Gwybodaeth ar y nifer o anheddau sy'n gorfod talu'r dreth gyngor, bandio, gostyngiadau ac eithriadau ar gyfer Ebrill 2024 i Fawrth 2025.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Anheddau’r Dreth Gyngor
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Amcangyfrifir bod cyfanswm nifer yr anheddau sy’n gymwys i dalu’r dreth gyngor yng Nghymru ar gyfer 20234-25 wedi cynyddu fesul 5,766 neu 0.4%, ar y flwyddyn flaenorol i 1,416,847. Ar gyfer dibenion cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw mae’r cyfanswm hwn yn cyfateb i 1,275,829 o anheddau band D. Gwynedd sy’n dangos y cynnydd mwyaf mewn anheddau band D cyfatebol sef 1.0%.
- Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer uchaf o anheddau band A (45,046). Blaenau Gwent sydd â'r gyfran uchaf o anheddau ym mand A (58%), Sir Fynwy sydd â'r isaf (1%).
- Mae 36% o anheddau yng Nghymru yn cael disgownt o 25%, fel arfer oherwydd eu bod yn cael eu meddiannu gan un person cymwys yn unig.
- Mae 64,309 o anheddau yng Nghymru wedi’u heithrio rhag y dreth gyngor, sef 4.3% o’r holl anheddau. Y categori mwyaf sydd wedi’i eithrio yw anheddau i fyfyrwyr gydag 19,641, ac ar ôl hynny anheddau gwag a heb eu dodrefnu gydag 14,311, a 9,183 o anheddau wedi’u heithrio o ganlyniad i fod yn wag adeg marwolaeth.
- Mae 17 awdurdod yn codi premiwm cartref gwag hirdymor, ac mae 15 yn codi premiwm ail gartref. Nid yw'r mwyafrif o awdurdodau bellach yn rhoi unrhyw ostyngiadau i gartrefi gwag neu ail gartref tymor hir.
- Disgwylir i nifer yr ail gartrefi y gellir eu codi ar gyfer treth y cyngor ostwng 2,240 neu 9.3%.
Adroddiadau
Anheddau’r Dreth Gyngor: Ebrill 2024 i Fawrth 2025 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 443 KB
PDF
Saesneg yn unig
443 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.