Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn dilyn sylw diweddar yn y cyfryngau i adroddiadau cenedlaethol am ddata adrannau argyfwng, rwy'n manteisio ar y cyfle hwn i egluro a chadarnhau sut y defnyddir eithriadau clinigol wrth fonitro perfformiad.
Mae’r sylw yn y cyfryngau wedi awgrymu bod ystadegau swyddogol ynghylch amseroedd aros yn adrannau argyfwng Cymru wedi bod yn cael eu tangofnodi ers 2011, pan gyflwynwyd categori o'r enw "eithriadau clinigol". Mae'r wybodaeth yn y cyfryngau yn anghywir. Rydym wedi cael sicrwydd gan y byrddau iechyd bod eithriadau yn cael eu cynnwys yn eu ffigurau.
Mae eithriadau clinigol (neu ‘breach exemptions’) yn cyfeirio at adegau pan fydd clinigwyr mewn adrannau argyfwng wedi barnu bod angen i gleifion gael cyfnod ychwanegol ac estynedig o arsylwi neu driniaeth.
Mae’r canllawiau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol yn nodi y dylid cynnwys eithriadau clinigol yn y data y mae byrddau iechyd yn eu hadrodd i Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a chytunwyd ar broses ar gyfer cyfrifo ac ystyried amseroedd aros y cleifion hyn wrth fonitro perfformiad.
Ar ôl i’r pryderon gael eu codi, fe wnaethom ofyn am sicrwydd ar unwaith gan y byrddau iechyd bod y data y maent yn eu cyflwyno i Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn unol â'r canllawiau ar adrodd am eithriadau clinigol.
Mae’r byrddau iechyd wedi cadarnhau eu bod yn cydymffurfio â'r canllawiau a gyhoeddwyd yn 2011, sy'n nodi y dylid cynnwys eithriadau clinigol yn eu data misol.
Mae asesiad o'r cais Rhyddid Gwybodaeth a gyflwynwyd i fyrddau iechyd gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM), a'r wybodaeth a gafwyd, yn dangos bod y coleg wedi camddehongli ein canllawiau. Nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r awgrym a wnaed gan yr RCEM na'r BBC bod tanadrodd wedi digwydd, na tystiolaeth ychwaith nad oes modd i’n data gael eu cymharu â data Lloegr fel yr ydym wedi bod yn datgan.
Er mwyn bod yn glir, nid yw ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn hepgor eithriadau clinigol o'r data a geir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda chydweithwyr ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig i ddeall sylfaen ystadegau'r adrannau argyfwng perthnasol yn iawn. Ar sail y canllawiau sydd gennym ar waith yng Nghymru, rydym o’r farn bod ystadegau Cymru ar gyfer prif adrannau argyfwng yn debyg i'r ystadegau ar gyfer adrannau damweiniau ac argyfwng Math 1 Lloegr.
Nid yw hynny'n golygu bod y sefyllfa o ran perfformiad adrannau argyfwng fel y byddem ni a chleifion yn dymuno iddi fod. Rydym wrthi'n trafod gydag arweinwyr clinigol a defnyddwyr gwasanaethau sut y gallwn wella ansawdd y gofal mewn adrannau argyfwng, ac mae hyn yn cynnwys archwilio ffyrdd mwy ystyrlon o fesur profiad a chanlyniadau cleifion.
Rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer dylunio a gweithredu 'Tabl Crynhoi Gwybodaeth Adrannau Argyfwng (SEDIT)' – a ddefnyddir mewn mannau eraill yn y DU – i alluogi clinigwyr i werthuso galw, capasiti, llif a chanlyniadau presennol eu hadran, er mwyn deall pam mae problemau'n digwydd a thargedu’r hyn sydd wrth wraidd y problemau.
Rwy'n ddiolchgar i’r RCEM am barhau i frwydro am y gofal gorau posibl i gleifion yn ein hadrannau argyfwng ac rwy’n gobeithio y gallwn barhau i gydweithio'n agos i sicrhau gwelliannau i'r system gyfan drwy ein rhaglen genedlaethol Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng.