Mae'r adroddiad sy'n rhoi manylion am y gost o redeg gwasanaethau awdurdodau lleol, a'u gwariant, fel prynu, adeiladu neu wella asedau ffisegol ar gyfer Ebrill 2024 i Fawrth 2025.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cyllideb refeniw awdurdodau lleol a rhagolygon gwariant cyfalaf
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Cyfanswm crynswth gwariant refeniw cyllidebol awdurdodau lleol Cymru ar gyfer 2024-25 yw £10.9 biliwn, sy’n gynnydd o 5.4% ar y flwyddyn flaenorol.
- Bu cynnydd o 5.1%, neu £467 miliwn, yn y gwariant wedi'u cyllidebu gan y cynghorau sir a'r cynghorau bwrdeistref sirol, tra bu cynnydd o 8.6% yng ngwariant yr heddlu ar gyfartaledd. Bu cynnydd cyfartalog o 7.8% yng ngwariant y gwasanaethau tân a gostyngiad o 2.1% yng ngwariant awdurdodau’r parciau cenedlaethol.
- Yn 2024-25, yn ôl awdurdodau lleol Cymru, rhagwelir mai cyfanswm y gwariant cyfalaf, gan gynnwys awdurdodau’r heddlu, yr awdurdodau tân ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol, yw £2,436 miliwn. Mae’r ffigwr hwn yn cynrychioli gostyngiad flwyddyn ar flwyddyn o £154 miliwn neu 6.7%.
Adroddiadau
Cyllideb refeniw awdurdodau lleol a rhagolygon gwariant cyfalaf: Ebrill 2024 i Fawrth 2025 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 403 KB
PDF
Saesneg yn unig
403 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.