dim ond y ffordd y mae pleidleisiau o'r fath yn digwydd.

Ar hyn o bryd, nid oes pŵer statudol i adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd – maent wedi’u hatal rhag addasu i adlewyrchu newidiadau yn nemograffeg y boblogaeth.

I ddechrau, rhoddir sylw i hyn at ddiben etholiad 2026 drwy baru etholaethau Senedd y DU (a sefydlwyd yn 2023) ac, yn y tymor hir, drwy adolygiadau ‘llawn’ o'r ffin.

Gellir nodi nad yw’r rheolau ar gyfer cynnal yr adolygiad paru o'r ffin cyn etholiad y Senedd yn 2026 yn cynnwys gofyniad i fodloni cwota etholiadol. Gan fod etholaethau Senedd y DU a fydd yn cael eu paru wedi cael eu ffurfio ar sail etholfraint Seneddol y DU, mae hyn yn golygu na fyddant yn ystyried dosbarthiad daearyddol pobl ifanc 16 a 17 oed (oherwydd nad oes ganddynt yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU). Fodd bynnag, ni ystyrir y bydd hyn yn cael effaith wahaniaethol ar bobl ifanc 16-17 oed eu hunain. Mae’n cyflwyno’r potensial i rai etholaethau gael nifer fwy neu lai o etholwyr nag y gellid ei ddisgwyl ar sail cwota etholiadol y DU, ond ni ystyrir bod hyn yn cyd-fynd ag effaith wahaniaethol ar bobl ifanc 16 a 17 oed eu hunain.

Mae effaith pobl ifanc 16 a 17 oed ar amrywiadau ym maint pleidleiswyr etholaethau hefyd yn debygol o gael ei disodli gan y canlynol:

  • amrywiadau presennol yn y boblogaeth ym maint etholaethau’r Senedd – gan nad oes mecanwaith o gwbl ar hyn o bryd i ffiniau etholaethau ystyried demograffeg y boblogaeth
  • mae gan Ynys Môn statws gwarchodedig o fewn yr adolygiad o ffiniau etholaethau Senedd y DU, sy’n golygu y bydd yr etholaeth sy’n cynnwys Ynys Môn ar gyfer etholiad 2026 y Senedd yn llai o lawer o ran nifer yr etholwyr na’r etholaethau eraill
  • newidiadau yn nemograffeg y boblogaeth ers cofrestrau Senedd y DU ar 2 Mawrth 2020, yr oedd etholaethau Senedd y DU yn seiliedig arnynt yn 2023.

Ar ben hynny, mae’r adolygiad ‘llawn’ dilynol sydd i’w gynnal cyn etholiad 2030 yn cynnwys gofyniad i fodloni cwota etholiadol (a fydd yn cynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed fel rhan o’r etholfraint), ac felly bydd etholfraint etholiadol y Senedd yn cael ei hystyried fel rhan o hynny ac unrhyw adolygiadau dilynol.

Ni fydd newidiadau i’r gyfraith ar anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd yn effeithio’n uniongyrchol ar blant na phobl ifanc. Yn hytrach, bydd angen i ddarpar Aelodau fod yn 18 oed ar y diwrnod y cânt eu henwebu er mwyn sefyll mewn etholiad. Gellid dadlau’n ddamcaniaethol bod hyn yn gwahaniaethu yn erbyn plant a phobl ifanc ar sail oedran, ac y dylid gostwng oedran ymgeisyddiaeth. Fodd bynnag, ni chafodd y mater hwn ei godi fel pryder yn ymgynghoriad 2018 Comisiwn y Senedd, Creu Senedd i Gymru.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymgynghori’n flaenorol ynghylch a ddylai pobl ifanc 16 a 17 oed allu sefyll i gael eu hethol i Senedd yr Alban. Fodd bynnag, mae’r ymgynghoriad yn nodi amrywiaeth o gymhlethdodau sy’n gysylltiedig â hynny, gan gynnwys y canlynol:

“Gellir dadlau bod galluogi pobl ifanc 16 a 17 oed i sefyll mewn etholiad yn codi pryderon posibl o ran llesiant, fel y posibilrwydd y gallai pobl ifanc fod yn agored i fygythiadau (e.e. ar ffurf iaith casineb neu ar drywydd yr ymgyrch). Gallai oriau gwaith yn Senedd yr Alban ac mewn cynghorau lleol hefyd fod yn bryder posibl i gynrychiolwyr 16 a 17 oed. Mae wythnos Seneddol arferol Senedd yr Alban rhwng 14:30 a 17:30 ddydd Llun, 09:15 a 17:30 ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau a 09:30 a 12:30 ddydd Gwener. Gall cyfarfod yn y Senedd barhau tan 19:00 ddydd Mercher os bydd y Senedd yn penderfynu hynny. Efallai y bydd rhaid i Aelod o Senedd yr Alban fyw yng Nghaeredin yn ystod yr wythnos hefyd, os yw eu cartref yn rhy bell i ffwrdd i deithio i’r Senedd bob dydd, a allai fod yn bryder ychwanegol i bobl ifanc 16 ac 17 oed. Gellid dadlau hefyd y gallai dal swydd yn 16 neu 17 oed effeithio ar addysg person ifanc (e.e. wrth sefyll arholiadau) ac mae materion diogelu data hefyd yn codi mewn perthynas â thrin data personol pobl dan 18 oed.”

Yn ogystal â hyn, mae pob person ifanc rhwng 11 a 17 oed sy’n byw, neu’n derbyn addysg, yng Nghymru yn gymwys i sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad etholaethol i Senedd Ieuenctid Cymru. Mae cyfleoedd hefyd i sefyll fel ymgeisydd mewn cynghorau ysgol ac ieuenctid.

O ganlyniad i hyn, ni ystyrir bod y penderfyniad i beidio â lleihau oedran ymgeisyddiaeth etholiadau’r Senedd yn tresmasu ar hawliau plant i fod yn rhydd rhag gwahaniaethu.

Gellir nodi hefyd nad yw’r cynnydd ym maint y Senedd yn golygu newidiadau deddfwriaethol i Senedd Ieuenctid Cymru. Fodd bynnag, mae’r ystod uchaf o gostau a ddarperir gan Gomisiwn y Senedd yn cwmpasu cynnydd posibl ym maint Senedd Ieuenctid Cymru i 96. Nid yw hwn yn benderfyniad i Lywodraeth Cymru ei wneud, ond gellir nodi y byddai ehangu Senedd Ieuenctid Cymru yn arwain at fanteision o ran galluogi mwy o blant a phobl ifanc i gymryd rhan ynddo.

Gellir nodi hefyd na fyddai newidiadau i’r system etholiadol y mae Aelodau’r Senedd yn pleidleisio ynddi yn golygu bod angen newidiadau deddfwriaethol yn system etholiadol Senedd Ieuenctid Cymru. Ni fyddai newid ym maint Senedd Ieuenctid Cymru ychwaith. Ar hyn o bryd, mae traean o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn cael eu hethol drwy sefydliadau partner, wedi’u dewis ar sail eu gallu i ddychwelyd a chefnogi pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol, gyda’r ddwy ran o dair sy’n weddill yn cael eu hethol drwy etholiadau cyntaf i’r felin yn yr etholaeth. Gallai’r cydbwysedd hwn gael ei gynnal mewn Senedd Ieuenctid Cymru o 96 Aelod (h.y. gallai 32 Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gael eu hethol drwy sefydliadau partner a gallai 64 Aelod gael eu hethol drwy etholiad cyntaf i’r felin ac ar-lein, gyda phob un o’r 16 etholaeth yn ethol 4 Aelod). Unwaith eto, ni fydd penderfyniadau ynghylch trefniadau a systemau etholiadol Senedd Ieuenctid Cymru yn fater i Lywodraeth Cymru benderfynu arnynt.

Erthygl 12

Mae gan blant yr hawl i ddweud beth ddylai ddigwydd pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, ac i gael rhywun i ystyried eu barn.

Statws: Gwella

Esboniad

Bydd gwella maint a chapasiti’r Senedd o bosibl yn gwella ei gallu i ystyried safbwyntiau, teimladau a dymuniadau plant a phobl ifanc ledled Cymru, craffu ar bolisi a deddfwriaeth ar eu rhan, eu cynrychioli a’u gwasanaethu. Ystyrir bod erthygl 12 yn cael ei roi ar waith drwy'r Bil.

Erthygl 13

Rhaid i bob plentyn fod yn rhydd i fynegi ei feddyliau a’i farn ac i gael mynediad at bob math o wybodaeth, ar yr amod ei fod o fewn y gyfraith.

Statws: Gwella

Esboniad

Bydd gwella capasiti y Senedd o bosibl yn gwella ei allu i ddarparu gwybodaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Ystyrir bod erthygl 13 yn cael ei roi ar waith drwy'r Bil.

Erthygl 14

Mae gan bob plentyn yr hawl i feddwl a chredu’r hyn mae’n ei ddewis a hefyd i arfer ei grefydd, ar yr amod nad yw’n atal pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau. Rhaid i lywodraethau barchu hawliau a chyfrifoldebau rhieni i arwain eu plentyn wrth iddynt dyfu i fyny.

Statws: Gwella

Esboniad

Bydd gwella capasiti y Senedd o bosibl yn gwella ei allu i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ledled Cymru, gan roi budd i blant a phobl ifanc wrth roi llais i’w credoau. Ystyrir bod erthygl 14 yn cael ei pharchu gan y Bil.

Erthyglau 17 a 23

Mae Erthygl 17 yn darparu bod gan bob plentyn yr hawl i gael gwybodaeth ddibynadwy o amrywiaeth o ffynonellau ac y dylai’r llywodraeth annog y cyfryngau i ddarparu gwybodaeth y gall plant ei deall.

Mae Erthygl 23 yn nodi bod gan blentyn ag anabledd hawl i fyw bywyd llawn a gweddus gydag urddas a, chyn belled ag y bo modd, annibyniaeth ac i gynllunio rhan weithredol yn y gymuned.

Statws: Gwella

Esboniad

Rhagwelir y bydd deunyddiau addysg sy’n cael eu paratoi i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau i system etholiadol y Senedd yn cael eu datblygu gan ystyried anghenion plant a phobl ifanc, gan gynnwys y rheini sy’n yn anabl.

Mae hyn yn rhoi erthygl 17 ac erthygl 23 ar waith, sy’n darparu bod gan blentyn anabl yr hawl i fyw bywyd llawn a pharchus gydag urddas a, chyn belled ag y bo modd, gydag annibyniaeth, ac i chwarae rhan weithredol yn y gymuned.

Gellir nodi hefyd na fydd y Bil yn newid hawliau presennol pleidleiswyr anabl 16 a 17 oed. O dan y system etholiadol newydd, bydd pleidleiswyr yn parhau i allu gofyn am gymorth i farcio’r papur pleidleisio, defnyddio dyfais bleidleisio gyffyrddol (i helpu pobl â nam ar eu golwg neu’r rheini sydd â deheurwydd cyfyngedig i farcio eu papur pleidleisio yn gyfrinachol), gan gyfeirio at fersiwn print bras o’r papur pleidleisio, a gwybod pan fydd mannau pleidleisio wedi’u dynodi, bod rhaid ystyried hygyrchedd ar gyfer pleidleiswyr anabl.

Erthygl 28 (yr hawl i addysg)

Mae gan bob plentyn hawl i addysg. Rhaid i addysg gynradd fod am ddim a rhaid i wahanol fathau o addysg uwchradd fod ar gael i bob plentyn. Rhaid i ddisgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas a hawliau plant. Rhaid i wledydd cyfoethocach helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.

Statws: Gwella

Esboniad

Er nad yw’r Bil ei hun yn deddfu’n uniongyrchol ar ei gyfer, rhagwelir y bydd ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn darparu fframwaith cefnogol ar gyfer pleidleiswyr 16 a 17 oed sy’n ceisio dysgu am y system etholiadol newydd. Fel y cyfryw, ystyrir bod erthyglau 28 a 29 yn cael eu parchu o dan y Bil.

Erthygl 29 (nodau addysg)

Rhaid i addysg ddatblygu personoliaeth, doniau a galluoedd pob plentyn i’r eithaf. Rhaid iddo annog y plentyn i barchu hawliau dynol, yn ogystal â pharchu diwylliant eu rhieni, eu diwylliant nhw eu hunain a diwylliannau eraill, a’r amgylchedd.

Statws: Gwella

Esboniad

Er nad yw’r Bil ei hun yn deddfu’n uniongyrchol ar ei gyfer, rhagwelir y bydd ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn darparu fframwaith cefnogol ar gyfer pleidleiswyr 16 a 17 oed sy’n ceisio dysgu am y system etholiadol newydd. Fel y cyfryw, ystyrir bod erthyglau 28 a 29 yn cael eu parchu o dan y Bil.

  • Dylech ystyried a yw unrhyw rai o Hawliau Dinasyddion yr UE (y cyfeirir atynt yn yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb) yn ymwneud â phobl ifanc hyd at 18 oed

Ni ystyrir y bydd y Bil yn effeithio’n benodol ar ddinasyddion yr UE, EEA na dinasyddion y Swistir (y mae eu hawliau’n cael eu diogelu gan y Cytundebau Hawliau Dinasyddion) o’i gymharu â phobl eraill sy’n byw yng Nghymru, gan gynnwys y rheini hyd at 18 oed. Gellir nodi nad yw’r rheolau ar gyfer cynnal yr adolygiad paru o'r ffin cyn etholiad y Senedd yn 2026 yn cynnwys gofyniad i fodloni cwota etholiadol. Gan fod etholaethau Senedd y DU a fydd yn cael eu paru wedi cael eu ffurfio ar sail etholfraint Seneddol y DU, mae hyn yn golygu na fyddant yn ystyried dosbarthiad daearyddol rhai dinasyddion yr UE, EEA neu ddinasyddion y Swistir. Y rheswm am hyn yw mai dim ond dinasyddion Prydeinig, dinasyddion cymwys y Gymanwlad a dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon sydd â’r hawl i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU. Gall pob dinesydd tramor sy’n preswylio’n gyfreithlon gofrestru i bleidleisio mewn etholiadau i’r Senedd. Fodd bynnag, ni ystyrir y bydd hyn yn cael effaith wahaniaethol ar bobl ifanc ddinasyddion yr UE, EEA na dinasyddion y Swistir eu hunain. Mae’n cyflwyno’r potensial i rai etholaethau gael nifer fwy neu lai o etholwyr nag y gellid ei ddisgwyl ar sail cwota etholiadol y DU, ond ni ystyrir bod hyn yn cyd-fynd ag effaith wahaniaethol ar ddinasyddion yr UE, EEA neu ddinasyddion y Swistir eu hunain.

Cyngor i weinidogion a’u penderfyniad

Sut bydd eich dadansoddiad o’r effeithiau hyn yn cyfrannu at eich cyngor i weinidogion?

Y cyngor i Weinidogion yw cyflwyno’r Bil ar 18 Medi, gyda chrynodeb o’r dadansoddiad a nodir ym Memorandwm Esboniadol y Bil.

Cytunwyd ar yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant gan Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Diwygio’r Senedd. Mae Gweinidogion wedi cytuno ar ganfyddiadau’r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant.

Cyhoeddi’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant

Bydd yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yn cael ei gyhoeddi ar 18 Medi 2023 ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyfathrebu â Phlant a Phobl Ifanc

Os ydych chi wedi gofyn am farn plant a phobl ifanc ar eich cynnig, sut byddwch chi’n rhoi gwybod iddynt am y canlyniad?

Rhagwelir y bydd deunyddiau addysg sy’n cael eu paratoi i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau i system etholiadol y Senedd yn cael eu datblygu gan ystyried anghenion plant a phobl ifanc, gan gynnwys y rheini sy’n anabl.

Monitro ac adolygu

Cofiwch amlinellu pa fecanwaith monitro ac adolygu y byddwch chi’n ei sefydlu i adolygu’r Asesiad hwn o’r Effaith ar Hawliau Plant

Mae’r ddeddfwriaeth sylfaenol yn darparu mecanwaith i’r Senedd ystyried cynnal adolygiad o ba mor effeithiol yw darpariaethau’r Bil yn dilyn etholiad 2026, gan roi cyfle i’r Senedd gynnal asesiad gwrthrychol a chynnwys partneriaid a rhanddeiliaid allanol. Gellir seilio ymyriadau a pholisi’r llywodraeth yn y dyfodol ar y canfyddiadau.

Yn dilyn yr adolygiad hwn, a oes angen gwneud unrhyw ddiwygiadau i’r polisi neu’r ffordd o’i weithredu?

Nid oes angen unrhyw ddiwygiadau i’r polisi na’i weithrediad yn dilyn yr adolygiad hwn.