Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad yn greiddiol i genhadaeth ein cenedl mewn addysg ac mae'r Grant Datblygu Disgyblion (y Grant) yn allweddol i gyflawni hyn. Nod y Grant yw gwrthsefyll effaith tlodi ar blant a phobl ifanc ac mae dyraniadau cyllid yn cael eu rhoi yn uniongyrchol i ysgolion a lleoliadau.
Mae cyllid y Grant yn cael ei ddyrannu ar sail nifer y dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim sydd wedi'u cofrestru ym mhob ysgol, yn ôl Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) y flwyddyn flaenorol. Mae dyraniadau'r Grant ar gyfer 2023-24 yn seiliedig ar ddata CYBLD mis Ionawr 2022, ac o ganlyniad ni fydd wedi cael ei effeithio gan y cynllun o gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd a ddechreuodd ym mis Medi 2022.
Mae cadw'r dynodwr o gymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim wrth i ni barhau i gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd wedi bod yn un o amcanion polisi allweddol y rhaglen. Mae'n hanfodol gwarchod ansawdd y dynodwr prydau ysgol am ddim i lywio ein polisïau yn gywir ac i drosglwyddo hawliau yn deg, er enghraifft dyraniadau'r Grant Datblygu Disgyblion i ysgolion a chyllid Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer teuluoedd cymwys. Mae’r ymrwymiad i roi prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Wrth gyflwyno'r cynnig i bawb, mae fy swyddogion wedi cydweithio ag ystod o bartneriaid i sicrhau ein bod yn gallu parhau i nodi'r plant a'r teuluoedd hynny a fyddai yn draddodiadol wedi bod yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim ar sail meini prawf incwm neu fudd-daliadau. O'r herwydd, ein nod yw cadw'r dynodwr prydau ysgol am ddim, a'r data cysylltiedig a gesglir trwy CYBLD, wrth symud ymlaen fel y gellir parhau i'w defnyddio wrth ddyrannu cyllid y Grant.
Lansiwyd yr ymgyrch gyfathrebu 'Hawliwch help gyda chostau ysgol' ym mis Awst 2022 i godi ymwybyddiaeth o brydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn ogystal â'r angen i barhau i gofrestru cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim. Roedd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o'r budd-daliadau eraill y gallai rhieni fod yn gymwys i'w cael o ganlyniad i gofrestru - er enghraifft y Grant Hanfodion Ysgol - i helpu teuluoedd gyda chost y diwrnod ysgol, a'r cyllid ychwanegol o'r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer ysgol y plentyn. Dangosodd ein harolwg omnibws a gynhaliwyd ym mis Mai 2023 fod yr ymgyrch 'Hawliwch help gyda chostau ysgol' wedi helpu i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth rhieni o brydau ysgol am ddim yn ystod y chwe mis diwethaf.
Trwy barhau i hyrwyddo cofrestru ar lefel ysgol a lleoliad, dylai'r dangosydd prydau ysgol am ddim gynnig arwydd dibynadwy o faint yr her economaidd-gymdeithasol sy'n wynebu ysgol/lleoliad. Byddwn yn parhau i adolygu hyn wrth i'r cynnig i bawb fynd rhagddo, gan gynnwys cadarnhau a dilysu data cyfrifiad ysgolion ychwanegol. Bob blwyddyn rydym yn gwneud dilysiad ychwanegol i wirio data prydau ysgol am ddim, gan gynnwys gwirio gyda thrysoryddion awdurdodau lleol fel rhan o'r Setliad Cyllid Llywodraeth Leol. Yn dilyn CYBLD Ionawr 2023 rydym wedi cymryd camau dilysu ychwanegol ac wedi cydweithio ag awdurdodau lleol i edrych yn benodol ar gymhwystra dosbarth derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2. Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd wedi cael effaith niweidiol ar ansawdd y data. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid ac yn bod yn wyliadwrus yn y dyfodol i sicrhau ansawdd parhaus y data ar ôl cyflwyno'r cynllun.
Rydym hefyd yn bwrw ymlaen ag ymchwil i adolygu'r ffordd yr ydym yn ystyried ffactorau economaidd-gymdeithasol ymhlith dysgwyr, eu heffaith ar ddeilliannau, a'r defnydd o ddata o'r fath i dargedu cyllid a chymorth. Mae hyn mewn ymateb i'r sefyllfa gyfnewidiol sy’n effeithio ar ein ffyrdd o fesur amddifadedd economaidd-gymdeithasol ar hyn o bryd yn ogystal â'r diwygiadau ehangach ym maes y cwricwlwm a gwella ysgolion. Er ein bod, yn y gorffennol wedi defnyddio'r data prydau ysgol am ddim at sawl diben, rydym yn awyddus i sicrhau bod y ffordd yr ydym yn defnyddio data o'r fath yn ystyried yr anghenion amrywiol a gwahanol o fewn y system ysgolion ac ymhlith rhanddeiliaid, ac ein bod yn cydbwyso hyn â'r angen am gysondeb a thryloywder.