Comisiynwyd y Rhaglen Ymchwil Fewnol (Llywodraeth Cymru) gan y Gangen Gofal Sylfaenol i gynnal adolygiad o rolau Arweinydd Cydweithio Fferylliaeth Gymunedol (CPCL) ar draws pob clwstwr ledled Cymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd angen adolygiad o'r cynllun i ddeall profiadau'r arweinwyr yn eu 12 mis cyntaf ac asesu'r broses o recriwtio i'r rôl. Gofynnwyd i'r Rhaglen Ymchwil Fewnol (IRP), uned ymchwil a gwerthuso fewnol, gyflawni'r gwaith hwn. Gan weithio gyda chydweithwyr y Gangen Fferylliaeth a Phresgripsiynu (Llywodraeth Cymru), roedd yr adolygiad yn archwilio'r canlynol:
- Y broses o recriwtio'r arweinwyr yn y rôl a deall pwrpas a chylch gwaith y rôl.
- Beth yw’r rhwystrau a’r sbardunau i feithrin perthynas â rhanddeiliaid o fewn y clwstwr.
- Pa agweddau ar y rôl a'r cymorth a ddarparwyd i'r arweinwyr oedd yn hwyluso cysylltiadau da â rhanddeiliaid eraill o fewn y clwstwr gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol.
- Sut mae'r rôl wedi datblygu dros amser e.e. beth oedd wedi gwella a beth nad oedd mor effeithiol, a’i heffeithiolrwydd.
- Y broses wrth feithrin perthynas ag Arweinwyr Fferylliaeth eraill a rhanddeiliaid allweddol eraill.
- Canlyniadau 12 mis cyntaf y swyddi Arweinydd Fferylliaeth, pa ganlyniadau posibl y dylid eu hystyried ar gyfer y rolau a sut y gellir mesur canlyniadau gan ddefnyddio data monitro.
Adroddiadau
Adolygiad o rolau Arweinydd Cydweithio Fferylliaeth Gymunedol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 770 KB
Adolygiad o rolau Arweinydd Cydweithio Fferylliaeth Gymunedol: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 299 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.