Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gynllun gwaith ar y cyd. Mae'r cynllun gwaith hwn yn amlinellu'r gwaith rydym yn bwriadu ei wneud yn ystod 2023-24 a thu hwnt i wella ein dealltwriaeth o brif ffynonellau data arolygon a data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg. Ochr yn ochr â'r cynllun gwaith hwn cyhoeddwyd blog gan Brif Ystadegydd Llywodraeth Cymru (Blog Digidol a Data).

Mae'r erthygl ystadegol hon yn rhannu canfyddiadau cychwynnol o'r cyntaf o chwe phrosiect a amlinellir yn y cynllun gwaith. Roedd Prosiect 1 yn ymwneud â dadansoddi data cysylltiol, sydd wedi'i drin fel nad yw'n adnabyddadwy, o Gyfrifiad 2021 a'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS) yn y Gwasanaeth Data Integredig (IDS). Amcan y prosiect oedd deall nodweddion pobl a roddodd ymatebion anghyson i'r cwestiwn am y Gymraeg rhwng y ddwy ffynhonnell yn well.

Mae'r prosiect gwaith hwn yn rhan bwysig o asesu'r sylfaen dystiolaeth gyfredol ar gyfer sgiliau Cymraeg. Mae strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi y bydd cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn cael ei fonitro gan ddefnyddio data'r cyfrifiad o'r boblogaeth. Bydd canfyddiadau'r prosiect hwn yn helpu i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion yr Ystadegydd Gwladol yn dilyn ymgynghoriad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ddyfodol ystadegau mudo a phoblogaeth yng Nghymru a Lloegr.

Cefnogwyd y gwaith hwn gan Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru yn Llywodraeth Cymru a chydweithwyr yn nhîm Ystadegau'r Boblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae rhagor o wybodaeth am y fethodoleg cysylltu data ac ansawdd y data i'w gweld yn yr adran Dulliau ac ansawdd y data.

Prif bwyntiau

  • Roedd tua dau o bob pump (39.9%) o'r bobl a gofnododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu neu yng Nghyfrifiad 2021 wedi cofnodi nad oeddent yn gallu gwneud hynny yn y ffynhonnell arall.
  • Dywedodd mwy o bobl eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ac nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg yn Nghyfrifiad 2021 na'r gwrthwyneb.
  • O'r bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu neu Gyfrifiad 2021, y grwpiau canlynol oedd yn tueddu i gytuno ar draws y ddwy ffynhonnell fwyaf aml: pobl 65 oed neu hŷn; pobl sy'n byw yn y gogledd orllewin; pobl a anwyd yng Nghymru; a phobl â hunaniaeth genedlaethol Gymreig.
  • O'r bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu neu Gyfrifiad 2021, y grwpiau canlynol oedd yn tueddu i anghytuno ar draws y ddwy ffynhonnell fwyaf aml: pobl iau na 25 oed; pobl sy'n byw yn y de ddwyrain a'r gogledd ddwyrain; pobl a anwyd mewn mannau eraill o'r DU; a phobl heb hunaniaeth genedlaethol Gymreig.
  • O'r bobl oedd yn cytuno y gallent siarad Cymraeg ar y ddwy ffynhonnell, nododd dros ddwy ran o dair (68.6%) eu bod yn siarad Cymraeg bob dydd. O'r bobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ond nid yng Nghyfrifiad 2021, dim ond tua chwarter (24.8%) oedd yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg bob dydd.
  • Mae cyfran lai o aelwydydd cwpl yn cytuno ar eu gallu i siarad Cymraeg rhwng y ddwy ffynhonnell lle nad oes yr un, neu ddim ond un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg o'i gymharu ag aelwydydd cwpl sy'n cynnwys dau neu fwy o oedolion sy'n gallu siarad Cymraeg.

Cefndir

Mae gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg rhwng y cyfrifiad ac arolygon aelwydydd fel yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, sy'n defnyddio data o fwy nag un ton o'r Arolwg o'r Llafurlu, yn rhai hirsefydlog. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ('Gwahaniaethau mewn amcangyfrifon o Sgiliau Cymraeg' (Yr Archifau Genedlaethol)) a Llywodraeth Cymru ('Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: 2001 i 2018') wedi archwilio rhesymau posibl dros rai o'r gwahaniaethau hyn yn y gorffennol.

Er bod arolygon aelwydydd fel arfer yn rhoi amcangyfrifon uwch i ni o allu yn y Gymraeg, dyma'r tro cyntaf i'r cyfrifiad ddangos gostyngiad yn nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg tra bo'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn dangos cynnydd.

Ar 6 Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fwletin ystadegol yn crynhoi canlyniadau cychwynnol Cyfrifiad 2021 ar Sgiliau Cymraeg y boblogaeth sy'n byw yng Nghymru. Yn ôl Cyfrifiad 2021, amcangyfrifwyd bod 538,300 o breswylwyr arferol tair oed neu'n hŷn yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, neu 17.8% o'r boblogaeth. 

Mewn cymhariaeth, ar yr adeg y cynhaliwyd Cyfrifiad 2021, nododd data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth amcangyfrif o 884,000 o siaradwyr Cymraeg tair oed neu'n hŷn sy'n byw yng Nghymru (29.2% o'r boblogaeth), gyda chyfwng hyder o plws neu minws 23,000 yn seiliedig ar ganlyniadau'r sampl. 

Ffigur 1: Nifer y bobl tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, 2001 i Fehefin 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart linell hon yn dangos, yn dilyn gostyngiad rhwng 2001 a 2007, y bu cynnydd ers hynny yn nifer y siaradwyr Cymraeg a amcangyfrifwyd ac a gofnodwyd gan yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Amcangyfrifwyd gan Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth bod 889,700 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023. Mae nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2001, 2011 a 2021 wedi'u plotio ar yr un siart, ac wedi'u labelu, sef 582,400, 562,000 a 538,300 yn y drefn honno.

Ffynhonnell: Cyfrifiad o'r boblogaeth (Swyddfa Ystadegau Gwladol); Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: Data am y Gymraeg (StatsCymru)

Cyfrifiad 2021: Data am y Gymraeg (StatsCymru)

[Nodyn 1] Ers canol Mawrth 2020, mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth wedi'i gynnal dros y ffôn yn unig.

Roedd amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn uwch nag amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ar gyfer pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Gwelir y gwahaniaethau mwyaf ym Mlaenau Gwent, Casnewydd, a Chaerffili, ble roedd nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg a gofnodwyd gan Gyfrifiad 2021 lai na hanner amcangyfrif yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Roedd nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd gan Gyfrifiad 2021 yn Ynys Môn a Gwynedd 18% a 19% yn is nag amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, yn y drefn honno. Rhain oedd yr awdurdodau lleol gyda'r gwahaniaethau lleiaf rhwng yr amcangyfrifon a gofnodwyd.

Ar gyfer bron pob awdurdod lleol, roedd y gwahaniaeth pwynt canran yn y gyfran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg rhwng y ddwy ffynhonnell yn uwch yn 2021 nag yn 2011, gan awgrymu bod y ddwy ffynhonnell yn dod yn fwyfwy gwahanol dros amser.

Yn yr un modd, mae maint y gwahaniaeth rhwng y ddwy ffynhonnell yn amrywio yn ôl grŵp oedran. Yn 2011 a 2021, gwelwyd y gwahaniaethau mwyaf rhwng y ffynonellau ar gyfer y grwpiau oedran ieuengaf (3 i 15 ac 16 i 24 oed), gyda'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn adrodd yr amcangyfrif uchaf. Y rhain hefyd oedd y grwpiau oedran â'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn ôl y ddwy ffynhonnell.  

Unwaith eto, ar gyfer pob grŵp oedran, roedd y gwahaniaeth pwynt canran yn y gyfran o'r boblogaeth sy'n gallu siarad Cymraeg rhwng y ddwy ffynhonnell yn uwch yn 2021 nag yn 2011.

Er y gellir priodoli rhai o'r gwahaniaethau i'r fethodoleg samplu a phwysoli ar gyfer yr Arolwg o'r Llafurlu (Swyddfa Ystadegau Gwladol) (rhywbeth a fydd yn cael ei archwilio ymhellach yn y dyfodol), mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar y graddau y mae ymatebion yr un unigolyn yn wahanol rhwng y ddwy ffynhonnell. 

Cyfraddau cytundeb yn ôl sgil yn y Gymraeg

Yn yr erthygl hon, mae'r "prif gyfraddau cytundeb" yn cyfeirio at gyfran yr unigolion yn y set ddata cysylltiol a gofnododd yr un ymateb i gwestiwn penodol ar draws y ddwy ffynhonnell. Sylwer ar gyfer rhai unigolion, efallai bod person arall wedi ymateb ar eu rhan, gan gynnwys am eu gallu yn y Gymraeg. Yn yr Arolwg o'r Llafurlu, rhywun arall sydd bob amser yn ateb ar ran plant iau na 16 oed.

Mae'r set ddata cysylltiol a ddefnyddir yn y dadansoddiad hwn yn cynnwys 5,380 o gofnodion unigol sy'n rhychwantu pum chwarter o ddata o'r Arolwg o'r Llafurlu. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr adran am Ddulliau ac ansawdd y data.

Pan ofynnwyd iddynt am eu gallu i siarad Cymraeg, rhoddodd 87.3% o'r ymatebwyr cysylltiol ateb cyson yn yr Arolwg o'r Llafurlu a Chyfrifiad 2021, tra bo 12.8% wedi rhoi ymatebion anghyson.

Tabl 1: Y gallu i siarad Cymraeg a gofnodwyd gan ymatebwyr cysylltiol yn yr Arolwg o'r Llafurlu a Chyfrifiad 2021 [Nodyn 1]
Y gallu i siarad Cymraeg Methu siarad Cymraeg (Arolwg o'r Llafurlu) Gallu siarad Cymraeg (Arolwg o'r Llafurlu)
Methu siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2021) 68.1% 10.9%
Gallu siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2021) 1.9% 19.2%

Ffynhonnell: Set ddata cysylltiol Cyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ac Arolwg o'r Llafurlu (Swyddfa Ystadegau Gwladol), Ebrill 2020 i Orffennaf 2021.

[Nodyn 1] Mae'r canrannau a nodir yn y ffigur hwn, a ffigurau canlynol wedi'u cyfrifo gan ddefnyddio cyfrifiadau wedi'u talgrynnu, ac nid ydynt o'r rheidrwydd yn adio i 100%.

Gellir priodoli'r ganran uchel o atebion cyson i'r ffaith bod mwy na dwy ran o dair o'r ymatebwyr wedi cofnodi nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg ar y ddwy ffynhonnell. Yn yr erthygl hon, mae'r "gyfradd cytundeb amodol" yn cyfeirio at y gyfradd cytundeb pan mae'r unigolion sy'n cofnodi nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg ar y ddwy ffynhonnell yn cael eu heithrio.

O'r bobl a gofnododd allu i siarad Cymraeg yn o leiaf un o'r ddwy ffynhonnell, y gyfradd cytundeb amodol yw 60.1%. Ffordd arall o'i egluro yw bod tua dau o bob pump o'r bobl a gofnododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu neu yng Nghyfrifiad 2021 wedi cofnodi nad oeddent yn gallu gwneud hynny yn y ffynhonnell arall. 

O'r ymatebwyr cysylltiol a gofnododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu:

  • cofnododd 63.8% eu bod hefyd yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021
  • cofnododd 36.2% nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021

I'r gwrthwyneb, o'r ymatebwyr cysylltiol a gofnododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021:

  • cofnododd 91.2% eu bod hefyd yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu
  • cofnododd 8.8% nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu

Dywedodd mwy o bobl eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ac nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg yn y Cyfrifiad na'r gwrthwyneb. Mae'r canlyniad hwn i'w ddisgwyl o ystyried bod yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn rhoi amcangyfrifon uwch o allu i siarad Cymraeg na'r cyfrifiad.

Pan edrychwn ar sgiliau Cymraeg eraill (y gallu i ysgrifennu, darllen neu ddeall Cymraeg llafar), mae'r brif gyfradd cytundeb ychydig yn uwch ar gyfer y sgiliau lleiaf cyffredin, lle mae cyfran gymesur mwy o ymatebwyr yn cytuno nad oes ganddynt sgil o'r fath. Pan mae'r ymatebwyr sy'n cofnodi nad oes ganddynt sgil Cymraeg naill ai yn yr Arolwg o'r Llafurlu nac yng Nghyfrifiad 2021 yn cael eu heithrio, mae'r gyfradd cytundeb amodol yn gyson ar draws y pedair sgil.

Ymysg yr ymatebwyr cysylltiol yn y set ddata:

  • rhoddodd 89.3% ateb cyson am eu gallu i ysgrifennu'n Gymraeg (y gyfradd cytundeb amodol oedd 59.8%)
  • rhoddodd 87.8% ateb cyson am eu gallu i ddarllen Cymraeg (y gyfradd cytundeb amodol oedd 59.1%)
  • rhoddodd 84.8% ateb cyson am eu gallu i ddeall Cymraeg llafar (y gyfradd cytundeb amodol oedd 59.7%)

Gallwn hefyd archwilio i ba raddau y mae'r cyfuniad o sgiliau Cymraeg a gofnodwyd ar gyfer ymatebwyr cysylltiol yn gyson ar draws yr Arolwg o'r Llafurlu a Chyfrifiad 2021. 

Tabl 2: Canran y sgiliau Cymraeg a gofnodwyd gan ymatebwyr cysylltiol yn yr Arolwg o'r Llafurlu a Chyfrifiad 2021
Sgiliau Cymraeg Dim sgiliau Cymraeg (Arolwg o'r Llafurlu) Rhai sgiliau Cymraeg (Arolwg o’r Llafurlu) Pob un o'r sgiliau Cymraeg (Arolwg o'r Llafurlu)
Dim sgiliau Cymraeg (Cyfrifiad 2021) 60.4% 6.6% 4.1%
Rhai sgiliau Cymraeg (Cyfrifiad 2021) 3.3% 4.4% 5.5%
Pob un o'r sgiliau Cymraeg (Cyfrifiad 2021) 0.7% 0.9% 14.2%

Ffynhonnell: Set ddata cysylltiol Cyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ac Arolwg o'r Llafurlu (Swyddfa Ystadegau Gwladol), Ebrill 2020 i Orffennaf 2021.

Mae Tabl 2 yn dangos cryn dipyn o anghytuno ymhlith y bobl a gofnododd rhwng un a thair sgil Cymraeg – rhai, ond nid pob un – yn yr Arolwg o'r Llafurlu. Ymhlith y grŵp hwn, nododd 36.7% fod ganddynt rai ond nid pob un o'r sgiliau Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021, tra bod y mwyafrif (55.5%) wedi cofnodi nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau o gwbl.

O'r bobl a gofnodwyd fel rhai sy'n gallu siarad, darllen, ysgrifennu a deall Cymraeg llafar yn yr Arolwg o'r Llafurlu, cofnododd 59.8% eu bod hefyd yn meddu ar y pedair sgil yng Nghyfrifiad 2021.

Tabl 3: Anghytundebau mwyaf cyffredin am sgiliau Cymraeg a gofnodwyd gan ymatebwyr cysylltiol yn yr Arolwg o'r Llafurlu a Chyfrifiad 2021
Cyfrifiad 2021 Arolwg o'r Llafurlu 2021 Canran o'r holl anghytundebau  
Dim sgiliau Cymraeg Deall, siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg 17.5%  
Dim sgiliau Cymraeg Deall Cymraeg llafar yn unig 10.7%  
Dim sgiliau Cymraeg Deall a siarad Cymraeg yn unig 9.1%  
Deall Cymraeg llafar yn unig Dim sgiliau Cymraeg 7.5%  
Deall Cymraeg llafar yn unig Deall, siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg 6.0%  
Pob cyfuniad arall o sgiliau Pob cyfuniad arall o sgiliau 49.2%  

Ffynhonnell: Set ddata cysylltiol Cyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ac Arolwg o'r Llafurlu (Swyddfa Ystadegau Gwladol), Ebrill 2020 i Orffennaf 2021.

Mae archwiliad manylach o gyfuniad y sgiliau a gofnodwyd gan ymatebwyr cysylltiol yn dangos bod 76.6% wedi cofnodi'r un cyfuniad o bedair sgil yn yr Arolwg o'r Llafurlu a Chyfrifiad 2021. O'r ymatebion sy'n weddill, yr anghytundeb mwyaf cyffredin oedd cofnodi dim sgiliau Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021 a phob un o'r sgiliau Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu (mae'r rhain yn cynrychioli 17.5% o bob anghytundeb). Yr ail anghytundeb fwyaf cyffredin oedd cofnodi dim sgiliau Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021 a'r gallu i ddeall Cymraeg llafar yn unig yn yr Arolwg o'r Llafurlu.

Gyda'i gilydd, mae'r pum anghytundeb mwyaf cyffredin sydd wedi'u rhestru yn Nhabl 3 yn cynrychioli dros hanner yr holl anghytundebau am sgiliau Cymraeg a arsylwyd yn y set ddata cysylltiol.

Cyfraddau cytundeb yn ôl nodweddion y boblogaeth

O ddefnyddio ymatebion a ddarparwyd i gwestiynau eraill yng Nghyfrifiad 2021, gallwn fesur y cyfraddau cytundeb ar gyfer sgiliau Cymraeg yn ôl ystod o nodweddion demograffig ac sy'n ymwneud â chyfansoddiad aelwydydd. Gan mai cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yw un o brif nodau Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae'r dadansoddiad yn yr adran hon yn canolbwyntio ar sut mae ymatebwyr yn cofnodi eu gallu i siarad Cymraeg yn benodol.

Cyfraddau cytundeb yn ôl grŵp oedran

Mae'r mwyafrif helaeth o ymatebwyr ym mhob grŵp oedran yn cytuno am eu hasesiad o'u gallu i siarad Cymraeg yn y ddwy ffynhonnell. Fodd bynnag, mae'r gyfran sydd yn anghytuno yn amrywio'n sylweddol yn ôl oedran.

Roedd cyfran yr ymatebion anghyson ar gyfer plant 3 i 15 oed bron bedair gwaith yn fwy na'r gyfran gyfatebol ar gyfer pobl 65 oed neu'n hŷn. Dylid nodi mai rhywun arall sydd bob amser yn ateb ar ran plant iau na 16 oed yn yr Arolwg o'r Llafurlu.

Ffigur 2: Canran yr ymatebwyr cysylltiol sy'n cytuno / anghytuno ynghylch eu gallu i siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu a Chyfrifiad 2021, yn ôl grŵp oedran

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r siart golofn hon yn dangos canran yr ymatebwyr cysylltiol ym mhob carfan oedran a roddodd atebion oedd yn anghytuno am eu gallu i siarad Cymraeg, cytuno y gallant siarad Cymraeg, a chytuno na allant siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ac yng Nghyfrifiad 2021. Mae cyfran gymesur fwy o'r ymatebion a gofnodwyd ar gyfer y carfannau oedran iau yn anghytuno, neu gytuno eu bod yn gallu siarad Cymraeg ar y ddwy ffynhonnell, o'u cymharu ag ymatebion ar gyfer eu cymheiriaid hŷn.

Ffynhonnell: Set ddata cysylltiol Cyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ac Arolwg o'r Llafurlu (Swyddfa Ystadegau Gwladol), Ebrill 2020 i Orffennaf 2021.

Gan edrych ar yr ymatebion a gofnodwyd ar gyfer plant rhwng 3 a 15 oed: 

  • mae 26.8% yn anghytuno am eu gallu i siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu a Chyfrifiad 2021
  • mae 34.5% yn cytuno eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn y ddwy ffynhonnell
  • mae 38.7% yn cytuno nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg yn y ddwy ffynhonnell

Ymhlith pobl 65 oed neu’n hŷn:

  • mae 7.0% yn anghytuno am eu gallu i siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu a Chyfrifiad 2021
  • mae 15.7% yn cytuno eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn y ddwy ffynhonnell
  • mae 77.3% yn cytuno nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg yn y ddwy ffynhonnell

Gwyddom o ddata'r cyfrifiad ac Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth fod canran y boblogaeth sy'n gallu siarad Cymraeg ar ei huchaf ymhlith plant ac oedolion iau. Mae anghytundeb yn golygu bod yn rhaid bod yr ymatebydd wedi'u cofnodi fel siaradwr Cymraeg ar un ffynhonnell. Felly efallai bod y nifer uchel o ymatebwyr a oedd wedi "anghytuno" ac wedi "cytuno - gallu siarad Cymraeg" ymhlith y ddwy garfan oedran ieuengaf yn adlewyrchu proffil oedran siaradwyr Cymraeg, sy'n iau na phroffil y boblogaeth yn gyffredinol.

Er mwyn rheoli gwahaniaethau yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws grwpiau oedran, rydym hefyd yn mesur y gyfradd cytundeb amodol ar gyfer y rhai sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn o leiaf un ffynhonnell. 

Ffigur 3: Cyfradd cytundeb amodol ymhlith pobl sy'n cofnodi gallu siarad Cymraeg yn o leiaf un o'r ddwy ffynhonnell (Arolwg o'r Llafurlu / Cyfrifiad 2021), yn ôl grŵp oedran

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart far hon yn dangos, o'r bobl sy'n cofnodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn o leiaf un ffynhonnell, fod cyfran gymesur fwy o bobl yn y garfan oedran hynaf wedi'u cofnodi fel eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn y ddwy ffynhonnell na phobl yn y carfannau oedran ieuengaf.

Ffynhonnell: Set ddata cysylltiol Cyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ac Arolwg o'r Llafurlu (Swyddfa Ystadegau Gwladol), Ebrill 2020 i Orffennaf 2021.

Ymhlith pobl 65 oed neu'n hŷn sy'n cofnodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu neu Gyfrifiad 2021, nododd 69.2% eu bod hefyd yn gallu gwneud hynny yn y ffynhonnell arall. Mae'r gyfradd cytundeb amodol hon yn uwch nag ydyw ar gyfer unrhyw grŵp oedran arall.

Ar y llaw arall, plant 3 i 15 oed a phobl ifanc 16 i 24 oed sydd â'r cyfraddau cytundeb amodol isaf, sef 56.3% a 56.1% yn y drefn honno.

Cyfraddau cytundeb yn ôl rhyw

Er bod cyfran ychydig yn fwy o fenywod wedi cofnodi eu gallu i siarad Cymraeg yn wahanol rhwng y ddwy ffynhonnell na dynion, mae'r gyfradd cytundeb amodol ar gyfer dynion a menywod, sy'n cymryd i ystyriaeth fod menywod yn cynrychioli cyfran fwy o siaradwyr Cymraeg, yn debyg ar y cyfan.

O'r ymatebwyr cysylltiol a gofnodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn o leiaf un ffynhonnell:

  • cofnododd 60.9% o'r menywod eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ac yng Nghyfrifiad 2021
  • cofnododd 59.7% o ddynion eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ac yng Nghyfrifiad 2021

Cyfraddau cytundeb yn ôl rhanbarth

Mae gwahaniaethau sylweddol yn y cyfraddau cytundeb amodol yn ôl rhanbarth.  Mae'r pum rhanbarth o Gymru a ddefnyddir yn y dadansoddiad hwn yn gyson â'r rhai a ddefnyddiwyd yn nadansoddiadau Arolwg Cenedlaethol Cymru o'r Gymraeg ac Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff awdurdodau lleol eu mapio ar lefel rhanbarth i'w gweld yn y bwletin ystadegol diweddaraf ar yr Arolwg Defnydd Iaith.

Yn ne-ddwyrain a gogledd-ddwyrain Cymru, y cyfraddau cytundeb amodol yw 44.2% a 46.2%, yn y drefn honno. Ffordd arall o'i egluro yw bod mwy na hanner o'r rheini a gofnododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu neu yng Nghyfrifiad 2021 wedi cofnodi nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg yn y ffynhonnell arall. Yn y ddau ranbarth, mae mwy o bobl yn anghytuno nag sydd yn cytuno eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn y ddwy ffynhonnell.

Ac i'r gwrthwyneb, ceir y cyfraddau cytundeb amodol uchaf yn y gogledd-orllewin (79.4%), ac yna yn y canolbarth (71.9%), a'r de-orllewin (66.7%).

Ffigur 4: Cyfradd cytundeb amodol ymhlith pobl sy'n cofnodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn o leiaf un o'r ddwy ffynhonnell (Arolwg o'r Llafurlu / Cyfrifiad 2021), yn ôl rhanbarth

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r map hwn yn dangos bod y gyfradd cytundeb amodol ar gyfer pobl sy'n cofnodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn o leiaf un ffynhonnell ar ei huchaf yn y gogledd-orllewin (79.4%) ac ar ei hisaf yn y de- ddwyrain (44.2%).

Ffynhonnell: Set ddata cysylltiol Cyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ac Arolwg o'r Llafurlu (Swyddfa Ystadegau Gwladol), Ebrill 2020 i Orffennaf 2021.

Mae'r map yn adlewyrchu'n fras ddosbarthiad daearyddol siaradwyr Cymraeg, sef bod y gyfradd cytundeb amodol ar ei huchaf yn yr ardaloedd hynny lle mae'r gyfran fwyaf o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg. Mae data o'r Arolwg Defnydd Iaith hefyd yn dangos bod gan yr ardaloedd hynny sydd â chyfran uwch o siaradwyr Cymraeg gydberthynas gref â'r ardaloedd hynny lle mae'r iaith yn cael ei defnyddio amlaf mewn grwpiau a sefyllfaoedd cymdeithasol ac yn y gweithle

Cyfraddau cytundeb yn ôl gwlad enedigol

Ymhlith y bobl a anwyd yng Nghymru, mae 63.4% o'r rhai sy'n cofnodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu neu Gyfrifiad 2021 yn cofnodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn y ddwy ffynhonnell. O ran pobl a anwyd mewn rhannau eraill o'r DU, y gyfradd cytundeb amodol yw 43.8%.

Dylid nodi bod y rhai a gofnododd iddynt gael eu geni mewn rhannau eraill o'r DU wedi'u lleoli yn anghymesur yn yr awdurdodau lleol sy'n ffinio ar Loegr, gan gynnwys Powys a Sir y Fflint. Gall y grŵp hwn gynnwys unigolion a anwyd mewn ysbytai yn Lloegr ond a fagwyd yng Nghymru serch hynny. 

Cyfraddau cytundeb yn ôl hunaniaeth genedlaethol

Mae Cyfrifiad 2021 hefyd yn gofyn i ymatebwyr am eu hunaniaeth genedlaethol. Gall ymatebwyr ddewis un neu sawl hunaniaeth. Yn yr erthygl hon, rydym yn grwpio ymatebwyr yn ddau gategori – pobl sy'n dewis hunaniaeth genedlaethol Gymreig (sy'n cynnwys y rhai sy'n dewis hunaniaeth Gymreig a hunaniaeth arall), a phobl nad ydynt yn dewis hunaniaeth Gymreig.

Ymhlith y bobl sydd â hunaniaeth genedlaethol Gymreig, mae 64.9% o'r bobl a gofnododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu neu Gyfrifiad 2021 wedi cofnodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn y ddwy ffynhonnell. O ran y bobl heb hunaniaeth genedlaethol Gymreig, y gyfradd cytundeb amodol hon yw 39.1%.

Cyfraddau cytundeb yn ôl amlder siarad Cymraeg

Mae'r Arolwg o'r Llafurlu hefyd yn gofyn i ymatebwyr am ba mor aml y maent yn siarad Cymraeg. Fe wnaethom ddefnyddio ymatebion i'r cwestiwn hwn i wirio a oes perthynas rhwng amlder siarad Cymraeg a p'un ai bod ymatebwyr yn cytuno am eu sgiliau siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu a Chyfrifiad 2021.

Ni ofynnir y cwestiwn hwn yn y cyfrifiad, a dim ond i'r rhai sy'n cofnodi y gallant siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu y gofynnir y cwestiwn hwn. Felly, pan gyfeiriwn at bobl sy'n anghytuno yn yr adran hon, rydym yn cyfeirio at bobl sy'n cofnodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu yn unig – ac nid y rhai sy'n cofnodi eu bod yn siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021.

O'r bobl hynny oedd yn cytuno y gallent siarad Cymraeg ar y ddwy ffynhonnell, nododd dros ddwy ran o dair (68.6%) eu bod yn siarad Cymraeg bob dydd. O'r bobl hynny a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ond nid yn y cyfrifiad, dim ond tua chwarter (24.8%) oedd yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg bob dydd.

I egluro hyn mewn ffordd arall, o'r ymatebwyr cysylltiol oedd yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu, ac yn gwneud hynny'n ddyddiol, roedd mwy na phedwar ym mhob pump yn adrodd eu bod hefyd yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021.

I'r gwrthwyneb, o'r ymatebwyr cysylltiol oedd yn dweud y gallant siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu, ond byth yn gwneud hynny, roedd mwy na phedwar o bob pump yn nodi na allant siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021.

Ffigur 5: Canran yr ymatebwyr cysylltiol sy'n cofnodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu sy'n cytuno / anghytuno ynghylch eu hasesiad o'u gallu i siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021, yn ôl amlder siarad Cymraeg

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae'r siart far hon yn dangos, ymhlith pobl sy'n cofnodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu, fod y rhan fwyaf o bobl sy'n siarad yr iaith yn ddyddiol neu'n wythnosol hefyd yn cofnodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021. I'r gwrthwyneb, mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cofnodi eu bod yn siarad yr iaith yn llai aml neu byth yn yr Arolwg o'r Llafurlu yn nodi na allant siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021.

Ffynhonnell: Set ddata cysylltiol Cyfrifiad 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ac Arolwg o'r Llafurlu (Swyddfa Ystadegau Gwladol), Ebrill 2020 i Orffennaf 2021.

Cyfraddau cytundeb yn ôl y math o aelwyd

Gan fod pob aelod o'r aelwyd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr Arolwg o'r Llafurlu a'r Cyfrifiad, rydym hefyd yn archwilio'r cyfraddau cytundeb ar lefel yr aelwyd.

Yn yr adran hon, ystyrir bod aelwyd yn cytuno ar yr asesiad o allu yn y Gymraeg os bydd pob aelod o'r aelwyd yn ymateb yn gyson o ran eu gallu yn y Gymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ac yng Nghyfrifiad 2021. Nid yw hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod o'r aelwyd roi'r un ymateb, dim ond bod yr ymateb ar gyfer unrhyw aelod penodol ar yr aelwyd yr un fath yn yr Arolwg o'r Llafurlu ac yng Nghyfrifiad 2021.

Gan edrych ar gyfradd cytundeb yr aelwyd yn ôl cyfansoddiad cyffredinol yr aelwyd:

  • mae 61.1%(r) o aelwydydd â phlant yn cytuno ar eu gallu i siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ac yng Nghyfrifiad 2021
  • mae 83.8%(r) o aelwydydd heb blant yn cytuno ar eu gallu i siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ac yng Nghyfrifiad 2021

(r) Cafodd yr eitemau data rhain eu diwygio ar 18 Rhagfyr 2023. Mae hyn yn cywiro gwall blaenorol lle cafodd rhai codau mewnbwn yn ymwneud â newidynnau cyfansoddiad y cartref y cyfrifiad eu gollwng, yn hytrach na'u mapio i'r codau allbwn cywir.

Mae cyfran lai o aelwydydd yn cytuno ar eu gallu i siarad Cymraeg lle nad oes yr un, neu ddim ond un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg (yn ôl Cyfrifiad 2021) o'i gymharu ag aelwydydd sy'n cynnwys dau oedolyn sy'n gallu siarad Cymraeg. Gall hyn o bosib fod yn awgrymu, ble mae cyplau yn gallu siarad Cymraeg gyda'i gilydd gartref, fod aelodau'r aelwyd â dealltwriaeth gliriach a mwy cyson o'u gallu i siarad Cymraeg.

Ymhlith yr aelwydydd sy'n cynnwys cwpl (naill ai'n briod, yn bartner sifil neu'n cyd-fyw):

  • mae 71.7% o aelwydydd lle nad oes yr un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg yn cytuno ar eu gallu i siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ac yng Nghyfrifiad 2021
  • mae 63.9% o aelwydydd lle gall un oedolyn siarad Cymraeg yn cytuno ar eu gallu i siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ac yng Nghyfrifiad 2021
  • mae 82.8%(r) o aelwydydd lle gall dau neu fwy o oedolion siarad Cymraeg yn cytuno ar eu gallu i siarad Cymraeg yn yr Arolwg o'r Llafurlu ac yng Nghyfrifiad 2021

(r) Cafodd yr eitem ddata hon ei diwygio ar 18 Rhagfyr 2023. Roedd y gyfradd cytundeb a gyhoeddwyd yn flaenorol yn deillio o gymryd cyfanswm gwerthoedd oedd eisoes wedi’u talgrynnu ar gyfer dau god allbwn yn hytrach na chyfrifo’r cyfanswm cyn talgrynnu.

Y camau nesaf

Er bod y canfyddiadau cychwynnol hyn yn helpu inni dreiddio ymhellach i ddulliau casglu data cyfredol ar gyfer ystadegau ar y Gymraeg, mae mwy o ymchwil y gellid ei gynnal o hyd i ddeall y gwahaniaethau hyn yn llawn.

Byddai pwysoli demograffig i gyfrif am y gwahaniaethau rhwng ymatebwyr yr Arolwg o'r Llafurlu a phoblogaeth ehangach y cyfrifiad yn ein galluogi i wneud dehongliadau mwy cadarn am y dadansoddiad hwn. Byddai hyn hefyd yn ein galluogi i wneud cymariaethau mwy uniongyrchol â chanfyddiadau sydd eisoes yn bodoli o Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad (CQS) (SYG).

Er mwyn darparu mwy o gyd-destun ar gyfer y dadansoddiad hwn, gallem astudio cyfraddau cytundeb y cyfrifiad a'r Arolwg o'r Llafurlu ar gyfer newidynnau eraill. Unwaith eto, gellid croesgyfeirio hyn gyda chanfyddiadau Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad i nodi a yw unrhyw arsylwadau yn unigryw i'r cwestiynau am y Gymraeg, neu'n fwy cyffredinol i natur yr Arolwg o'r Llafurlu.

Gellid cynnal dadansoddiad mwy cymhleth hefyd i asesu arwyddocâd ffactorau sy'n arwain at adrodd yn anghyson ar sgiliau Cymraeg. Gallai hynny gael ei wneud trwy fodelu ystadegol gan ddefnyddio atchweliad lluosnomaidd. 

Un o ganfyddiadau'r dadansoddiad yn yr erthygl hon yw fod cyfran uchel o anghytundebau yn ymwneud â data ar gyfer pobl o dan 16 oed. Mae'r holl ymatebion i'r Arolwg o'r Llafurlu (a'r rhan fwyaf o ymatebion Cyfrifiad 2021) ar gyfer y grŵp oedran hwn wedi'u cwblhau gan oedolyn ar yr aelwyd ar ran y plentyn dan sylw. Felly, gall natur ddirprwyol yr ymatebion hyn fod yn cyfrannu at gyfraddau cytundeb is. Gallem ddadansoddi a chymharu'r berthynas rhwng ymatebion drwy ddirprwy a chyfraddau cytundeb ar draws Cyfrifiad 2021 a'r Arolwg o'r Llafurlu ar gyfer grwpiau oedran eraill er mwyn deall hyn ymhellach.

Maes arall ar gyfer ymchwil yw'r ymatebion ar sgiliau Cymraeg a gesglir gan yr Arolwg Trawsnewidiol o'r Llafurlu. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn bwriadu trosglwyddo o'r Arolwg o'r Llafurlu i'r Arolwg Trawsnewidiol o'r Llafurlu er mwyn cynhyrchu allbynnau rheolaidd ar y farchnad lafur a chynhyrchiant erbyn mis Mawrth 2024. Mae'r Arolwg Trawsnewidiol o'r Llafurlu, fel yr Arolwg o'r Llafurlu, yn arolwg gwirfoddol yn seiliedig ar sampl ond, yn wahanol i'r Arolwg o'r Llafurlu, fe'i cynhelir trwy holiaduron y mae pobl yn eu llenwi eu hunain ar lein.

Bydd canfyddiadau'r prosiect hwn yn bwydo i mewn i brosiectau eraill a amlinellir yn y cynllun gwaith. Mae hyn yn cynnwys prosiect 4, sy'n archwilio sut y gallai dulliau arolygu ac effeithiau dylunio effeithio ar gasglu gwybodaeth am allu yn y Gymraeg, a phrosiect 2, a fydd yn archwilio gwahaniaethau wrth adrodd am allu yn y Gymraeg rhwng y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a ffynonellau data eraill.

Bydd diweddariadau rheolaidd ar gynnydd y prosiectau hyn a phrosiectau eraill yn cael eu cynnwys fel rhan o'n cyhoeddiad chwarterol ar ddata am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Cyhoeddwyd y diweddariad diweddaraf ar 5 Hydref 2023.

Ymgynghoriad ar ddyfodol ystadegau mudo a phoblogaeth yng Nghymru a Lloegr

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi bod yn cynnal ymgynghoriad ar gynigion uchelgeisiol ar gyfer dyfodol ystadegau poblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr. Nod y cynigion hyn yw rhoi ffynonellau data gweinyddol wrth wraidd y system ar gyfer cynhyrchu ystadegau poblogaeth, a'u hategu gan ddefnyddio data arolygon ac ystod ehangach o ffynonellau eraill (SYG). Byddai hyn yn darparu ystadegau mwy amserol o ansawdd uchel a gallai ddisodli'r ddibyniaeth bresennol ar gyfrifiad bob deng mlynedd, a'r angen amdano.

Mae'r cyfrifiad yng Nghymru wedi darparu amcangyfrifon ystadegol ar siaradwyr Cymraeg ers dros ganrif. Mae'r weledigaeth bresennol a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn golygu bod angen deall yr effaith y gallai symud i ffwrdd o 'gyfrifiad traddodiadol' ei chael ar ystadegau am y Gymraeg, a pha fuddion a chyfleoedd ar gyfer data mwy amserol ac o ansawdd uchel ar y Gymraeg a allai fodoli o fewn y system ystadegol arfaethedig.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ystadegau ar y Gymraeg i ddefnyddwyr ystadegol yng Nghymru. Felly maent am ddeall gwahaniaethau, cryfderau a chyfyngiadau ffynonellau presennol i helpu i lunio sut y bydd y data hyn yn cael eu cynhyrchu yn y dyfodol. Mae'r prosiect gwaith hwn yn rhan bwysig o asesu'r sylfaen dystiolaeth gyfredol ar gyfer sgiliau Cymraeg, a bydd hefyd yn rhannol yn llywio ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion yr Ystadegydd Gwladol yn dilyn yr ymgynghoriad.

Mae'r ymchwil hon yn arbennig o bwysig gan y cydnabyddir nad oes ffynhonnell ddata weinyddol gynhwysfawr yn bodoli ar hyn o bryd sy'n darparu data dibynadwy am siaradwyr Cymraeg. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cydnabod y gallai fod angen dulliau casglu amgen fel rhan o'r system a drawsnewidir, er enghraifft, trwy gasglu data gweinyddol adrannau'r llywodraeth neu drwy arolygon newydd neu rhai cyfredol. 

Yn ogystal, cydnabyddir nad oes data o ansawdd uchel ar siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru ar hyn o bryd a allai ddarparu darlun cywir am siaradwyr Cymraeg yn Lloegr neu weddill y DU. Ar hyn o bryd, felly, nid oes unrhyw ffynonellau cadarn sy'n rhoi gwybod am siaradwyr Cymraeg sydd wedi symud o Gymru naill ai dros dro (er enghraifft, i astudio) neu'n fwy parhaol. Mae cydnabyddiaeth o'r bwlch hwn yn y data ac o'r angen i ystyried sut y gellid mynd i'r afael â hyn.

Dulliau ac ansawdd y data

Gwasanaeth Data Integredig (IDS)

Mae ymchwil a dadansoddiad ar gyfer y prosiect gwaith hwn wedi'i gynnal ar y cyd rhwng y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio'r Gwasanaeth Data Integredig (IDS). Mae'r IDS yn brosiect drawslywodraethol a gaiff ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gan adeiladu ar lwyddiant y Gwasanaeth Ymchwil Ddiogel (SRS), mae'r IDS yn blatfform aml-gwmwl sy'n dod â data parod i'w defnyddio at ei gilydd i alluogi dadansoddiad cydweithredol cyflymach ac ehangach er budd y cyhoedd. Mae'r IDS yn blatfform sy'n darparu data diogel, yn Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy sy'n cydymffurfio â'r pum peth diogel i ddiogelu data (five safes of secure data) (IDS), ac mae wedi'i achredu'n ffurfiol fel darparwr data o dan Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (GOV.UK).

Cynhaliwyd y prosiect hwn yn yr IDS fel prosiect sydd wedi'i 'fabwysiadu'n gynnar', ac yn rhannol mae'n arddangos potensial a gallu'r gwasanaeth i sicrhau ymchwil gydweithredol drawsbynciol ar draws adrannau'r llywodraeth. Mae'r prosiect hwn wedi'i gymeradwyo gan Banel Achredu Ymchwil Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig (UKSA). Mae'r dadansoddiad wedi'i gynhyrchu gan ymchwilwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru sydd ag achrediad ymchwil ddiogel o bell. 

Mae Rhaglen Waith YDG Cymru 2022 i 2026 yn amlinellu’r deg maes thematig lle bydd tîm YDG Cymru yn canolbwyntio eu hymchwil i helpu’r llywodraeth i fynd i’r afael â’r materion pwysicaf sy’n wynebu cymdeithas. Mae YDG Cymru’n rhan o ADR UK ac mae’n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU).

Cysylltu data

Y sail ar gyfer y set ddata a ddefnyddir ar gyfer y prosiect hwn yw Astudiaeth Gyswllt Anymateb Cyfrifiad 2021 (CNRLS). Roedd yr astudiaeth hon yn paru aelwydydd a'r bobl ynddynt a gwblhaodd arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol tua adeg Cyfrifiad 2021 gyda'u hymateb cyfatebol i'r cyfrifiad. Roedd y dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfateb pobl ac aelwydydd yn debyg i'r dull a ddefnyddiwyd ar gyfer paru Cyfrifiad 2021 ag Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad (CCS) (SYG).  

Mae'r set ddata a ddefnyddir ar gyfer y dadansoddiad hwn yn cynnwys yr aelwydydd ac unigolion wedi'u paru gan ddefnyddio Astudiaeth Gyswllt Anymateb Cyfrifiad 2021 a oedd:

  • Mewn carfan o'r Arolwg o'r Llafurlu a samplwyd rhwng Ionawr 2021 a Mehefin 2021;
  • Wedi ymateb i o leiaf un don o'r Arolwg o'r Llafurlu rhwng Ebrill 2020 a Gorffennaf 2021; ac
  • Wedi ymateb i Gyfrifiad 2021

Roedd cyfradd cyfateb yr Arolwg o'r Llafurlu i Astudiaeth Gyswllt Anymateb Cyfrifiad 2021, ar ôl paru awtomataidd a chlerigol, yn uchel iawn. Cafodd 99.5% o aelwydydd, a 92.9% o unigolion a ymatebodd i'r Arolwg o'r Llafurlu yng Nghymru a Lloegr eu cyfateb gydag Astudiaeth Gyswllt Anymateb Cyfrifiad 2021. Roedd cywirdeb y paru hefyd yn uchel iawn; y gyfradd positif anghywir yn gyffredinol yn Astudiaeth Gyswllt Anymateb Cyfrifiad 2021 oedd 0.058% ar gyfer paru ar lefel cyfeiriad, a 0.044% ar gyfer paru ar lefel person. Y gyfradd negatif anghywir ar gyfer paru ar lefel cyfeiriad oedd 0.090%, a 0.072% ar gyfer paru ar lefel person. 

Ansawdd y data

Gan fod y dadansoddiad o'r set ddata cysylltiol yn seiliedig ar ymatebion heb eu pwysoli, nid yw'n gynrychioliadol o boblogaeth y cyfrifiad ar gyfer Cymru. Rydym wedi gweld gostyngiad parhaus yng nghyfraddau ymateb yr Arolwg o'r Llafurlu yn ystod ac ar ôl y pandemig, oherwydd y newid yn y modd y cynhelir yr arolwg o fod wyneb yn wyneb i gyfweliad dros y ffôn gan fwyaf yn y don gyntaf. Mae hyn wedi cynyddu'r risg o duedd gan y rhai nad ydynt yn ymateb i'r arolwg. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cynnal dadansoddiad sy'n archwilio natur y tueddiadau hyn, ac maent wedi addasu strategaeth bwysoli'r Arolwg o'r Llafurlu i bwysoli yn ôl deiliadaeth (SYG) a defnyddio Gwybodaeth Amser Real CThEF (SYG).

Mae'r set ddata cysylltiol yn cyfuno pum chwarter o ddata o'r Arolwg o'r Llafurlu i roi hwb i faint y sampl. Gan fod ymatebwyr yr arolwg yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn pum ton, mae'n bosib fod hyd at bum ymateb i'r cwestiynau ar sgiliau Cymraeg wedi'u cofnodi yn y set ddata ar gyfer pob ymatebydd. Felly, rydym yn defnyddio'r ymateb a gofnodwyd ar gyfer chwarter cyntaf 2021, os yw ar gael. Dyma'r cyfnod sy'n cynnwys diwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021. Fel arall, rydym yn defnyddio data o ail chwarter 2021, neu os nad yw hyn ar gael ychwaith, rydym yn cymryd yr ymateb a roddir yn y chwarter agosaf at fis Mawrth 2021 yn gronolegol. Yn ein set ddata cysylltiol, mae 58.6% o bobl wedi ateb y cwestiwn ar sgiliau Cymraeg yn chwarter cyntaf 2021, tra bod 35.3% yn rhagor wedi ateb y cwestiwn yn y chwarter blaenorol neu dilynol.

Yn flaenorol, mae'r SYG wedi cyhoeddi cyfraddau cytundeb ar gyfer newidynnau o Gyfrifiad 2021 trwy gysylltu cofnodion y cyfrifiad ag ymatebion i Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad (CQS) (SYG). Yn wahanol i'n set ddata cysylltiol, mae'r cyfraddau cytundeb hyn wedi'u cyfrifo gan ddefnyddio pwysoliad demograffig i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth y cyfrifiad.

Mae cyfradd cytundeb Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad yn fwy na 98% ar gyfer rhai newidynnau syml (er enghraifft, oedran, rhyw, a gwlad enedigol). Fodd bynnag, mae'n aml yn is, yn enwedig ar gyfer cwestiynau sy'n oddrychol neu'n newidiol eu natur. Mae hyn yn cynnwys iechyd cyffredinol (66.6%) a hunaniaeth genedlaethol (59.2%), ac mae'r olaf o'r rhain yn caniatáu i ymatebwyr ddewis cyfuniadau o opsiynau lluosog. 

Y gyfradd cytundeb wedi'i phwysoli a gyhoeddwyd ar gyfer cyfuniadau cyffredinol o'r pedair sgil Gymraeg o Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad yw 76.6%. Mae'r prif gyfradd cytundeb heb ei phwysoli rhwng Cyfrifiad 2021 a'r Arolwg o'r Llafurlu ar y lefel hon hefyd yn digwydd bod yn 76.6%.

Pan oedd maint y sampl yn caniatáu, gwnaethom adolygu data Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad ar gyfer sgiliau iaith Gymraeg a chanfod bod y canlyniadau'n debyg yn fras i'r gymhariaeth ar sail yr Arolwg o'r Llafurlu yn yr erthygl hon. Er enghraifft, nododd y ddwy astudiaeth fod mwyafrif llethol yr anghytundebau yn cynnwys ymatebwyr oedd yn nodi mwy o sgiliau ar yr arolwg cymharol na'r cyfrifiad. Yn yr un modd, canfu'r ddwy astudiaeth hefyd fod dros 90% o'r ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg ar y cyfrifiad yn cytuno ar yr arolwg cymharol.

Felly, mae'r prosiectau hyn yn cadarnhau ac yn atgyfnerthu canfyddiadau ei gilydd ar y pwnc hwn.

Nodiadau ar ddefnyddio erthyglau ystadegol

Yn gyffredinol, mae erthyglau ystadegol yn ymwneud â dadansoddiadau unigol lle nad oes diweddariadau wedi’u trefnu ar eu cyfer, yn y tymor byr o leiaf. A’u diben yw sicrhau bod dadansoddiadau o’r fath ar gael i gynulleidfa ehangach na fyddai’n bosibl fel arall. Fe'u defnyddir yn bennaf i gyhoeddi dadansoddiadau sy'n archwiliadol mewn rhyw ffordd, er enghraifft:

  • cyflwyno cyfres newydd o ddata arbrofol
  • dadansoddiad rhannol o fater sy'n darparu man cychwyn defnyddiol i gyflawni rhagor o ymchwil ond sydd, serch hynny, yn ddadansoddiad defnyddiol yn ei rinwedd ei hun
  • tynnu sylw at ymchwil sydd wedi'i chynnal gan sefydliadau eraill, a gomisiynwyd gan naill ai Llywodraeth Cymru neu fel arall, lle mae'n ddefnyddiol tynnu sylw at y casgliadau neu adeiladu ar yr ymchwil ymhellach
  • dadansoddiad lle nad yw'r canlyniadau o ansawdd mor uchel â'r rhai yn ein datganiadau ystadegol a'n bwletinau arferol efallai, ond lle gellir dod i gasgliadau ystyrlon o hyd gan ddefnyddio'r canlyniadau.

Pan fo ansawdd yn broblem, gall hyn godi mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:

  • methu â phennu'r amserlen a ddefnyddir yn gywir (sy'n gallu digwydd wrth ddefnyddio ffynhonnell weinyddol)
  • ansawdd y ffynhonnell ddata neu’r data a ddefnyddir
  • rhesymau penodol eraill.

Fodd bynnag, bydd lefel yr ansawdd yn golygu nad yw'n cael effaith sylweddol ar y casgliadau. Er enghraifft, efallai na fydd yr union gyfnod o amser yn ganolog i'r casgliadau y gellir eu llunio, neu drefn maint y canlyniadau, yn hytrach na'r union ganlyniadau, sydd o ddiddordeb i'r gynulleidfa.

Nid yw'r dadansoddiad a gyflwynir yn gyfystyr ag Ystadegyn Gwladol ond efallai ei fod yn seiliedig ar allbynnau Ystadegau Gwladol, a bydd, serch hynny, wedi cael ei ystyried yn ofalus a'i archwilio'n fanwl cyn ei gyhoedd. Bydd asesiad o gryfderau a gwendidau'r dadansoddiad yn cael ei gynnwys yn yr erthygl, er enghraifft cymariaethau â ffynonellau eraill, ynghyd â chanllawiau ar sut y gellid defnyddio’r dadansoddiad, a disgrifiad o’r fethodoleg sydd ar waith.

Mae erthyglau'n ddarostyngedig i'r arferion cyhoeddi fel y'u diffinnir gan yr arferion cyhoeddi protocol, ac felly, er enghraifft, maent yn cael eu cyhoeddi ar ddyddiad sy'n cael ei bennu ymlaen llaw yn yr un modd ag allbynnau ystadegol eraill.

Manylion cyswllt

Ystadegwyr: Cian Siôn (Llywodraeth Cymru) a Rob Doherty (Swyddfa Ystadegau Gwladol)
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru

Y Cyfryngau: 0300 025 8099

Image

ADR Wales logo