Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ddogfen hon yn gofyn am eich barn ar newidiadau arfaethedig y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru i'r trefniadau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol presennol a fydd yn gymwys o 1 Ebrill 2024. Gwnaed y cynigion yng nghyfarfod y Panel ar 4/5 Medi 2023 ac fe'u rhestrir isod.

Am ragor o wybodaeth am y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd ac adroddiadau, ewch i: https://www.llyw.cymru/y-panel-cynghori-ar-amaethyddiaeth-cymru

Cefndir

Mae'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn gorff annibynnol sy'n cynghori Gweinidogion Cymru ar drefniadau'r Isafswm Cyflog Amaethyddol a thelerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr amaethyddol yng Nghymru. Mae hefyd yn hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth, datblygu gweithlu â sgiliau priodol ac yn rhoi cyngor ychwanegol i Weinidogion yn ôl y gofyn.

Mae'r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Undeb Unite a thri aelod annibynnol.

Yn flynyddol, mae'r Panel yn adolygu trefniadau'r Isafswm Cyflog Amaethyddol (AMW), a darpariaethau eraill y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (AWO).

Wrth wneud ei benderfyniadau, mae'r Panel yn tynnu ar ei arbenigedd a'i ystyriaeth o'r amodau economaidd yn y diwydiant, gan gynnwys effaith barhaol ymadael â'r UE, y Pandemig Covid-19 ac, yn fwy diweddar, yr ymosodiad gan Rwsia ar Wcráin. Mae ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd wedi achosi ansicrwydd i'r sector amaethyddol, gan gynnwys newidiadau mewn cytundebau masnach a rheoliadau, yn ogystal â pholisïau mewnfudo sy'n cyfrannu at bryderon ynghylch argaeledd gweithwyr tymhorol a medrus. Mae'r diffyg sicrwydd ynghylch cynlluniau cymorth ariannol a chyfraddau talu yn y dyfodol hefyd yn effeithio ar allu busnesau fferm i gynllunio'n effeithiol.

Yn ôl Arolwg Amaethyddol mis Mehefin, roedd tua 11,500 o bobl yn cael eu cyflogi ar ffermydd ar 1 Mehefin 2022. Mae hyn yn ostyngiad o 8% ers 2021. Gwelwyd y duedd hon ymhlith gweithwyr rheolaidd (llawn amser a rhan-amser) a gweithwyr achlysurol.

Bydd rhywfaint o'r gwaith (e.e. cneifio a chynaeafu) yn tueddu i gael ei wneud gan gontractwyr nad ydynt wedi'u cynnwys yng nghyfrif gweithwyr yr Arolwg Amaethyddol. Y prif resymau am hyn yw eu bod yn hunangyflogedig ac yn aml yn ffermwyr eu hunain (ac felly eisoes wedi'u cynnwys yn amcangyfrif yr arolwg).

Mae rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin yn cael effaith ar gostau mewnbynnau, argaeledd a phrisiau bwyd a bwyd anifeiliaid yn fyd-eang - p'un ai fel effaith uniongyrchol neu yn sgil sancsiynau. Mae prisiau amaethyddol a phrisiau bwyd (ar Gov.UK) yn sylweddol uwch nag yr oeddent ddwy flynedd yn ôl. Ar yr un pryd, mae pwysau costau byw yn parhau i effeithio ar weithwyr yn ogystal ag ar fusnesau, yn enwedig y gweithwyr hynny sydd ar incwm isel ac yn byw mewn ardaloedd gwledig lle mae costau tai, trafnidiaeth, bwyd, gwresogi a gwasanaethau yn tueddu i fod yn uwch. Ffynonellau: Tlodi Gwledig yng Nghymru, Emyr Williams a Rosaleen Doyle, Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru, Mai 2016 a ONS Index of Private Housing Rental Prices (IPHRP), cyhoeddwyd Awst 2023.

Mae'r Panel yn ymgynghori ar eu cynigion cyn eu cyflwyno ar ffurf drafft i Weinidogion Cymru eu hystyried. Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd, mae gan y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol awdurdod cyfreithiol yng Nghymru.

Mae'r Panel hefyd yn ystyried gofynion cyfreithiol (megis yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW) a'r Cyflog Byw Cenedlaethol (NLW)). Mae hyn yn sicrhau bod gweithwyr amaethyddol yn cael cyflog, lwfansau a thelerau cyflogaeth teg sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd, gan gyfrannu ymhellach at agenda trechu tlodi Llywodraeth Cymru drwy ddiogelu incwm aelwydydd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig.

Mae is-adran nawdd Llywodraeth Cymru yn darparu swyddogaeth ysgrifenyddol y Panel, ac mae cwmni cyfreithiol allanol yn cynghori'r Panel ar unrhyw faterion cyfreithiol sy'n codi a chydymffurfiaeth gyfreithiol yn gyffredinol. Maent yn paratoi'r Gorchmynion Cyflogau Amaethyddol drafft sy'n gweithredu penderfyniadau'r Panel hefyd.

Adran 1: Cyfraddau isafswm cyflog

Ystyriodd y Panel y cyfraddau isafswm cyflog a ddylai fod yn gymwys i bob un o'r graddau o fis Ebrill 2024 ymlaen. Mae Undebau’r Ffermwyr ac Unite yn cynnig cyfraddau isafswm cyflog AMW a newidiadau i'r AWO sy'n seiliedig ar farn eu haelodau, eu hymchwil a'u hystadegau sy'n ymgorffori'r materion sy'n wynebu'r sector a'i weithlu fel yr amlinellir yn y cefndir i'r ymgynghoriad hwn.

Ar ôl sawl rownd o drafodaethau dwys, cyfaddawdwyd ar safbwynt a arweiniodd at y cynnig yn yr ymgynghoriad hwn ar gyfer AWO 2024 yn cael ei gytuno'n unfrydol gan holl aelodau'r Panel.

Mae'r cyfraddau isafswm cyflog presennol ar gyfer y graddau a'r lwfansau perthnasol wedi'u nodi yn Nhabl 1.

Tabl 1

Categori gweithiwr

Cyfradd NMW / NLW presennol

Cyfradd Isafswm Cyflog Amaethyddol presennol

A1 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (16-17 oed)

£5.28

£5.28

A2 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (18-20 oed)

£7.49

£7.49

A3 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (21-22 oed)

£10.18

£10.23

A4 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (23 oed a hŷn)

£10.42

£10.47

B1 – Gweithiwr amaethyddol (16-17 oed)

£5.28

£5.28

B2 – Gweithiwr amaethyddol (18-20 oed)

£7.49

£7.49

B3 – Gweithiwr amaethyddol (21-22 oed)

£10.23

£10.23

B4 – Gweithiwr amaethyddol (23 oed a hŷn)

£10.42

£10.74

C – Gweithiwr amaethyddol uwch

£10.42

£11.07

D – Uwch-weithiwr amaethyddol

£10.42

£12.14

E – Rheolwr amaethyddol

£10.42

£13.32

 

 

 

Prentis Blwyddyn 1

£5.28

£5.28

Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (16-17 oed)

£5.28

£5.28

Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (18-20 oed)

£7.49

£7.49

Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (21-22 oed)

£10.18

£10.23

Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (23 oed a hŷn)

£10.42

£10.42

     
Lwfans Ci (y ci yr wythnos)

£9.36

Lwfans Gwaith Nos

£1.78

Grant Geni a Mabwysiadu

£73.60

Lwfans Gwrthbwyso Llety (Tŷ) (yr wythnos)

£1.65

Lwfans Gwrthbwyso Llety (Llety Arall) (y dydd)

£5.29

Mae'r cynnydd arfaethedig ar gyfer y graddau a'r lwfansau perthnasol wedi'u nodi yn Nhabl 2.

Tabl 2

 

Categori gweithiwr

 

A1 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (16-17 oed)

NMW +2.5%

A2 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (18-20 oed)

NMW +2.5%

A3 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (21-22 oed)

NLW +2.5%

A4 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (23 oed a hŷn)

NLW +2.5%

B1 – Gweithiwr amaethyddol (16-17 oed)

NMW +2.5%

B2 – Gweithiwr amaethyddol (18-20 oed)

NMW +2.5%

B3 – Gweithiwr amaethyddol (21-22 oed)

NLW +2.5%

B4 – Gweithiwr amaethyddol (23 oed a hŷn)

NLW +3.1%

C – Gweithiwr amaethyddol uwch

NLW +1% yn ogystal â'r gwahaniaeth presennol (6.193%)

D – Uwch-weithiwr amaethyddol

NLW +1% yn ogystal â'r gwahaniaeth presennol (16.515%)

E – Rheolwr amaethyddol

NLW +1% yn ogystal â'r gwahaniaeth presennol (27.864%)

 

 

Prentis Blwyddyn 1

NMW

Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (16-17 oed)

NMW

Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (18-20 oed)

NMW

Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (21-22 oed)

NMW

Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (23 oed a hŷn)

NLW

   

Lwfans Ci (y ci yr wythnos)

cynnydd o 8.5%

Lwfans Gwaith Nos

cynnydd o 8.5%

Grant Geni a Mabwysiadu

cynnydd o 8.5%

Lwfans Gwrthbwyso Llety (Tŷ) (yr wythnos)

cynnydd o 8.5%

Lwfans Gwrthbwyso Llety (Llety Arall) (y dydd)

cynnydd o 8.5%

Amcangyfrif y Comisiwn Cyflogau Isel (sy'n argymell cyfraddau cyflog NMW / NLW i Lywodraeth y DU) yw y bydd y Gyfradd Cyflog Byw Cenedlaethol rhwng £10.90 a £11.43 yr awr o fis Ebrill 2024, gydag amcangyfrif canolog o £11.16 yr awr. Ar ben hynny, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys ar 2 Hydref 2023 y byddai’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi i o leiaf £11.00 yr awr.

Yn 2019, argymhellodd y Comisiwn Cyflogau Isel y dylai gweithwyr fod â hawl i'r NLW o 21 oed yn hytrach nag o 25 oed. Yn y cam cyntaf tuag at hyn, cafodd pobl 23 a 24 oed eu symud i'r NLW o fis Ebrill 2021. Mae disgwyl i bobl ifanc 21 a 22 oed gael eu symud i'r NLW o fis Ebrill 2024.

Mae'r cyfraddau cyflog arfaethedig yn dangos yr holl raddau fel y maent wedi'u nodi yn y Gorchymyn ar hyn o bryd. Os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu lleihau'r oedran ar gyfer NLW i 21 oed, byddai'r effaith ar y cynigion hyn fel a ganlyn:

  • Bydd graddau A3 (21-22 oed) ac A4 (23 oed a hŷn) yn uno i ddarparu un radd A3 gyda chyfradd isafswm cyflog o NLW +2.5%.
  • Bydd Graddau B3 (21-22 oed) a B4 (23 oed a hŷn) yn uno i ddarparu un radd B3 gyda chyfradd isafswm cyflog o NLW +3.1%.
  • Bydd Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (21-22 oed) a Phrentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (23 oed a hŷn) yn uno i ddarparu un radd Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (21 oed a hŷn) gyda chyfradd isafswm cyflog wedi'i phennu ar y Cyflog Byw Cenedlaethol.

Os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu peidio â gostwng y band oedran NLW i 21 oed o 2024, mae'r Panel yn cynnig talu Graddau A3 ac A4 yr un gyfradd isafswm cyflog o NLW +2.5% a Graddau B3 a B4 yr un gyfradd isafswm cyflog o NLW +3.1%. Mae hyn yn cydnabod barn y Comisiwn Cyflogau Isel (ar Gov.UK) bod y rhan fwyaf o bobl 21-22 oed eisoes yn derbyn yr NLW neu fwy, ac mae hyn wedi bod yn cynyddu dros amser. Mae'r Panel o'r farn y dylid ailadrodd y duedd hon mewn perthynas â'r AMW.

Mae'r Panel wedi ystyried goblygiadau uno graddau A3 ac A4, B3 a B4 a Phrentis Blwyddyn 2 (21-22 oed) a (23 oed a hŷn) ar y sail bod hyn yn trin gweithwyr amaethyddol yn wahanol ar sail oedran. Mae'r Panel o'r farn bod yr eithriad (Paragraff 11 Atodlen 9 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010) sy'n ymwneud â'r NMW yn berthnasol yn y cyd-destun hwn. Mae'r Panel hefyd o'r farn bod modd cyfiawnhau'r gwahaniaeth rhwng AMW ar gyfer gweithwyr amaethyddol 21 oed a hŷn ac AMW ar gyfer gweithwyr amaethyddol o dan 21 oed ar y sail ei bod yn ei gwneud yn haws i weithwyr amaethyddol iau ddod o hyd i waith ac yn annog pobl ifanc i aros mewn addysg llawn amser.

Mae Tabl 3 yn dangos enghreifftiau o'r cyfraddau isafswm cyflog newydd ar ôl i'r cyfraddau cyflog NMW / NLW gynyddu gan ddefnyddio'r cynnydd posibl fel yr amcangyfrifwyd gan y Comisiwn Cyflogau Isel:

  • £11.00 (cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys ar 2 Hydref 2023)
  • £11.16 (amcangyfrif canolog y Comisiwn Cyflogau Isel)
  • £11.43 (pen uchaf amcangyfrif y Comisiwn Cyflogau Isel)

Rhagdybiwyd hefyd y bydd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer y bandiau oedran is yn cynyddu gan yr un ganran â'r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Mae'r rhain at ddibenion eglurhaol yn unig a bydd y cynnydd yn yr AMW ar gyfer Gorchymyn 2024 yn seiliedig ar y cyfraddau gwirioneddol fel y'u cyhoeddir.

Table 3

 

Categori gweithiwr

NLW o £11.00

NLW o £11.16

NLW o £11.43

Gradd A1

£5.71

£5.79

£5.93

Gradd A2

£8.10

£8.22

£8.42

Gradd A3

£11.28

£11.44

£11.72

Gradd A4

£11.28

£11.44

£11.72

Gradd B1

£5.71

£5.79

£5.93

Gradd B2

£8.10

£8.22

£8.42

Gradd B3

£11.28

£11.44

£11.72

Gradd B4

£11.34

£11.51

£11.78

Gradd C

£11.80

£11.97

£12.25

Gradd D

£12.94

£13.13

£13.45

Gradd E

£14.21

£14.41

£14.76

 

 

 

 

Prentis Blwyddyn 1

£5.57

£5.65

£5.79

Prentis Blwyddyn 2+ (16-17)

£5.57

£5.65

£5.79

Prentis Blwyddyn 2+ (18-20)

£7.91

£8.02

£8.21

Prentis Blwyddyn 2+ (21-22)

£10.75

£10.90

£11.30

Prentis Blwyddyn 2+ (23 oed a hŷn)

£11.00

£11.16

£11.43

 

 

 

 

Lwfans Cŵn

£10.16

£10.16

£10.16

Lwfans Gwaith Nos

£1.93

£1.93

£1.93

Grant Geni a Mabwysiadu

£79.86

£79.86

£79.86

Gwrthbwyso Llety (Tŷ)

£1.79

£1.79

£1.79

Gwrthbwyso Llety (Arall)

£5.74

£5.74

£5.74

Disgwylir i newidiadau i gyfraddau NMW/NLW gael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2023. Bydd unrhyw newidiadau a gadarnheir i NMW/NLW yn dod i rym o 1 Ebrill 2024. Bydd cyfraddau isafswm cyflog arfaethedig 2024 a'r bandiau oedran perthnasol fel y’u nodir yn y ddogfen hon yn cael eu diwygio i adlewyrchu unrhyw newidiadau o'r fath.

Cwestiwn 1: Ydych chi'n cytuno â'r cyfraddau cyflog arfaethedig a'r lwfansau dilynol ar gyfer y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2024?

Cwestiwn 2: Os NA FYDD Llywodraeth y DU yn lleihau band cyflog y Cyflog Byw Cenedlaethol o 23 oed a hŷn i 21 oed a hŷn, ydych chi'n cytuno â'r cynnig i dalu Graddau A3 ac A4 a B3 a B4 yr un gyfradd isafswm cyflog o NLW +2.5% a NLW +3.1% yn y drefn honno?

Cwestiwn 3: Os na, esboniwch pam a beth rydych chi'n teimlo sy'n fwy priodol.

Cwestiwn 4: Yn eich barn chi, beth fyddai goblygiadau'r cyfraddau cyflog a'r lwfansau arfaethedig a nodir uchod i fusnesau, gweithwyr a'r sector amaethyddol yn ehangach (yn gadarnhaol ac yn negyddol) pe baent yn cael eu gweithredu ar 1 Ebrill 2024?

Adran 2: symleiddio'r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol

Nod y Panel yw sicrhau bod yr AWO mor syml â phosibl i gyflogwyr a gweithwyr amaethyddol ei ddeall a'i ddefnyddio.  Gyda'r nod hwnnw mewn golwg, mae'r Panel wedi ystyried ffyrdd y gellid symleiddio'r Gorchymyn a'i ddiogelu at y dyfodol drwy gyfeirio at ddeddfwriaeth gyflogaeth bresennol y DU, yn hytrach nag ailadrodd cynnwys y darpariaethau presennol yn yr AWO. Byddai'r Canllawiau sy'n cyd-fynd â'r AWO yn cael eu diweddaru i ddarparu eglurhad ac esboniad mewn perthynas â'r darpariaethau hyn.

Mae'r Panel hefyd o'r farn y bydd hyn yn helpu i sicrhau bod yr AWO yn parhau i gydymffurfio ag unrhyw ddiweddariadau mewn deddfwriaeth yn y dyfodol ac yn lleihau faint o newidiadau sydd angen eu gwneud i'r Gorchymyn wrth symud ymlaen. Bydd hyn yn debygol o ddod yn bwysicach fyth wrth i ddeddfwriaeth gael ei diwygio o ganlyniad i'r adolygiad parhaus o Gyfraith yr UE a Ddargedwir.

Dyma’r Erthyglau yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2023 a fyddai'n cael eu heffeithio:

  • Erthygl 2 - mae gan "plentyn" yr ystyr a roddir yn adran 80EA o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996. Bydd plentyn yn blentyn i weithiwr amaethyddol os yw'r gweithiwr amaethyddol yn bodloni'r amodau a nodir yn Rheoliad 4 o Reoliadau Profedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2000 ynghylch perthynas â phlentyn sydd wedi marw.
  • Erthygl 2 - mae gan "amser gwaith" yr ystyr a roddir yn Rheoliad 2 o Reoliadau Amser Gwaith 1998 ac, at ddibenion y Gorchymyn hwn, dylai unrhyw gyfnod y mae gweithiwr amaethyddol yn cael ei atal rhag cyflawni gweithgareddau neu ddyletswyddau oherwydd tywydd gwael gael ei ystyried yn amser gwaith hefyd.
  • Erthygl 28 - Cyfnodau Gorffwys  Mae'r Gorchymyn presennol yn nodi:

“Mae gan weithiwr amaethyddol sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd â’i amser gweithio dyddiol yn fwy na 5 awr a hanner hawl i gael seibiant gorffwys”.

Mae Rheoliad 12 o Reoliadau Amser Gwaith 1998 yn nodi:

“Where an adult worker’s daily working time is more than six hours, he is entitled to a rest break”.

Mae'r Panel yn cynnig diwygio Erthygl 28 i'w gwneud yn unol â Rheoliad 12 o'r Rheoliadau Amser Gwaith oherwydd, o safbwynt ymarferol, roedd y Panel o'r farn nad oedd y gwahaniaeth o 30 munud rhwng y Rheoliadau Amser Gwaith a'r Gorchymyn yn debygol o gael effaith sylweddol ar weithwyr amaethyddol gan mai yn anaml iawn y bydd gweithwyr amaethyddol yn gweithio mwy na 5.5 awr heb seibiant.

  • Erthygl 29 - Gorffwys Dyddiol - mae gan weithiwr amaethyddol yr hawl i gyfnod gorffwys dyddiol yn unol â Rheoliad 10 o Reoliadau Amser Gwaith 1998.
  • Erthygl 30 - Cyfnod Gorffwys Wythnosol - mae gan weithiwr amaethyddol yr hawl i gyfnod gorffwys wythnosol yn unol â Rheoliad 11 o Reoliadau Amser Gwaith 1998.
  • Erthygl 33(4) - Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau gweithio amrywiol a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau - Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cymryd mwy o ddiwrnodau gwyliau nag yr oedd ganddo hawl iddynt o dan y Gorchymyn hwn, ar sail nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos (wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (2)), mae gan y cyflogwr hawl i ddidynnu unrhyw dâl am ddiwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol neu, fel arall, ddidynnu’r diwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol o’i hawl ar gyfer y flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol (ar yr amod nad yw didyniad o’r fath yn arwain at fod y gweithiwr amaethyddol yn cael llai na’i hawl gwyliau blynyddol statudol o dan Reoliadau Amser Gwaith 1996).

Bydd hyn yn diogelu'r Gorchymyn at y dyfodol mewn perthynas â dileu'r gwahaniaeth rhwng yr hawl statudol o dan Reoliadau 13 ac 13A o Reoliadau Amser Gwaith 1998.

  • Erthygl 36 - Tâl Gwyliau
  1. Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael ei dalu mewn cysylltiad â phob diwrnod o wyliau blynyddol y mae’n ei gymryd yn seiliedig ar gyflog wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol.
  1. Mae swm y tâl gwyliau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael o dan baragraff (1) i’w bennu yn unol â Rheoliad 16 o Reoliadau Amser Gwaith 1998.

Diffiniad newydd o gyflog wythnosol arferol yn Nehongliad Erthygl 2:

 ystyr "cyflog wythnosol arferol" yw

  1. cyflog sylfaenol y gweithiwr amaethyddol o dan ei gontract neu brentisiaeth, ac
  2. unrhyw dâl goramser ac unrhyw lwfans a delir i'r gweithiwr amaethyddol yn gyson.

 

Cwestiwn 5: Ydych chi'n cytuno â nod y Panel o symleiddio'r Gorchymyn fel ei bod yn haws i gyflogwyr a gweithwyr amaethyddol ei ddeall a'i ddefnyddio?

Cwestiwn 6: Ydych chi'n cytuno y dylai cynnwys sy'n dyblygu Deddfwriaeth Cyflogaeth y DU gael ei ddisodli gan gyfeiriadau symlach, er mwyn symleiddio a diogelu'r Gorchymyn at y dyfodol?

Cwestiwn 7: Ydych chi'n cytuno â'r Cynnig i ddiwygio Erthygl 28 ynghylch Cyfnodau Gorffwys er mwyn cyd-fynd â Rheoliad 12 o Reoliadau Amser Gwaith 1998?

Cwestiwn 8: Ydych chi'n cytuno y dylai'r Canllawiau sy'n cyd-fynd â'r AWO gael eu defnyddio i ddarparu eglurhad ac esboniad mewn perthynas â'r darpariaethau hyn?

Cwestiwn 9: Os na, esboniwch pam a beth rydych chi'n teimlo sy'n fwy priodol.

Adran 3: Cyfraddau isafswm cyflog ar gyfer goramser

Mae Erthygl 12 yn nodi'r darpariaethau a wneir yn y Gorchymyn ar gyfer y cyfraddau isafswm cyflog ar gyfer goramser.

Mae'r Panel (gan fwyafrif) o'r farn y dylai'r gyfradd oramser sy'n daladwy i weithwyr amaethyddol fod yn daladwy drwy gyfeirio at gyfraddau cyflog gwirioneddol yr awr y gweithiwr amaethyddol, yn hytrach na'r gyfradd isafswm cyflog yr awr a ragnodir yn y Gorchymyn.

Cwestiwn 10: Ydych chi'n cytuno â'r diwygiadau arfaethedig sy'n cael eu gwneud i Erthygl 12 o Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 ynghylch y cyfraddau isafswm cyflog ar gyfer goramser?

Cwestiwn 11: Os na, esboniwch pam a beth rydych chi'n teimlo sy'n fwy priodol.

Cwestiwn 12: Yn eich barn chi, beth fyddai goblygiadau'r diwygiad hwn i Erthygl 12 i fusnesau, gweithwyr a'r sector amaethyddol yn ehangach (yn gadarnhaol ac yn negyddol)?

Adran 4: darpariaethau eraill y gorchymyn cyflogau amaethyddol

Bob blwyddyn, mae'r Panel yn edrych ar bob erthygl o'r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023 (ar legislation.gov.uk) i bennu a oes angen unrhyw welliannau pellach. Barn y Panel oedd nad oedd angen unrhyw ddiwygiadau i ddarpariaethau'r Gorchymyn yn ymwneud â'r telerau ac amodau fel y nodir yn Nhabl 4.

Tabl 4

Rhif yr Erthygl

 

Pwnc

Erthygl 2

Diffiniadau o "amaethyddiaeth", "gweithiwr amaethyddol", "fframwaith prentisiaethau", "oriau sylfaenol", "grant geni a mabwysiadu", "oedran ysgol gorfodol", "cynnyrch traul", "cyflogaeth", "goramser gwarantedig", "oriau", "gwaith nos", "ar alwad", "gwaith allbwn", "goramser", "panel", "diwrnodau cymhwyso", "absenoldeb salwch", "yr isafswm cyflog cenedlaethol" a "theithio”

Erthyglau 4 i 9

 

Gwahanol raddau a chategorïau o weithwyr amaethyddol

Erthygl 10

 

Prentisiaid

Erthygl 13

 

Cyfraddau isafswm cyflog ar gyfer gwaith allbwn

Erthygl 14

 

Amddiffyn cyflog

Erthygl 17

 

Costau Hyfforddi

Erthyglau 18 i 27

 

Tâl Salwch Amaethyddol

Erthygl 31

 

Blwyddyn Gwyliau Blynyddol

Erthygl 32

Swm y gwyliau blynyddol i weithwyr amaethyddol sydd â diwrnodau gwaith penodedig a gyflogir drwy gydol y flwyddyn wyliau flynyddol

Erthygl 34

Swm y gwyliau blynyddol i weithwyr amaethyddol a gyflogir am ran o'r flwyddyn wyliau

Erthygl 35

 

Amseru gwyliau blynyddol

Erthygl 37

 

Gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc

Erthygl 38

 

Taliad yn lle gwyliau blynyddol

Erthygl 39

 

Talu tâl gwyliau ar ddiwedd cyflogaeth

Erthygl 40

 

Adennill tâl gwyliau

Erthyglau 41 i 43

 

 

Absenoldeb oherwydd Profedigaeth

Erthygl 44

 

Absenoldeb Di-dâl

Atodlen 2

 

Hawl Gwyliau Blynyddol

Atodlen 3

 

Taliad yn lle Gwyliau Blynyddol

Cwestiwn 13: Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i adael yr holl erthyglau eraill yn y Gorchymyn heb eu newid?

Cwestiwn 14: Os na, esboniwch pam a pha welliannau rydych chi'n teimlo sydd angen eu gwneud.

Cwestiwn 15: Oes gennych chi unrhyw sylwadau pellach i'w gwneud ynglŷn â'r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol?

Cwestiwn 16: Rhowch wybodaeth amdanoch chi neu eich sefydliad. Os oes modd, dylech gynnwys manylion am yr alwedigaeth neu'r sector rydych chi'n ymwneud â nhw, eich gweithlu os ydych chi'n gyflogwr (gan gynnwys nifer y gweithwyr AMW, eu graddau a'u cyfraddau), ac unrhyw beth arall sy'n berthnasol yn eich barn chi.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1:

Ydych chi'n cytuno â'r cyfraddau cyflog arfaethedig a'r lwfansau dilynol ar gyfer y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2024?

Cwestiwn 2:

Os NA FYDD Llywodraeth y DU yn lleihau band cyflog y Cyflog Byw Cenedlaethol o 23 oed a hŷn i 21 oed a hŷn, ydych chi'n cytuno â'r cynnig i dalu Graddau A3 ac A4 a B3 a B4 yr un gyfradd isafswm cyflog o NLW +2.5% a NLW +3.1% yn y drefn honno?

Cwestiwn 3:

Os na, esboniwch pam a beth rydych chi'n teimlo sy'n fwy priodol.

Cwestiwn 4:

Yn eich barn chi, beth fyddai goblygiadau'r cyfraddau cyflog a'r lwfansau arfaethedig a nodir uchod i fusnesau, gweithwyr a'r sector amaethyddol yn ehangach (yn gadarnhaol ac yn negyddol) pe baent yn cael eu gweithredu ar 1 Ebrill 2024?

Cwestiwn 5:

Ydych chi'n cytuno â nod y Panel o symleiddio'r Gorchymyn fel ei bod yn haws i gyflogwyr a gweithwyr amaethyddol ei ddeall a'i ddefnyddio?

Cwestiwn 6:

Ydych chi'n cytuno y dylai cynnwys sy'n dyblygu Deddfwriaeth Cyflogaeth y DU gael ei ddisodli gan gyfeiriadau symlach, er mwyn symleiddio a diogelu'r Gorchymyn at y dyfodol?

Cwestiwn 7:

Ydych chi'n cytuno â'r Cynnig i ddiwygio Erthygl 28 ynghylch Cyfnodau Gorffwys er mwyn cyd-fynd â Rheoliad 12 o Reoliadau Amser Gwaith 1998?

Cwestiwn 8:

Ydych chi'n cytuno y dylai'r Canllawiau sy'n cyd-fynd â'r AWO gael eu defnyddio i ddarparu eglurhad ac esboniad mewn perthynas â'r darpariaethau hyn?

Cwestiwn 9:

Os na, esboniwch pam a beth rydych chi'n teimlo sy'n fwy priodol.

Cwestiwn 10:

Ydych chi'n cytuno â'r diwygiadau arfaethedig sy'n cael eu gwneud i Erthygl 12 o Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 ynghylch y cyfraddau isafswm cyflog ar gyfer goramser?

Cwestiwn 11:

Os na, esboniwch pam a beth rydych chi'n teimlo sy'n fwy priodol.

Cwestiwn 12:

Yn eich barn chi, beth fyddai goblygiadau'r diwygiad hwn i Erthygl 12 i fusnesau, gweithwyr a'r sector amaethyddol yn ehangach (yn gadarnhaol ac yn negyddol?

Cwestiwn 13:

Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i adael yr holl erthyglau eraill yn y Gorchymyn heb eu newid?

Cwestiwn 14:

Os na, esboniwch pam a pha welliannau rydych chi'n teimlo sydd angen eu gwneud.

Cwestiwn 15:

Oes gennych chi unrhyw sylwadau pellach i'w gwneud ynglŷn â'r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol?

Cwestiwn 16:

Rhowch wybodaeth amdanoch chi neu eich sefydliad. Os oes modd, dylech gynnwys manylion am yr alwedigaeth neu'r sector yr ydych yn ymwneud â nhw, eich gweithlu os ydych yn gyflogwr (gan gynnwys nifer y gweithwyr Isafswm Cyflog Amaethyddol, eu graddau a'u cyfraddau), ac unrhyw beth arall sy'n berthnasol yn eich barn chi.

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno sylwadau ar y cynigion hyn erbyn 19 Tachwedd 2023 er mwyn i'r Panel allu cyflwyno cyngor i'r Gweinidogion fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014.

Dylech gyflwyno’ch ymateb gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau canlynol:

  • Llenwi ein ffurflen ar-lein
  • Lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ar-lein a’i hanfon drwy e-bost i AAP@llyw.cymru
  • Lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ar-lein a’i phostio i’r cyfeiriad hwn:

Rheolwr y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth
Llywodraeth Cymru
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
LD1 5LG

Eich hawliau

Bydd unrhyw ymateb a gyflwynwch yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â materion sy'n ymwneud â'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth. Bydd ymatebion yn cael eu rhannu â'r Panel hefyd, a lle mae Llywodraeth Cymru neu'r Panel yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yna gall y gwaith hwn gael ei wneud gan gontractwyr trydydd parti (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a’u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (mewn rhai amgylchiadau
  • i ‘ddileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gludadwyedd data (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Fel arfer, bydd ymatebion i ymgynghoriadau ar gael yn gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Pe bai’n well gennych aros yn ddienw, rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.