Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am yr adnoddau y mae awdurdodau lleol wedi cyllidebu i'w darparu ar gyfer gwasanaethau addysg ac ysgolion ar gyfer Ebrill 2024 i Fawrth 2025.

Prif bwyntiau

  • Y gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion yw £3,591 miliwn, sef cynnydd o 7.4% ar y flwyddyn blaenorol.
  • Y gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu fesul disgybl yw £7,926, sef cynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 8.2% neu £599.
  • Gellir rhannu’r swm hwn fel a ganlyn: £6,390 y disgybl wedi’i ddirprwyo i ysgolion a £1,536 y disgybl yn cael ei gadw ar gyfer gwasanaethau ysgolion a gyllidir yn ganolog.
  • Mae £2,895 miliwn wedi’i gyllidebu ar gyfer ei ddirprwyo i ysgolion.  Mae’r swm y mae awdurdodau lleol yn ei ddirprwyo yn uniongyrchol i ysgolion ynamrywio rhwng 73% ac 85% o’r gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion.
  • Mae 80.6% o’r cyfanswm gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion yn cael ei ddirprwyo yn uniongyrchol i ysgolion, gostyngiad o 1.3 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Adroddiadau

Gwariant a gyllidebwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion: Ebrill 2024 i Fawrth 2025 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 448 KB

PDF
Saesneg yn unig
448 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Anthony Newby

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.