Mae manylion rhaglen gwerth £4.6m wedi'i chyhoeddi heddiw fydd yn lleihau perygl llifogydd gan ddefnyddio grym natur, gan wireddu ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.
Cafodd Rhaglen Sbarduno Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol ei chadarnhau mewn datganiad ar y cyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, a'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths.
Dywed y Gweinidogion fod y rhaglen ddwy flynedd yn dilyn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli llifogydd yn nalgylchoedd ein holl afonydd mawr.
Bydd y rhaglen ddwy flynedd yn helpu'r Awdurdodau Rheoli Risg i gydweithio gyda ffermwyr, perchnogion tir a mudiadau'r trydydd sector yng Nghymru i gynnal atebion sy'n defnyddio grym natur i leihau llifogydd.
Bydd yn ariannu 23 o brosiectau ar draws ardaloedd wyth Awdurdod Rheoli Risg gwahanol. Mae disgwyl iddi leihau'r perygl llifogydd i ryw 2,000 eiddo.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
"Wrth i Gymru fynd i'r afael ag effeithiau cynyddol y newid yn yr hinsawdd a'r difrod y gall llifogydd ei achosi, mae'r angen i leihau'r risg i gymunedau nawr ac i'r dyfodol yn tyfu.
"Mae datblygu a chynnal atebion cynaliadwy sy'n seiliedig ar natur i leihau perygl llifogydd yn hanfodol i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd, ein cartrefi a'n cymunedau.
"Mae'n bleser gennym gyhoeddi heddiw ein bod yn lansio y Rhaglen Sbarduno ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol.
"Bydd y rhaglen yn buddsoddi £4.6 miliwn dros 2 flynedd i ehangu ymhellach ein hymrwymiad i weithio ar y cyd â ffermwyr, perchenogion tir a mudiadau'r trydydd sector ledled Cymru.
"Bydd y cynllun hwn yn adeiladu ar yr hyn y mae prosiectau llwyddiannus y gorffennol wedi dysgu i ni ac yn dod â nifer o atebion arloesol at ei gilydd i ddatblygu atebion sy'n seiliedig ar natur yn ein dalgylchoedd gwledig."
Ychwanegodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths:
"Gyda chefnogaeth ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd, gallwn ddatblygu'r economi wledig a'n hamgylchedd naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Bydd hyn yn gwella ein gwybodaeth a'n profiad ymhellach o ran darparu prosiectau cydweithredol cydlynol mewn ardaloedd sy'n tueddu i ddioddef gan lifogydd. Trwy ddefnyddio'r wybodaeth a geir o gynnal cynlluniau fel hyn, byddwn hefyd yn lleihau llygredd, yn lleihau dŵr ffo ac yn annog ffyrdd newydd o addasu i hinsawdd sy'n newid.
"Rydym i gyd yn cydnabod bod angen inni gydweithredu mwy wrth ystyried ac annog ffyrdd newydd o weithio ar y cyflymder a'r raddfa sydd eu hangen. Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatáu i Awdurdodau Rheoli Risg a chymunedau lleol arwain brosiectau a lleihau perygl llifogydd yn eu hardal."