Gwybodaeth yn ôl sector ysgol ac awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2024 i Fawrth 2025.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwariant sydd wedi'i gyllidebu ar gyfer darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Mae cyfanswm y gwariant ar ddarpariaeth AAA/ADY wedi'i gyllidebu i fod yn £592 miliwn, cynnydd o £42.3 miliwn neu 7.7% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
- Mae'r gwariant dirprwyedig i ysgolion arbennig yn cynrychioli 29% o gyfanswm y gwariant AAA/ADY sydd wedi’i gyllidebu. Mae dyraniadau tybiannol o fewn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yn cynrychioli 42% pellach o’r cyfanswm. Arian y mae awdurdodau lleol yn ei gadw'n ganolog yw'r 29% sy'n weddill.
- Sir Ddinbych sy'n dirprwyo'r gyfran fwyaf o’i chyllidebau AAA/ADY i ysgolion, sef 82%, a Merthyr Tudful sy'n dirprwyo'r gyfran leiaf, sef 49%.
- Cyfanswm y gwariant AAA/ADY sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer pob disgybl yng Nghymru yw £1,306. Mae’n cynnwys £921 o wariant dirprwyedig y disgybl a £385 y disgybl o wariant heb ei ddirprwyo.
- O ran gwariant AAA/ADY sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer pob disgybl, Merthyr Tudful sydd â’r mwyaf, £1,796 y disgybl, a Sir Fynwy sydd â’r lleiaf, £987 y disgybl.
Adroddiadau
Gwariant sydd Wedi'i Gyllidebu ar gyfer darpariaeth Anghenion Addysgu Arbennig (AAA) a Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Ebrill 2024 i Fawrth 2025 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 409 KB
PDF
Saesneg yn unig
409 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.