Cefnogi’r Gymraeg yn Addysg Gychwynnol Athrawon
Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i adroddiad Estyn ar ddarparu cymorth i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg athrawon dan hyfforddiant.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion yr adroddiad
Comisiynwyd y cyngor gan y Gyfarwyddiaeth Addysg i ddeall sut mae partneriaethau addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn darparu cymorth i ddatblygu sgiliau Cymraeg athrawon dan hyfforddiant, gan gynnwys addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Crynodeb o'r prif ganfyddiadau
Canfu Estyn fod partneriaethau AGA yn darparu sesiynau penodol i wella sgiliau Cymraeg myfyrwyr tra yn y brifysgol. Fodd bynnag, mae effeithiolrwydd y sesiynau hyn yn amrywio'n sylweddol am y rhesymau canlynol:
- Mewn ychydig achosion, nid ydynt yn cael eu cynnal yn ddigon rheolaidd neu nid ydynt yn ymateb yn ddigon penodol i anghenion myfyrwyr er mwyn eu paratoi i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg wrth addysgu mewn ysgolion.
- Yn aml, nid oes cysylltiad rhwng y sesiynau a ddarperir gan brifysgolion ar gyfer datblygu sgiliau Cymraeg y myfyrwyr a’r dysgu sy’n benodol i bwnc neu gyfnod, yn arbennig yn y rhaglenni uwchradd.
- Dim ond mewn ychydig o bartneriaethau mae cyfleoedd i fyfyrwyr wneud cysylltiadau clir rhwng yr hyn maent wedi dysgu am fethodoleg addysgu’r Gymraeg yn y brifysgol ac ymarfer yr ystafell ddosbarth ar brofiad ysgol. O ganlyniad, er bod llawer o fyfyrwyr yn gwneud cynnydd addas yn eu sgiliau Cymraeg personol mewn sesiynau sgiliau Cymraeg, nid ydynt bob amser yn cymhwyso eu dysgu pan fyddant ar brofiad ysgol.
Canfu Estyn hefyd, mewn llawer o bartneriaethau, nad oes gweledigaeth a rennir na dealltwriaeth glir a chyson o ddisgwyliadau'r bartneriaeth ar gyfer y Gymraeg ymysg ysgolion partner. Yn aml, nid yw partneriaethau'n cynllunio'n ddigon strategol y ddarpariaeth ar gyfer datblygu'r Gymraeg ar draws y rhaglenni. Golyga hyn bod y ddarpariaeth yn dameidiog, neu'r Gymraeg yn cael ei hystyried ar wahân.
Hefyd, yn gyffredinol, nid yw partneriaethau'n gwerthuso'r ddarpariaeth ar gyfer datblygu'r Gymraeg ar draws rhaglenni yn ddigon effeithiol. Nid ydynt yn ystyried y cynnydd a wna myfyrwyr wrth ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg wrth addysgu. Yn ogystal, nid ydynt yn ystyried effaith addysgu myfyrwyr ar sgiliau a phrofiadau disgyblion. O ganlyniad, nid ydynt yn adnabod y cryfderau a meysydd i'w datblygu yn ddigon sydyn i'w galluogi i wneud gwelliannau.
Mewn ychydig o bartneriaethau, mae rôl y mentor iaith yn dylanwadu'n gadarnhaol ar brofiadau myfyrwyr ac yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau iaith tra ar brofiad ysgol. Yn aml, lle mae'r ddarpariaeth ar gyfer datblygu sgiliau ac addysgeg myfyrwyr yn arbennig o effeithiol, mae datblygu sgiliau Cymraeg myfyrwyr wedi'i gynnwys yn rhan o weledigaeth a chynllun gwella’r bartneriaeth.
Yn ogystal, mae partneriaethau yn elwa os oes gan ysgolion arweiniol ac ysgolion phartneriaeth ehangach weledigaeth glir a chynllun gwella ar gyfer datblygu'r Gymraeg. Yn yr achosion hyn, mae arweinwyr ysgolion yn gweithredu yn strategol er mwyn sicrhau bod eu cymuned ysgol yn deall pwysigrwydd y Gymraeg. Maent yn darparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i helpu staff i ddefnyddio'r Gymraeg a datblygu eu haddysgeg caffael iaith. Mae hyn yn dylanwadu'n gadarnhaol iawn ar brofiadau myfyrwyr sy'n cael eu lleoli yn yr ysgolion hyn ac ar gynnydd disgyblion.
Mae'r dysgu proffesiynol a gynigir gan bartneriaid gwella ysgolion mewn awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ar gyfer cefnogi ymarferwyr addysg i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn amrywio ledled Cymru. Golyga hyn nad yw athrawon, yn enwedig yn y sector uwchradd, bob amser yn hyderus wrth gefnogi disgyblion i gaffael a datblygu eu sgiliau Cymraeg o fewn pynciau'r cwricwlwm. Yn ogystal, mae hyn yn cael effaith ar eu hyder wrth fentora myfyrwyr AGA. Prin yw'r cysylltiadau a'r cyfleoedd i symud ymlaen rhwng y gefnogaeth a roddir i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn rhaglenni AGA a'r cynnig dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon newydd gymhwyso (ANG).
Ychydig o gyfleoedd sydd i ysgolion a phartneriaethau gydweithio a rhannu arferion effeithiol am eu darpariaeth i gefnogi sgiliau Cymraeg myfyrwyr a’u staff ehangach. Mewn ychydig enghreifftiau, mae ysgolion yn cydweithio â'u partneriaid prifysgol i gefnogi ymdrechion i recriwtio myfyrwyr i raglenni AGA. Mae'r partneriaethau yn datblygu eu harferion recriwtio er mwyn ymateb i'r her o ddenu myfyrwyr i hyfforddi fel athrawon a chwblhau rhaglenni trwy gyfrwng y Gymraeg.
Argymhellion
Argymhellion ar gyfer partneriaethau addysg gychwynnol athrawon
Argymhelliad 1
Dylai partneriaethau addysg gychwynnol athrawon gynllunio’n fwriadus i ddatblygu’r Gymraeg ymhob agwedd o’r rhaglenni addysg gychwynnol athrawon er mwyn sicrhau cefnogaeth gyson i fyfyrwyr trwy gydol eu profiad, gan gynnwys pan ar brofiad mewn ysgolion.
Argymhelliad 2
Dylai partneriaethau addysg gychwynnol athrawon sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer cefnogi medrau Cymraeg yn datblygu medrau personol ac addysgu myfyrwyr i ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion. Dylai hyn gynnwys addysgeg caffael a datblygu iaith mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg a dwyieithog.
Argymhelliad 3
Dylai partneriaethau addysg gychwynnol athrawon fonitro a gwerthuso effaith y ddarpariaeth ar gyfer datblygu’r Gymraeg gan ystyried sut mae myfyrwyr yn defnyddio eu medrau Cymraeg a’u haddysgeg caffael iaith i gefnogi cynnydd disgyblion mewn ysgolion.
Argymhelliad 4
Dylai partneriaethau addysg gychwynnol athrawon greu cyfleoedd i bartneriaethau AGA gydweithio er mwyn datblygu ac ehangu’r gefnogaeth ar gyfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 1 i 4
Mae'r meini prawf diwygiedig ar gyfer achredu rhaglenni AGA sy'n dechrau o 1 Medi 2024 yn gosod gofynion cryfach ar bartneriaethau AGA i helpu athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a rhoi cymorth i'r rhai sy'n hyfforddi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r gofynion hyn yn cyd-fynd ag argymhellion 1 a 2. Byddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r Bwrdd Achredu Addysg Athrawon sicrhau bod y meini prawf hyn yn cael eu bodloni pan fydd rhaglenni diwygiedig yn cael eu cyflwyno yng ngwanwyn 2024.
Dylai fod gan bob partneriaeth brosesau cadarn ar waith i fonitro sgiliau Cymraeg pob myfyriwr. Dylai Estyn a Chyngor y Gweithlu Addysg, fel rhan o'r prosesau monitro ac arolygu, sicrhau bod Partneriaethau'n cydymffurfio â hyn a bod addysgeg Gymraeg yn cael ei datblygu a'i chymhwyso mewn modd priodol.
Mae gweithdy wedi'i drefnu ar gyfer 12 Hydref er mwyn i'r holl randdeiliaid edrych ar gyfleoedd ar gyfer cydweithio ar draws Partneriaethau i sicrhau bod y gofynion a nodir yn y Meini Prawf yn cael eu bodloni.
Argymhelliad ar gyfer arweinwyr mewn ysgolion partneriaeth
Argymhelliad 5
Dylai arweinwyr mewn ysgolion partneriaeth flaenoriaethu a chreu strategaeth bendant ar gyfer datblygu’r Gymraeg gan ymateb i ddisgwyliadau’r partneriaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru.
Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 5
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod hyn yn bwysig ac mae'r meini prawf diwygiedig ar gyfer achredu yn nodi'r gofyniad canlynol:
- Dylai pob Partneriaeth ddatblygu strategaeth glir ar gyfer y dull gweithredu y byddant yn ei ddefnyddio i ddatblygu'r ddarpariaeth ar gyfer hyrwyddo a defnyddio'r Gymraeg gan gynnwys rhoi'r strategaeth ar waith a'i gwerthuso.
Dylai ysgolion partneriaeth integreiddio'r strategaeth hon â'u gweledigaeth ysgol eu hunain ar gyfer sut y byddant yn datblygu sgiliau iaith pob dysgwr i'w galluogi i fod yn siaradwyr hyderus yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru.
Argymhellion ar gyfer Lywodraeth Cymru
Argymhelliad 6
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau eglurder yn nisgwyliadau’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth fel bod ffocws clir ar effaith ymarfer athrawon ac arweinwyr ar fedrau Cymraeg disgyblion.
Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 6
Mae'r safonau proffesiynol yn disgrifio'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiadau sy'n nodweddu ymarfer rhagorol ac yn cefnogi twf proffesiynol. Bwriedir iddynt wneud y canlynol:
- pennu disgwyliadau clir ynglŷn ag ymarfer effeithiol yn ystod gyrfa ymarferydd, gan gynnwys ymuno â'r proffesiwn, lle y bo'n gymwys
- galluogi ymarferwyr i fyfyrio ar eu hymarfer, yn unigol ac ar y cyd, yn erbyn safonau ymarfer effeithiol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a chadarnhau a dathlu eu llwyddiannau
- cefnogi ymarferwyr i nodi meysydd ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach
- darparu cefndir i'r broses rheoli perfformiad
Nid oes bwriad i'r safonau fod yn rhagnodol. Fodd bynnag, er mwyn helpu ymarferwyr i ddeall cynnydd yn eu sgiliau Cymraeg, rydym wedi cyhoeddi'r fframwaith cymwyseddau Cymraeg. Pan fydd ymarferwyr unigol yn cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol, dylent fod yn glir ynghylch sut y gallant ddefnyddio'r sgiliau yn yr ystafell ddosbarth i gefnogi dysgwyr.
Argymhelliad 7
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod partneriaethau AGA yn cydweithio gyda phartneriaid gwella ysgolion fel bod darpariaeth fwy cyson, cydlynol ac arbenigol ar gyfer datblygu medrau Cymraeg y gweithlu addysg fel rhan o’r continwwm dysgu proffesiynol.
Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 7
Fel rhan o gynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg, rydym wedi nodi camau gweithredu ar gyfer consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gydweithio â rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys partneriaethau AGA er mwyn:
- Gweithredu rhaglen genedlaethol o gyrsiau Cymraeg am ddim ar gyfer pob myfyriwr ac ymarferydd AGA yn unol â'r 'Fframwaith cymwyseddau iaith ar gyfer ymarferwyr addysg', gan nodi amcanion ieithyddol penodol.
Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi penodi cyfarwyddwr i arwain y gwaith o fapio'r ddarpariaeth bresennol a nodi blaenoriaethau ar gyfer datblygu, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer myfyrwyr AGA.
Hefyd, yn unol â chynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg, mae'r consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn datblygu rhaglenni cenedlaethol o ddysgu proffesiynol i gefnogi addysgu'r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg gan weithio gyda phrifysgolion fel y bo'n berthnasol.
Manylion cyhoeddi
Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar 14 Medi 2023, neu ar ôl hynny, a gellir ei weld ar wefan Estyn.