Mae ffermwr a gafodd anafiadau difrifol ar ei fferm deuluol wedi croesawu'r newyddion bod Llywodraeth Cymru yn darparu £80,000 i helpu i wella diogelwch ffermwyr, eu teuluoedd, ac ymwelwyr â ffermydd yng Nghymru.
Mae gan y ffermwr defaid a chig eidion o ogledd Cymru, Beca Glyn brofiad uniongyrchol o'r hyn all fynd o'i le ar fferm ar ôl dioddef anafiadau difrifol mewn damwain beic cwad ar fferm ei theulu yn 2018.
Mae'r cyllid yn cael ei ddyfarnu i Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, sy'n gydweithrediad o sefydliadau amaethyddol allweddol sy'n helpu i leihau nifer y digwyddiadau difrifol a'r marwolaethau ar ffermydd Cymru.
Bydd yr £80,000 yn cael ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch, iechyd a llesiant ar ffermydd drwy ddigwyddiadau, gweithio gydag ysgolion a CFfI Cymru, yn ogystal â llyfr plant newydd ar gadw'n ddiogel ar ffermydd.
Gwnaeth y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y cyhoeddiad ar ymweliad â fferm Richard Pilkington, Shordley Hall, ger yr Hôb yn Sir y Fflint.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
Mae ein ffermwyr yn gwneud gwaith gwych, ond rydyn ni'n gwybod bod y gwaith maen nhw'n ei wneud yn gallu bod yn beryglus hefyd.
Yn anffodus rydym wedi clywed straeon o ddigwyddiadau trasig ar ffermydd yng Nghymru ac mae un digwyddiad yn un yn ormod.
Bydd y cyllid hwn yn bwysig er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r peryglon ar ffermydd, gan helpu ffermwyr, eu teuluoedd ac ymwelwyr i ddeall y risgiau a sut i gadw'n ddiogel.
Dywedodd Richard Pilkington yn Shordley Hall, sy'n fferm laeth 385 hectar, âr a defaid:
Mae wedi bod yn wych croesawu'r Gweinidog i Fferm Shordley i ddangos y gwaith pwysig sy'n digwydd yma.
Mae llawer o ffermwyr yn aml yn gweithio ar eu pennau eu hunain a all wneud gweithio'n ddiogel yn her go iawn. Rwy'n falch y bydd y cyllid sy'n cael ei gyhoeddi yn helpu i hyrwyddo pwysigrwydd diogelwch, iechyd a llesiant ar ffermydd ledled Cymru.
Mae Beca Glyn, sy'n llysgennad newydd i Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, wedi bod ar genhadaeth i godi proffil diogelwch fferm a hyrwyddo arferion gwaith diogel ers ei damwain.
Mae Beca wedi ymuno â'i chyd-lysgenhadon, y ffermwyr profiadol Alun Elidyr Edwards a Glyn Davies, a benodwyd yn 2019 ac sydd wedi gweithio'n ddiflino ers hynny i hyrwyddo arferion gorau i ffermwyr yng Nghymru.
Dywedodd Beca Glyn, sy'n ffermio yn Ysbyty Ifan lle mae ei theulu'n gyfrifol am ddiadell o 1,000 o ddefaid a buches o wartheg cig eidion:
Rwy'n credu ei fod o gymorth i ffermwyr wrando ar rywun sydd wedi gwneud camgymeriad ac sydd wedi cael profiad personol o'r hyn all fynd o'i le a chanlyniadau hynny.
Gan weithio gydag Alun a Glyn, rydym am ledaenu'r neges bwysig o sut y gall ffermwyr wella wrth wneud eu ffermydd yn lleoedd mwy diogel i weithio a byw ynddynt, a bydd y cyhoeddiad heddiw yn helpu gyda'r nod hwn.
Mae hi'n credu bod diogelwch fferm yn symud i'r cyfeiriad cywir yng Nghymru, ond mae mwy i'w wneud o hyd.
Ychwanegodd Beca:
Gallwn ni gyd wella, beth bynnag fo'n fferm neu'n system, nid yn unig er mwyn ni ein hunain ond er lles ein teuluoedd ac ymwelwyr â'r fferm fel ein milfeddygon.